Cenedlaetholdeb croenddu

Cenedlaetholdeb sydd yn arddel taw cenedl yw'r bobl dduon a bod angen llywodraeth ddu i sicrhau eu hawliau, hunaniaeth a diwylliant yw cenedlaetholdeb croenddu.[1] Bu'n gysylltiedig yn bennaf â'r Americanwyr Affricanaidd yn Unol Daleithiau America. Mae cenedlaetholwyr croenddu yn dadlau dros hunanlywodraeth i leiafrifoedd croenddu naill ai drwy sefydlu gwladwriaeth neu dalaith newydd i bobl dduon neu drwy ymfudo i ranbarthau'r byd sydd yn gartref i fwyafrifoedd croenddu, yn bennaf gwledydd Affrica islaw'r Sahara.

Cenedlaetholdeb croenddu
Mathcenedlaetholdeb, racial nationalism Edit this on Wikidata

Ers i miliynau o Affricanwyr gael eu cludo i'r Byd Newydd fel caethweision yn y fasnach drionglog, bu sawl ffurf ar yr ymdrech i godi safle'r bobl groenddu yn yr Amerig: gwrthryfeloedd gan gaethweision, ymgyrchoedd y diddymwyr, a'r mudiad hawliau sifil. Yn ogystal â'r hanes hir o wrthsefyll hiliaeth a gwahaniaethu yn eu herbyn, bu hefyd traddodiad ymhlith y duon o hunanwellhad a chydweithrediad cymunedol, ar wahân i gymdeithas yr Americanwyr croenwyn. Yn y 1920au, sefydlwyd y Universal Negro Improvement Association gan Marcus Garvey o Jamaica. Bu rhai yn hyrwyddo'r mudiad "Dychwelyd i Affrica", ac yn annog duon yng Ngogledd America i ymfudo i famwlad eu hynafiaid.

Yn y 1960au a'r 1970au, tyfodd cenedlaetholdeb croenddu ar y cyd â'r mudiad hawliau sifil, ac roedd yn boblogaidd ymhlith y duon a oedd yn dadlau dros ymwahaniaeth yn hytrach nag integreiddio. Datblygodd dueddiadau milwriaethus megis yr hyn a elwir "grym y duon", gan Genedl Islam a Phlaid y Pantherod Duon a ffigurau megis Malcolm X a Stokely Carmichael. Cafodd y fath syniadau eu cyferbynnu ag ymgyrch heddychlon ac anufudd-dod sifil y prif fudiad hawliau sifil, dan arweiniad Martin Luther King ac eraill. Ymdrechodd mudiadau cymdeithasol a diwylliannol megis black is beautiful i annog balchder ac hunaniaeth ymhlith y bobl dduon.

Ffurfiau

golygu

Cenedlaetholdeb diwylliannol

golygu

Y ffurf amlycaf ar genedlaetholdeb croenddu ydy cenedlaetholdeb diwylliannol, sydd yn pwysleisio tras gyffredin yr hil ddu yn Affrica islaw'r Sahara ac yn dyrchafu'r etifeddiaeth ddiwylliannol unigryw a rennir gan yr holl bobloedd dduon. Yn y 1960au, sefydlwyd sawl mudiad diwylliannol cenedlaetholgar gan ymgyrchwyr croenddu yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys y Congress of African Peoples gan Amiri Baraka a'r US Organization gan Ron Karenga. Roedd y grwpiau hyn i gyd yn dathlu cysylltiadau'r Americanwyr duon ag hen wlad eu cyndeidiau ac yn ceisio adfer etifeddiaeth goll y caethweision. Mae'r cenedlaetholwyr hyn yn credu bod angen sefydliadau diwylliannol ar wahân er mwyn datblygu cyfundrefnau brodorol i ddehongli a gwerthfawrogi gwreiddiau Affricanaidd y gymdeithas ddu yn y Byd Newydd.[2]

Cenedlaetholdeb crefyddol

golygu

Dylanwadwyd ar nifer o genedlaetholwyr croenddu gan ddiwinyddiaethau radicalaidd sydd yn awdurdodi rhyddfreinio'r bobloedd dduon. Yn debyg i ddiwinyddiaeth rhyddhad yn America Ladin, mae diwinyddiaeth groenddu yn gorgyffwrdd yn aml ag ymgyrchu gwleidyddol. Mae sawl enwad neu sect, gan gynnwys y grwpiau Mwslimaidd Cenedl Islam a Theml Wyddoniaeth Fwraidd America, yn credu taw'r etholedig rai, pobl ddethol Duw, ydy'r hil ddu a bod yn rhaid iddynt ennyn y frwydr am ryddid sydd wedi ei ragdrefnu yn ddwyfol. Mae Israeliaid Hebreaidd Duon yn mynnu bod Americanwyr Affricanaidd yn disgyn o'r Israeliaid hynafol, ac mae rhai ohonynt yn arddel goruchafiaeth yr hil ddu. Mae rhai cenedlaetholwyr croenddu yn hyrwyddo dilyn crefyddau a ystyrir yn unigryw i bobl ddu, megis Rastaffariaeth, Fwdw, neu Santería.

Cenedlaetholdeb economaidd

golygu
 
Dwylo duon yn codi papurau doleri yn ystod y Million Man March yn Washington, D.C. ar 16 Hydref 1995. Bu siaradwyr yn galw ar y dorf i gyfrannu at gostau'r gwrthdystiad hwnnw.[3]

Bu nifer o genedlaetholwyr croenddu yn pwysleisio annibyniaeth ariannol unigolion, teuluoedd, busnesau, a chymunedau croenddu, ac mae syniadaeth economaidd yn agwedd hanfodol o sawl ideoleg. Hyrwyddwyd gweithgarwch economaidd gan grwpiau megis yr United Negro Improvement Association i wella statws economaidd pobl dduon, ac mae'r rhan fwyaf o ymdrechion dros genedlaetholdeb economaidd croenddu yn gweithio tu mewn i'r gyfundrefn gyfalafol sydd ohoni, er enghraifft cynlluniau i annog busnesau i hurio gweithwyr croenddu, neu ymgyrchoedd i brynu oddi ar fusnesau a berchenogir gan bobl dduon. Mae ambell grŵp yn arddel polisïau sosialaidd a gwrth-gyfalafol.[2]

Chwyldroadaeth

golygu

Yn ystod y 1960au tyfodd mudiadau chwyldroadol mewn cyferbyniad â chenedlaetholdeb diwylliannol, a nodweddir gan grwpiau milwriaethus megis Plaid y Pantherod Duon, Mudiad Undeb Chwyldroadol Dodge, a Chynghrair y Gweithwyr Duon Chwyldroadol. Tynnodd y chwyldroadwyr ar syniadaeth Farcsaidd–Leninaidd a dadleuasant bod rhyddfreinio'r duon yn dibynnu ar gwymp y gyfundrefn gyfalafol yn yr Unol Daleithiau.[2]

Ymwahaniaeth ac ymfudiaeth

golygu
 
Baner arfaethedig y Republic of New Afrika, ar sail y lliwiau pan-Affricanaidd.

Mae'n debyg taw ymwahaniaeth diriogaethol ydy'r ffurf eithaf ar genedlaetholdeb croenddu. Mae'r ideoleg hon yn galw ar bobl groenddu i ffurfio cymunedau neilltuedig eu hunain sydd wedi eu lleoli ar wahân i gymunedau eraill ac yn annibynnol arnynt. Mae amcanion o'r fath yn amrywio o gynlluniau i sefydlu drefi o fewn ffiniau arbennig ar gyfer teuluoedd a busnesau'r gymuned ddu, i ddyheadau am dalaith arbennig o fewn ffiniau'r Unol Daleithiau gyda mwyafrif o'i phoblogaeth yn dduon, i ddatgan annibyniaeth gwlad sofran yn gartref i ddinasyddion croenddu yn unig.[4] Mae mudiad y Republic of New Afrika, a sefydlwyd ym 1968, yn ymgyrchu dros greu gwladwriaeth yn Ne Ddwyrain yr Unol Daleithiau a datgan ei hannibyniaeth oddi ar yr undeb yn ogystal â hawlio iawndaliadau oddi wrth lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau. Dadleuodd y Revolutionary Action Movement, grŵp Maoaidd a fu'n weithgar o 1962 i 1969, fod tiriogaeth ar draws taleithiau'r de yn berchen yn iawn i Americanwyr Affricanaidd a bod yn rhai iddynt hawlio'u tir a mynnu hunanbenderfyniaeth.

Ideoleg debyg i ymwahaniaeth ydy ymfudiaeth (Saesneg: emigrationism), sydd yn galw ar Americanwyr Affricanaidd i allfudo o'r Unol Daleithiau ac i ddychwelyd i Affrica, naill ai drwy ymfudo'n barhaol i un o wledydd Affrica neu i sefydlu gwladfa neu genedl-wladwriaeth newydd i bobl dduon yn unig. Ymhlith lladmeryddion y mudiad hwn, a fu ar ei anterth yn niwedd y 18g, y 19g, a dechrau'r 20g, oedd Marcus Garvey, Martin Delany, ac Alexander Crummell. Bu rhai hefyd yn cynnig sefydlu gwlad i'r duon yn y Caribî, yn enwedig Haiti, neu hyd yn oed yng Nghanada.[4]

Hanes yn yr Unol Daleithiau

golygu

Gwreiddiau (1776–1800au)

golygu
 
Portread o Absalom Jones, un o sefydlwyr y Free African Society (1810).

Er gwaethaf addewid Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau (1776) i gydnabod hawliau naturiol pob un dyn, sylweddolodd caethweision duon yn syth wedi buddugoliaeth y chwyldroadwyr yn Rhyfel Annibyniaeth America fod y Sefydlwyr am barhau i ganiatáu caethwasiaeth yn y weriniaeth newydd. Tyfodd yr achos dros ryddfreinio'r duon a'u croesawu yn ddinasyddion, gyda chymorth diddymwyr gwynion yn ogystal â duon rhydd a fuont yn gyrru llythyrau a deisebau at y Gyngres, yn trefnu gwrthdystiadau, ac yn ffurfio cymdeithasau i ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth ac anghyfiawnder hiliol. Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, trodd nifer o wynion yn fwyfwy wrthwynebus i achos y duon. Heb obaith o ryddid yr hil ddu yn America, dechreuodd nifer ohonynt hiraethu am Affrica ac hawlio cysylltiad annatod yno. Dyma gychwyniadau cenedlaetholdeb croenddu ymhlith yr Americanwyr Affricanaidd a amlygwyd gan nifer fawr o sefydliadau a chymdeithasau o'r cyfnod a ddygasant yr enw Africa, yn eu plith y Gymdeithas Affricanaidd Rydd (1787), Eglwys Affricanaidd Gyntaf Savannah (1793), Merched Affrica (1796), a'r Eglwys Esgobol Fethodistaidd Affricanaidd (1816). Ymhlith yr Americanwyr Affricanaidd i arddel ffurfiau cynnar ar genedlaetholdeb croenddu oedd James Forten, Absalom Jones, Richard Allen, a Prince Hall, pob un ohonynt yn pwysleisio gwreiddiau Affricanaidd y bobl dduon yn y Byd Newydd.[5]

Y mudiad i ddychwelyd i Affrica (1810au–60au)

golygu

Yn nechrau'r 19g arweiniodd y meddylfryd Affricanaidd at fudiad i annog cyn-gaethweision i ymfudo yn ôl i Orllewin Affrica. Un o brif arweinwyr y mudiad hwn oedd y llongiadwr Paul Cuffe (1759–1817), a geisiodd sefydlu gwladfa yn Sierra Leone gyda chaniatâd yr Ymerodraeth Brydeinig. Dadleuodd Cuffe dros ddanfon pobl dduon rhydd o Ogledd America i Affrica i wrthsefyll y fasnach gaethweision, a threfnodd sawl mordaith i ailgartrefu cyn-gaethweision yn Sierra Leone. Bathwyd yr arwyddair "Affrica i'r Affricanwyr" gan y meddyg a newyddiadurwr Martin Delany (1812–85), a elwir yn un o'r cenedlaetholwyr croenddu cyntaf.[5]

Y rhyfel cartref a'i ganlyniadau (1860au–1910au)

golygu

Yn ystod Rhyfel Cartref America (1861–5), datganodd yr Arlywydd Abraham Lincoln y byddai'r llywodraeth ffederal yn rhyddfreinio'r holl gaethweision yn yr Unol Daleithiau, a sicrhawyd hynny yn nhaleithiau'r cyn-Gydffederaliaeth yn sgil buddugoliaeth yr Unol Daleithiau. Er diddymu caethwasiaeth, a'r ymdrechion i ennill cydraddoldeb i bobl dduon yn ystod cyfnod yr Ailymgorfforiad (1863–77), parhaodd erledigaeth yn eu herbyn, yn enwedig yn ne'r Unol Daleithiau, ac aildaniwyd yr ymdrechion i ailgartrefu cyn-gaethweision Americanaidd yn Affrica. Casglwyd arian ac adnoddau gan Americanwyr croenddu i brynu tir yn Affrica a llongau i gludo'r gwladychwyr yno. Prif ffigur y mudiad i ddychwelyd i Affrica yn y cyfnod hwn oedd Henry McNeal Turner (1834–1915), gweinidog Methodistaidd, addysgwr a gwleidydd. Sefydlwyd sawl ysgol, eglwys, a sefydliad arall yn Liberia a Sierra Leone gan Turner, a dechreuwyd cangen o'r Eglwys Esgobol Fethodistaidd Affricanaidd ganddo i gysylltu Cristnogion croenddu yn Affrica â'r Americanwyr Affricanaidd. Ymgyrchodd yn erbyn hiliaeth a chamdriniaeth y bobl dduon yn yr Unol Daleithiau, ond anogodd yn gyson ei gymdeithion i ymsefydlu yn Affrica ac adfywio'r cyfandir hwnnw yn hytrach nag ildio i'w sefyllfa isradd yn y gymdeithas Americanaidd. Efelychwyd esiampl Turner gan eraill i fynnu bywyd gwell yn Affrica ac yno adeiladu cymunedau rhydd. Un o'r ymadawiadau enwocaf oedd mordaith yr Azor o Dde Carolina i Liberia ym 1878, dan nawdd y Liberian Exodus and Joint Stock Steamship Company, a chanddi 206 o wladychwyr.[5]

Gweler hefyd

golygu

Ffynonellau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, "black: black nationalism".
  2. 2.0 2.1 2.2 Madhu Dubey, "Black nationalism" yn A Dictionary of Cultural and Critical Theory, ail argraffiad, golygwyd gan Michael Payne a Jessica Rae Barbera (Chichester, Gorllewin Sussex: Wiley-Blackwell, 2010), t. 84.
  3. (Saesneg) Byron P. White, "1 million men does not equal $1 million", Chicago Tribune (16 Mehefin 1996). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2020.
  4. 4.0 4.1 Dubey, "Black nationalism" yn A Dictionary of Cultural and Critical Theory (2010), t. 83.
  5. 5.0 5.1 5.2 Abel A. Bartley, "Black Nationalism" yn Encyclopedia of Race, Ethnicity, and Society, golygwyd gan Richard T. Schaefer (Los Angeles: SAGE Publications, 2008), t. 172.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Abel A. Bartley, "Black Nationalism" yn Encyclopedia of Race, Ethnicity, and Society, golygwyd gan Richard T. Schaefer (Los Angeles: SAGE Publications, 2008), tt. 171–4.
  • Madhu Dubey, "Black nationalism" yn A Dictionary of Cultural and Critical Theory, ail argraffiad, golygwyd gan Michael Payne a Jessica Rae Barbera (Chichester, Gorllewin Sussex: Wiley-Blackwell, 2010), tt. 83–84.

Darllen pellach

golygu
  • John H. Bracey Jr, August Meier, a Rudwick Elliott (goln), Black Nationalism in America (1970).
  • Theodore Draper, The Rediscovery of Black Nationalism (1970).
  • Wilson Jeremiah Moses, The Golden Age of Black Nationalism, 1850–1925 (1978).
  • Alphonso Pinkney, Red, Black and Green: Black Nationalism in the United States (1976).
  • Sterling Stuckey, The Ideological Origins of Black Nationalism (1972).