Einir Dafydd

cantores o Gymraes

Cantores yw Einir Mai Dafydd (ganwyd 9 Mai 1989 yn Hwlffordd, Sir Benfro), sydd fwyaf enwog am ennill y drydedd gyfres o Wawffactor ar S4C, ac ennill Cân i Gymru 2007 gyda'i chân Blwyddyn Mas.

Einir Dafydd
Ganwyd1989 Edit this on Wikidata
Sir Benfro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Dechreuodd Einir Dafydd ar ei gyrfa gerddorol fel y prif leisydd yn y band Garej Dolwen, ond daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf wedi iddi ennill cystadleuaeth WawFfactor ar S4C ym Mawrth 2006, a hynny wedi iddi gyfareddu miloedd o wylwyr S4C gyda’i llais swynol a’i dawn naturiol o berfformio.

Roedd ennill WawFfactor yn drobwynt pwysig iawn yn ei gyrfa, gan iddo agor sawl drws i bob math o gyfleon. Yn ystod y flwyddyn honno, cafodd y cyfle i ymddangos droeon ar y teledu ar raglenni fel Uned 5, Wedi 7, Noson Lawen a Planed Plant.

Ym Mehefin 2006, rhyddhawyd CD cyntaf Einir gan S4C sef Y Garreg Las oedd yn cynnwys tair cân a fideo, “Y Garreg Las” gan Ryland Teifi, “Fel Bod Gatre’n Ôl” gan Caryl Parry Jones a Christian Phillips, a fersiwn arbennig o “W Capten” gan Eliffant.

Cafwyd noson i lansio’r CD newydd yn Theatr y Gromlech, Crymych yng nghwmni Elen Pencwm, Ryland Teifi a Caryl Parry Jones. Darlledwyd yn fyw o'r noson gan Terwyn Davies ar gyfer rhaglen C2 ar Radio Cymru.

Yn mis Rhagfyr 2006, rhannodd Einir lwyfan gyda Bryn Fôn a Bryn Terfel yng nghyngerdd Nadolig Llangollen a ddarlledwyd ar S4C.

Ym mis Mawrth 2007, daeth Einir i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru gyda chân o’r enw “Blwyddyn Mas” - yr alaw wedi'i chyfansoddi ganddi, a’r Prifardd Ceri Wyn Jones yn gyfrifol am y geiriau.

Rhyddhawyd Ffeindia Fi yn ystod yr haf 2007 ar label Rasp. Roedd yr EP yn cynnwys 6 o ganeuon - dwy gân gan Caryl Parry Jones, sef “Gwerth y Byd” a “Sibrydion ar y Gwynt”; “Eira Cynnes” a “Blwyddyn Mas” o waith Einir ei hun a Ceri Wyn Jones, a dwy gân gan Ryland Teifi sef “Bachgen Wyt Ti” a’r ddeuawd a ganwyd gan y ddau ar raglen C2: Yn y Ciwb ar Radio Cymru, Ffeindia Fi.

Disgograffi golygu

EP golygu

Cysylltiadau allanol golygu