Rhydowen, Ceredigion

pentref yng Ngheredigion
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llwynrhydowen)

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Rhydowen. Gorwedd ar yr A475 rhwng Pren-gwyn a Cwmsychbant, tua 7 milltir i'r gorllewin o Llanbedr Pont Steffan. Llifa Afon Cletwr heibio i'r pentref.

Rhydowen, Ceredigion
Old corn mill at Rhydowen.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0856°N 4.2726°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN444452 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler Rhydowen.

Mae gan y pentref boblogaeth o 347, gyda tua 200 ohonynt yn medru'r Gymraeg.

Gerllaw mae capel Llwynrhydowen, lle treuliodd David Davis (Dafis Castellhywel) gyfnod yn gweinyddu yn y 18g.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

CyfeiriadauGolygu