Dafydd Owen
Bardd, gweinidog, athro, llyfrgellydd a chyfieithydd oedd y Prifardd Dafydd Owen (12 Mai 1919 – 12 Hydref 2002).[1][2][3]
Dafydd Owen | |
---|---|
Dafydd Owen yn darllen o Dimbech' a Cherddi Eraill (1989) | |
Ganwyd | 1919 Bylchau |
Bu farw | 2002 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Prifardd, llyfrgellydd, gweinidog yr Efengyl |
Bywgraffiad
golyguGaned Dafydd Owen yn y Rhiw, tua milltir o groesffordd y Bylchau, ym Mro Hiraethog, yn fab i William Owen y saer, Brynrhedyn a Jane Ellen Williams, Bylchau Isaf. Symudodd y teulu, sef y rhieni a'u hwyth blentyn, i Ddinbych (7, Y Lôn Goch), cyn bod Dafydd yn ddwyflwydd oed.
Aeth i Ysgol Sirol Dinbych, lle'r Saesneg oedd y cyfrwng dysgu er bod mwyafrif yr athrawon yn gallu siarad Cymraeg. Yno deffrowyd ei ddiddordeb mewn barddoniaeth. Ni chaniataodd ei dad iddo fynd ymlaen i'r chweched dosbarth, yn groes i ewyllys ei fam a'i brifathro, ac aeth yn glerc/ohebydd i Wasg Gee. Yno, daeth o dan ddylanwad Morris T Williams, Kate Roberts, Bryan Jones a J. J. Evans. Wedyn aeth yn glerc i'r Cyngor Sir yn Rhuthun a bu yno am chwe blynedd. Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd fe gofrestrodd ei hun yn wrthwynebydd cydwybodol er nad oedd rhaid iddo wneud hynny gan na fyddai pasio'r prawf meddygol i fynd i'r lluoedd arfog.
Astudiodd y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Cafodd ei hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor. Treuliodd gyfnod yn Llyfrgellydd Dinbych cyn cael ei sefydlu'n weinidog gyda'r Annibynwyr. Bu'n gweinidogaethu mewn nifer o eglwysi yn eu tro rhwng 1950 a 1973, gan gynnwys Bryn Seion (Sychdyn) a Bethel (yr Wyddgrug), Bwlchtocyn ac Aber-soch, Llŷn, a Gibea (Brynaman). Aeth i ddysgu yn ysgolion Prestatyn a Glan Clwyd yn Sir Ddinbych, cyn iddo gael ei benodi'n gyfieithydd gyda Chyngor Sir Clwyd. Ymddeolodd yn 1984. Pan ofynnwyd iddo gan gyfaill o Sais pam iddo gefnu ar y weinidogaeth, ei ateb ffraeth oedd: ' I was called to a higher salary'.[4]
Priododd Doris Hughes ar 26 Rhagfyr 1958. Cawson nhw ddau o blant: William Gareth (28 Hydref 1959 -) a Siân (12 Mawrth 1962 - ).
Gyrfa Lenyddol
golyguBu Dafydd Owen yn llenor toreithiog. Yn 1939, ac yntau'n ugain oed, fe enillodd gystadleuaeth Stori Fer y Faner. Yn 1943 enillodd Goron Eisteddfod Colegau Cymru a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1943 am ei bryddest, "Rhosydd Moab". Enillodd Goron Arian y Prifeirdd yn Eisteddfod Caerwys 1968 ar y testun 'Y Daith'. Dim ond enillwyr y Goron neu'r Gadair yn y Brifwyl oedd yn cael cystadlu yn y gystadleuaeth honno. Yna, enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972 yn Hwlffordd am ei awdl, "Preselau". Bu'n brysur fel beirniad, darlithydd a darlledwr a bu'n golygu colofn farddol Y Tyst am flynyddoedd. Ystyrid ef yn awdurdod ar Elfed ac enillodd radd MA gan Brifysgol Lerpwl am ei draethawd 'Bywyd a Gwaith Elfed'. Cyhoeddodd lyfrau ar Elfed, Cynan a Waldo Williams, ynghyd â'r gyfrol I Fyd y Faled (1986). Cyhoeddodd O dŷ i Dŷ, cyfrol o'i emynau ef, ei chwaer Janet Mary Hughes Prestatyn, a'i frawd y Parchedig William Thomas Owen (cyn-weinidog eglwys Annibynnol y Tabernacl, King's Cross, Llundain), yn 1985. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Yn Palu Wrtho'i Hunan yn 1993.[4] Coffawyd ef yn Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2003.
Llyfryddiaeth
golygu- Cerddi (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1947)
- Elfed a'i Waith (Abertawe: Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, 1965)
- Baledi (Llandybïe, Llyfrau'r Dryw, 1965)
- Adrodd ac Adroddiadau 1966 (Gwasg John Penry, 1996)
- Dal Pridd y Dail Pren (Llandybïe: Llyfrau'r Dryw, 1972)
- Crist Croes (Abertawe: Tŷ John Penry, 1977)
- Cynan (Cardiff: University of Wales Press for the Welsh Arts Council, Writers of Wales, 1979)
- Cerddi Lôn Goch (S.I.: Cyhoeddiadau Barddas,1983)
- I Fyd y Faled (Dinbych: Gwasg Gee, 1986)
- 'Dimbech' a Cherddi Eraill (Felindre, Abertawe, Barddas) 1989
- Yn Palu Wrtho'i Hunan (Pen-y-groes, Gwynedd: Gwasg Dwyfor, 1993)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1997. tt. 551-552. ISBN 0-7083-1382-5.
- ↑ Morgans-Phillips, Delyth G. (2006). Cydymaith Caneuon Ffydd. Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. tt. 635–636. ISBN 9781862250529.
- ↑ Hafina Clwyd. "Ffarwel i dri gwerth eu cofio". Cyrchwyd 25 Chwefror 2024.
- ↑ 4.0 4.1 Owen, R.M. (Bobi) (Chwefror/Mawrth 2003). "Do, fe balodd...". Barddas 271: 22-25.