Keltia Rok

(Ailgyfeiriad o 'Keltia Rok')

Record hir aml-gyfrannog yw Keltia Rok, rhyddhawyd ar label Cymraeg Recordiau Sain.[1] Mae’n hynod am ei fod y record hir cyntaf (a hyd at 2020 yr unig record hir) i gynnwys caneuon pop a roc cyfoes ymhob un o’r chwe iaith Geltaidd.[2][3] Mae’n cynnwys y caneuon roc cyntaf a ryddhawyd yn yr iaith Gernyweg a Manaweg. Rhyddhawyd y record i gydfynd â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhorthmadog yn Awst 1987.[4] Dosbarthwyd y record fel record hir feinyl (Sain 1412M) a fel caset (Sain C612N) gan Revolver / The Cartel o Fryste.[5]

Keltia Rok
[[Delwedd:|200px|Gwall mynegiad: Operand ar gyfer > ar goll.px|Clawr Keltia Rok]]
Albwm aml-gyfrannog gan amrywiol artistiaid
Rhyddhawyd 1987
Genre Roc Celtaidd
Label Recordiau Sain

Cefndir a recordio

golygu
 
Davyth Fear, trefnydd y record

Trefnwyd y record gan Davyth Fear, oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Cyffredinol o’r Undeb Celtaidd.[6][7][8][9] Roedd y clawr cefn yn cynnwys nifer o hysbysebion ar gyfer sefydliadau ieithoedd Celtaidd, oedd yn helpu talu am yr argraffu. Cynnwys y clawr blaen oedd delwedd o Lwybr Llaethog, grŵp rap Cymraeg, oedd hefyd yn recordio i Recordiau Sain.[10]

Adolygiadau

golygu

Adolygwyd y record gan nifer o gylchgronau a phapurau cerddoriaeth. Barn Dulais Rhys ym mhapur newydd wythnosol ‘Y Faner’ oedd ei fod yn ddewisiad diddorol gyda chlawr ardderchog.[11] Amlygodd Adrian Tierney-Jones yn yr NME fod y record yn un cyfoes, gyda rhai caneuon ‘warming the cockles of the Celtic heart’. ‘Yn y pendraw’ meddai, ‘arwyddocád y record yw bod yr ieithoedd hyn yn fyw ac nid mewn amgueddfeydd’[12] Yn ôl ‘Keltoi – a Pan-Celtic Review’, helpodd cyhoeddiad y record i gysylltu mudiadau roc yr ieithoedd Celtaidd.[13] Yn ôl y cylchgrawn ‘Welsh Music History’, roedd yn gam mawr ymlaen ar gyfer diwylliant cerddoriaeth cyfoes yn y cenhedloedd Celtaidd.[14]

Rhestr o ganeuon

golygu
# Artist Cân Cyfieithiad Cymraeg Cenedl Ysgrifennw(y)r
1 Eirin Peryglus Glawogydd -   Cymru cerddoriaeth a geiriau – Eirin Peryglus
2 Brian Webb Tan y’n Golon Tân yn y galon   Cernyw cerddoriaeth a geiriau –Webb
3 Rinne Mamaí Ciste Milis Brionglóidí Breuddwydion   Iwerddon geiriau –Bradley, cerddoriaeth –Muinzer & Clenaghan
4 Mona Jaouen Pell war an Hent Pell lawr y ffordd   Llydaw cerddoriaeth – le Vallegant, trefniant – Beauvir & le Vallegant
5 Na Fíréin Deireadh na Seachtaine Y penwythnos   Iwerddon geiriau– Mac Séalaigh, cerddoriaeth – Smith & Mac Séalaigh
6 Ragamuffin Gowlwryans Biwrocratiaeth   Cernyw geiriau – Humphreys & Lyon, cerddoriaeth - Ragamuffin
7 Dazont Lazhadeg ar Yezh Cyflafan yr iaith   Llydaw geiriau a cherddoriaeth - Dazont
8 Ny Slommaghyn O Vanninee O bobl Fanaweg   Ynys Manaw geiriau a cherddoriaeth – Carswell, trefniant – Ny Slommaghyn
9 E.V. Ar Gwener (e Gwer) Dydd Gwener (yn wyrdd)   Llydaw geiriau a cherddoriaeth – J & H Perche
10 An Gof Ma Kan y’nn Mein Mae‘na gân yn y meini   Cernyw geiriau – Hicks & Saunders, cerddoriaeth - Hicks
11 Pentothal Plac’h ar Gwele Kloz Merch y gwely cloedig   Llydaw geiriau a cherddoriaeth - Tangi
12 Blasket Sound Raithneach, a Bhean Bheag Rhedynnau, ferch fach   Iwerddon traddodiadol
13 Gael Force Suas leis a’Ghaidhlig Gaeleg am byth   Yr Alban geiriau a cherddoriaeth - Martin
14 Yr Anhrefn Cornel -   Cymru geiriau a cherddoriaeth – Sebon, Mwyn, Huws & Gwyn

Cysylltiadau â bandiau eraill / nodiadau

golygu
  1. Cynhyrchwyd Glawogydd gan Gorwel Owen, gŵr Fiona Owen, y prif leisydd. Mae o wedi cynhyrchu recordiau i’r Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci.[15]
  2. Roedd Brian Webb yn flaenllaw yn y mudiad iaith Gernyweg, ond bu farw yn anffodus yn Rhagfyr 1986 [16]
  3. Ysgrifennwyd y gân hon gan Colin Muinzer a James Clenaghan, aelodau cynt o’r grŵp roc Gwyddelig, Cruella de Ville.[17]
  4. Roedd Mona Jaouen yn un o’r aelodau a sefydlwyd y grŵp roc Llydaweg arloesol Storlok.[18]
  5. Cân enwocaf Na Fíréin oedd fersiwn Gwyddeleg o Nia Ben Aur, cân deitl yr opera roc Cymraeg.[19]
  6. Enillodd Ragamuffin yr Wŷl Ban-Geltaidd gyda’u cân ‘An Wrannen’ (Y dryw) yn 1984.[20]
  7. Ffurfiwyd Dazont gan Lydawyr oedd yn byw ym Mharis..[21]
  8. Ny Slommaghyn oedd y grŵp roc cyntaf i ganu yn y Fanaweg. Aeth y prif leisydd,Greg Joughin, ymlaen i ffurfio grŵp gwerin, y Mollag Band.[22][23]
  9. Roedd dau aelod o E.V., sef y brodyr Jari a Harri Perche, yn hannu o Ffindir, a roedd y grŵp yn canu yn Llydaweg, Ffrangeg a Ffineg.[24]
  10. Roedd Davyth Hicks yn aelod o Lavolta Latoka, grŵp Prydeinig ‘post punk’, ac wedyn o Revenge gyda baswr New Order, Peter Hook.[25]
  11. Roedd Bernez Tangi, y prif leisydd, hefyd yn un o’r aelodau a sefydlwyd y grŵp roc Llydaweg arloesol Storlok.<[18]
  12. Aeth chwaraewr ffidl Blasket Sound, Maire Breatnach, ymlaen i drefnu a pherfformio fersiwn Celtaidd o’r cerddoriaeth i Final Fantasy IV.[26]
  13. Roedd Noel Eadie, y baswr, yn aelod o grŵp pop Gaeleg yr Alban cyntaf, sef, Na h-Oganaich, a enillodd yr Wŷl Ban-Geltaidd yn 1972.[27][28]
  14. Prif leisydd Yr Anhrefn, Rhys Mwyn, oedd rheolwr Catatonia yn ystod y 1990au. Cafodd Yr Anhrefn gryn sylw gan John Peel, gan recordio tri sesiwn i’r raglen radio.[29]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Discogs - Keltia Rok
  2. [1]
  3. Mwyn, Rhys (2006). Cam o’r Tywyllwch. Talybont: Y Lolfa. (paperback). t. 107. ISBN 0-86243-923-X.
  4. "Celtic rock - a brief history". Keltoi - a Pan-Celtic Review. New York: Celtic league American Branch. 1990. t. 35.
  5. [2]
  6. "Celtic rock - a brief history". Keltoi - a Pan-Celtic Review. New York: Celtic league American Branch. 1990.
  7. [3]
  8. [4]
  9. Berresford Ellis, Peter (2003). Celtic Dawn (2nd ed.). Talybont: Y Lolfa. (paperback). t. 168. ISBN 0-86243-643-5.
  10. [5]
  11. "Dulais Rhys fu'n gwrando". Y Faner (Baner ac Amserau Cymru). Y Bala: Y Faner. 13 Nov 1987. t. 10.
  12. Tierney-Jones, Adrian (29 Aug 1987). "Review of Keltia Rok". New Musical Express. London: Holborn Publishing Group. ISSN 0028 6362.
  13. "Celtic rock - a brief history". Keltoi - a Pan-Celtic Review. New York: Celtic league American Branch. 1990.
  14. [6]
  15. [7]
  16. [8]
  17. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-10. Cyrchwyd 2020-07-06.
  18. 18.0 18.1 [9]
  19. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-26. Cyrchwyd 2020-07-06.
  20. [10]
  21. [11]
  22. [12]
  23. [13]
  24. [14]
  25. [15]
  26. [16]
  27. [17]
  28. [18]
  29. [19]