Defnyddiwr:Billraybould17/Cymal perthynol

Math o is-gymal yw cymal perthynol sydd yn cynnwys elfen y mae deall ei hystyr yn dibynnu ar ddeall cyfeiryn blaenorol, cyfeiryn y mae'r is-gymal yn ramadegol-ddibynnol arno; sef yw hynny, y mae perthynas ôl-gyfeiriol rhwng yr elfen berthynol yn yr is-gymal a'r cyfeiryn yn y prif gymal y mae'n dibynnu arno.

Yn nodweddiadol, mae cymal perthynol yn cyfyngu ar enw neu ymadrodd enwol,[1] ac yn defnyddio rhyw ddyfais ramadegol i arwyddo fod un o'r dadleuon y tu mewn i'r is-gymal yn cyfeirio at yr un cyfeiryn â'r enw neu'r ymadrodd hwnnw. Er enghraifft, yn y frawddeg Wnes i gwrdd â dyn nad oedd yn bresennol, mae'r is-gymal nad oedd yn bresennol yn gymal perthynol, gan ei fod yn cyfyngu ar ystyr yr enw dyn, ac yn defnyddio'r cysylltair negyddol nad (oedd) i arwyddo fod cyfeiriad at yr union un "dyn" y tu mewn i'r is-gymal (ac, yn yr achos hwn, ei fod yn oddrych y tu mewn i'r ferf oedd).

Mewn llawer o ieithoedd Ewropeaidd, mae cymalau perthynol yn cael eu cyflwyno gan ddosbarth arbennig o ragenwau a elwir rhagenwau perthynol,[2] o fath y gair a yn yr is-gymal (dyn) a oedd yn bresennol. Mewn ieithoedd eraill, mae cymalau perthynol yn cael eu marcio mewn ffyrdd gwahanol: efallai y byddant yn cael eu cyflwyno gan ddosbarth arbennig o gysyllteiriau (tebyg i'r negydd nad uchod) a elwir yn berthynolwyr; medr y prif ferf yn y cymal perthynol ymddangos mewn ffurf forffolegol arbennig (tebyg i'r ferf sydd yn yr is-gymal (dyn) sydd yn bresennol); neu bydd y cymal perthynol yn cael ei nodi gan drefn y geiriau'n unig.[3] Mewn rhai ieithoedd, gall mwy nag un o'r mecanweithiau hyn fod yn bosibl.

Mathau o gymalau perthynol golygu

Clwm a rhydd golygu

Mae cymal perthynol clwm, y math sydd y cael ei ystyried amlaf, yn cyfyngu ar elfen benodol (fel arfer enw neu ymadrodd enwol) sy'n ymddangos yn y prif gymal, ac yn cyfeirio yn ôl at yr elfen honno trwy ryw ddyfais echblyg neu guddiedig o fewn yr is-gymal.

Gall y cymal perthynol gael ei alw hefyd yn gymal ymnythol; mae'r prif gymal (neu'r uwch-gymal) lle mae'r is-gymal yn ymnythu yn cael ei alw hefyd yn gymal cynhwysol. Mae'r enw yn y prif gymal y mae'r cymal perthynol yn ei addasu yn cael ei alw'n brif air neu'n ben yr ymadrodd neu (yn enwedig pan fydd y rhagenw perthynol yn cyfeirio'n ôl ato) yn rhagflaenydd. Er enghraifft, yn y frawddeg Roedd y dyn a welais ddoe yn mynd adref, mae'r is-gymal a welais ddoe yn cyfyngu ar y rhagflaenydd dyn, ac mae'r rhagenw a yn cyfeirio yn ôl at gyfeiryn yr enw hwnnw. Mae'r frawddeg yn cyfateb i'r ddwy frawddeg ganlynol: "Gwelais ddyn ddoe. Roedd y dyn yn mynd adref." Noder nad yw'r dadleuyn sydd yn rhan o'r naill frawdeg a'r llall yn gorfod cyflawni'r un swyddogaeth yn y ddau gymal; yn yr enghraifft hon, fe gyfeirir at yr un "dyn" gan y goddrych yn y cymal cynhwysol a'r gwrthrych uniongyrchol yn y cymal perthynol.

Yn achos cymal perthynol rhydd, ar y llaw arall, nid oes iddo ragflaenydd penodol allanol. Yn lle hynny, mae'r cymal perthynol ei hunan yn cymryd lle dadl yn y cymal cynhwysol. Er enghraifft, yn y frawddeg "Hoffaf a welaf", mae'r cymal a welaf yn gymal perthynol rhydd, oherwydd nad oes iddo ragflaenydd, ac mae'r cymal ei hunan yn gwasanaethu'n wrthrych i'r ferf hoffaf yn y prif gymal. (Mewn amgen ddadansoddiad, dywedir fod y cymal perthynol rhydd yn cyfyngu ar ragflaenydd "sero". Y mae hynny'n briodol yn achos a welaf yn y Gymraeg. Ond, yn achos y frawddeg Saesneg "I like what I see" mae'r ymadrodd enwol, fel sy'n arferol, yn cynnwys rhagflaenydd o natur wh, sef "what I see." Ac, yn sgil hynny, rhaid ystyried mai cymal perthynol clwm yw'r is-gymal I see. Yn ôl Quirk et al (1985: 1057), rhaid ystyried y cymal perthynol rhydd, sef yr ymadrodd enwol cynhwysol what I see, yn "Nominal Relative Clause".

Cyfyngol ac atodol golygu

Gall cymalau perthynol fod yn gyfyngol neu beidio. Mae cymal perthynol cyfyngol, neu ddiffiniol, yn addasu ystyr y prif air/rhagflaenydd (gan gyfyngu ar ei gyfeiriad posibl), tra bo'r cymal perthynol atodol yn darparu gwybodaeth ychwanegol neu atodol. Er enghraifft:

  • Nid yw'r dyn sy'n byw yn y tŷ hwn wedi cael ei weld ers dyddiau. Mae'r is-gymal hwn (sy'n byw yn y tŷ hwn) yn cyfyngu ar ystyr yr enw dyn, ac yn hanfodol i'r frawddeg (petai'r cymal wedi'i hepgor, ni fyddai'n bosibl adnabod pa ddyn sydd dan sylw).
  • Nid yw'r maer, sy'n byw yn y tŷ hwn, wedi'i weld ers dyddiau. Mae'r cymal hwn yn gymal perthynol atodol (a rhydd), gan ei fod yn darparu gwybodaeth ychwanegol am y maer. Nid yw'n hanfodol i'r frawddeg – petai'r cymal wedi'i hepgor, byddai'n dal i fod yn hysbys pa faer sydd dan sylw.

Wrth siarad mae'n naturiol gwneud ychydig o seibiannau o gwmpas cymalau sydd heb fod yn gyfyngol, ac yn Saesneg mae hyn yn cael ei ddangos yn ysgrifenedig gan atalnodau (fel yn yr enghraifft uchod). Fodd bynnag, mae llawer o ieithoedd heb wahaniaethu rhwng y ddau fath o gymal yn y ffordd hon. Mae gwahaniaeth arall yn Saesneg, sef mai cymalau perthynol cyfyngol yn unig a all gael eu cyflwyno gan y rhagenw perthynol that neu'r rhagenw "sero" (gweler yr adran ar English relative clauses am fanylion).

Yn Saesneg, yn yr iaith lafar sathredig, mae cymal perthynol atodol yn medru helaethu ar ragflaenydd sydd yn gymal cyfan yn hytrach nag yn ymadrodd enwol penodol, er enghraifft:

  • The cat was allowed on the bed, which annoyed the dog.

Yn y frawddeg Saesneg yma, mae cyd-destun y frawddeg (yn ôl pob tebyg) yn dangos bod which yn cyfeirio nid at y gwely neu'r gath, ond at y gosodiad cyfan a fynegwyd yn y prif gymal, sef yr amgylchiad bod y gath yn cael mynd ar y gwely. Mae cystrawennau o'r fath yn cael eu gwrthod mewn defnydd ffurfiol ac mewn testunau ysgrifenedig ar gyfer siaradwyr estron oherwydd ei fod mor hawdd ei gam-ddeall. Mewn defnydd ffurfiol yn Saesneg, disgwylid The cat's being [or having been] allowed on the bed annoyed the dog. Yn Gymraeg, fe ddefnyddid rhagflaenydd cyffredinol, e.e. Cafodd y gath fynd ar y gwely, peth oedd yn blino'r ci.

Berfol a berfenwol golygu

Medr cymalau perthynol fod yn gymalau berfol (fel y rhai a drafodir uchod) neu'n gymalau berfenwol. Y mae esiampl o'r cymal perthynol berfenwol yn y frawddeg Saesneg "She is the person on whom to rely", sef on whom to rely.

Dulliau ffurfio cymalau perthynol golygu

Mae ieithoedd yn gwahaniaethu mewn llawer dull yn y modd y mynegir cymalau perthynol:

  1. sut y dangosir swyddogaeth yr elfen berthynol yn y cymal ymnythol;
  2. sut y cysylltir y ddau gymal;
  3. lle y gosodir y cymal ymnythol mewn perthynas a'r rhagflaenydd (gan ddangos yn y broses pa ymadrodd enwol sy'n cael ei addasu yn y cymal cynhwysol).

Er enghraifft, medrir disgrifio dulliau'r frawddeg Saesneg "The man that I saw yesterday went home" fel a ganlyn:

  1. Mae swyddogaeth yr elfen berthynol yn y cymal ymnythol yn cael ei nodi gan broses bylchu (gapping); hynny yw, mae bwlch yn cael ei adael yn safle'r gwrthrych ar ôl y ferf "saw", gan awgrymu bod yr elfen berthynol ("the man") yn cael ei ddeall yn llenwi'r bwlch hwnnw ac yn gwasanaethu fel gwrthrych y ferf "saw".
  2. Mae'r cymalau yn cael eu cysylltu gan y complementizer "that".
  3. Mae'r cymal ymnythol wedi'i roi ar ôl ei ragflaenydd, "the man".

Y mae'r brawddegau canlynol yn dangos gwahanol bosibiliadau (a rhai ohonynt yn unig yn ramadegol yn Saesneg):

  • "The man [that I saw yesterday] went home". (A'r complementizer yn cysylltu'r ddau cymal a'r strategaeth bylchu yn nodi'r rôl a gyflawnir gan yr enw perthynol yn y cymal perthynol. Un posibilrwydd yn y Saesneg yw hynny. Mae'n gyffredin iawn mewn ieithoedd ar draws y byd.)
  • "The man [I saw yesterday] went home". (Strategaeth bylchu, a'r is-gymal yn gymal perthynol cwtogedig, heb air yn cysylltu'r ddau gymal. Un posibilrwydd ydyw yn y Saesneg. Fe'i defnyddir mewn Arabeg pan fydd y prif enw yn amhenodol, fel yn achos "dyn" yn lle "y dyn". Medrir dweud mai dyma a geir yn Gymraeg hefyd, e.e. Mae'r dyn welais ddoe wedi mynd adre.)
  • "The man [whom I saw yesterday] went home". (Rhagenw perthynol yn nodi'r rôl a lenwir gan yr elfen berthynol yn yr is-gymal—sef, yn yr achos hwn, y gwrthrych uniongyrchol. Fe'i defnyddir yn Saesneg ffurfiol, fel yn y Lladin, Almaeneg neu Rwsieg. Yn y Gymraeg mwyaf ffurfiol fe ddefnyddir y rhagenw perthynol rhywiog a pan fo'r elfen berthynol yn wrthrych uniongyrchol ac yn oddrych.)
  • "The man [seen by me yesterday] went home". (Cymal perthynol cwtogedig, yn yr achos hwn wedi'i droi'n oddefol. Un posibilrwydd yn Saesneg.)
  • "The man [that I saw him yesterday] went home". (Complementizer yn cysylltu'r ddwy frawddeg gyda rhagenw adleisiol  yn nodi'r rôl a lenwir gan yr elfen berthynol yn yr is-gymal, fel mewn Arabeg, Hebraeg neu Perseg.)
  • "The man [that him I saw yesterday] went home". (Yn debyg i'r flaenorol, ond gyda rhagenw adleisiol blaen. Mae hyn yn digwydd yn y Roeg gyfoes ac fel un posibilrwydd yn Hebraeg fodern; yn y cyfuniad that him mae'r complementizer a'r rhagenw adleisiol yn ymddwyn yn debyg i'r rhagenw perthynol unedol whom .
  • "The [I saw yesterday]'s man went home". (Cymal perthynol yn rhagflaenu'r rhagflaenydd, gyda'r strategaeth fylchu a'r ddau gymal yn cael eu cysylltu gyda'r drefn enidol a ddefnyddir mewn ymdrodd enwol genidol. Mae hyn yn digwydd mewn llawer o ieithoedd Sino-Tibetaidd ac o bosibl wedi datblygu o'r gystrawen "cymal perthynol + enw" > "cymal enwol + enw" > "cystrawen enidol".[4][5])
  • "The [I saw yesterday] man went home". (Y cymal perthynol o flaen y prif enw, gyda bylchu a heb air cyswllt, fel yn Siapaneeg.)
  • "The man [of my seeing yesterday] went home". (Cymal perthynol enwol-edig, fel a geir yn iaith Twrci.)
  • "[Pa ddyn welais ddoe], fe aeth y dyn hwnnw adref". (Strwythur cyd-berthynol, fel yn Hindi.)
  • "[Fe welais i'r dyn ddoe] fe aeth adref." (Is-gymal perthynol heb ei gwtogi a'r prif air y tu mewn iddo, fel yn Tibeteg neu Navajo.)

Strategaethau ar gyfer dangos swyddogaeth yr elfen berthynol yn yr is-gymal golygu

Mae pedair prif strategaeth ar gyfer nodi'r rôl a lenwir gan yr elfen berthynol y tu mewn i'r cymal perthynol. Mae'r rhain fel arfer yn cael eu rhestru yn ôl pa mor bell y mae'r enw yn y cymal perthynol yn cael ei weddnewid, o'r eithaf i'r lleiaf:

  1. Strategaeth fylchu
  2. Strategaeth berthynoli
  3. Cadw'r rhagenw
  4. Peidio a chwtogi

Y strategaeth fylchu

Yn y strategaeth hon, nid oes ond bwlch yn y cymal perthynol lle byddai'r elfen berthynol yn mynd. Mae hyn yn normal yn y Saesneg, er enghraifft, a hefyd yn Tseinieg a Siapaneeg. Hwn yw'r math mwyaf cyffredin o gymal perthynol, yn enwedig mewn ieithoedd ferf-derfynol (SOV) lle mae'r cymal perthynol yn sefyll o flaen y prif enw, ond mae hefyd yn gyffredin ymhlith ieithoedd lle mae'r cymal perthynol yn sefyll ar ôl y prif enw a'r rhagflaenydd hwnnw'n sefyll y tu allan i'r prif gymal.

Mae'n bosibl na fydd unrhyw arwydd i gysylltu'r is-gymal a'r prif gymal. (Noder, yn achos ieithoedd lle mae ffurf y rhagenw perthynol yn newid er mwyn dangos ei gyflwr, nid ystyrir eu bod yn defnyddio'r strategaeth fylchu hyd yn oed pan adewir bwlch, gan fod cyflwr y rhagenw perthynol yn dangos y rôl a lenwir gan yr elfen berthynol.) Yn aml bydd ffurf y ferf berthynol yn wahanol i'w ffurf mewn prif gymal ac i ryw raddau mae'r mynegiant yn dilyn ffurf y cymal enwol, fel a geir yn Twrceg ac, yn Saesneg, mewn cymalau perthynol cwtogedig.[6][7]

Yn yr ieithoedd di-ferf-derfynol, ar wahân i ieithoedd fel Thai a Fietnameg sydd a gwahaniaethau cwrteisi cryf iawn yn eu gramadegau[angen ffynhonnell], mae'r strategaeth fylchu yn tueddu, fodd bynnag, i fod yn gyfyngedig i'r cymalau uchaf yn yr hierarchi hygyrchedd. Yn achos cymalau perthynol traws (rhai genidol ac adferfol), mae'r ieithoedd di-ferf-derfynol hynny sydd heb gyfyngiadau cwrteisi ar ddefnyddio rhagenwau yn tueddu i gadw'r rhagenw. [Dyna a ddigwydd yn y Gymraeg, e.e. "Dyna'r dyn dw i'n nabod ei wraig." neu "Dyna'r dyn dw i'n byw drws nesa iddo."] Mae Saesneg yn anarferol yn y ffaith fod yr holl swyddi yn y cymal ymnythol yn gallu cael eu nodi gan fylchu: e.e. a'r elfen berthynol yn oddrych "I saw the man that's my friend", ond hefyd mewn swyddi cynyddol lai hygyrch yn draws-ieithyddol, yn unol a'r hierarchi hygyrchedd a ddisgrifir isod: "... that I know", "... that I gave a book to", "... that I spoke with", "...that I run slower than".

Fel arfer, mae ieithoedd sy'n defnyddio bylchu yn gwrthod a'i defnyddio y tu hwnt i lefel benodol yn yr hierarchi hygyrchedd ac yn dewis strategaeth wahanol o hynny ymlaen . Mae Arabeg Clasurol, er enghraifft, yn caniatáu bylchu mewn cymalau goddrychol ac weithiau'r gwrthrych uniongyrchol; y tu hwnt i hynny, mae'n rhaid defnyddio rhagenwau atgymerol. Mae rhai ieithoedd heb unrhyw strategaethau cydnabyddedig o gwbl heibio rhyw bwynt penodol—e.e. mewn llawer o ieithoedd Awstronesaidd, gan gynnwys Tagalog, mae'n rhaid i bob cymal perthynol gynnwys yr elfen berthynol yn oddrych. Yn yr ieithoedd hyn, pan fydd yr elfen berthynol yn sefyll mewn rol a "wrthodwyd" medrir ei mynegi mewn cystrawen oddefol a thrwy hynny symud yr elfen berthynol i safle'r goddrych. Byddai hyn, er enghraifft, yn trawsnewid "y dyn y rhoddais lyfr iddo" i "y dyn a gafodd roddi llyfr iddo gennyf i". Yn gyffredinol, mae ieithoedd fel hyn yn "cynllwynio" i weithredu'r broses berthynoli trwy ganiatáu troi'r holl swyddi yn oddefol — felly mae'n ramadegol creu brawddeg sy'n cyfateb i "y dyn sydd yn cael rhedeg yn arafach nag ef gennyf i". Sylwer hefyd fod bylchu yn aml yn cael ei defnyddio ar y cyd â rhagenwau perthynol sy'n dangos cyflwr yr elfen berthynol yn y cymal ymnythol, ond nid yw hyn yn angenrheidiol (e.e. mae Tseinieg a Siapanëeg yn defnyddio bylchu ynghyd â geiryn nad yw'n newid).

Strategaeth y rhagenw perthynol golygu

Mae hyn mewn gwirionedd yn strategaeth fylchu, o fath, ond yn nodedig gan y ffaith bod y rôl a chwareir gan yr elfen berthynol yn y cymal ymnythol yn cael ei nodi yn anuniongyrchol gan gyflwr y geiryn (sef y rhagenw perthynol) a ddefnyddir i gysylltu'r prif gymal a'r cymal ymnythol. Y mae'r holl ieithoedd sydd yn defnyddio rhagenwau perthynol yn eu gosod yn safle cychwynnol yr is-gymal: wrth gwrs, fe ellid dychmygu am ragenw perthynol sy'n sefyll ar ddiwedd y cymal ymnythol yn debyg i ymadrodd adferfol mewn prif gymal, ond mae'r fath yn anhysbys. [Dyna farn yr erthygl wreiddiol yn Saesneg. Ond, fel y nodwyd uchod, mae'r math hwn ar gael yn Gymraeg. Mewn is-gymal perthynol afrywiog, mae'r geiryn cysylltiol (y/yr) yn medru sefyll ar flaen yr is-gymal a'r rhagenw perthynol yn dod ar y diwedd neu ar gwt y gair olaf ynddo. Gwelir esiampl uchod, sef "...y dyn y rhoddais lyfr iddo ". Cystrawen gyffelyb a welir yn yr ymadrodd "... y dyn y cytunais ag ef". Prin y derbynid y disgrifiad hwn gan ramadegwyr Saesneg; rhagenw "adleisiol" yw'r elfen (idd)o / (ag) ef. Ond hon, sylwer, yw'r unig elfen yn yr is-gymal sydd yn cyfeirio at yr union un cyfeiryn â'r rhagflaenydd.] 

Sylwer bod gan rai ieithoedd yr hyn a elwir yn "rhagenwau perthynol" (gan eu bod yn cytuno â rhai o nodweddion y rhagflaenydd, megis nifer a rhyw) ond nad ydynt mewn gwirionedd yn dangos cyflwr y rôl a lenwir gan yr elfen berthynol yn y cymal ymnythol. Mae Arabeg Clasurol yn defnyddio "rhagenwau perthynol" sydd a'u cyflwr wedi ei farcio, ond mae hwnnw'n cytuno a chyflwr y prif enw. Mae rhagenwau sy'n dangos cyflwr yr elfen berthynol yn yr is-gymal ymnythol wedi'u cyfyngu bron yn gyfangwbl i'r ieithoedd Ewropeaidd[angen ffynhonnell], lle maent yn gyffredin ac eithrio ymhlith y teulu Celtaidd a'r teulu Indo-Ariaidd. Mae dylanwad y Sbaeneg wedi arwain at eu mabwysiadu [sic] gan nifer fach iawn o ieithoedd brodorol yr Amerig, a'r ieithoedd Keresan yn fwyaf adnabyddus yn eu plith.[8]

Cadw'r rhagenw golygu

Yn y math hwn, mae safle'r elfen berthynol yn cael ei nodi trwy gyfrwng rhagenw personol yn yr un safle cystrawennol ag a fyddai fel arfer yn cael ei lenwi gan ymadrodd enwol o'r un math yn y prif gymal—a adwaenir yn rhagenw adleisiol. Mae'n cyfateb i ddweud "Fe aeth y dyn gwelais ef ddoe adref". Mae'r strategaeth hon yn cael ei defnyddio'n aml iawn ar gyfer perthynoli elfennau yn y safleoedd mwyaf anhygyrch yn yr hierarchi hygyrchedd. Mewn Persieg ac Arabeg Clasurol, er enghraifft, mae  rhagenwau atgymerol yn ofynnol pan fydd rôl yr elfen berthynol yn wahanol i'r goddrych neu'r gwrthrych uniongyrchol, a dewisol yn achos y gwrthrych an-uniongyrchol [sic?]. Mae rhagenwau adleisiol yn gyffredin mewn ieithoedd yn Affrica ac Asia sydd heb roi'r ferf yn y safle derfynol, ac fe'u defnyddir hefyd gan ieithoedd Celtaidd gogledd orllewin Ewrop a Rwmanieg ("Omul pe care l-am văzut ieri yn mers acasă"/"Aeth y dyn y gwelais ef ddoe adref"). Maent hefyd yn digwydd mewn safleoedd ymnythol dwfn iawn yn Saesneg, fel yn "That's the girl that I don't know what she did",[9] er bod hyn yn cael ei ystyried weithiau yn is-safonol.

Dim ond nifer fach iawn o ieithoedd, ac Iorwba yn fwyaf hysbys yn eu plith, sydd a'r strategaeth cadw rhagenw yn unig ddyfais ramadegol wrth greu cymalau perthynol.

Peidio â chwtogi golygu

Yn y strategaeth hon, yn wahanol i'r tair arall, mae'r elfen berthynol yn ymadrodd enwol llawn yn y cymal ymnythol, sydd a ffurf cymal annibynnol llawn. Fel arfer, y prif enw yn y cymal cynhwysol sy'n cael ei gwtogi neu ar goll. Dywedir fod yr ieithoedd hyn yn  cynnwys cymalau perthynol a phrif enwau y tu mewn iddynt, a byddai'r rhain yn debyg i'r strwythur (an-ramadegol) yn Saesneg "[You see the girl over there] is my friend" neu "I took [you see the girl over there] out on a date". Mae'r strategaeth hon yn cael ei defnyddio, er enghraifft, yn Navajo, sy'n defnyddio berf berthynol arbennig (fel y mae rhai eraill o'r ieithoedd Americanaidd Brodorol).

Y mae strategaeth arall, strategaeth y cymal cyd-berthynol, a ddefnyddir gan Hindi ac Ieithoedd Indo-Ariaidd eraill, yn ogystal â Bambara. Mae'r strategaeth hon yn cyfateb i ddweud "Which girl you see over there, she is my daughter" neu "Which knife I killed my friend with, the police found that knife". Fe'i gelwir yn "gyd-berthynol" oherwydd fod cyfatebiaeth rhwng y rhagenwau "which ... she ..." neu'r dangosolion "which ... that ..." sy'n dangos y gwahanol enwau sy'n cael eu huniaethu. Noder bod yr enw perthynol naill ai yn cael ei ailadrodd yn gyfan gwbl yn y prif gymal neu'n cael ei droi yn rhagenw. Sylwer hefyd nad oes angen gosod y "rhagflaenydd" ar y blaen yn y fath frawddeg. Er enghraifft, yn yr ail esiampl uchod, fe fyddai Hindi yn dweud rhywbeth sy'n cyfateb i "Fe leddais fy ffrind gyda rhyw gyllell, fe ddaeth yr heddlu o hyd i'r gyllell honno". Mae tafodieithoedd rhai ieithoedd Ewropeaidd, fel Eidaleg, yn defnyddio y math hwn o gymalau gan ddefnyddio geiriau sy'n cyfateb i'r Saesneg "The man just passed us by, he introduced me to the chancellor here."

Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae 'peidio cwtogi' yn cael ei gyfyngu i ieithoedd ferf-terfynol, ac yn fwyaf cyffredin ymhlith y rhai sy'n pen-marcio.

Strategaethau ar gyfer cysylltu'r ddau gymal â'i gilydd golygu

Disgrifir isod rai o'r strategaethau cyffredin ar gyfer asio'r ddau gymal:

  • Defnyddio geiryn di-newid (sef, yn benodol, relativizer) a osodir yn y frawddeg yn union nesaf at yr enw sy'n cael ei oleddfu; yn yr un modd, mae'r cymal ymnythol yn cael ei osod yn y safle priodol, fel arfer ar yr ochr arall i'r relativizer [sic?]. Mae'r strategaeth hon yn gyffredin iawn a gellir dadlau mai dyma sy'n digwydd yn Saesneg gyda'r gair that ("the man that I saw"), er bod y dehongliad fod hwn yn rhywbeth heblaw rhagenw perthynol yn ddadleuol (gweler isod). Yn y mathau cyfoes o Arabeg defnyddir illi yn syth ar ôl y prif enw; yn Tseinieg defnyddir de cyn yr enw a oleddfir.
  • Defnyddio rhagenw perthynol. Yn nodweddiadol, yn y cyfnodau cynharaf, byddai'r rhagenw perthynol yn cytuno gyda'r prif enw mewn rhyw, rhif, pendantrwydd, bywiogrwydd ac ati, ond yn mabwysiadu'r cyflwr gramadegol y mae'r enw ymnythol yn ei gymryd yn y cymal ymnythol, nid yn y cymal cynhwysol. Mae hyn yn wir mewn nifer o ieithoedd Ewropeaidd ceidwadol, megis Lladin, Almaeneg a Rwsieg. Mae llawer o ieithoedd hefyd yn defnyddio geirynnau cysylltiol tebyg a elwir yn gyffredinol yn "rhagenwau perthynol" sydd yn cytuno mewn rhyw ffordd gyda'r prif enw, ond nad ydynt yn mabwysiadu cyflwr yr enw yn y cymal ymnythol. Yn y Saesneg, er enghraifft, mae defnyddio who yn hytrach na which yn cytuno gyda bywiogrwydd y rhagflaenydd, ond nid oes unrhyw gytundeb a'r cyflwr ac eithrio yn Saesneg ffurfiol yn y cyferbyniad who vs. whom (sydd yn aml yn cael ei ddefnyddio yn anghywir, os o gwbl, ar lafar). Yn yr un modd, mewn Arabeg Clasurol, y mae rhagenw sy'n cytuno mewn nifer, rhyw, pendantrwydd a chyflwr a'r rhagflaenydd (yn hytrach na chymryd rôl yr enw yn y cymal ymnythol). Mae ieithoedd gyda rhagenwau perthynol nodweddiadol fel arfer yn defnyddio'r strategaeth bylchu ar gyfer dangos y swyddogaeth yn y cymal ymnythol, gan fod cyflwr y rhagenw perthynol ei hun yn dangos y rôl. (Yn Arabeg Clasurol, lle mae'r cyflyrau yn marcio rhywbeth arall, fe ddefnyddir rhagenwau adleisiol.) Mae'n well gan  rai ieithyddion beido a defnyddio'r term rhagenw perthynol ond ar gyfer yr achosion nodweddiadol (ond dan yr amodau hyn mae'n aneglur beth i alw'r achosion an-nodweddiadol).
  • Gosod yr is-gymal ymnythol yn uniongyrchol yn y cymal cynhwysol yn y safle priodol, heb air i'w cysylltu. Mae hyn yn gyffredin, er enghraifft, yn y Saesneg (cf. "The man I saw yesterday went home"), ac yn cael ei ddefnyddio mewn Arabeg Clasurol mewn cymalau sy'n goleddfu enwau amhendant.
  • Enwoli 'r cymal perthynol (e.e. troi'r gystrawen yn ferfenwol/rhangymeriadol). Yn gyffredinol, ni ddefnyddir unrhyw ragenw na geiryn ymnythu. Mae hyn yn digwydd, er enghraifft, mewn cymalau perthynol cwtogedig yn Saesneg (e.e. "The man seen by me yesterday went home" neu "The man planning to commit suicide is my friend"). Mae Almaeneg ffurfiol yn gwneud defnydd cyffredin o gymalau perthynol berfenwol o'r fath, a medrant fod yn hir eithriadol o'r herwydd. Mae hyn hefyd yn strategaeth gyfarwydd yn Twrceg, sy'n defnyddio cystrawennau sy'n cyfateb i "I ate the potato of Hasan's giving to Sina" (yn lle "I ate the potato Hasan gave to Sina"). Sylwer y gall hyn gael ei ystyried yn sefyllfa lle mae'r complementizer yn cael ei roi ynghlwm wrth ferf y cymal ymnythol (e.e. ystyried yn Saesneg, mai math o complementizer yw'r "-ing" neu'r "-ed").

Dulliau ffurfio cymalau perthynol golygu

Y mae lleoli'r cymal perthynol cyn neu ar ôl y prif enw yn gysylltiedig a'r cysyniad mwy cyffredinol o ymganghennu mewn ieithyddiaeth. Mae ieithoedd sy'n gosod cymalau perthynol ar ôl eu rhagflaenydd (ieithoedd pen-cychwynnol neu ieithoedd VO) yn gyffredinol hefyd yn gosod ansoddeiriau ac addaswyr genidol ar ôl pen yr ymadrodd enwol, yn ogystal â berfau cyn eu gwrthrychau. Mae Ffrangeg, Sbaeneg ac Arabeg yn ieithoedd nodweddiadol o'r math hwn. Mae ieithoedd sy'n lleoli cymalau perthynol cyn pen yr ymadrodd enwol (rhai, felly, a elwir pen-terfynol neu ieithoedd OV) yn gyffredinol hefyd yn gosod ansoddeiriau ac addaswyr genidol  o flaen pen yr ymadrodd enwol, yn ogystal â gosod berfau ar ôl eu gwrthrychau. Mae Twrceg a Siapanëeg yn ieithoedd nodweddiadol o'r math hwn. Nid yw pob iaith yn ffitio yn hawdd i mewn i'r categorïau hyn. Mae Saesneg, er enghraifft, yn gyffredinol yn iaith VO, ond yn gosod ansoddeiriau cyn eu prif enwau, ac yn gosod addaswyr genidol cyn ac ar ol y prif enw ("my father's friend" vs. "the friend of my father"). Mae Tseinieg yn defnyddio'r drefn VO hefyd, a'r ferf yn blaenori'r gwrthrych, ond ym mhob dim arall yn iaith ben-derfynol.

Dyma rai posibiliadau ar gyfer trefnu'r cyfansoddion:

  • Cymal perthynol yn dilyn y prif enw, fel yn Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg neu Arabeg.
  • Cymal perthynol o flaen y prif enw, fel yn Twrceg, Siapaneeg neu Tseinieg.
  • Prif enw o fewn y cymal perthynol (sef, cymal pen-fewnol). Enghraifft o'r fath yw iaith Navajo. Dywedir am yr ieithoedd hyn fod ynddynt gymal perthynol heb ei leihau, sef strwythur sy'n cyfateb i   "[I saw the man yesterday] went home".
  • Cymal perthynol cyffiniol. Yn yr ieithoedd hyn mae'r cymal perthynol yn sefyll yn gyfan gwbl y tu allan i'r prif gymal, ac yn defnyddio strwythur cyd-berthynol i gysylltu'r ddau. Mae iddynt hefyd gystrawen berthynol heb ei lleihau. Hindi yw'r mwyaf adnabyddus o'r fath; mae ynddynt strwythur debyg i "Pa ddyn a welais ddoe, fe aeth y dyn hwnnw adref" neu (heb flaenori'r prif enw yn y cymal perthynol) "Fe welais pa ddyn ddoe, fe aeth y dyn hwnnw adref". Enghraifft arall yw Warlpiri, sydd yn creu cymalau tebyg i "fe welais y dyn ddoe, a oedd ef yn mynd adref". Fodd bynnag, dywedir weithiau fod yr ieithoedd hyn heb unrhyw gymalau perthynol, gan fod modd cyfieithu brawddegau o'r ffurf hon yr un mor briodol fel "fe welais y dyn a oedd yn mynd adref ddoe" neu fel "fe welais y dyn ddoe pan/tra oedd yn mynd adref".

Yr Hierachi Hygyrchedd golygu

Yn ddamcaniaethol, mae modd i'r rhagflaenydd (sef, yr enw sydd yn cael ei haddasu gan y cymal perthynol) fod yn oddrych i'r ferf yn y prif gymal, neu'n wrthrych, neu unrhyw un arall o ddadleuon y ferf. Mewn llawer o ieithoedd, fodd bynnag, yn enwedig rhai sy'n gaeth chwith-ganghennog, ac ynddynt gymalau perthynol cyn-enwol,[10] y mae cyfyngiadau pwysig ar rôl yr elfen berthynol yn y cymal perthynol.

Fe nododd Edward Keenan a Bernard Comrie fod modd gosod y rolau hyn ar draws ieithoedd yn y drefn ganlynol, o'r mwyaf hygyrch i'r lleiaf:[11][12]

Goddrych > Gwrthrych Uniongyrchol > Gwrthrych Anuniongyrchol > Traws > Genidol > Gwrthrych Cymhariaeth

Mae gan ieithoedd Gweithredus-Dirfodus (Ergative-Absolutive) hierarchaeth debyg:

Dirfodus > Gweithredus > Gwrthrych An- uniongyrchol > ac ati (fel yr uchod)

Cyfeirir at y drefn hon fel yr hierarchi hygyrchedd. Os medrir perthynoli swyddi is yn yr hierarchaeth, medrir bob amser berthynoli swyddi uwch, ond nid i'r gwrthwyneb. Er enghraifft, nid yw Malagasy yn medru perthynoli ond dadleuon goddrychol a Chukchi ddadleuon dirfodus, tra bo Basgeg yn medru perthynoli dadleuon dirfodus, gweithredus a gwrthrychau anuniongyrchol, ond nid dadleuon traws na genidol na gwrthrychau cymhariaeth. Mae hierarchaethau tebyg wedi cael eu cynnig ar gyfer amgylchiadau eraill, e.e. ar gyfer rhagenwau atblygol.

Mae'r Gymraeg, yn debyg i'r Saesneg, yn medru perthynoli pob safle yn yr hierarchi. Ond, yn wahanol i'r Saesneg, mae pob cymal perthynol yn hawlio rhagenw perthynol o ryw fath (boed yn amlwg neu beidio) a lle mae'r strategaeth fylchu ar waith mae'n dilyn arfer y Saesneg trwy ddeall y ffurf sero (sef Ø):

Safle A rhag. perth. amlwg Heb rag. perthynol amlwg Cymraeg ffurfiol
Goddrych  Dyna'r dyn [a redodd bant]. Dyna'r dyn [redws bant]. Dyna'r dyn [a redodd i ffwrdd].
Gwrthr. Union-gyrchol Dyna'r dyn [a welais i ddoe]. Dyna'r dyn Ø weles i ddoe]. Dyna'r dyn [a welais ddoe].
Gwrthr. Anunion-gyrchol Dyna'r dyn [rhoies i'r llythyr iddo].   Dyna'r dyn [roies i'r llythyr iØ]. Dyna'r dyn [y rhoddais y llythyr iddo].
Traws  Dyna'r dyn [own i'n siarad amdano]. Dyna'r dyn [own i'n son amØ]  Dyna'r dyn [yr oeddwn i'n son amdano].
Genidol Dya'r dyn [rydw i'n nabod ei chwaer]. Dyna'r dyn [yr wyf yn adnabod ei chwaer].
Gwrthr. Cymhar-iaeth Dyna'r dyn [dw i'n dalach nag e]. __ Dyna'r dyn [yr wyf yn dalach nag ef].

Dyma rai esiamplau eraill:

Safle Esiampl
Goddrych  Mae'r ferch [ddaeth yn hwyr] yn chwaer imi.
Gwrthrych  Rhoddais i rosyn i'r ferch [a welwyd gan Kate].
Gwrthr.

Anunion.

Mae Sion yn nabod y ferch [hales i'r llythyr iddi].
Traws Des i o hyd i'r garreg [nath y lleidr fwrw Sion ar ei ben gyda hi].
Genidol Mi wnaeth y ferch [bu farw ei thad] ddweud wrthyf ei bod yn drist iawn.
Gwrthrych
Cymharu
Fe fydd y person cyntaf [na fedraf redeg yn gyflymach nag ef] yn ennill miliwn o ddoleri.

Y mae ieithoedd na allant berthynoli yn uniongyrchol ar ymadroddion sydd yn isel yn yr hierarchi hygyrchedd weithiau yn gallu defnyddio lleisiau amgen i "godi" yr ymadrodd enwol dan sylw fel y gellir ei berthynoli. Defnyddio lleisiau cymhwysol yw'r esiampl amlycaf ar gyfer perthynoli cymalau traws, ond mewn ieithoedd o fath Chukchi fe ddefnyddir lleisiau gwrth-oddefol i godi dadleuon gweithredus yn rhai dirfodus. Er enghraifft, medrai iaith sy'n gallu perthynoli'r goddrych yn unig ddweud hyn:

  • Mae'r ferch [sy'n fy ngharu i] wedi dod i'm gweld.

ond nid:

  • Mae'r ferch [dw i'n garu] wedi dod i'm gweld.
  • Mae'r ferch [roddes i rosyn iddi] wedi dod i'm gweld.
  • Mae'r ferch [wnes i wylio ffilm gyda hi] wedi dod i'm gweld.
  • Mae'r ferch [dw i'n nabod ei thad] wedi dod i'm gweld.
  • Mae'r ferch [dw i'n dalach na hi] wedi dod i'm gweld.

Mae'n bosibl fod yr ieithoedd hyn yn medru creu brawddegau cyfatebol trwy ddefnyddio cystrawenau goddefol:

  • Mae'r ferch [a gafodd ei hoffi gen i] wedi dod heibio.
  • Mae'r ferch [a gafodd roi rhosyn iddi gen i] wedi ymweld.
  • Mae'r ferch [a gafodd wylio ffilm gyda hi gen i] wedi ymweld.
  • Mae'r ferch [gafodd adnabod ei thad gen i] wedi dod i'm gweld.
  • Mae'r ferch [gafodd fod yn dalach na hi gen i] wedi dod heibio.

Noder bod y brawddegau goddefol hyn yn mynd yn gynyddol fwy anramadegol fel y maent yn symud i lawr yr hierarchi hygyrchedd; mae'r ddwy olaf, yn arbennig, mor anramadegol fel bo bron yn amhosibl eu dehongli gan siaradwyr y Gymraeg. Fodd bynnag, yr ieithoedd hynny sydd â chyfyngiadau difrifol ar y rolau y gellir eu perthynoli sydd yn medru troi'n oddefol bron unrhyw gystrawen, ac felly byddai'r ddwy frawddeg ddiwethaf yn rhai arferol yn yr ieithoedd hyn.

Enghraifft bellach yw'r ieithoedd na fedrir perthynoli ynddynt ond goddrychau a gwrthrychau uniongyrchol. Yn sgil hynny, fe fyddai'r canlynol yn bosibl:

  • Mae'r ferch [a hoffaf] wedi dod heibio.

Fodd bynnag, byddai'r enghreifftiau anaramadegol eraill uchod yn dal i fod yn anramadegol. Mae'r Ieithoedd hyn yn aml yn caniatáu symud gwrthrych traws i safle'r gwrthrych uniongyrchol trwy ddefnyddio'r hyn a elwir yn stad cymhwysol, yn debyg i sut mae'r stad goddefol yn symud gwrthrych traws i safle'r goddrych. Petai'r enghreifftiau Cymraeg uchod yn cael eu mynegi yn y stad cymhwysol fe allent fod yn debyg i'r canlynol (sef, olyniadau nad ydynt o reidrwydd yn ramadegol yn Saesneg):

  • The girl [who I gave a rose] came to visit.
  • The girl [who I with-watched a movie] came to visit.
  • The girl [who I (of-)know the father] came to visit.
  • The girl [who I out-tall] came to visit.

Mae rhai gramadegau cyfoes yn defnyddio'r hierarchi hygyrchedd i roi cystrawennau mewn trefn e.e. yn achos Head-Driven Phrase Structure Grammar y mae'r hierarchi yn cyfateb i drefn yr elfennau ar y rhestr subcat ac yn rhyngweithio ag egwyddorion eraill mewn esboniadau ar ffeithiau ymrwymo. Mae'r hierarchi hefyd yn ymddangos yn Lexical Functional Grammar, lle mae'n cael ei adnabod fel Rheng Cystrawennol neu'r Hierarchi Perthynoli.

Enghreifftiau golygu

Ieithoedd Indo-Ewropeaidd golygu

Saesneg golygu

Yn Saesneg, mae cymal perthynol yn dilyn yr enw y mae'n ei addasu. Yn gyffredinol, mae'n cael ei nodi gan ragenw perthynol ar ddechrau'r cymal, ond weithiau trwy drefn y geiriau yn unig. Os bydd y rhagenw perthynol yn wrthrych i'r ferf yn y cymal perthynol, mae'n dod ar ddechrau'r cymal ar waetha'r ffaith y byddai'n dod ar ddiwedd y cymal annibynnol: sef "He is the man whom I saw" (Ef yw'r dyn a welais") ac nid "He is the man I saw whom" (Ef yw'r dyn fe welais a").

Medr dewis y rhagenw perthynol ddibynnu ar natur yr enw a ddisgrifir (a yw'n ddynol ai peidio) neu ar natur y cymal perthynol (a yw'n gyfyngol ai peidio) neu ar rol y rhagenw yn y cymal ymnythol[13] (a yw'n oddrych neu'n wrthrych ai peidio).

  • Pan fydd y rhagflaenydd yn ddynol, fel arfer defnyddir "who", "whom", neu "that", sef "He is the person who saw me" ("Ef yw'r person a'm gwelodd i"), "He is the person whom I saw" neu "He is the person that I saw" ("Ef yw'r person a welais). Pan na fydd y rhagflaenydd yn ddynol, ni ddefnyddir ond "that" neu "which".
  • Yn achos rhagflaenydd an-ddynol mewn cymal nad yw'n cyfyngu, ni ddefnyddir ond "which": "The tree, which fell, is over there" (Mae'r goeden, a gwympodd gyda llaw, draw fan yna"). Defnyddir naill ai "which" neu "that" mewn is-gymal cyfyngol: "The tree which fell is over there", "The tree that fell is over there" ("Mae'r goeden a gwympodd draw fan 'na")—ond yn y cyd-destun hwn mae rhai gramadegwyr argymhellol yn mynnu mai "that" yw'r unig ddewis.
  • O blith y par "who" a "whom", defnyddir y ffurf oddrychol "who" pan fydd yr elfen berthynol yn oddrych i'r is-gymal: "He is the policeman who saw me" ("Dyna'r heddwas a'm gwelodd i"); ac, yn y cywair ffurfiol, defnyddir y ffurf wrthrychol "whom" pan fydd yn ddibeniad i'r ferf neu i arddodiad: "He is the policeman whom I saw" ("Ef yw'r heddwas a welais i"), "He is the policeman whom I talked to" neu "He is the policeman to whom I talked",("Ef yw'r plismon y gwneuthum sgwrsio ag ef"); ond mewn cyweiriau llai ffurfiol, fe ddisodlir "whom" yn aml gan "who" [ac yn amlach na hynny ni cheir y naill na'r llall: "He's the one I spoke to"].

Yn Saesneg ac ambell iaith arall (gan gynnwys Ffrangeg, gweler isod), mae cymalau perthynol atodol yn cael eu neilltuo gydag atalnodau ond ni wneir hynny yn achos rhai cyfyngol:

  • "I met a man and a woman yesterday. The woman, who had a thick French accent, was very pretty." (atodol—mae'n ychwanegu gwybodaeth am y person dan sylw)
  • "I met two women yesterday, one with a thick French accent and one with a mild Italian one. The woman who had the thick French accent was very pretty." (cyfyngol—mae'n cyfyngu ar hunaniaeth y person dan sylw)

Nid oes cytundeb byd-eang ar statws "that" yn rhagenw perthynol. Mae gramadegau traddodiadol yn diffinio "that" yn rhagenw perthynol, ond nid dyna farn pob un o'r rhai cyfoes: e.e. mae'r Cambridge Grammar of the English Language (tt. 1056–7) yn dadlau o blaid ymdrin a "that" yn eiryn ymnythu [enwol neu ansoddeiriol] ac mae'r British National Corpus yn ei ddiffinio'n gysylltair ymnythu hyd yn oed pan fydd yn cyflwyno cymalau perthynol. Mae'r ffaith fod gwahaniaethau sylfaenol rhwng defnyddio "that" a defnyddio "which" (e.e. medrir dweud "in which" ond nid "in that") yn un rheswm dros ymdrin a'r ddau dan gategoriau gwahanol.

Ffrangeg golygu

Mae system y rhagenwau perthynol yn Ffrangeg yr un mor dyrys ag yw yn Saesneg, ond yn debyg iddi mewn sawl ffordd. Pan fydd y rhagenw yn wrthrych uniongyrchol i'r ferf yn yr is-gymal, defnyddir que fel arfer, er bod lequel , sydd yn cael ei ffurfdroi i ddangos rhyw a rhif gramadegol, weithiau yn cael ei ddewis er mwyn mynegi ystyr mwy cyfewin. Er enghraifft, y mae modd defnyddio unrhyw un o'r brawddegau canlynol er mwyn mynegi ystyr "Mi wnes i siarad a'i dad a'i fam, par o'n i eisoes yn nabod", sef yn Saesneg "... whom I already knew":

J'ai parlé avec son père et sa mère, laquelle (f. sing.) je connaissais déjà.
J'ai parlé avec son père et sa mère, lesquels (m. pl.) je connaissais déjà.
J'ai parlé avec son père et sa mère, que je connaissais déjà.

Yn y frawddeg gyntaf, mae laquelle (b. un.) yn cyfeirio at y fam; yn yr ail, mae lesquels (g.llu.) yn cyfeirio at y ddau riant; ac yn y drydedd, fel y mae whom yn y Saesneg, medrai que gyfeirio at y ddau neu at y fam yn unig.

Pan fydd y rhagenw yn oddrych i'r ferf yn y cymal perthynol, defnyddir qui fel arfer, ond fel o'r blaen medrir arfer lequel laquelle / lesquels er mwyn bod yn fwy cyfewin. (Beth bynnag, mae hyn yn llai cyffredin na defnyddio lequel yn wrthrych uniongyrchol, gan fod berfau yn Ffrangeg yn aml yn arddangos rhif ramadegol eu goddrychau.)

Yn wahanol i'r Saesneg, ni ellir hepgor y rhagenw perthynol yn Ffrangeg, hyd yn oed pan fydd y cymal perthynol yn ymnythu mewn is-gymal perthynol arall.

Here is what I think  happened.
Voilà ce que je crois qui est arrivé. (yn llythrennol: "Here is what I think that happened." "Dyma beth dw i'n feddwl sydd wedi digwydd.")

Pan fydd y rhagenw yn cyflwyno ystyr genidol, lle byddai'r arddodiad de ("some of/from", "peth ohono/ganddo") yn briodol, mae'r rhagenw dont ("whose", "eiddo i...") yn briodol, ond nid yw'n gweithio yn lle penodydd ar yr "eiddo" iddo:

J'ai parlé avec une femme dont le fils est mon collègue. (lit., "I spoke with a woman of whom the son is my colleague. "Wnes i siarad a menyw y mae ei mab yn gydweithiwr imi")

Mae'r gystrawen hon yn cael ei defnyddio hefyd lle nad oes ystyr enidol ond lle mae'r rhagenw yn disodli endid sydd yn ddibeniad i'r arddodiad de:

C'est l'homme dont j'ai parlé. ("That's the man of whom I spoke." Dyna'r dyn wnes i son amdano.")

Yn fwy cyffredinol, yn y Ffrangeg gyfoes, mae dont yn medru arwyddo bod cymal atodol yn dilyn, a'r cymal hwnnw heb ei gwtogi na'i addasu:

C'est un homme dont je crois qu'il doit très bien gagner sa vie. ("Y mae hwnnw'n ddyn ac amdano yr wy'n credu y bydd yn sicr o wneud bywoliaeth gyffyrddus.")

Pan fydd y rhagenw yn ddibeniad i arddodiad (ac eithrio pan fydd angen defnyddio dont), fe ddefnyddir lequel fel arfer, ond gellir defnyddio qui os bydd yrhagflaenydd yn endid dynol.

Ce sont des gens sur lesquels on peut compter. ("Pobl yw'r rhain y medrir dibynnu arnynt.")
Ce sont des gens sur qui on peut compter.
C'est une table sur laquelle on peut mettre beaucoup de choses. ("Bord yw hon y medrir rhoi arni lawer o bethau")
*C'est une table sur qui on peut mettre beaucoup de choses.

Y mae cymhlethdod ychwanegol pan fydd y rhagflaenydd yn endid amhenodol an-ddynol. Yn yr achos hwn, ni fedrir defnyddio lequel

C'est manifestement quelque chose à quoi il a beaucoup réfléchi. ("Y mae hon yn amlwg yn weithred mae wedi pendronni lawer arni.")
*C'est manifestement quelque chose à laquelle il a beaucoup réfléchi.

Mae'r un peth yn digwydd pan fydd y rhagflaenydd yn gymal llawn, sydd yntau yn ddi-ryw.

Il m'a dit d'aller me faire voir, à quoi j'ai répondu que... ("Dywedodd wrthyf am fynd i grafu, ac atebais i hynny ...")

Yn Ffrangeg, mae'r arddodiad bob amser yn sefyll o flaen y rhagenw ac mae'r arddodiadau de ac à (at/i) yn ymuno gyda lequel i ffurfio duquel ac auquel, neu gyda lesquel(le)s i ffurfio desquel(le)s ac auxquel(le)s.

Almaeneg golygu

Ac eithrio eu ffurfiau hynod ffurfdroedig, y mae rhagenwau perthynol Almaeneg yn llai cymhleth na rhai'r Saesneg. Y mae dau fath. Y mae'r math mwy cyffredin wedi'i seilio ar y fannod der, die, das, ond gyda ffurfiau hynod wahanol ar gyfer y genidol (dessen, deren) a'r derbyniol lluosog (denen). Yn hanesyddol mae'r math hwn yn perthyn i'r rhagenw Saesneg that. Mae'r ail fath yn fwy llenyddol ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pwysleisio: mae'r defnydd perthynol ar welcher, welche, welches, yn cymharu a'r defnydd sydd ar which yn Saesneg. Yn debyg i'r rhan fwyaf o ieithoedd Almeinig, gan gynnwys Hen Saesneg, y mae'r ddau fath yn ffurfdroi yn unol a'r cyflwr, y rhyw a'r rhif. Mae'r rhyw a'r rhif yn newid yn unol a'r enw y maent yn cyfyngu arno, ond mae'r cyflwr yn dibynnu ar eu swyddogaeth yn yr is-gymal.

Das Haus, in dem ich wohne, ist sehr alt. ( Mae'r ty [dw i'n byw ynddo] yn hen iawn.)

Y mae'r rhagenw dem yn ffurf ddi-ryw unigol gan gytuno a Haus, ond mae'n dderbyniol am ei fod yn ddibeniad i arddodiad yn ei gymal ei hunan. Yn sgil hynny oll, fe fyddai'n bosib gosod yn ei le'r rhagenw welchem.

Beth bynnag, mae Almaeneg yn arfer y ffurf ddi-newid was ('pa beth') yn rhagenw perthynol pan fydd y rhagflaenydd yn alles, etwas or nichts ('popeth', 'rhywbeth', '(nid) dim (o beth).).

Alles, was Jack macht, gelingt ihm. (Y mae pob dim a wnaiff Jack yn llwyddiant ysgubol.)

Yn Almaeneg, fel y nodwch, mae ffiniau pob is-gymal perthynol wedi'u nodi gydag atalnodau.

Gweler Rhag. perth. yn yr erthygl ar ragenwau Sbaeneg.

Lladin golygu

Yn Lladin, mae'r cymal perthynol yn dilyn yr ymadrodd enwol y mae'n addasu, ac mae bob amser yn cael ei gyflwyno gan ragenw perthynol. Mae'r rhagenw perthynol, yn debyg i bob rhagenw yn Lladin, yn cytuno gyda'i ragflaenydd yn ei ryw a'i rif, ond nid yn ei gyflwr: mae'r cyflwr yn adlewyrchu swyddogaeth yr elfen berthynol yn y cymal perthynol y mae'n gyflwyno, tra bo cyflwr y rhagflaenydd yn adlewyrchu swyddogaeth y rhagflaenydd yn y cymal cynhwysol. (Er hynny, wrth gwrs, y mae'n bosibl i'r rhagenw a'i ragflaenydd fod yn yr un cyflwr.) Er enghraifft:

Urbēs, quae sunt magnae, videntur. Y mae'r  dinasoedd, sydd yn fawr, i'w gweld.)
Urbēs, quās vīdī, erant magnae. (Yr oedd y dinasoedd, a welais, yn fawr.)

Yn yr esiampl gyntaf, mae urbēsquae y naill a'r llall yn oddrych yn ei gymal ei hunan, felly mae'r ddau yn y cyflwr enwol ac yn sgil cytuno yn eu rhyw a'u rhif y mae'r ddau yn fenywaidd ac yn lluosog. Yn yr ail esiampl, y mae'r naill a'r llall yn fenywaidd ac yn lluosog, ac mae urbēs o hyd yn y cyflwr enwol, ond mae quae wedi'i ddisodli gan quās, ei gymar cyflwr gwrthrychol, sy'n adlewyrchu ei rol yn wrthrych uniongyrchol  i vīdī.

Mae rhagor o wybodaeth am ffurfiau'r rhagenwau perthynol yn Lladin i'w weld yn yr is-adran ar ragenwau perthynol yn yr erthygl ar  ogwyddiad Lladin.

Groeg golygu

Mae Groeg Glasurol yn dilyn yr un rheolau a Lladin.

  • αἱ πόλεις, ἃς εἶδον, μεγάλαι εἰσίν.
hai póleis, hàs eîdon, megálai eisin.
Mae'r dinasoedd a welais yn rhai mwr.

Mae'r rhagenw perthynol yn Hen Roeg ὅς, ἥ, ὅ (hós, hḗ, hó) heb unrhyw berthynas a'r gair Lladin, gan ei fod yn hanfod o'r  ffurf Indo-Ewropeeg Gynharaf lesquel(le)s: yn y Roeg Gynharaf, byddai y o flaen llafariad fel arfer yn troi yn h (difochaleiddio). Y mae ffurfiau cytras yn cynnwys Sansgrit yas, yā, yad (lle gwnaeth o newid i a fer.).[14]

Mae tarddiad gwahanol i'r fannod Roeg, ὁ, ἡ, τό (ho, hē, tó), gan ei bod yn perthyn i'r Sansgrit sa, sā a'r Lladin is-tud.[15]

Ieithoedd Celtaidd golygu

Y mae'r ieithoedd Celtaidd (y rhai cyfoes yn ynysoedd Prydain ac Iwerddon) yn arfer dau fath o gymalau perthynol: cymalau perthynol rhywiog a chymalau perthynol afrywiog. Defnyddir y rhai rhywiog pan fydd yr elfen berthynol yn oddrych neu'n wrthrych uniongyrchol i'r ferf yn yr is-gymal (e.e. "y dyn a'm gwelodd i", "y dyn a welais i"), ac mae'r cymal perthynol afrywiog yn cael ei ddefnyddio pan fydd yr elfen berthynol yn rhagenw genidol (e.e. "y dyn y mae ei ferch yn yr ysbyty") neu'n ddibeniad i arddodiad (e.e. "y dyn y rhoddais y llyfr iddo "). Yn y cymalau rhywiog, felly, fe welir rhagenw perthynol (heb ei farcio'n wahanol i ddangos cyflwr) ar ddechrau'r cymal; fe ddywed rhai gramadegwyr fod bwlch yn cael ei adael - ac ynddo ôl (trace) y goddrych neu'r gwrthrych,wedi'i nodi yn yr isiamplau isod gan (t) - yn y man lle disgwylid gweld y rhagenw mewn cymal annibynnol.

Gwyddeleg
an fear a chonaic (t)
y dyn
DIR-REL welodd fi
"the man who saw me"
Cymraeg
y dyn a welais
y dyn DIR-REL welais
"the man whom I saw"

Yn Gymraeg ni ddefnyddir y geiryn perthynol rhywiog "a" gyda  "mae" ("is"); fe ddefnyddir y ffurf "sy(dd)" ("who is") neu "ydyw" ("whom he/she/it is") yn ei le:

y dyn sydd yn flewog iawn
the man DIR-REL + is hairy very
"the man who is very hairy"
y fenyw ydyw hi bellach
the woman DIR-REL + is she now
"the woman (that) she is now"

Y mae cymalau perthynol afrywiog yn arfer geiryn ymnythu ar ddechrau'r cymal perthynol ac yn cadw'r elfen berthynol in situ yn yr is-gymal.

Gwyddeleg
an fear a bhfuil a iníon san ospidéal
the man IND-REL is his daughter in the hospital
"y dyn   y mae              ei ferch yn yr ysbyty"

Noder, er bod rhagenw perthynol yr Wyddeleg yn union debyg i'r geiryn perthynoli a, y mae'r rhagenw perthynol yn peri meddalu ar unrhyw gytsain a ddilyn, tra bo'r geiryn yn peri llaesu ('eclipsis', gw. Treigliadau cychwynnol Gwyddeleg).

Cymraeg
y dyn y rhois y llyfr iddo
the man IND-REL I gave the book to him
"the man to whom I gave the book"

Noder, yn achos y Gymraeg, gan fod y Frawddeg Gymysg yn cynnwys is-gymal perthynol yn oddrych — e.e. "Pwy sy'n dod?" ("Who is it that's coming?") — y mae'n rhaid gwahaniaethu wrth ddadansoddi a disgrifio cystrawennau rhwng olyniadau enwol cymhleth ac olyniadau brawddegol cymhleth. Er enghraifft, mae'r olyniad Cymraeg uchod y dyn a welais yn medru cyfleu ymadrodd enwol mewn brawddeg gynhwysol: "Dyna'r dyn a welais." "That's the man I saw." neu yntau frawddeg gyfan, sef "Y dyn a welais [nid y fenyw]!"  "It was the man [not the woman] [the person that] I saw". Yn nodweddiadol, y mae'r brawddegau cymysg hyn yn mynegi pwyslais cyferbyniol ac, yn amlach na pheidio, anghytundeb â datganiad blaenorol. Yn union debyg, felly, y mae'r olyniad y dyn y rhois y llyfr iddo yn medru cyfleu'r frawddeg gyfan "Y dyn y rhois i'r llyfr iddo!" ("The person to whom I gave the book was the man — and not anyone else!") ac mae'r olyniad y pennaeth ydyw hi bellach yn medru mynegi'r frawddeg gyfan "Y Pennaeth ydyw bellach!" ("It's the Principal she is now [not the PA]!") yn ogystal â'r ymadrodd enwol yn y frawddeg gymhleth "Peidiwch, da chi, â chwyno am ei chyflog; mae'n adlewyrchu dyletswyddau'r pennaeth ydyw hi bellach!" ("...it reflects the duties of the principal she is now!").

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw HP183
  2. Kurzová, Helena (1981). Der Relativsatz in den indoeuropäischen Sprachen [Relative Clauses in the Indo-European Languages] (yn German). Hamburg: Buske. t. 117. ISBN 3-87118-458-6. OCLC 63317519.CS1 maint: unrecognized language (link) CS1 maint: Unrecognized language (link)
  3. Lehmann, Christian (1984). Der Relativsatz [Relative Clauses]. Language universals series; vol. 3 (yn German). Tübingen: G. Narr. t. 438. ISBN 3-87808-982-1. OCLC 14358164.CS1 maint: unrecognized language (link) CS1 maint: Unrecognized language (link)
  4. http://www.ling.sinica.edu.tw/files/publication/j2008_4_03_2641.pdf
  5. http://www.ling.sinica.edu.tw/files/publication/j2008_4_05_5653.pdf
  6. Carrol, David W (2008). Psychology of Language (arg. 5). Belmont: Thomson & Wadsworth.
  7. Townsend, David J; Thomas G Bever (2001). Sentence Comprehension: The Integration of Habits and Rules. Cambridge: MIT Press. tt. 247–9.
  8. WALS - Acoma
  9. McKee, Cecile; McDaniel, Dana (2001), "Resumptive Pronouns in English Relative Clauses", Language Acquisition 9 (2): 113–156, doi:10.1207/s15327817la0902_01.
  10. Lehmann, Christian (1986). On the typology of relative clauses. Linguistics, 24(4), 663-680. doi:10.1515/ling.1986.24.4.663
  11. Keenan, Edward L. & Comrie, Bernard (1977). Noun phrase accessibility and Universal Grammar, Linguistic Inquiry, 8(1), 63-99
  12. Comrie, Bernard; Language Universals and Linguistic Typology; pp. 156-163; ISBN 0-226-11434-10-226-11434-1
  13. Kordić, Snježana (1996). "Pronomina im Antezendenten und Restriktivität/Nicht-Restriktivität von Relativsätzen im Kroatoserbischen und Deutschen" [Pronouns in antecedents and restrictive / non-restrictive relative clauses in Serbo-Croatian and German]. In Suprun, Adam E; Jachnow, Helmut (gol.). Slavjano-germanskie jazykovye paralleli/Slawisch-germanische Sprachparallelen. Sovmestnyj issledovatel'skij sbornik slavistov universitetov v Minske i Bochume (yn German). Minsk: Belorusskij gosudarstvennyj universitet. t. 165. OCLC 637166830. |access-date= requires |url= (help)CS1 maint: unrecognized language (link)Check date values in: |access-date= (help); |access-date= requires |url= (help) CS1 maint: Unrecognized language (link)
  14.  in Liddell and ScottLiddell, Henry George in Liddell and ScottScott, Robert in Liddell and ScottPerseus Project
  15. Gallis, Arne (1956). The syntax of relative clauses in Serbo-Croatian: Viewed on a historical basis. Oslo: I Kommisjon Hos H. Aschehoug. t. 186. OCLC 601586.

[[Categori:Teipoleg ieithyddol]]