Defnyddiwr:Corgimwch/Pwll Tywod

Bioleg esblygiadol golygu

 
Coeden esblygol yn dangos y berthynas rhwng ewcaryotau (coch), archaea (gwyrdd) a bacteria (glas).

Adran o fywydeg yw bioleg esblygiadol sy'n ymdrin â sut mae esblygiad, drwy brosesau fel detholiad naturiol wedi arwain o un hynafiad cyffredin at yr ystod o fywyd ar y Ddaear heddiw.

Mae gwaith ymchwil ar esblygiad wedi digwydd ers canrifoedd, ac yn enwedig ers y 19eg ganrif, pan y cyhoeddodd Charles Darwin ei waith ar ddetholiad naturiol yn dilyn ei anturiaethau ar ynysoedd y Galapagos. Ond nes canol yr 20fed ganrif, roedd y gwaith hwn yn rhan o nifer o feysydd gwahanol, yn cynnwys paleontoleg, ecoleg a geneteg. Dechreuodd bioleg esblygiadol ddatblygu fel maes penodol yn dilyn gwaith Julian Huxley a'i gyfoedion ar glymu detholiad naturiol, amrywiaeth genetig a gwaith Gregor Mendel ar etifeddiaeth genetig i ffurfio'r cyfuniad modern yn y 1930au.

Meysydd golygu

Esblygiad yw'r cysyniad sy'n uno bywydeg i gyd.

Cyfeiriadau golygu