Defnyddiwr:Rhyswynne/Fydd y Chwyldro Ddim Ar y Teledu, Gyfaill
Cerdd a chân gan Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog yw Fydd y Chwyldro Ddim Ar y Teledu, Gyfaill, ble mae Ifor, a gyfansoddodd y gerdd, yn ei llefaru i gyfeiliant cerddoriaeth gan Llwybr Llaethog. Mae'n addasiad o The Revolution Will Not Be Televised gan Gil Scott-Heron.
Rhyddhawyd fel cân ochr B ar argraffiad arbennig o record 7 modfedd ar roddwyd am ddim i'r rhai a fynychodd gig Noson Claddu Reu yn Mhontrhydfendigaid yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1992. Maes-e gan Datblygu yw'r gân arall ar y record.
Cefndir
golyguAr y pryd, roedd Ifor ap Glyn yn gweithio i gwmni cynhyrchu yng Nghaerdydd, ond gan i fod yn byw yng Nghaernarfon, roedd hefyd yn llogi desg yn swyddfa label Ankst ym Mhen-y-groes. Tros baned soniodd wrth X ac Y am ei syniad o drosi The Revolution Will Not Be Televised i'r Gymraeg. Roeddent yn meddwl ei fod yn syniad da, a gofynnwyd iddo ddod a'i gerdd iddynt drannoeth.
Cyfeiriadau diwylliannol
golygu- "wsnos ar ôl iddo ymddangos ar Sianel 4"
- Melvyn Bragg, cyflwynydd ar Radio 4.
- "noddi gan y Cyngor Celfyddyda'"
- Gwasg Gregynog mewn rhwymiad arbennig o groen aardvark anorecsig.
- Neil Kinnock gwleidydd o Gymru a fu'n arwain y Blaid Lafur ar lefel Brydeinig
- Ffilm Cymru
- Dafydd Hywel
- John Ogwen
- Bryn Fôn
- Sulwyn Thomas
- Woolworths
- Dewi Llwyd
- Angharad Mair
- Trelái, Penrhys, Glyn-coch, Ysgubor Goch, a Maesgeirchen - maestrefi, pentrefi ac ystadau tai difreintiedig
- Mistar Urdd
- Dechrau Canu Dechrau Canmol
- Magi a Tush, cymeriadau a oedd yn rhedeg y swyddfa bost ar opera sebon Pobol y Cwm
- Alan Llwyd
- Post Prynhawn
- Wales Today
- Bwrdd Iaith
- Huw Chiswell
- Chas and Dave
- Margaret Williams
- Dennis O'Neill
- Wyn Roberts
- The Cryptkeeper Five,
- label Ankst.
- Teledu Thames.