Defnyddiwr:Stefanik/Pwll Tywod

Stefanik/Pwll Tywod


Mae sinamon yn sbeis a geir o risgl mewnol sawl rhywogaeth o goed o'r genws Cinnamomum. Mae'r sinamon mwyaf cyffredin yn dod o'r goeden Asiaidd, Cinnamomum verum, ac iddi risgl persawrus, sbeis a geir o’r rhisgl hwn yw sinamon (ceir hefyd sinamwn). Gelwir hefyd yn canel yn y Gymraeg sy'n debyg i nifer o'r ieithoedd Romáwns.[1][2] Defnyddir y gair sinamon yn ffigurol i ddisgrifio llw lliw melynfrown.[3]

Mae ei flas yn felys ac mae ganddo arogl dwys iawn. Mae'n dod yn wreiddiol o Sri Lanka, er ei fod bellach yn cael ei drin hefyd yn Ne America ac India'r Gorllewin.[4]

 
Ffyn Cinnamomum verum (sinamon ceylon o Sri Lanka), powdr, a blodau

Roedd sinamon eisoes yn bresennol yn niwylliant Tsieina cyn 2700 CC. Cyrhaeddodd Ewrop yn ystod y cyfnod clasurol trwy lwybrau masnach Gwlad Groeg ac Ymerodraeth Rhufain gydag India, Arabia ac Ethiopia.[2] Yn ystod y cyfnod hwn ymgorfforodd yr Eifftiaid canel yn eu defodau crefyddol a'u mymeiddiadau, ac yn ddiweddarach, roedd hefyd yn bresennol yn defodau crefyddol yr Oesoedd Canol yn Ewrop.[4]

Cyrhaeddodd y fasnach sinamon ei hanterth yn ystod yr oes fodern. Bryd hynny roedd yn cael ei ystyried yn gynnyrch moethus ac achosodd hyn gystadleuaeth fasnachol rhwng sawl ymerodraeth. Bu'r Portiwgiaid, yr Iseldirwyr a'r Saeson herio ei fonopoli ar wahanol gyfnodau, a chredir mai dyna'r rheswm a arweiniodd yr morwr a'r anturiaethwr o Bortiwgal, Vasco da Gama, i "ddarganfod" y llwybr i Penrhyn Gobaith Da yn ystod yr 16g er mwyn 'cyrraedd Sri Lanka ac India yn haws o Ewrop.[4][5]

Sinamon a'r Gymraeg

golygu

Mae'r gair "sinamon" yn fenthyciad drwy'r Saesneg sydd, ei hun yn dod o Hen Roegeg κιννάμωμον ("kinnámōmon", yn hwyrach, "κίνναμον": kínnamon), drwy'r iaith Ladin a Ffrangeg Canol. Benthycodd y Groegiaid y gair o'r iaith Ffonesiaid, sy'n debyg i'r iaith cytras Hebraeg קנמון, (qinnāmōn).[6][7]

Ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf o'r gair sinamon (yn ei ffurf "sinamwn") yn y Gymraeg yn un o gerddi Guto'r Glyn o'r 15g:[3] Daw o'i gerdd, 'Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry'.[8]

Sinsir a welir ar fwyd
a graens da rhag yr annwyd.
Sinamwn, clows a chwmin,
siwgr, mas, i wresogi’r min.

Ceir hefyd y gaith "canel" sy'n fenchyciad o'r Saesneg Canol canel, canelle ‘canel, cinnamon’ neu o’r Lladin Diweddar, canella sy'n fychanig o 'canna' sy'n golygu "tiwb" ac yn cyfeirio at y ffordd bydd y rhusgl yn cwrlio a chreu tiwb wrth sychu.[9] Mae'r cofnod cynharaf o'r gair yma yn y Gymraeg yn mynd nôl i'r 14g.[1]

Cyflwyno a chadw

golygu
 
Plicio'r sinamon oddi ar canghennau, Sri Lanca (2017)

Mae sinamon fel arfer yn cael ei gyflwyno mewn math o focs i gadw'r rhisgl yn sych neu ar ffurf powdr.[2]

Fe'i cesglir yn ystod y tymor gwlyb, gan dorri egin y planhigyn ar waelod y ddaear. Yna mae'r rhisgl wedi'i wahanu, gan ei grafu â gwahanol fathau o gyllell a'i blicio. Mae'r dalennau yn cael eu gadael i sychu am bedwar neu bum diwrnod, ac yna eu sgriwio gyda'i gilydd i ffurfio rholyn. Yna cânt eu gadael i sychu eto yng ngolau'r haul. Yn olaf, maent wedi'u afliwio â sylffwr deuocsid.[4]

Mae dau fath o sinamon:[10]

 
Ffyn Cinnamomum verum (Sri Lanka) ar y chwith, a Cinnamomum burmanni (Indonesia) ar y dde
  • Cinnamomum aromaticum neu cassia: ar hyn o bryd y mwyaf marchnata. Rhisgl cymharol drwchus a rholio. Cryfach a chwerw a gyda mwy o gynnwys coumarin. Ceir 4 math:
  • Cinnamomum zeylanicum neu Cinnamomum verum (Sinamon Ceylon/Sri Lanca): wedi'i gyflwyno â sawl haen denau o risgl wedi'i rolio. Blas melysach a mwynach. Ystyrir hwn yn "gwir sinamon".[11]

Rhaid ei gadw mewn cynhwysydd aerglos i ffwrdd o olau. Mae arogl sinamon mewn casgen yn para tua blwyddyn, tra bod arogl llawer yn para ychydig fisoedd yn unig.[14]

Cyfansoddiad

golygu

Am bob 100 gram o sinamon rydym yn canfod:[15]

Calorïau: 373 kcal
Brasterau: 3.2 g
Colesterol: 0 mg
Calsiwm: 1,228 mg
Fitamin C: 28.5 mg
Carbohydradau: 80.5 g
Proteinau: 3.9 g

Mae sinamon hefyd yn cynnwys aldehyde sinamig.[5]

Dolenni allannol

golygu
  • [

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Canel". Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 "canyella | enciclopèdia.cat". Cyrchwyd 2021-03-31.
  3. 3.0 3.1 "Sinamon, Sinamwn". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 "cinnamon | Plant, Spice, History, & Uses". Cyrchwyd 2021-03-31.
  5. 5.0 5.1 "La canyella". Cyrchwyd 2021-03-31.
  6. Nodyn:Cite OED2
  7. Nodyn:Etymonline
  8. "97 – Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt a'i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry". Guto'rGlyn.net golygydd Eurig Salisbury. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2024.
  9. Nodyn:Cite OED2
  10. "Quina classe de canyella és la més terapèutica?". Cyrchwyd 2021-03-31.
  11. 11.0 11.1 "Encyclopaedia Britannica article on Cinnamon, plant and spice". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 August 2023. Cyrchwyd 10 July 2022.
  12. Iqbal, Mohammed (1993). "International trade in non-wood forest products: An overview". FO: Misc/93/11 – Working Paper. Food and Agriculture Organization of the United Nations. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 March 2019. Cyrchwyd 12 November 2012.
  13. Bell, Maguelonne Toussaint-Samat (2009). A history of food. Cyfieithwyd gan Anthea (arg. New expanded). Chichester, West Sussex: Wiley-Blackwell. ISBN 978-1405181198. Cassia, also known as cinnamon or Chinese cinnamon is a tree that has bark similar to that of cinnamon but with a rather pungent odour
  14. "6 health benefits of cinnamon". Cyrchwyd 2021-03-31.
  15. "Canela: propiedades, beneficios y valor nutricional" (yn Sbaeneg). 2018-08-05. Cyrchwyd 2021-03-31.