Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg, ger Tremadog (Ganwyd plwyf Penmorfa 1788, marw Llangybi 1831). Dyddiadau ei ddyddiadur 1820-1827.
Yn lle cocos bydd tatws, a merlod lle bu morloi
Sion Dafydd (1813)
Ffermwr yn ardal Penmorfa, Tremadog, oedd Owen Edwards. Roedd yn ddyn addysgiedig yn defnyddio safon uchel o Gymraeg ac yn ddylanwadol yn ei gymdeithas. Cychwynnodd y dyddiaduron sydd ar gael i ni yn 1820 gan barhau am 7 mlynedd. Ysgrifennwyd y dyddiadur rhwng Ionawr 1820 a Mawrth 1827. Roedd hwn yn gyfnod pwysig yn hanes amaethyddiaeth Cymreig, yn enwedig yn yr ardal arbennig hon sef ardal Tremadog, Penmorfa a Phrenteg; roedd Maddocks wedi codi ei gob mawr naw mlynedd cyn i OE ddechrau y dyddiadur fel y mae wedi goroesi i ni (Mae'n ddifyr meddwl fod Twm o'r Nant wedi gweithio ar y cob yn ei henaint, ac mai yn y set fawr ym Mheniel Tremadog y gwelwyd o'n gyhoeddus am y tro olaf! [1]). Mae’r gwaith pob dydd a gofnododd yn destament byw i’r broses o ddiwyllio pellach y Traeth Mawr, y gwastadedd hwnnw rhwng Aberglaslyn a Phorthmadog heddiw.
Daeth y dyddiadur i’r fei am y tro cyntaf yn 2017 trwy law teulu o Bwllheli a Chaernarfon, ac mae ar gael i’w weld yn archifdy Gwasanaethau Archifau Gwynedd yng Nghaernarfon (Côd Catalog Xxxx 465433). Cafodd ei drawsgrifio gan wirfoddolwyr dan ochl Prosiect Llên Natur Cymdeithas Edward Llwyd (fel pob un o’r dyddiaduron yn y gyfres hon [2], mae’r trawsgrifiad o 2,677 o gofnodion i’w weld ar Dywyddiadur gwefan Llên Natur [3].
Mae’r dyddiadur yn ymdrin â nifer o themáu[2]
Cymdogaeth
golyguCrefydd a Gwyliau
golyguYn cael Testamentau o Siop Wm.Williams sef hanner gwerth fy rhagdaliad at y Bibl Gymdeithas Tremadoc
Fi yn mynd i Dremadoc i’r Gwylmabsant ac yn dyfod adref erbyn dau o’r gloch. 23 Ebrill 1821
Tremadog
golyguTref fodel newydd ei gwblhau yn ystod cyfnod dyddiadur Owen Edwards oedd Tremadog. Fe'i codwyd gan William Alexander Madocks ar dir a adenillwyd o'r môr trwy gyfrwng cob byr arbrofol a gwblhawyd ym 1806.
Cynlluniwyd y dre'n ofalus, gyda sgwar, egiwys a chapel anghydffurfiol, marchnad, neuadd y dref, gwesty, theatr a neuadd ddawns a'i ffatri wlan ei hun er mwyn creu gwaith. Aeth Madocks cyn belied ag adeiladu camlas i Dremadog a gellir dilyn cwrs y toriad o hyd. Cyn 1830, Tremadog oedd canolfan yr ardal ond collodd ei amlygrwydd yn sgil twf Porthmadog a ddatblygodd yn nes at yr harbwr.
Teulu
golyguGaned OWEN EDWARDS ym Mhenmorfa yn y flwyddyn 1788, yn fab ieuengaf i RICHARD ac ANN EDWARDS (nee Owen, Gorffennaf 18, 1751 – Tachwedd 28, 1825). Priodwyd y ddau ar Ionawr 1, 1781. EDWARD PRITCHARD (EDWARDS) oedd eu mab hynaf, a aned yn y flwyddyn 1782 ym Mhenmorfa, ond bu farw yn 1801. WILLIAM EDWARDS oedd eu hail fab, Mehefin1783 – Ebrill 24,1817.
Roedd RICHARD EDWARDS yn denant ar Fron Oleu, Penmorfa, Sir Gaernarfon, ac yn berchen ar nifer o ffermydd ym Mhlwyf Llanfair, Sir Feirionydd. Bu farw yn 1811 (cyn Gorffennaf 19), ac yn ôl ei ewyllys, Mawrth 20,1811, (i) etifeddodd ei weddw, ANN, Ty Coch, Llanfair am y gweddill o’i hoes. Etifeddodd ei fab, WILLIAM, Drws yr Ymlid a Llwyn Hir ym Mhlwyf Llanfair; ac OWEN, Ty Mawr, Penmorfa. Owen oedd i barhau gyda thenantiaeth ei dad o Fron Olau – Owen Ormsby oedd berchen ar Fron Olau, lle trigai Owen Edwards a’i deulu. Claddwyd Richard ym Mhlwyf Llanfair, Sir Feirionydd.
Ganed ANN EDWARDS (mam Owen) yn ferch i William ac Elizabeth Owen yn Llanfihangel y Traethau, a hanai o deulu Rhydderch Owen, Crafnant, Llanfair, Sir Feirionydd, a Richard Poole, Cae Nest, Llanbedr, Sir Feirionydd[3]. Roedd ganddi ddwy chwaer, sef Catherine a Gwen. Roedd Ann yn weddw ers 1811. Yn ôl ewyllys ei gŵr, (Richard Edwards), pe na bai Ann yn dymuno byw gydag Owen yn Fron Olau, neu gyda William yn Llanfair, Sir Feirionydd, roedd hawl iddi fyw yn ddi-rent yn ffermdy Ty Mawr, a safai nepell o Fron Olau. Mae’n ymddangos yn yr ewyllys nad oedd cyflwr y ty yn addas iddi fyw ynddo, oherwydd i Richard Edwards gyfeirio i Owen atgyweirio ac addasu’r ty pe bai Ann yn dymuno byw ynddo. Bu’n byw yn Fron Olau gydag Owen a’r teulu. Mae nifer o sylwadau iddi fynd i’r Seiat misol yn Tremadoc, i bregethau yn Erw Suran (fferm gyfagos), i aros nosweithiau yn y Gesail a Cefncoch ac i ymweld â thrigolion Carreg y Felin, Cae’r Eithin Tew, Bettws Fawr, Carleg y Ty a Tyn Llan, Criccieth. Symudodd i fyw i Bwllheli ar ddydd Calan Mai, 1822. Dychwelodd i Fron Olau am dair wythnos rhwng Awst a Medi 1825, efallai am ei bod yn wael; bu farw ddiwedd Tachwedd 1825 ym Mhwllheli.
Claddwyd Ann ym mynwent Eglwys Beuno Sant, Penmorfa; mae’r gist i’w gweld o flaen y llidiart i’r fynwent. Mae’r geiriau isod wedi eu torri ar y garreg:
Islaw y feddlech hon y claddwyd
ANN gwraig y diweddar Richard Edwards o’r Fron Oleu Tachwedd yr 28 1825 yn 74 o ei hoedran Claddwyd ef yn Llanfair Sir Feirionydd yn Gorffenaf 1811. Y Feddlech hon a roddwyd gan OWEN EDWARDS, mab y dywydedig RICHARD ac ANN EDWARDS hwn a symudodd efo phedwar o blant o’r Fron Oleu i’r Cefn Cynferch Plwyf Llanarmon yn Mai 1827 wedi claddu ei wraig ELEANOR yn Llangybi Tachwedd 11, 1826 Am hynny nid oes a ymyro neb o’r
Fron Oleu a’r Beddau hyn mwy
Priodwyd OWEN EDWARDS ac ELEANOR (ELIN), nee Owen, ar 19 Ebrill, 1819 yn Llangybi, Sir Gaernarfon. OWEN EDWARDS. Disgrifir ei swydd fel “Yeoman” ar dystysgrif genedigaeth Ann yn 1821; fel “gentleman” ar dystysgrifau geni'r plant eraill.
Ganwyd i Owen ac Eleanor Edwards tair merch ac un mab, sef Ann 31-1-1821; Elizabeth 10-5-1823; William 21-7-1824; Eleanor 11-2 -1827.
ELEANOR (ELIN) EDWARDS nee Owen
golyguRoedd Elin yn ferch i Robert ac Elizabeth Owen, Tyddyn Llan, Llangybi.
Ganed pedwar o blant i Owen ac Elin.
1. ANN (bach) EDWARDS. Ganed Ionawr 26, 1821 yn Fron Oleu. Bedyddiwyd hi yn y cartref bum niwrnod yn ddiweddarach gan y Parch. Jeffrey Holland, Rheithor Dolbenmaen.
Ychydig iawn a fyddai Owen sôn am ei blant yn y dyddiadur – ar eu genedigaeth, bedydd ac yn ystod salwch.
Fis Chwefror / Mawrth 1823, hithau’n ddyflwydd oed, bu’n wael am dros bythefnos – Mawrth 25, nodir “…neithiwr yn disgwyl iddi ymadael am bedair awr…”, ond fe oroesodd.
Cafodd gyfnod o salwch wedyn yn ystod Medi 1823, ac yn Hydref nodir “…Y Meddyg Williams, Plas Hen yn rhoi’r Brech y Buwchod i Ann a Bessan [eu merch Elizabeth, neu Betsan]…”
Bu Ann bach yn wael drachefn am ychydig ddyddiau yn ystod Mai, 1825, a Chwefror 1827 “…Ann bach [4 oed] yn dechreu Crynnu.” Bu farw yn Llangybi Awst 1832 yn 11 oed; claddwyd hi ym medd ei rhieni 31 Awst, 1832.
2. ELIZABETH EDWARDS (Betsan neu Bessan). Ganed Ebrill 24, 1823. Bedyddiwyd hi ar Fai 10fed yn Fron Oleu gan y Parch. Jeffrey Holland. Erbyn iddi gyrraedd 3 mis oed, roedd wedi derbyn dwy frechiad ‘brech y Fuwch’. Nid oes cofnod pellach am fywyd Elizabeth.
3. WILLIAM ROBERT EDWARDS. Ganed Gorffennaf 21, 1824. Bedyddiwyd ef yn ôl yr un drefn â’i chwiorydd ar Hydref 28, 1824. Un cofnod arall sydd amdano, sef iddo fod yn sal pan oedd yn flwydd a hanner oed. Bu farw yn1837 yn 13 oed.
4.ELEANOR OWEN EDWARDS (Elin).Ganed Mawrth 23, 1826. Bu farw ei mam, Elin, pan oedd y baban yn saith mis oed. Bedyddiwyd hithau yn ôl yr un drefn yn y cartref ar Chwefror 11, 1827. Priododd â William Williams o Langybi, 29 Ebrill 1856. Yn 1860, ganed iddynt fab, William Owen Edwards Williams. Bu farw Eleanor yn Ysgubor Hen, Llanystumdwy ar Dachwedd 23,1884.
Beddlech Owen ac Eleanor Edwards:
Buddiol in’ yw boddloni
Ys Duw a wnaeth disdawn ni.
Islaw y Feddlech hon y claddwyd ELEANOR Merch Robert Owen o’r Tyn’Llan, Llangybi, O Elizabeth ei Wraig, a gwraig OWEN EDWARDS o’r Fron Oleu, Plwy Penmorfa, Tachwedd yr 11, 1826, yn y 32 Flwyddyn o ei hoedran. Symudodd OWEN EDWARDS o’r Fron Oleu i’r Cefn Cynferch, Plwy Llanarmon, yn Mai 1827
Yma hefyd y claddwyd y dywededig OWEN EDWARDS, Yr hwn a fu farw Tach 5, 1831 Yn 43 o ei oedran.
Hefyd, Awst 21, 1832 y claddwyd ANN Merch hynaf OWEN ac ELEANOR EDWARDS
Yn 11 mlwydd o ei hoedran
YMWELWYR â Fron Olau
golyguOWEN EDWARDS[4], Tyddyn y Gwynt, Llanfair – ewythr i’r awdur. Galwai yn Fron Olau yn ystod dyddiau cyntaf o fis Ionawr yn flynyddol i dalu ei “ardreth” ac “ardreth y Brenhin”. Hefyd, deuai i dalu’r “gweddill o’i ardreth” ac “ardreth y Brenhin” cyn diwedd fis Mai. Ymddengys bod gwahaniaeth rhwng “ardreth” ac “ardreth y Brenhin”.
RICHARD ELLIS a MARY ELLIS, Penarth, Llanbedr, Harlech. Cefnder a chyfnither i Owen Edwards.
ANN EDWARD, Penarth, Llanbedr. Modryb i Owen Edwards.
ELIZABETH OWEN, Ty’n Llan, Llangybi? Mam yng nghyfraith Owen Edwards
ELIZABETH GRIFFITH, Llangybi? Chwaer yng nghyfraith Owen Edwards.
MR JEFFREY HOLLAND. Y Rheithor o Ddolbenmaen? Bedyddiai ef y plant yn eu cartref – Fron Olau.
MARI THOMAS, Dolbenmaen. Bydwraig a fyddai’n aros yn Fron Olau am tua pythefnos wedi genedigaeth y babanod.
MORRIS JONES, siopwr Tremadoc, a’i wraig – ymwelwyr cyson.
Mr WILLIAMS, Aberglaslyn. Ffrind.
EWYLLYS RICHARD EDWARDS
Dyddiedig 20/03/1811. Caniatawyd y Cymmunbrawf: Probate granted 1 Nov. 1811.
Y cymwynaswyr oedd:
Ann Edwards, ei wraig - Ty Coch, Llanfair, Sir Feirionydd am ei hoes, ac yna i William Edwards eu mab. Bu farw Tachwedd 1825
William Edwards, ei fab hynaf - Drws yr Ymlyd a Llwyn Hir, Plwyf Llanfair, Sir Feirionydd. Bu farw 1817.
Owen Edwards, ei fab ieuengaf - Ty Mawr, Penmorfa, ac arian.
Beth oedd wedi digwydd parthed ewyllys Richard Edwards yn 1824 - 13 mlynedd wedi ei farwolaeth? .
Mae Beibl Teulu Owen Edwards yng ngofal aelod o’i deulu erbyn hyn. Yn anffodus, nid yw’n cynnwys tudalennau gyda manylion genedigaethau, priodasau a marwolaethau’r aelodau, ond y mae yn cynnwys ô lei law mewn ysgrifen a phaentiadau celf.
EWYLLYS RICHARD EDWARDS
golyguDyddiedig 20/03/1811. Caniatawyd y Cymmunbrawf: 1 Nov. 1811.
Y cymyndderbynwyr oedd:
Ann Edwards, ei wraig - Ty Coch, Llanfair, Sir Feirionydd am ei hoes, ac yna i William Edwards eu mab. Bu farw Tachwedd 1825
William Edwards, ei fab hynaf - Drws yr Ymlyd a Llwyn Hir, Plwyf Llanfair, Sir Feirionydd. Bu farw 1817.
Owen Edwards, ei fab ieuengaf - Ty Mawr, Penmorfa, ac arian.
Beth oedd wedi digwydd parthed ewyllys Richard Edwards yn 1824 i achosi "talu toll stamp arni" - 13 mlynedd wedi ei farwolaeth? .
Cysylltiadau ar y tir
golyguYn ganlyniad i gob newydd Maddocks a agorwyd yn 1813, roedd cysylltiadau annodd y ffyrdd hynafol rhwng Siroedd Caernarfon a Meirionnydd yn y broses o newid am byth. Roedd dau rwystr mawr, aber y Glaslyn (Y Traeth Mawr) ac aber y Ddwyryd (Y Traeth Bach) yng nghyfnod dyddiadur Owen Edwards ar fin cael eu gorchfygu gan bosibiliadau newydd. Roedd oblygiadau ehangach a phell cyrraeddol i'r posibiliadau hyn, posobiliadau dros ac o gwmpas yr aberoedd hyn, oedd yn arwain yr holl ffordd i Gaergybi ac Iwerddon. Doedd Owen Edwards ddim ar ei hôl hi yn troi'r cynlluniau at ddibenion ei gymuned, neu at ei ddibenion ei hun.
Croesi’r traeth
golyguFe adeiladodd Madog ffordd o Danyrallt i Towyn/Porthmadog (heibio Ffarm Yard). Yr oedd hon yn cyfarfod yr hen lwybr ar draws y traeth yn ymyl Pen Mount. Mae’n debyg ei fod yn defnyddio’r hen lwybr yma i Minffordd. Llawer byrach na mynd drwy Towyn/Porthmadog. Sut oedd croesi'r Glaslyn ar y llwybr hwn[5].
Ffordd newydd Gwernddwyryd
golyguSion Griffith, Tyddyn mawr y Pennant yn cynnyg talu tair Ceiniog y bunt o dreth dros y Wernddwirig yn lle naw ceiniog oedd pawb drwy’r plwy yn ei dalu am y flwyddyn 1818[4]
Gwernddwyryd ydi’r safle (SH532406). Mae bron yn bendant bod OE yn cyfeirio at adeiladu'r ffordd a elwir yn lôn Rhyddros heddiw sef y ffordd fawr rhwng Dolbenmaen a Penmorfa/ Thremadog. Mae’r hen lôn yn amlwg yn cychwyn i gyfeiriad Cwm Pennant, tros y bont i gyfeiriad Golan a Phenmorfa[6]
Prenteg i Lanfrothen
golyguYr oedd llwybrau yn cael ei sefydlu o ardal Prenteg i gyfeiriad Llanfrothen[7]
Cysylltiadau o'r môr
golyguMae hanes Traeth Mawr y Glaslyn a Thraeth Bach y Ddwyryd yn anwahanadwy hyd cyfnod Owen Edwards yn bennaf, am eu bod fel ei gilydd yn rhwystr i nwyddau a theithwyr rhwng siroedd Meirionnydd a Chaernarfon. Yng nghyfnod Edwards roedd nwyddau yn cyrraedd y Towyn ' '....yn mynd i’r Towyn efo Morris Jones Siopwr ac yn prynu dau bôc Fawydd [trawst neu balk (S.) pinwydd mae'n debyg yn ôl geirfa'r oes]. Yn cael dau gwart o Borter efo fo ac Owen Edwards fy nghyfyrder mab Griffith Edward Llwyndu Llanaber, yn siarad am galch
. Dengys hyn bod 'y Towyn' yn lanfa nwyddau sylweddol cyn datblygiad glanfeydd llechi Porthmadog (Portmadoc?) yn ddiweddarach.
Ynys Cyngar ac Afon Dwyryd
golyguYnys Cyngar oedd yr angorfa wreiddiol ar gyfer Ilongau o'r môr a ddeuai i Iwytho cargo o lechi oddi ar fadau afon Dwyryd. Gwaith Ilafurus oedd trosglwyddo'r Ilechi hyn o chwareli Ffestiniog i fyny'r dyffryn ar gefn ceffylau i droliau ac yna i'r cychod' fflat a weithid gan y Philistiaid — hil o gychwyr mewn dillad rhyfedd a hetiau ffelt. Ar ôl i'r cob gael ei gwblhau, ciliwyd yn raddol o Ynys Cyngar i'r angorfa newydd yn ymyl Porthmadog ("Towyn") a daeth bywoliaeth y Philistiaid i ben yn sydyn ym 1836 pan adeiladwyd rheilffordd Ffestiniog.
Y Cob, y Llifddorau a Llyn Bach
golyguHeb y cob ni fyddai tref na harbwr Porthmadog yn bod. Fe'i codwyd rhwng 1808 ac 1812 gan ennill miloedd o aceri o dir isel yn ôl oddi ar y môr, yn ogystal a gwella cysylltiadau rhwng siroedd Caernarfon a Meirionydd. Yn sgil gwyro'r afon Glaslyn trwy lifddorau yn y Bont y ffurfiwyd yr harbwr pan naddwyd hollt ddofn gan ddyfroedd caeth yr afon fel y'u rhyddhawyd ar ôl pob Ilanw uchel. Yn raddol, dechreuodd y llongau ddefnyddio'r harbwr hwn fel man cysgodol hwylus i fwrw angor. Ffurfiwyd Llyn Bach, Ilyn 'gwneud' tu ôl i'r llifddorau, yn !lyn "buffer" rhwng 1848 ac 1852.
Glanfa Holland
golyguDyma'r lanfa lechi gyntaf a godwyd ym Mhorthmadog. Ym 1821 (ail flwyddyn dyddiadur Owen Edwards) dechreuodd Madocks ddatblygu'r harbwr wrth weld posibiliadau'r angorfa. Daeth Samuel Holland, perchennog chwarel gyda thipyn o fenter ynddo, i gytundeb a Madocks, ac erbyn 1824 'roedd y lanfa hon, a pheth gwaith dechreuol ar yr harbwr, wedi eu cwblhau. 'Roedd y cei'n fychan ond 'roedd digon o ddyfnder i'r dŵr a gallai dderbyn llongau 400 tunell.
Hen Dref Porthmadog
golyguY bryn serth hwn yn ymyl y porthladd oedd yr ardal gyntaf i'w datblygu, a galwyd y pentref un ai Y Tywyn neu'r Traeth cyn i'r enw Porthmadog gael ei fabwysiadu. Ym 1825 dim and dwsin o dai oedd yma ond 'roedd yna tua 200 o dai ar y bryn ac o gwmpas safle'r parc presennol erbyn 1850. Defnyddid y Parc ei hun fel lle gwneud rhaffau. Mewn rhesi culion yn yr awyr agored arferai'r gwneuthwyr rhaffau blethu'r darnau hirion o raff, a cheblau a ddefnyddid ar gyfer y Ilongau. Yn ardal Cornhill yr oedd y Ilofftydd hwyliau lle y pwythid yr hwyliau cynfas enfawr. 'Roedd yma ysgol hwylio Iwyddiannus hefyd Ile dysgai morwyr Porthmadog eu crefft, ac ym 1841 sefydlwyd swyddfeydd y Porthmadog Ship Insurance Company yn Cornhill. Bu hwn yn sefydliad dylanwadol lawn — 'roedd yn yswirio'r rhan fwyaf o longau Porthmadog a gorfodai safonau uchel o ran adeiladu Ilongau a morwriaeth.[8]
Amaethyddiaeth leol
golyguMae'r ddelwedd hon, Twilight. Snowdon seen across Traeth Mawr, n. Wales gan Richard Reeves, ysgythriad David Cox a wnaethpwyd yn 1823 yn dangos cyflwr y Traeth Mawr gyda phwyslais mae'n siwr ar yr elfen naturiol, a hynafol Y Darluniadol (Picturesque) oedd mewn bri yng nghyfnod dyddiadur Owen Edwards. Gellir dirnad tua phymtheg o wartheg duon yn wasgaredig ar y morfa sy'n llêd wyllt ac heb gloddiau amlwg, a thua deg o wartheg corniog cymysg eu lliwiau yn cael eu tywys o gyfeiriad y morfa. Mae'r afon Glaslyn yn ymdroelli drwy'r gwastadedd yn rhydd ac yn llawn. Mae'n gwestiwn pa mor driw i ddelwedd wreiddiol Reeves oedd ysgythriad Cox, ac yn wir ym mha flwyddyn y gwnaeth Reeves ei baentiad gwreiddiol (cyn ynteu ar ôl codi cob olaf Maddocks). Ond mae'n dangos yr her a wynebodd amaethwyr fel Owen Edwards ddechrau'r 19eg ganrif ar y Traeth Mawr a mannau tebyg.
Amaeth efallai yw’r thema mwyaf datblygedig a chyflawn yn y dyddiadur, gan i Owen Edwards son pob dydd am ei waith beunyddiol ar leoliadau penodol oedd wedi wrth eu henwau. Nid yw’n amlwg pob amser pa leiniau o dir oedd ar wastadeddau’r morfa a pha rai oedd ar y mynydd-dir o gwmpas Fron Olau, ei gartref rhent. Mae'r gwastadedd hwn a'i hanes o ddiddordeb mawr i ni heddiw o ran etifeddiaeth hanesyddol ac ecolegol; bu hefyd wrth gwrs o ddiddordeb mawr ar y pryd fel rhan o ymgyrchoedd y cyfnod i adennill tir ac i wella effeithlondeb amaeth yn nechrau'r chwyldro diwydiannol.
Nid hawdd bob amser yw dehongli beth oedd iddo ef yn forfa 'gwyllt' a beth yn forfa wedi ei drin. Ymddengys iddo alw'r parseli ar y gwastadedd oedd dan driniaeth gweddol ddwys wrth yr enw Morfa (ee. Morfa Glover, Morfa Garreg ayyb). Mae'n gwestiwn agored ac o ddiddordeb i ni wrth olrhain hanes ecolegol dyffryn y Glaslyn, pa gyfran o ddaliad Owen Edwards ac o'r gwastadedd yn ei gyfanrwydd oedd heb ddod dan oruchwiliaeth yr amaethwr ar y pryd. Mae'n ymddangos i OE gyfeirio at y morfa "gwyllt" beth bynnag oedd hwnnw ar y pryd, fel "Morfa mawr".
Ei Filltir Sgwâr
golyguEfallai mai prif diddordeb ei ddyddiaduron i'r amgylcheddwr yw olrhain hanes y Morfa yn fuan ar ôl i Maddocks godi'r Cob lle mae'r 'Porthmadog' heddiw (ei enw i OE cyn i'r dre honno ddod i fodolaeth oedd 'Towyn').
- Enwau'r ffermydd cyfagos mae'n cyfeirio atynt
Erw Suran (ffermdy a chyrchfan achlysurol i wasanaethau'r Methodistiaid; Reiniog (Ereiniog - lle cawsai y rhan fwyaf o'i gyflenwad o fawn); Hendrahowel (cartref Robert Sion); Farm Yard; Caegoronw (nol gwair); Hafodydd Brithion (WL Coldicot alias Wil Hafodydd Brithion); Hendrasela (cartref Harry Edward); Plas Dolbenmaen (cartref Margaret Owen, cyfaill ei wraig Elin); Aberdeunant; Mur y Gwenyn; Garn (cartref Samuel Owen, tlodion ar y plwy); Bwlch y Moch (cartref Griffith Robert a'i ferch Jonet); Erw Deg; Tanrallt Ucha; Ty Mawr; Tyddyn y Gwynt; Drwsyrymlid; Sygun (cartref William Dafydd); Tyddyn Dicwm (cartref Sion Thomas); Tynyfron (Rhiwlas); Gorllwyn (fferm Robert Jones);
- Enwau'r caeau ayb dan ei ofal
Morfa - weithiau gwahanieithid rhwng 'yr Hen Forfa', 'Morfa'r Goedau' a 'Morfa'r Garreg', a gwair oedd y cnwd mwyaf ond roedd yn codi cloddiau a ffosio a chadw gwartheg hefyd), Cae Glas, Odyn, Llain Hir, Cae Goronw, Hen Erw, Felin Isaf, Beudy Newydd, Gelliwastad, Craig Portreuddyn, Beudy Uchaf, Hendre Tyfi, Beudy Ty'n Bwlch, Cae Main, Wernclowna, Cae'r Hafodty, Cae'r Hendra, Buarth Gwyn. Soniodd yn fynych am 'Yr Hen Forfa' a thybir mai'r tir yng nghyffinau Fron Olau y tu ôl i un o gobiau cynharach y dyffryn oedd hwn.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd rhyfeloedd Napoleon wedi cau llwybrau teithio poblogaidd y Saeson i Ewrop. Yn sgil hynny dyna gychwyn Oes y Teithiau. Ynddynt cawn giplyn o ambell ‘ddiwydiant coll’ yn eu llyfrau Taith. Un o “ddiwydiannau coll” NAD oedd cyfeiriad uniongyrchol ato yn nyddiadur Owen Edwards oedd un a ddisgrifiodd Aikin yn 1797, tair mlynedd ar hugain cyn i Edwards gychwyn y dyddiadur sydd o’n blaeau:
August 5 [1796].... on the river side we saw a number of cockle shells calcining in some lime kilns.... we proceeded through the scattered and populous hamlet of Minffordd to the edge of Traeth Mawr, and then crossed a large extent of salt marshes covered by the sea at high water ..... not however fortunate enough to see any of the fish [eogiaid] attempting to force their way up [o dan bont Aberglaslyn] Aikin, A (1797) Journal of a Tour through North Wales
Nid yw’n amlwg beth oedd ffynhonnell yr ynni i gyflawni’r broses o galsineiddio [Calcination - Wikipedia] – soniodd Edwards yn fynych am odyn mawn. Gwta ddeuddeng mlynedd wedyn byddai cob Maddocks yn ei le, ac ymhen deuddeng mlynedd arall byddai Owen Edwards yn arloesi ar y large extent of saltmarshes y cyfeiriodd Aikin atynt ddeuddeng mlynedd ynghynt.
Gweision y fferm a morwynion y teulu
golyguSeilir y wybodaeth ganlynol ar ddwy ddogfen ar wahan, sef y dyddiadur a rhestr o daliadau wedi ei chadw yn rhydd rhwng cloriau'r dyddiadur. Nid yw enwau’r gweision y naill yn cyfateb i holl enwau'r gweision a gofnodir yn y llall.. Mae Owen Edwards yn cofnodi taliadau a wnaethpwyd i’w weision yng nghanol Mis Mai a Mis Tachwedd o 1817-1826. Mae’n ymddangos ei fod yn cofnodi taliadau sydd yn dal yn ddyledus pan ddaw’r amser i ail gyflogi gweithwyr.
Cyfeirir at Ffair ym Mhenmorfa ym mis Mai a mis Tachwedd ym mron pob flwyddyn ac fel arfer mae Owen Edwards yn cyflogi rhwng un a phedwar o weision yno ac mae Elin, ei wraig, yn cyflogi un neu ddwy o forwynion. Weithiau cyfeirir at gyflogau; e.e. ar 12 Tachwedd 1824 mae’n nodi fod “y cyflogau wedi codi cryn llawer.” Ym mis Mai 1823 mae’n nodi fod yna “fwy o ofyn am ferched nag o feibion.” Mae’r gweision hyn yn gweithio am gyfnodau o chwe mis. Maent yn ymadael tua’r un adeg â’r ffeiriau fel arfer ac ychydig diwrnodau ar ôl y ffair mae’r gweision newydd “yn dŵad i’w lle”. Cyfeirir atynt weithiau wrth eu henwau ond yn amlach fel “y meibion.”
Mae’n ymddangos bod rhai gweision wedi cyflogi am gyfnodau byrrach ac mae’n ymddangos fod y rhain yn cyflawni tasg penodol; dyrnu, nithio neu garddio. Ar y 29 Mehefin 1825 noda “Fi wedi bod yn ffair Cricieth yn cyflogi pladurwr. Y cyflogau o swllt i bum grôt [swllt a phedair ceiniog] y dydd.” Mae enwau y gweision hyn yn ymddangos yn fwy cyson yn y dyddiaduron ond ni chyfeirir atynt ymhlith y rhestr taliadau. Efallai y bu Owen Edwards yn cadw cofnodion o’r diwrnodau y buont yn gweithio am eu bod yn derbyn cyflog fesul diwrnod.
Nid yw Owen Edwards yn cyfeirio yn aml at y morwynion. Mae’r gwaith coginio, golchi a glanhau yn digwydd heb unrhyw sylw a chyfeirir at ofal plant ddim ond wrth nodi fod Catrin ac wedyn Siani yn dŵad i’w lle. Mae yna ambell gyfeiriad at un neu fwy o’r morwynion yn cynorthwyo’r meibion; mae’n ymddangos ar yr adegau prysuraf ar y fferm ac ambell cyfeiriad at un ohonynt yn mynd a neges i rhywle.
Mae rhai sylwadau yn dangos perthynas Owen Edwards gyda’i weithwyr a’i agwedd tuag at eu perthynas â'i gilydd. Bu'n was priodas i un o’i weision, Wil Williams ac mae’n caniatáu i sawl un fynychu priodasau ac angladdau rhai o’i gydnabod.
Mae’n ymddangos nad oedd Owen ac Elin Edwards yn orfeirniadol o berthynas rhywiol tu allan i briodas ymhlith eu gweision. Gwelir hwn wrth iddo cofnodi fod Wil Sion a Wil Owen wedi mynd i briodas Pegi (Margaret Owen), un o’r morwynion ar y 19 Tachwedd 1822. Ar y ail o Dachwedd 1822 mae Pegi yn ymadael ac yn esgor ar ferch ar yr un diwrnod. Mae’n rhaid fod Owen ac Elin Edwards wedi parhau i gyflogi Pegi er gwaetha’r ffaith eu bod hi yn amlwg yn disgwyl plentyn. Cyfeirir at Wil Sion a Mari Griffith yn ymadael ar yr un diwrnod ym Mis Tachwedd 1822 “gan eu bod nhw’n caru ei gilydd.”Tridiau yn diweddarach mae Wil Sion yn ôl yn dyrnu. Mae’n debygol ei fod yn gweithio fesul diwrnod o hynny ymlaen.
Mae’n ymddangos fod nifer o weision wedi gadael Fron Olau ym mis Mai 1826, efallai gan nad ydynt yn sicr pryd buasai Owen Edwards yn symud i Gefncynferch, ac mae Owen yn cyflogi pedwar gwas ac Elin yn cyflogi dwy forwyn yn y ffair. Ar ôl Tachwedd 1826 ddim ond Dafydd a Mari sy’n aros yn y Fron Olau.
Gellir adnabod 4 grŵp o weision, sef a) y gweision sy’n gweithio am gyfnodau o chwech mis [13 enw], b) y gweision sy’n gweithio am gyfnodau byrion yn enwedig pan mae’r fferm yn brysur [7 enw], a c). y gweision y cyfeirir atynt ond unwaith naill yn y cyfrifon neu yn y dyddiadur [7 enw]. Pedwerydd grwp ch). yw y morwynion [12 enw] Mae’n pwysig gwahaniaethu, yn enwedig rhwng y ddau grŵp cyntaf, gan mae’n debyg fod y grŵp cyntaf wedi byw ar y fferm a’r ail grŵp yn byw yn lleol Tyddynwyr efallai?
Y gweision lled barhaol (6 mis)
golyguYmhlith y gweision sy’n dod am gyfnodau o chwech mis, mae’r canlynol:
- WIL OWEN [William Owen]
Mae ar y rhestr taliadau ym Mawrth a Tachwedd 1817 ac eto ar Tachwedd 1821 a Tachwedd 1822. Ar 1 Tachwedd 1823 cyfeirir ato yn priodi Neli o’r Gelli. Mae Wil Sion a Dic yn mynd i’r briodas. Mae’n ymddangos fod ganddo fedrau cigydd. Cyfeirir ato yn lladd buwch a’i thorri. Erbyn 1827 mae’n byw yn Cwm Mawr ac mae un o weision Fron Olau yn mynd yno i ofyn iddo ddod i ladd y fuwch.
- HUWCYN [Hugh Richard]
Mae’n dechrau cael ei dalu ym Mis Tachwedd 1817 Mae nifer o gyfeiriadau ato yn nechrau’r dyddiadur. Mae’n ymadael ar y 17 Mai 1820 ond yn derbyn tal ym mis Tachwedd. Cyfeirir at Huwcyn, yr hen was, yn ymweld â Fron Olau ar y 2 Gorffennaf 1820
- WIL WILLIAMS [William Williams]
Mae’n cael ei dalu o Fis Mai 1818 hyd at Fai 1821. Mae’n priodi ar y 2 Mawrth 1821. Bu Owen Edwards yn was priodas iddo. Mae’n ymweld a Fron Olau ar y 2 Rhagfyr 1821. Mae yna ddau gyfeiriad at Wil Williams yn 1826; yr un Wil Williams tybed?
- OWAIN [O Jones?]
Mae’n cael ei dalu ym Mai 1819. Mae sôn amdano yn nechrau’r dyddiadur. Mae’n ymadael ar 16 Ionawr 1820 heb ddweud wrth neb.
- SIONUN [John William; Sionun Penrhyn heli; Sionun William Sion]. Mae nifer o gyfeiriadau a Sionun o 1820 hyd at diwedd 1824. Mae’n derbyn tâl bychan ddwywaith ym 1823. Dim ond dau gyfeiriad sydd ato wedyn. Efallai mae’n ymweld a Fron Olau yn 1825.
- WIL SION [William Jones]
Mae’n dyfod i’w le ar y 16 Tachwedd 1820. Mae’n ymadael ar y 12 Tachwedd 1822 yr un pryd a Mari Griffith “am eu bod yn caru eu gilydd.” Tridiau wedyn mae o yn ei ôl yn dyrnu. Mae’n derbyn taliadau o Dachwedd hyd at Tachwedd 1826. Mae cyfeiriadau cyson ato rhwng 1823 ac 1826, ac mae’n ymadael 16 Mai 1826. Mae’n bosibl ei fod yn byw yn agos at Fron Olau ac yn cysgu yno ar yr adegau prysuraf. Mae’n cael ei dalu saith ceiniog a dimau y rhwyd i gau drensia ym Mis Rhagfyr 1825. Cyfeirir ato ar 18 Ionawr 25 yn mynd at ei frawd oedd yn sâl ac ar 26 Ionawr 1825 mae’n mynd efo Robin i gynhebrwng eu frawd.
- ROBIN neu ROBERT [Griffith]
Un o’r gweision a gyflogwyd ar 4 Mai 1823 ond nid yw ar y rhestr taliadau. Mae’r cyfeiriad cyntaf ato ar yr 18 Gorffennaf 1823. Mae’n ymadael ar y 6 Medi 1823 “wedi bod yma naw wythnos a thridiau.” Mae yna un cyfeiriad arall ato cyn iddo dŵad i’w le (am yr eildro) ar 17 Tachwedd 1824 ac yn ymadael ar y 16 Mai 1825. Mae sawl cyfeiriad ato yn Haf 1825. Ar y 13 Hydref 1825 mae’n mynd adref am ddau ddiwrnod neu dri. Y cyfeiriad olaf ato yw'r cofnod iddo ymadael ar y 19 Tachwedd 1825.
- DIC SION HUGH [Richard Jones ]
Un o’r gweision a cyflogwyd ar y 4 Mai 1823. Mae sawl cyfeiriad ato yn 1824. Mae taliadau iddo o Fis Tachwedd 1822 a phob chwe mis tan fis Mai 1825.
- HARRI [Griffith]
Mae’n ymddangos ar y rhestr taliadau ddwywaith yn 1825; wedyn mae nifer o gyfeiriadau ato cyn iddo ymadael ar 16 Mai 1826
- WIL PRISIART
Mae’n dŵad i’w le ar y 19 Mai 1826 ac yn gadael 14 Tachwedd 1826. Nid yw ar y rhestr taliadau. Cyfeirir ato, a Wil Lloyd (gw. y nesaf) fel Wil y gwas mwyaf a Wil y gwas lleiaf.
- WIL LLOYD yn dŵad i’w le 19 Mai 1826 ond nid yw ar y rhestr taliadau
- DAFYDD [David Evan]
Un o’r gweision a gyflogwyd ar 14 Mai 1825. Mae cyfeiriadau cyson ato trwy 1826. Ar y 17 Chwefror 1826 mae’n mynd i briodas Sion Elis ei frawd i’r Towyn ac ar 17 Mehefin 1826 Mae’n yn mynd i briodas Ned y Gorllwyn. Fe yw’r unig was sy’n aros ar ôl 14 Tachwedd 1826 ac mae yno tan y diwedd. Mae ar y rhestr taliadau ar gyfer 1825-6
- GUTO [Griffith Thomas]
Mae’n dŵad i’w le 17 Mai 1826 ac yn aros tan 14 Tachwedd 1826. Mae’n cael ei dalu ym mis Mai 1826.
Gweision cyfnodau byrrach
golyguMae yna nifer o weision eraill sy’n gweithio am gyfnodau byrrach yn enwedig ar gyfnodau prysur.
- ELLIS EVANS Tŷ’n y Ffridd
Cafodd ei gyflogi ar y 29ain Mehefin 1820 am 13 ceiniog y dydd.
- HARRI [Henry Edward] Hendresela
Mae’n dechrau dyrnu ar 30ain Tachwedd 1820. Mae’n setlo ei gyfri am ddyrnu ar y 28ain Mai 1821
- SION MORRIS
Mae ei enw yn ymddangos trwy’r dyddiadur ond nid yw ar y rhestr taliadau. Mae yma wyth cyfeiriad ato yn ymadael, dim un ohonynt ar yr un adeg a gweision eraill. Mae’n debygol ei fod yn dyddynwr lleol. Mae nifer fawr o gyfeiriadau ato yn dyrnu o 1820-24 a nodir ei fod yn colli hanner diwrnod ar y 25 Ebrill 1822. Ym mis Gorffennaf 1824 mae’n codi grisial. Ym Mawrth 1825 cyfeirir ato yn mynd i Lanfrothen i nol merlen oedd wedi ei phrynu ganddo. Mae’n dilyn fod ganddo dir i gadw’r ferlen ond mae Owen Edwards yn prynu’r ferlen (yr un ferlen?) ym mis Ebrill 1825. Ar ddiwedd 1825 a dechrau 1826 mae sawl cyfeiriad ato yn gwneud clawdd terfyn am bump swllt y rhwyd. Ar 24 Gorffennaf 1826 dwedir ei fod “yn dŵad yma wedi bod gartref” sydd yn cadarnhau ei fod yn weithiwr sydd yn mynd a dod.
- SION HUGH
Mae’n sôn am ddau Sion Hugh yn y dyddiadur; Sion Hugh, Cefnyrhwydwr a Sion Hugh, Drwsyrymlid. Nid oes sôn am y naill na’r llall ar y rhestr taliadau. Ymddengys eu bod yn dyddynwyr lleol. Mae sawl cyfeiriad atynt yn cyrraedd neu yn gadael ar adegau gwahanol i’r gweision a gyflogir am chwech mis. Mae’n ymddangos fod y ddau Sion Hugh yn gweithio ym Mron Olau ar yr adegau prysuraf ac mae un ohonynt yn dod yn benodol i ddyrnu a’r llall i weithio yn yr ardd. Ar y 10 Tachwedd 1825 mae Owen Edwards yn nodi ei fod “wedi bod yn Cerrigyrhwydwr yn cytuno efo Sion Hugh i ddŵad yma’r gaeaf”, Cyfeirir at un sydd “yn dŵad yma wedi bod gartref” ar 24 Gorffennaf 1826 ac at un sy’n “mynd adref gan ddolur yn ei lygadau” ar 21 Awst 1826. Mae un ohonynt yn para i ddyrnu ar ôl i’r holl weision heblaw Dafydd a Mari ymadael.
- EVAN JAMES
Mae’n dod i weithio ar y 21 Mai 1824. Nid oes cyfeiriad arall ato heblaw ei fod yn “dod yma i weithio ar 1 Gorffennaf 1825 ac eto ar 30 Awst 1825 ac eto ar 23 Hydref 1826.
- TWM
Mae’r cyfeiriad cyntaf ato ar 21 Mai 1824, Nid oes sôn amdano ym 1825 ond mae yn Fron Olau ar y 16 Awst 1826
- GRIFFITH EVAN
Mae’n cael ei dalu saith ceiniog a dimau y rhwd i gau trensia dros gaeaf 1825-6.
Y gweision cyfnodau byr iawn
golyguNid yw’n bosibl gwybod am ba hyd y bu rhai gweision yn gweithio yn y Fron Olau gan nad oes fawr o sôn amdanynt:
- ROBERT MORRIS - Mae’n cael ei dalu ym Mai 1817
- JOHN ROBERT – Mae’n cael ei dalu ym Mai 1817
- HUGH DAVID Mae’n cael ei dalu ym Mai 1818
- GRIFFITH JONES Mae’n cael ei dalu ym Mai 1820
- RICHARD GRIFFITH Mae’n derbyn taliadau o fis Mai 1820 hyd at mis Mai 1822
- HARRI OWEN Nid yw ar y rhestr taliadau ond mae’n gweithio yn Fron Olau ar y 11 Mehefin 1822
- DIC ROBERT SION Cyfeirir ato ar 24 Ionawr 1825 Y sôn olaf amdano yw ar y 15 Gorffennaf 1825
Y Morwynion
golyguMae yna ddwy forwyn, Lowri Robert ac Ann Griffith sy’n ymddangos yng nghyfrifon Owen Edwards cyn dechrau’r dyddiadur. Wedyn mae’r canlynol:
- SUSAN (Susanna Jones)
Mae hi’n mynd i Langybi 20 Ionawr 1820
- SIANI (Siani neu Jane Jones)
Daeth hi i’w lle ar y 19 Mai 20. Cyfeirir ati yn gyntaf ar 24 Mai 1820 ac mae hi’n ymadael ar y 16 Tachwedd 1824. Mae’n derbyn tal am dwy flynedd o fis Tachwedd 1822 hyd at fis Mai 1824. Mae yna sawl cyfeiriad diweddarach at Siani (efallai nid yr un Siani). Mae Siani Cefnyrhwydwr, yn dŵad “i gyweirio gwair” ar y 4 Gorffennaf 1824. Mae hi’n mynd i Clenney ar y 15 Mawrth 1825. Ar y 4 Ebrill 1825 mae hi’n mynd i Dywyn a’r dref gyda merch Cefncynferch (sydd yn ymweld a Fron Olau). Cyfeirir at Siani, morwyn y plant yn dod i’w lle ar y 17 Mai 26
- JANE WILLIAM
Mae hi’n cael ei thalu o fis Mai 1820 hyd at fis Mai 1821.
- JONET - (Jane Griffith)
Mae hi’n dŵad i’w lle 4 Gorffennaf 1820 ac yn cael ei thalu ym mis Mai 1821 yn unig. Efallai hi yw Sioned Griffith Bwlch-y-moch sy'n “dŵad yma i aros dros fis y cyneuaf” ar y 4 Gorffennaf 1821?
- NELI
Efallai bod yna sawl “Neli” gan gynnwys ELIN JONES ac ELIN WILLIAMS sydd ar y rhestr cyflogau; y naill yn cael ei thalu pedwar gwaith dros gyfnod y cyfrifon a’r llall ym 1824. Cyfeirir at un yn ymadael ar y 18 Mai 1821. Mae NELI PYRS yn gadael ar y 6 Medi 1823 “ar ôl 9 wythnos a thridiau". Cyfeirir at “Neli” tair gwaith yn Ngwanwyn 1824 cyn ymadael ar y 15 Mai 1824. Mae” Neli” yn mynd i Ffair Pwllheli efo Lowri ar y 11 Tachwedd 1824 cyn gadael ar y 13 Tachwedd 1824. Yn ngwanwyn 1825 mae rhagor o sôn am “Neli” cyn iddi adael ar y 16.Mai 1825.
- PEGI [Margaret Owen]
Mae Pegi yn ymddangos ar y rhestr taliadau ym Mis Tachwedd 1821 ac ym Mai 1822. Cyfeirir ati “yn sâl ac mewn llewygfa” ar y 14 Awst 1821. Mae hi’n priodi ar y 19 Hydref 1822 ac mae Wil Owen a Wil Sion yn mynd i'r briodas. Llai na mis wedyn ar y 2 Tachwedd 1822, mae hi’n ymadael ac yn esgor ar eneth yn diweddarach ar yr un diwrnod. Mae’n bosibl mai Lewis oedd ei chyfenw priodasol gan iddi dalu Margaret Lewis ym mis Tachwedd 1822.
- MARI [ Mary Griffith]
Mae hi’n cael ei chyflogi 13 Yachwedd 1821, yn dŵad i’w lle ar y 17 Tachwedd 1821 ac yn ymadael gyda Wil Sion ar y 12 Tachwedd 1822 “am eu bod yn caru eu gilydd.”
- MARI [Mary William]
Mae hi’n dŵad i’w lle 16 Tachwedd 1824 a hi yw’r unig forwyn sy’n aros ar ôl y 14 Tachwedd 1826
- DOLI [Dorothy William]
Mae cyfeiriadau at Doli (neu Dolly) yn ystod Gwanwyn a Haf 1823. Sonnir amdani “wedi bod a phwn o haidd yn y felin” ar y 13 Medi 1823. Mae hi’n ymadael ar y 13 Tachwedd 1823
- BETI [Elizabeth Owen]
Mae hi’n derbyn taliadau o’r dechrau y cofnodion hyd at Tachwedd 1820 ac eto ym Mis Mai 1823. Cyfeirir ati “yn ei gwely yn sâl” ar y 4 Awst 1823 ac mae ei brawd yn ymweld a hi ar y 20 Medi 1823
- LOWRI [Lowri William]
Mae hi’n yn dŵad i’w lle ar y 18 Mai 1824. Cyfeirir ati yn gweithio efo’r hogiau ar y 30 Awst 1824. Mae hi’n mynd i Ffair Pwllheli gyda Neli ar y 11 Tachwedd 1824 cyn gadael ar y 13 Tachwedc 1824
- CATRIN [Catherine William]
Cyflogir hi fel “morwyn y plant” sy’n dŵad i’w le ar y 15 Tachwedd 1824 ond yn mynd i fwrdd 27 Rhagfyr 1824.
Y gwaith beunyddiol
golygu- Adeiladu
Weithiau gellir dilyn proses o godi adeilad newydd o'i ddechrau i'w ddiwedd; ee. Beudy'r Morfa Bwletin 162, tud. 4 [5]
- Ceffylau
Soniai am fynd a 'Farmer', 'Denbi' (caseg), 'Jack' (ceffyl du, cafodd llawer o drafferth ddod o hyd i hwn ar ôl mynd ar goll a bu'n chwilio amdano yn y "Morfa mawr" a chael hyd iddo yn Garn Dobenmaen), 'Captan', 'Fflower' (caseg) a 'Juno'. Defnyddiai stalwyni o ffermydd eraill i wasanaethu'r cesyg (sy'n awgrymu mai stalwyni wedi eu cyweirio oedd Jack a Captan? Soniodd am tri ceffyl gweithio a soniodd yn gyson hefyd am Will yn dwad ar Ceffyl i mi i Benmorfa (i roi pas adref iddo). Ai ceffyl â rhyw fath o drap fyddai hynny? Roedd yn cadw merlod ar y mynydd ac yn eu bridio, eu prynu a'u gwerthu. Weithiau gosodai (neu roddai) borfa i eboles rhywun arall (Robt.Thomas Llangybi yn dwad a’r Ebolas yma i Borfau). Byddai'n paratoi ceffylau ifanc at waith y fferm (Marchogwr yma yn dechreu iwsio’r Eboles.)
- Defaid
Mae'n cyfeirio at llwdn, molltyn ( pob amser yn y lluosog myllt), mamog, ŵyn, maharen a hwrdd. Ym mis Medi 1825 sioniodd am Gwerthu 32 Llydnod 12 ddefaid i Glasirfryn. Troi dau Hwrdd a mamogiaid i caeau canol. Mynd a 16 o ddefaid i Tynyfron Rhiwlas. Roedd yn "carcharu'r ŵyn" (i'w llyffetheirio). Yn marcio ugain o Fyllt at eu gwerthu a Maharen, Dic yn mynd wedi i'r Mynudd yn dal y maharen moel at ei ladd, ac yn mynd i allt y Tymawr at yr wyn ac yn cael un yn sâl o'r breid [louping ill]. Soniai am lladd y Maharen moel yn yr hydref fwy nag unwaith. Cadwai feheryn ar y mynydd Yn aml mewn cwplws (Yn cwplysu’r Maheryn [sic. meheryn]) Myllt: Un cyfeiriad yn unig: Yn hel y mullt [sic. myllt] i’r mynudd [sic.] Thomas Humphrey’r Ynus.
- Gwartheg
- Geifr
Tri chyfeiriad gafwyd at eifr. Maent yn awgrymu nad rhai fferal oeddynt ond rhai oedd yn rhan o'r fferm ac yn ennill bywoliaeth iddo o'r llecynnau garwaf (Owen yn nol y Geifr o Greigiau Tanrallt) fel creigiau Tanrallt neu Portreuddyn ym mis Ionawr, ac unwaith, ym mis Medi, yn eu codi o'r Buarth Gwyn.
- Tyrcwn
Roedd yn magu ac yn gwerthu tyrcwn ar raddfa fach: Gwas Tyddynwisgin yn dwad i nol y Turkeys [sic. tyrcwn]. Ionawr 1823
- Cwn
Gweler 'Helwriaeth'
- Cynhaeaf gwair
- Cynhaeaf yd
- Mawn
Casglodd fawn yn rheolaidd o fawnog ar fferm a elwid yn Reiniog a bu'n rhaid ei gertio trwy Benmorfa a thalu toll o swllt yn flynyddol am y fraint. Cafodd fawn hefyd o Caegoronw. Pwrpas y mawn oedd sychu ŷd (haidd) at fragu (Bwletin 162, tud. 2 [6]).
- Glo
Anfon ei weision, byddai OE, i nol glo o'r Towyn (sef y porthladd lle saif Porthmadog heddiw (Will wedi mynd i’r Towyn i nol hanner tunell o Glo [sic].). Cafodd ddau neu dri llwyth y flwyddyn rhwng Hydref a Mai.
- Calch
- Tatws (cloron)
- Brwyn
Mae i’r Morfa i ddechreu codi’r brwyn(Chwefror 1820) yn fath cyffredin o gofnod ganddo. Byddai'n ei werthu (Humphra’r big yma’n prynu brwyn am hanner Coron) ond gan amlaf mae'n ei ddefnyddio fel deunydd 'to' i dasau. Weithiau byddai'n caniatau eraill ei gasglu (Harry Edward Hendrasela yma yn gofyn a gai hel To yn y Morfa ac yn cael cennad i wneud. .....
- Gwlan
Fel heddiw, ym mis Mehefin bu'n cneifio amlaf a soniai yn gyson yr adeg honno am 'gneifio torrau' (hy. boliau) Ond ni soniodd unwaith pa ddefaid oedd rhain ('myllt' efallai). Cneifiai'r ŵyn a'r mamogau yn yr hydref. Soniai weithiau am gneifio llouau. Danfonai wlan 'i'r Factory' (Tanrallt, Tremadog?). Talai'r Degwm Gwlan i Edward Owen y Degymwr. Gwerthodd wlan i ferched o Abererch ym mis Gorffennaf 1821 ac eto ym mis Gorffennaf 1823 cofnododd Gwragedd o lawr y wlad [Llanystumdwy] yma'n prynu'r Gwlan ac yn ei bwyso ac iw ddanfon ddechreu yr wythnos nesaf.. Fe'i gwerthai hefyd ar y croen (John Jones Crwynwr o Dremadoc yma'n pwyso'r gwlan. Dic yn ei ddanfon yno mis Tachwedd). Gwerthai wlan hefyd i siop leol.
- Chwyn
Am ddail tafol (Dafydd yn codi Tafol yn Buarth yr hen Erw, ac yn chwynu peth yn yr Ardd) ac ysgall (Will yn chwynu esgill o’r Gwenith) y soniai fwyaf amdanynt.
- Bragu (neu darllaw)
Bu'n 'darllaw' ddwywaith neu dair y flwyddyn, gefn gaeaf, a diwedd yr haf gan amlaf. Defnyddiodd fawn i sychu'r haidd mewn odyn. 'Diod fain', cwrw a porter oedd y cynnyrch, neu 'arweddlyn'. Prynai frag hefyd Robin wedi bod yn y dref yn nol pwn o Frag; ai haidd bragu oedd hwn? Mae un cofnod yn cyfeirio at hopys Yn darllaw. Neli wedi bod yn Nhy Richd.Thomas Penmorfa yn nol hops [i ddarllaw?]
- Cewyll
Tri chyfeiriad yn unig sydd i wneud cewyll (cimwch? eog yn yr afon?), gan arbenigwr Wil Robert Y Gorllwyn. Mae un cyfeiriad arall at fi yn gwneud cawell pysgotta.
Gardd
golyguMae'n gwestiwn a olygai 'gardd' i OE yr un peth a'i ystyr fodern. Yn ôl GPC: "Ym Môn ac Arfon, yn ogystal â’r ystyr arferol, golyga gardd hefyd ‘cadlas, ydlan’." wrth gyfeirio at 'ardd' mae ganddo sawl llecyn mewn golwg; 'yr hen ardd', 'yr ardd fach', 'yr ardd isaf' (cyfeiriodd hefyd at yr ‘hen ardd isaf’) a nifer o gyfeiriadau mwy amwys fel 'yr ardd gloron'. Yn aml mae'n cyfeirio at 'yr ardd' heb unrhyw oleddfiad. Mae'r nifer o gofnodion (125) yn awgrymu bod 'gardd' yn rhan bwysig o economi a bywyd y fferm.
Yr hon a alwai 'yr ardd fach' oedd debycaf o bosib i ardd heddiw (Fi yn gwneud yr ardd bach [sic] o flaen y drws). Pam soniai am ‘yr ardd’, palu oedd y gwaith trwm. Mae'n gwahaniaethu'n gyson rhwng 'yr ardd' ('palu' gan amlaf) a'r 'hen ardd' 'aredig' gan amlaf).
Dyma'r cnydau y sonia amdanynt mewn cysylltiad â'r gerddi (heb wahaniaethu rhyngddynt):
- bresych ('bresych cynnar', '3 dwsin'; ‘bresych diweddar’
- maip (‘’maip Swedaidd’’, erfin)
- tatws (pytatws moch; ‘’tatws moch’’, ‘’clorennod’’, clorennod moch, clorennod brithion ‘’eu gwneud yn ddâs yn yr Hen Ardd’’), ‘’cloron cynnar’’)
- ffa
- pys
- cucymerau (‘’eigin’’)
- moron (‘’morron’’, ‘’llysiau cochion’’)
- garlleg (un cofnod am blannu yn yr ardd)
- wyniwns (gan ddefnyddio'r ffurf wyniwns yn wahanol i'r arferiad yn yr ardal heddiw o ddefnyddio ‘nionod’)
- redis
- lettis
- Coed afalau a gellyg ‘(Chwefror 1821: ‘’Fi yn planu [sic.] hanner dwsin o goed afalau, a dwy o goed Gerllig [sic. gellyg] yn yr Ardd.
Soniodd unwaith am osod cwt cwnhingod yn yr ardd, Cadwai ei wenyn yn ‘yr ardd’ ger gardd y ty mae’n debyg
Plannodd goed afalau a gellyg yn Chwefror 1821
Arferion gardd OE â’u hystyr yn ansicr
golyguDic yn hwilio [sic] Cerrig at yr Ardd Gloron yn pen ucha Hendratyfi.
Dic yn palu rhwng cloron yn yr ardd Cae’r coldy.
Wil Sion yn gorphen codi at Gloron Buarth yr hen Erw a’r hen Ardd Gloron.
Fi yn tori rhai Clorenod.
yn planu [sic] Winiwns [sic] o dan y Celyn [Plannu o dan y celyn yn ffordd o atal llygod ac ati rhag mynd at hadau? Mae o’n son llawer am celyn mewn cysylltoad a’r ardd ‘’Wil a Dafydd yn Codi’r Celyn rhwng y ddwy Ardd ac yn eu planu efo’r Ffordd ty ucha i ddrws y Ty.’’]
- Coed
Sion William yno yn tori tyllau i blanu Coed.
- Afiechydon anifeiliaid
Soniodd am y dolur bur [byr], sef black quarter, black leg, quarter evil, a disease, esp. of cattle and sheep, which terminates fatally in a short time (lit. short disease). (Geiriadur Prifysgol Cymru)
- Cewyll
Hamdden
golygu- Y Pen Carw:
Mae un cofnod ganddo yn sefyll allan yn ei fanylder a'r chwilfrydedd mae'n datgelu am y dyddiadurwr mewn cyfnod ac ardal oedd eto i fwynhau gwir manteision addysg:
27 Mai 1820:.....Elin a minau yn mynd yn y Prydnhawn i Dy Mr. Owen Aberglaslyn yn gweled yno ddarn o asgwrn pen Carw a dau gorn y’nghlwm [sic] ynddo yn ddwy droedfedd o hyd a phedair Caingc [sic] ar bob un ac yn ddwyfodfeddarbymtheg a hanner o led o flaen i flaen wedi eu cael yn llyn Cerrigyrhwydwr wrth dynnu rhwyd ychydig o ddyddiau yn ôl gan Richd. William Tailiwr sydd yn byw yn Aberglaslyn. tebygyd ar yr olwg oedd arno ei fod yno er’s amryw flynyddau!!! Yn dyfod adref cyn naw o’r gloch.
Mae gwerth y cofnod hwn yn mynd ymhellach nag un bywyd unigol gan y bu gwastadeddau gleision mangre Cerrigyrhwydwr, ar y pryd (ychydig flynyddoedd yn unig ar ôl codi'r Cob, ger Porthmadog heddiw), yn gorfod bod yn forfa llanwol o heli a thywod, Mewn gair, onid pen pellaf y Traeth Mawr fel ag a fu oedd y fangre hon o hyd. A chofio gyda braint ein hôl-ddoethineb mai corff anifail ein gorffennol pell oedd y carw, wedi ei biclo mewn mawn fel cannoedd o rai eraill a ddaeth i'r fei wedyn, rhaid felly gofyn lle yn union oedd Llyn Cerrigyrhwydwr? Oedd morfa tywod Traeth Mawr yn gorwedd ar wely o fawn nid anhebyg i'r gro a'r tywod ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Llanaber ger y Bermo.
- Siou Tremadog:
Fi ac Elin yn mynd i Dremadoc i edrych Siou [sic] sef dau ddyn a Dynes Bychain a Dyn Mawr oedd yn cael eu cludo mewn dau gerbyd mawr. Pedwar o geffylau yn tynu un a dau yn tynu’r llall. Ceffylau gleision oeddynt ac o faintioli anhyffredin [sic] Y Dyn mwyaf yn Saith Droedfedd o hyd. Y Cymro a’r Sais lleiaf mi feddyliwn nad oeddyn fawr dros Lathen un yn 20 oed ar llall yn 23. Dynes 24 oed 31 modfedd o hyd
- Pysgota:
Fel cymydog agos o Hendrahywel (fferm ar y llechwedd uwchben Fron Olau) gwaith adeiladu fyddai Robat Sion yn ei wneud I Edwards yn fwy na dim,. Ond roedd o hefyd yn gymydog amser hamdden:
“… mynd efo Robt. Sion Hendrahowel at y llyn du i bysgota, fo yn dal pedwar, fi heb ddal yr un!”
Llyn bychan ar y fawnog uwchben Fron Olau yw Llyn Du. Aethai hefyd i bysgota Llyn Dinas uwchben Beddgelert efo Mr. Owen (Aberglaslyn), eto heb fawr o lwc. Noder y ‘Mr.’ gyda llaw.
- Saethu
I ddifyrru amser aethai Edwards i ffowlio ac i hela: cafodd wahoddiad gan ‘Mr Owen’, Aberglaslyn i saethu hwyaid ar Lyn y Gadair, Rhyd Ddu ac fe rannodd ei sbienddrych gydag ef ar y 6ed o fis Medi 1820. Yn anffodus ni chofnododd maint na natur yr helfa. Yn ôl fy nghyfrifiadau misoedd y gaeag fy hun, rhwng 1987 i 1992, gwan iawn oedd yr hwyaid ar y llyn hwn ym mis Medi (cyfartaledd o 2.6 aderyn) – prin yn werth y drafferth. Cwtieir oedden nhw fwyaf ac ambell hwyaden wyllt a mulfran. Cefais ambell hwyaden ddanheddog yn y ffigwr yna hefyd, aderyn na fyddai Edwards wedi ei adnabod o gwbl. Hyderaf bod y cnwd yn dipyn gwell 200 mlynedd yn ôl? Ymysg ei helfeydd eraill oedd ‘ceinach’ neu 'ceiniach' a ‘cyffylog’ (ei eiriau ef, ond defnyddiodd ‘ysgyfarnog’ o bryd i’w gilydd hefyd). Aethai hefyd gyda Robert Lloyd, ffowliwr Mr Gore, gan rannu diddordeb, a benthyg y drylliau cydrhwng ei gilydd (‘gwn’ nid ‘dryll’ oedd ei air).
Helwriaeth
golyguMynychai helfa Beddgelert. Arferai hela'r llwynog, ysgyfarnogod (defnyddiai'r ddau derm 'ceinach' ac 'ysgyfarnog', yn ymddangosiadol yn ddiwahan), cyffylog, giach ('sneipen') a llygod mawr ('llygod ffreinig'). Mae'n werth nodi na soniodd unwaith am foch daear, grugiar, petris nag unrhyw 'bryf' arall fu'n boblogaidd i helwyr yn ddiweddarach os nad ar y pryd. Saethodd ambell cudyll coch (am rhyw reswm nad yw'n amlwg y tu hwnt arferion ei oes (Fi yn Saethu Cidill coch wrth y Beudy newydd ac yn saethu ysgyfarnog yn Llainderiadd Defnyddiai filgi i hela ( Y Meibion un dal ysgyfarnog yn ochr Portreuddyn efo’r milgi) ond go brin mai'r milgi rasio fyddai'n gyfarwydd heddiw oedd hwn. Nid cwn hynaws oedd ei filgwn:"Y Milgi yn lladd Llwdn Harry Owen wrth goethi o’r caea.". Lladdai dyrchod daear Wil y Gorllwyn yn rhoi cyfri o’r Tyrchod daiar [sic] oedd wedi ei ddal pum dwsin
Cadwai hefyd 'fastiffgast' heb ddweud pam. Ymysg ei ddrylliau oedd mae'n debyg ffurf gynnar o’r'gwn-siot’ ond defnyddiai wn llaw hefyd Fi yn mynd at y Beudy uchaf ar gwn bach efo mi, yn Saethu Bran yn y Caelleppa ucha. Cadwodd gwmni rheolaidd i gipar Glyn Cowarch. Aeth hefyd i saethu ac i bysgota ar lynnoedd bach cyfagos (Fi yn mynd efo Robt. Sion Hendrahowel at y llyn du i bysgotta) a mawr mwy pellennig (Fi wedi bod efo Mr.Owen Aberglaslyn yn Pysgotta yn llyn Dinas).
Cnydau eraill
golyguRoedd yn wenynwr gan ddefnyddio mae’n debyg technoleg lled ddiweddar at y gwaith, sef offer a gadwai'r haid yn fyw dros y gaeaf yn wahanol i hen drefn y cychod gwellt.
Codi Beudy'r Morfa
golyguMae yna gofnod cronolegol hynod yn nyddiadur Owen Edwards o'r camau a gymerodd ef a'i weithwyr i godi beudy newydd ar forfa'r Traeth Mawr. Dyma grynhoi'r naratif:
Mesurwyd y sylfeini yn gyntaf ar y 6 Ebrill 1824 ac fe’i defnyddiwyd gyntaf fel beudy, i gadw cnwd o wair, ym mis Gorffennaf 1825 – cyfnod o bymtheg mis. Cyfeiriodd ato fel ‘Beudy Morfa’ rhag drysu efallai â Beudy Newydd oedd eisoes yn bod ar yr ‘hen dir’!
Cofnododd Edwards pob cam o’r gwaith, ac mi gredwn bod rhan o’r beudy yn sefyll o hyd wedi ei gymhathu i adeilad amaethyddol fodern sy’n perthyn o hyd i breswylwyr Fron Olau. Dechrewyd ar y gwaith yn 1824. Mae cerrig yn drwm ac mae angen llawer i godi waliau beudy. Tybir felly iddynt ddod o un o nifer o fan chwareli yr Allt Wen cyfagos (lle mae Ysbyty’r Alltwen heddiw). Mae Hywel Madog yn rhestru sawl chwarel o fewn cyrraedd cyfleus i Owen Edwards ac i’r gweithle hwn.
6 Medi 1824: Griffith Evan [gwas] efo mi yn cymeryd y Cerrig i’w codi at Feudy’r Morfa am bedair Ceiniog y llath
Gwas cyfnod byr neu gyflogwas oedd Griffith Evan a gafodd ei dalu saith ceiniog a dimau y rhwd i gau trensia dros y gaeaf 1825-6. Gorchwyl pwysig oedd cau trensia (French drains mae’n debyg). Soniodd OE am ddau Sion Hugh, y ddau yn gymdogion yn gweithio trwy ddealltwriaeth llafar gan nad ydi’r enw yn ymddangos ar restr taliadau’r fferm a gofnodwyd ar wahan (RT). Cymydog agos arall, deilydd Portreuddyn, oedd Owen Owens. Mae’n debyg mai Owens oedd y waliwr sgilgar yn y triawd hwn.
Dechreuwyd marcio 28 Medi 1824 :
Fi efo Robt. Sion Hendrahowel yn marcio Beudy’r Morfa...
Ac yna gosod y cerrig 8 Tachwedd 1824:
Robt. Sion Hendrahowel yn dechreu sylfaenu Beudy’r Morfa
Y cam nesaf oedd sicrhau cyflenwad o goed ac aeth y paratoadau yn eu blaen I gyrchu coed at y to:
9 Rhagfyr1824: Fi yn mynd i’r Towyn [y lanfa] i edrych Coed at Feudy’r Morfa Wil Sion yn dwad a’r Drol yno ar fy ol ac yn dwad a dau Fôc adref.
Mae’n debyg mai S. balk oedd y ‘bôc’. Mae ‘Porth Tywyn’ heddiw yn atgof o’r lanfa hon. Mae’n ffaith diddorol nad Porthmadog ond Tremadog yw ‘Dre’ i bobl yr ardal o hyd. Cafodd Wil Sion ddau fôc arall at y beudy y diwrnod wedyn a Robert Roberts, Ty’n y Berllan, yn dechrau eu ‘lliffo’ (llifio) y diwrnod ar ôl hynny.
I grynhoi gweddill y gwaith ar Beudy’r Morfa (i gyd fel arfer yn eu trefn gronolegol yn dechrau efo cofnod 12 Ionawr 1825) fe welwn
nol dwy siwrna o lechi Toi at Feudy’r Morfa. (12 a 13 Ionawr 1825)
efo John Nicols yn chwilio am ddrain i'w planu yn y clawdd sydd oddiwrth Feudy’r Morfa at y Ffordd fawr
dechreu gwneud llawr Beudy’r Morfa (19 Ionawr) ….yn carrio Cerrig (20 Ionawr)
Cymerodd 6 niwrnod o waith i baratoi’r llawr hyd yma. Cefais fy synnu gweld bod beudy yn cael llawr cerrig - ac nid cerrig yn unig chwaith. Soniodd am:
codi syntr [sic. suntur. deunydd yn gymysg o glai a cherrig mân (subsoil)] wrth y ffordd at lawr Beudy’r Morfa [2 ddiwrnod o waith]
Roedd yn rhaid cloi y to ar hyd ei grib ac aeth I :
Caecoch Rhôslan yn nol teils iw rhoi ar Feudy’r Morfa [‘ar’ sylwer – teils crib felly].
Ni welwn hyd yma unrhyw arwydd o ddeunydd cleiog yn nhir y dywededig fferm yn Rhoslan (tua 10Km i ffwrdd fel yr hed y fran) a allai wneud teils, ond parhawn i holi.
Ac ar y 21 Chwefror roedd y
“Seiri Coed yn darfod y Beudy”
Erbyn Gorffennaf 1825 roedd Beudy’r Morfa ar waith, yn derbyn gwair i borthi’r gwartheg dros y gaeaf, ar ôl 15 mis o weithio arno.
Mae hanes codi Beudy’r Morfa yn dod I ben ym mis Gorffennaf 1825 gyda’r sylw:
Yn carrio gwair yr hen Forfa, Morfa’r garreg a pheth o’r Morfa bach at Feudy’r Morfa
Diwydiannau coll
golyguAgorwch ddolen Cyhoeddiadau ar wefan Llên natur a chwiliwch am <Maen Grisial> (chwarel o’i eiddo yn ffynhonnell yr em werthfawr Brookite), <arweddlyn> (croesodd allan y geiriau brown stout ar ôl un cyfeiriad ato!) , <distyllu> (bragu), <curo biswail> (testyn erthygl yn ei hawl ei hun!!, <odyn mawn> (i grasu grawn rydym yn tybio, neu efallai i galsineiddio cocos [gweler uchod]),
Daeareg
golyguAr dir Fron Olau yr oedd chwarel ‘Maen Grisial’. Crisial amheuthun o’r enw ‘’Brookite’’ oedd y grisial, a gafodd ei ddisgrifio am y tro cyntaf ugain mlynedd ynghynt (Glas: Bwletin Llên Natur 160 [7]
Roedd OE yn berson â diddordeb yn y byd o’i gwmpas. Fe aeth unwaith i dŷ ei gyfaill yn Aberglaslyn i weld pen carw oedd wedi ei godi o bwll yn y morfa, gan ei fesur a’i ddisgrifio yn fanwl [8]
CyrnCarwCochOrGlaslyn.pdf
Ei iaith
golyguAr ôl amaethyddiaeth, gellid dadlau mai iaith Owen Edwards yw’r trysor mwyaf yn y dyddiadur. Mae ei iaith yn goeth wedi ei ysgrifennu mewn Cymraeg gloyw gyda pheth odrwydd yn ei ddefnydd o eiriau (ee. 'wedi' yn lle 'wedyn', 'boreubryd', prynhawnbryd'). Nid iaith y werin sydd gennym ganddo ond iaith person sydd wedi cael addysg trwy’r Gymraeg, diolch efallai i fudiad Ysgolion Sul Griffith Jones, Llanddowror a Thomas Charles. Yn ôl tystiolaeth llythyrau a chyfrifon yn nghefn y dyddiadur, roedd ei Saesneg yn llawn mor loyw, ac os rhywbeth yn llai hunan ymwybodol.
Rhai geiriau, ffurfiau neu ymadroddion diddorol
golygu- 1/1/1820 dau bolyn ystol
- 3/1/1820 edrych y peiriant
- 4/1/1820 yn darllaw
- 5/1/1820 Sion y dyrnwr (ydi hyn yn golygu contractiwr arbennigol? Dyrnu efo ffustion?)
- 8/2/1820 Dolur mawr yn fy mhen (cur?)
- 13/1/1830 siarad ynghylch y ffordd fawr oedd wedi cael ei ffinio
- 16/1/1820 Heffer (dynewid? Y gwahaniaeth?)
- 17/1/1820 ffeind = S. fine nid kind
- 17/1/1820 gyru’r helm Wenith i mewn
- 18/1/1820 dwad nid dyfod (ond 27/1/1820)
- 20/1/1820 a’r llall yn cneifio’r Dynewid.
- 20/1/1820 mynd i ffowlio ac yn saethu Sneip a chyffylog (sneip nid giach)
- 23/1/1820 chwythu yn bur sount (wedi gwirio 'sount' efo'r llawysgrif, cywir)
- 25/1/1820 hanner telaid o Haidd (telaid?)
[2]
- cennad (Mam yn dyfod adref o’r Gesail a chennad oddiwrth Mr. Holland imi fynd i Ddolbenmaen i seinio Assessment am dreth y ffordd fawr
- seinio (nid llofnodi)
- claiar (Diwrnod teg distaw claiar hynod.)
- bwrw llestr (cyn hanner awr wedi saith o’r nos daeth y Fuwch ddwydeth a llo ac a fwriodd ei llestr llo minau a’r gweision ai rhoeson yn ei ol yn llwyddianus)
- hobad (carrio’r Gwenith i’r Ty ddeg hobad a hanner)
- ysdol (Sion a Huwcyn yn dyfod ac un o’r polion Ysdol [?] i fynu wrth ddyfod o’r morfa)
- dolur burr (Llo yn sal yn y ty mawr o’r Dolur burr[?] minau yn ei waedu ac yn agor y Dolur ar ei gefn ac yn rhoi halen ynddo.)
- hesbwrn (Yn gweled hesbwrn wedi marw ar Cae main)
- sofl, turio (Owain wedi mynd a Farmer [ceffyl?] i’r Efail ac yn mynd a sofl newydd yno i’w durio)
[30]
- Rhiglo (28/12/1821 Y Meibion yn mynd a llwyth o wellt i'r Beudy ucha ac yn rhiglo o gwmpas Tomen y Beudy newydd.
- Ardreth (1/1/1821 Sion Hugh Drwsyrymlid yn dwad yma i dalu ei Ardreth ac yn cysgu yma
- trainsia (3/1/1822 Wil Owen a Dic yn mynd at y Trainsia i'r Tymawr. )
- clwydiad (2/1/1822)
- silio Y Meibion wedi mynd i'r Felin i silio.
- clorenod Yn tynu Clorenod newyddion gyntaf eleni
- gollwng, rhaff rawn Fi yn gollwng pedair hanner rhaff rawn
- gwanafa Y Merched wedi bod yn Caegoronw yn gorphen casglu’r Gwanafa.
- curo biswail Fi efo will yn gosod llidiart rhwng drws y Ty a drws y ‘stabal, y lleill yn curo biswail
- arweddlyn Yn Gollwng yr hanner Baril o’r [sic ‘B’ wedi ei dileu] Arweddlyn Brownstowt [y gair Brownstowt wedi ei groesi allan] Cadarn Gwineu
- clâdd rhoi clâdd yn y trainsia’.
- cowras Cowras yn bwyta’r arenau rhag imi wybod eu cyfri.
- menyn gwyryf yn bwyta’r menun gwyryf cael drwg mawr gan Elin o’r achos
- puro gwenith Yn darfod puro’r Gwenith
- bôc Evan James yn darfod llifio'r Bôc Ffawydd
wedi (yn lle wedyn) Yn darfod nithio, yn dwad a llwyth o wair o Ddâs [sic] yr hen Erw i’r Beudy newydd, yn mynd wedi [sic] at y Ffordd wrth gwttar Cae’r lloia
Enwau lleoedd
golyguMae Dr Rhian Parry yn ei chyfrol arbennig Cerdded y Caeau yn rhestru ‘enwau hynafol a dieithr’ sy’n perthyn i deuluoedd sefydlog mewn cymdogaethau clos. Ceir hefyd miloedd o enwau cyfarwydd a syml, fel Cae Hir, Cae Tŷ, Cae Lloi sydd, meddai, ‘yn enwau amlwg a ddewisir gan deulu newydd ar y tir pan fo’r hen enwau wedi eu colli’. Dengys dyddiadur Owen Edwards ffenomenon nid anhebyg gydag enwau’r ffermydd ar yr hen fynydd-dir o gwmpas y Traeth Mawr (llawer ohonynt efallai yn deillio yn wreiddiol o enwau caeau). Mae’r ffermydd ar y llechweddau yn dwyn enwau ‘hynafol a dieithr’ megis Erw Suran, Reiniog, Gorllwyn, Hendratyfi tra bo’r enwau ar y tir gwastad, tan yn ddiweddar dan ‘berchnogaeth’ y môr, yn dwyn enwau ymarferol llwyr megis Morfa Mawr, Morfa Newydd, Morfa Glofer (ansoddair cyffredin yn yr oes), Morfa’r Garreg, a hyd yn oed Morfa Rhif 1, 2 a 3 !
Hanes ei fywyd
golygu[ar waith]
Tywydd y cyfnod
golyguRoedd degawd yr 1820au yn amrywiol ei dywydd ond yn gyffredinol fe'i nodweddwyd gan wanwyau a hydrefau cynnes
- 1820
Ar 29 Mehefin disgynnodd cenllysg o faint wyau yn ardal y Bala a Cherrig y Drudion, gan falu ffenestri[9]
- 1821
Gwelodd Owen Edwards Eira ar bennau’r Mynyddau!!! ar y 9 Mehefin 1821.
- 1824
Mae ardal Porthmadog heddiw ymysg y mwynaf ym Mhrydain ac yn ‘curo’ o ran tymheredd-haf mannau dros Brydain, yn fynych. Felly oedd hi efallai yn oes Owen Edwards. Doedd dim tywydd anarferol iawn yng nghyfnod y dyddiadur ei hun ar wahan efallai i flwyddyn gwlyb 1824 (yn ôl Kington (2010 Climate and Weather). Roedd haf 1824 yn nodedig o wlyb ond ni chofnododd y gair <glaw> unwaith yn y cyfnod o Fehefin i Awst (na chwaith yn y dyddiadur cyfan!). Oedd hi’n bwrw glaw o gwbl yr adeg honno yn y cilcyn hwn o ddaear?! Cofnododd <mwll> yn y misoedd hynny 23 o weithiau allan o 37 dros y flwyddyn gyfan [sef 73%]. Ac fel petai I gadarnau hyn, dim ond pedwar cofnod ar ddeg o gofnodion o <gwlyb> sydd yn y dyddiadur cyfan. Os oedd mwll yn golygu i Edwards beth mae’n olygu heddiw roedd ardal y Traeth Mawr o ran yr hinsawdd yn benthyg ei hun i welliannau amaethyddol mewn oes pan y gwelid gwir eu hangen.
Rhaid cofio bod Owen Edwards yn ysgrifennu mewn cyfnod oedd yn 'dod allan' o ddegawd cythryblus o ran y tywydd. Ffrwydrodd mynydd Tambora yn 1815 yn Indonesia. Gwasgarodd llen o lwch ohono dros ran helaeth o hemisffer y gogledd gan achosi, y flwyddyn ganlynol, “Y Flwyddyn heb Haf”. Fel hyn ysgrifennodd y bardd Gwallter Mechain (Walter Davies, Arolygydd Amaethyddol) ar y pryd:
Leni ni bu hardd-gu hin
Mai hafaidd na Mehefin
Ni ffynodd ein Gorphenaf
Pob dyffryn a glyn yn glaf,
Yn Awst, gwlyb wair mewn ystod
Medi heb fedi i fod
Bu canlyniadau’r haf hwn yn lleol iawn i Edwards gan i gwrs yr afon Ddwyryd gael ei ddadgyfeirio’n ddisymwth. Rhedai honno trwy’r Traeth Bach, oedd cyfagos a chyfochrog i’r Traeth Mawr. Rhedai ar ochr y de (neu ochr Harlech) o Ynys Gifftan nes cael ei gwyro gan lif eithriadol ar noson cyn y Nadolig 1816. Symudodd yr afon Ddwyryd I ochr ogleddol yr ynys gan amddifadu tyddyn Sandy Mount o borfa werthfawr. Dyna gwrs yr afon Ddwyryd hyd heddiw ac er i ambell un ddweud ei fod wedi newid yn ôl ac ymlaen sawl gwaith, ni chyflwynodd neb dystiolaeth bendant i’r perwyl hwnnw i ni wybod. Ai hwn yw un o ychydig arwyddion parhaus llifogydd “y flwyddyn heb haf” sy’n parhau yn ein tir?
Digwyddiadau yng Nghymru a'r Byd
golyguMewn amaethyddiaeth
golyguCyfnod o gynnydd, caledi a thrawsnewid a nodweddodd y 19ed ganrif. Ar gychwyn y ganrif honno roeddem ar drothwy oes gynyddol ddiwydiannol fyddai’n arwain at newidiadau economaidd a chymdeithasol fyddai yn eu tro yn effeithio ar fywydau pawb. Yn naturiol, ni welwyd yr un effeithiau ym mhobman – bu i gloddio am blwm, glo, llechi a chopr ddylanwadu’n drwm ar dir a phobl rhai ardaloedd fyddai’n wahanol i’r ardaloedd nas creithiwyd gan ddiwydiant. Yng nghefn gwlad dyma gyfnod o wasgu gan y stadau er mwyn cadw prisiau ŷd yn uchel a chynyddodd y broses o ad-drefnu eu daliadau amaethyddol, codi rhenti a meddiannu tiroedd comin. Rhoddai rhyfeloedd Ffrainc yr esgus perffaith ar gyfer hyn – wedi’r cyfan, oni ellid cyfiawnhau gwasgfa o’r fath yn yr ymgyrch yn erbyn Napoleon Bonaparte.
Yn 1815 roedd Senedd Lloegr yn ddigon hyderus i basio’r Deddfau Ŷd fyddai’n cadw prisiau yn fwriadol uchel i amddiffyn incwm y tirfeddianwyr a gwahardd ei fewnforio onibai i’r pris godi’n uwch na 80 swllt y bwysel. Digwyddodd hynny er gwaetha’r dirwasgiad, tywydd trychinebus a newyn am y dair mlynedd yn dilyn y rhyfel. roedd y sefyllfa cyn waethed yng nghefn gwlad yn enwedig ymysg y tlodion. “Rhoi angen un rhwng y naw” meddai Dewi Wyn o Eifion yn 1819. Un rheswm amlwg am hyn oedd bod y boblogaeth yn tyfu’n gynt na ellid ei chynnal; rhwng 1740 ag 1840 roedd poblogaeth Cymru wedi dyblu, a hanner y gweithlu bellach mewn diwydiant. Dywed un farn bod y ffigwr hwn yn arwyddocaol oherwydd os gellir diffinio a yw gwlad yn bennaf ddiwydiannol neu amaethyddol, Cymru, yn 1840, gyda 50% o’i gweithlu’n ddiwydiannol, oedd y wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd. Bu sawl cynnwrf a reiot yng nghefn gwlad Cymru oherwydd diffyg bwyd a cholli hawliau: Caerfyrddin 1818; Maenclochog 1820; Dryslwyn 1826 a Llanwnda yn 1827.
Os oedd yn galedi ar y bobl gyffredin, roedd yn gyfnod o lewyrch i’r rhai oedd mewn sefyllfa i fanteisio. Gwelwyd buddsoddi enfawr yn y tir gan y stadau. Barnai rhai tirfeddianwyr mai’r ffordd ymlaen yng nghefn gwlad oedd ail-drefnu ffermydd a’u huno er mwyn creu unedau mwy o faint a mwy cynhyrchiol. Rhoddai hynny fywoliaeth deilwng i ffermwyr, fedrai wedyn dalu mwy o rent. Ond effaith hynny oedd taflu mwy o bobl ar y clwt ac yn ddibynnol felly ar y Plwyf.
Daeth yr arfer o gyfuno nifer o fân-ddaliadau’r stadau i greu unedau mwy o faint a mwy effeithiol yn gyffredin yn nechrau’r 19eg ganrif. A phan yn bosib gellid ychwanegu darnau o dir ddaeth yn eiddo i’r stad drwy gau tir comin yn yr ardal, yn enwedig y tir mynydd fyddai’n ffinio â’r uned newydd. Yr unig ffermydd hollol newydd fyddai rhai a sefydlwyd ar rai o’r morfeydd a ennillwyd o’r môr, e.e. Tŷ Newydd Morfa ar Forfa Glaslyn wedi adeiladu’r Cob ym Mhorthmadog yn 1812.
Daeth y lês flynyddol i denant i gymryd lle y lês am oes, a chytundeb tenantiaeth, a adnewyddid yn flynyddol, yn annogaeth i ymgymeryd â gwelliannau i’r unedau newydd yn unol a chyfarwyddid asiant y stad. Aethpwyd ati i agor ffosydd, arloesi a gwella tiroedd, codi a chlirio cerrig, codi cloddiau a phlannu gwrychoedd, a chalchio a theilo’r tir ar gyfer cnydau neu borfa well. Erbyn yr 1830au roedd y dyrnwr bach symudol ar daith mewn rhai ardaloedd, er mawr ofid i’r rhai gyflogid i ffustio’r ŷd dros fisoedd y gaeaf.
Yn raddol datblygodd Cymru yn wlad o stadau mawrion a ffermydd gweddol fychain yn cael eu gweithio’n bennaf gan lafur teuluol. Fel y cynyddai maint ffermydd, cyflogid mwy o weision a morynion ar gontract o ½ blwyddyn neu flwyddyn, rhwng ffeiriau cyflogi Calan Mai a Chalan Gaeaf. Roedd y gwahaniaeth rhwng cyfoeth a bywyd gwas a meistr yn fychan, ond yn eu statws roedd yn fawr.[10]
Mewn crefydd
golyguNodwedd bwysig o’r cyfnod oedd y modd y troiodd cymaint o bobl yng nghefn gwlad yn ogystal a’r ardaloedd diwydiannol at yr amrywiol enwadau anghydffurfiol. Dyma broses oedd wedi cychwyn o ddifri yn y 18fed ganrif ond yn hanner cynta’r 19eg ganrif gwelwyd angerdd crefyddol yn brasgamu drwy’r tir. Byddai miloedd yn mynychu ambell Sasiwn, e.e. 7,500 a thros 1,000 o geffylau yn Aberystwyth yn 1809, a phan dorrodd y Methodistiaid Calfinaidd oddiar Eglwys Lloegr yn 1811 bu cynnydd pellach. I Sasiwn Y Bala yn 1819 daeth 8,000-10,000 o bobl a thros 3,000 o geffylau.
Roedd yr awdurdodau a’r meistri tir yn amheus iawn o’r fath chwyldro crefyddol a oedd, i raddau helaeth, yn adwaith yn erbyn yr Eglwys a’r landlordiaid. Er bod sawl rheithor llawr gwlad yn Gymry da ac yn ofalus o’u preiddiau ystyrid yr Eglwys ei hun yn orthrymol o ran ei Degymau ac yn gefnogol i’r tirfeddianwyr. Mae’r ffaith na fu Egob Cymraeg ei iaith tan 1870 yn adrodd cyfrolau.
Buan y gwelwyd capeli yn britho cefn gwlad, gan roi y rhyddid i gymunedau reoli a threfnu eu gweithgareddau eu hunnain. O ganlyniad magwyd cymunedau oedd wedi eu hymdrwytho yng ngeiriau a gwerthoedd y Beibl fyddai, ymhen amser, yn dylanwadu’n drwm ar wleidyddiaeth Cymru. Rhoddodd Ysgolion Sul Thomas Charles iddynt y gallu i ddarllen ac ysgrifennu a byddai’r gynnulleidfa yn rhwydwaith gynhaliol mewn caledi. Buont yn gyfrwng i hybu’r diwylliant parchus eiteddfodol, er yn llawdrwm ar ddawnsio a rhai agweddau eraill ar ddiwylliant gwerin ac ar hwyl a miri’r dafarn a’r ffair.
Tân a brwmstan, derbyn eich ffawd ac ufudd-dod i’r drefn oedd neges y Methodistiaid cynnar, ond coleddodd rhai enwadau eraill, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol, agweddau llawer mwy radicalaidd, gan darannu yn erbyn anghyfiawnderau’r oes yn enwedig ar dudalennau rhai o’u cylchgronnau enwadol a phapurau newyddion. Pan ddaeth y bleidlais i’r mwyafrif yn 1867, does dim rhyfedd i Gymru droi’n Rhyddfrydol dros nos.[10]
Mewn cymdeithas ehangach
golyguBlwyddyn coronni Siôr IV - daeth yn frenin y Deyrnas Gyfunol ar 29 Ionawr 1820 [9]. Cofnododd y coronni fel hyn ddeunaw mis yn ddiweddarach, y 19 Gorffennaf 1821: YN CORONI’R BRENHIN. George y Pedwaredd[sic.]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Eurig Salisbury cys. pers.
- ↑ Cofnodion Owen Edwards wedi eu trawsgrifio gan Brenda Jones a Rwth Tomos ar gyfer Tywyddiadur Prosiect Llên Natur Cymdeithas Edward Llwyd[1]
- ↑ :Llyfgell Genedlaethol Cymru
- ↑ Achau ac ewyllysiau Teuluoedd De Sir Gaernarfon. (T Ceiri Griffith)
- ↑ Hywel Madog Jones (cys. pers.)
- ↑ Hywel Madog Jones (cys. pers.)
- ↑ Hywel Madog Jones (cys. pers.)
- ↑ Cyflwyniad i Harbwr Porthmadog (taflen Adran Archifau Gwynedd
- ↑ Papurau Newydd arlein
- ↑ 10.0 10.1 Elias, T. (2019) Fferm a Thyddyn (Rhif 63)