Llanfarchell

eglwys yn Llanfarchell, Dinbych
(Ailgyfeiriad o Eglwys Sant Marchell)

Ystyrir Eglwys y Santes Marchell (hefyd yr Eglwys Wen neu Llanfarchell) yn un o'r 'eglwysi plwyf canoloesol godidocaf yn Sir Ddinbych'; fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn Radd I ar 24 Hydref 1950.[1] Cofnodwyd bod ei nawddsant, Marchell Forwyn, wedi dewis man ger ffynnon sanctaidd yma yn y 7g, ystyrid hi'n lleian arbennig o gysegredig. Llanfarchell fu eglwys plwyf Dinbych erioed a'i heglwys cyntaf; ni ddatblygodd Dinbych ryw lawer hyd at ddiwedd y 13g. Dymchwelwyd y gwreiddiol ac fe'i hailgodwyd ar ffurf eglwys ddau gorff ar ddiwedd y 15g, gyda thŵr trawiadol a ffenestri perpendicwlar mawr, rhai o'r Oesoedd Canol.

Eglwys Santes Marchell
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDinbych Edit this on Wikidata
SirDinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr48 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1851°N 3.39112°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUJames Davies (Ceidwadwyr)
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iMarchell ferch Hawystl Gloff Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Llanelwy Edit this on Wikidata

Mae'r eglwys yn ffinio gydag Afon Clwyd, oddeutu 1.5 km i'r de-ddwyrain o dref Dinbych, i gyfeiriad Bryniau Clwyd, ar lawr gwastad Dyffryn Clwyd. Yn 1254 cyfeirir ati fel L(l)annvarcell.[2] Yn ôl rhai, dyma un o'r eglwysi plwyf mwyaf urddasol o'r Oesoedd Canol cynnar, ac fel llawer o eglwysi Dyffryn Clwyd mae ganddi ddau gorff. Ceir ffenestri lliw hefyd o'r Canol Oesoedd a chofebau i fawrion Sir Ddinbych gan gynnwys Humphrey Llwyd (m.1568) a Richard Myddelton (m.1575). Roedd yma ar un adeg ffynnon sanctaidd a phoblogaidd iawn, sydd bellach o dan cylchdro'r ffyrdd, ar y ffordd i Ruthun.[3] Yma hefyd mae bedd Twm o'r Nant.

Ceir santes arall, ar wahân i Farchell sant o'r enw Marcellus. Ni cymysgu'r eglwys hon chwaith, gydag Ystrad Marchell, cwmwd ym Mhowys Wenwynwyn.

Pensaerniaeth a chofebau

golygu

Ceir pileri canolog main a bwâu wedi eu mowldio'n gain y tu fewn i'r eglwys ac mae'r rhain yn codi i'r nenfwd fesul pâr o doeon trawstiau gordd, sydd wedi eu panelu a'u haddurno ag angylion. Maent yn gorwedd ar gorbelau o garreg gyda bwystfilod a rhagor o angylion cerfiedig. Ceir ffris o garreg sydd wedi ei addurno'n gain â blodau a phennau a grotesgu – bachgen yn tynnu cynffon asyn, llwynog ac ysgarfarnog.

Ar yr ochr ogleddol, mae Humphrey Lhuyd yn penlinio mewn teml Glasurol, gydag angylion yn dal glôb, a deial i gynrychioli fforiwr.

Gerllaw i gofeb Lhuyd mae cofeb bres (sy'n brin yng Nghymru) yn portreadu Richard Myddelton (bu farw ym 1565) gyda'i wraig a'i 16 o blant, saith ohonynt yn ferched sydd wedi'u gwisgo'n ffasiynol a naw mab. Daeth un o'r rhain, Syr Thomas Myddelton, yn Arglwydd Faer Llundain yn ddiweddarach a sefydlodd linach Castell Y Waun; bu mab arall, gof aur ac entrepreneur, Syr Hugh, yn gyfrifol am drawsnewid cyflenwad dŵr Llundain, gyda'i brosiect 'Afon Newydd'.

Bu'r allor ddeheuol, ar un adeg, yn gapel preifat i deulu grymus Salesbury – dyma sy'n cyfrif am geinder ei bwrdd cymun cerfiedig a'i rheiliau allor. Yma y saif y gofeb alabastr beintiedig ysblennydd o Syr John Salusbury (bu farw ym 1578) a'i wraig, y Fonesig Jane (Myddelton arall). Mae'n gorwedd mewn arfwisg, gyda'i gleddyf a'i gyllell hela – ac yn ei gwain ceir cyllell a fforc bychan: mae ei draed yn gorffwys ar anifail rhyfedd – nid ei filgi na'r ‘Bwystfil Caledfryn' mytholegol, ond, yn syml, llew sydd wedi ei gerfio'n wael. Mae'r Fonesig Jane yn gwisgo'i ffrog weddw gyda'i rwff uchel, a'i thraed yn ymddangos o dan ei pheisiau stiff. O'u cwmpas saif eu naw mab (pob yn gwisgo arfwisg ac eithrio offeiriad mewn gwn du) a phedair merch; dangosir dwy a fu farw'n fabanod wedi eu rhwymo mewn cadachau.

Marchell

golygu

Santes o'r 7g oedd Marchell, ei henw llawn oedd Marchell ferch Hawystl Gloff a chofnodir ei hanes yn y traethodyn achyddol Bonedd y Saint. Cyfeirir ati fel arfer fel 'Marchell' a Ladineiddiwyd yn ddiweddarach i Marcella. Ceir eglwys o'r un enw yn Llanrwst. Nid oes gofnod o ba bryd mae ei gwylmabsant a cheir dau ddyddiad yn y calendrau Cymreig i santes arall o'r enw Marcellus. Ni ddylid ei chymysgu chwaith, gydag Ystrad Marchell, cwmwd ym Mhowys Wenwynwyn. Cyfeirir ati fel morwyn.

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. medieval-wales.com; Archifwyd 2016-08-17 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Mawrth 2017.
  2. Adroddiad gan CPAT cpat.org.uk; adalwyd 28 Mawrth 2017.
  3. medieval-wales.com; Archifwyd 2017-03-25 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Mawrth 2017.