Elidir Fawr

mynydd (924m) yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Elidir Fach)

Mae Elidir Fawr (neu Carnedd Elidir) yn fynydd yn y Glyderau yn Eryri, y pellaf i'r gorllewin o fynyddoedd y Glyderau.

Elidir Fawr
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr924 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1307°N 4.076°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6117661292 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd212 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaY Garn (Glyderau) Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Yr enw cywir yw Carnedd Elidir, ond daeth Elidir Fawr i ddefnydd gyda mapiau O.S. ac ysfa am gydbwysedd gydag enw mynydd Elidir Fach.

Yn draddodiadol, enwyd y mynydd ar ôl Elidir Mwynfawr, tywysog o'r Hen Ogledd a laddwyd yn Arfon.

Daearyddiaeth

golygu

Ar ochr ogleddol y mynydd mae Marchlyn Mawr, cronfa sy'n rhan o gynllun gorsaf bŵer Dinorwig, sydd i mewn yn y mynydd ei hun. Ar ochr Llanberis i'r mynydd mae Chwarel Dinorwig.

Mae'r copa yn rhan o grib creigiog, hir, sy'n rhedeg o Graig Cwrwgl yn y gogledd-ddwyrain i Fwlch Melynwyn yn y de-orllewin. I'r gogledd-orllewin, rhed Elidir Fach yn gyfochrog a'r prif grib. Ni ystyrir Elidir Fach yn fynydd ar wahan fel arfer, ond mae ganddi uchder o 795m. Tua'r gogledd-ddwyrain, mae Bwlch y Marchlyn a Bwlch y Brecan yn cysylltu'r mynydd i Fynydd Perfedd a'r Foel Goch.

Llwybrau

golygu

Gellir dringo'r mynydd o ochrau Dinorwig (ger Deiniolen), o Waun Gynfi (ger Mynydd Llandygái) neu o Nant Peris. Gellir cerdded ar hyd ffordd y gorsaf bŵer o Waun Gynfi i frig Marchlyn Mawr, ac yna esgyn yn syth i'r copa, neu gychwyn ar hen inlclein y Chwarel o Ddinorwig, ac yna croesi Elidir Fach. O Nant Peris mae'r llwybr yn croesi Afon Dudodyn ac yna'n dringo llechwedd serth i'r copa. Gellir hefyd ei ddringo o Lyn Ogwen, trwy ddilyn y llwybr heibio Llyn Idwal a dringo i'r grib ger y Twll Du. Yna gellir dringo Y Garn gyntaf ac yna ymlaen i gopa Elidir Fawr, neu mae llwybr arall yn osgoi copa Y Garn.


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)