Englyn proest cadwynog
(Ailgyfeiriad o Englyn Proest Cadwynog)
Pedair llinell o gynghanedd sydd i'r mesur caeth hwn, sef yr englyn proest cadwynog. Mae'r llinell gyntaf yn odli proestio gyda'r ail linell. Mae'r llinell gyntaf hefyd yn odli gyda'r drydedd linell a'r ail yn odli gyda'r llinell olaf.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Dyma enghraifft gan Tudur Aled:
Nodi dyn nid adwaenwn,
Nid adwaenid y dynion,
Gwrda 'mhlith gwyrda mal hwn,
Gwreigdda 'mhlith gwragedd mal hon.