Math arbennig o ledodl neu hanner odl yw proest. Ei egwyddor sylfaenol yw dau air yn gorffen gyda'r un gytsain ond gyda llafariad neu ddeusain wahanol er mwyn ffurfio proest yn hytrach nag odl lawn. Mae'r odl arferol yn seiliedig ar ddau beth: cyfatebiaeth yn y cytseiniaid ar ddiwedd geiriau, os oes cytseiniaid, a chyfatebiaeth yn y llafariad neu'r ddeusain o flaen unrhyw gytseiniaid. Dyma enghraifft o odl lawn:

rhamant a nant.

Mae'r ddau air hyn yn ffurfio odl gan fod y cytseiniaid ar ddiwedd y ddau air yn cyfateb i'w gilydd, sef nt, ac mae'r llafariad o flaen y cytseiniaid yn gyffredin rhwng y ddau air, sef y llafariad seml, a. Ac felly, cynhyrchir yr un sain.

Er mwyn ffurfio proest, dyler cyfateb y cytseiniaid olaf ond gan ddefnyddio llafariad neu ddeusain wahanol. Er enghraifft, mae'r ddau air hyn yn ffurfio odl broest:

rhamant a talent.

Sylwer bod y cytseiniaid ar ddiwedd y geiriau (nt) yn cyfateb, ond bod y llafariad o'u blaenau yn wahanol.

Er mwyn ffurfio proest cywir, mae'n rhaid i lafariad gael ei hateb gan lafariad arall neu ddeusain dalgron; nid deusain leddf. Ni fyddai côr ac awr yn ffurfio proest gan mai llafariad seml sydd yn y gair côr tra bo'r ddeusain leddf aw yn y gair awr. Er mwyn ffurfio proest gyda'r gair awr, rhaid cael gair sy'n terfynu gyda'r gytsain r a chanddo ddeusain leddf, megis aur neu gair.

Rhaid gochel trwm ac ysgafn i ffurfio proest cywir. Ni phroestia hen gyda hon gan fod llafariad ysgafn (hir) yn y gair hen tra bo llafariad drom (fer) yn y gair hon.

Gellir ffurfio math arbennig o broest heb unrhyw gytsain. Gelwir hyn yn broest llafarog. Enghraifft o hyn yw heli ac eira, sy'n proestio gan fod y ddau air yn terfynu gyda llafariad.

Dyluniodd Pedr Fardd gwpledi cofeiriol (mnemonics) i ddangos y bai Proest i'r awdl (odl), a cheir copi ohonynt yn Yr Ysgol Farddol, Dafydd Morganwg. Fodd bynnag, ni ddylid rhoi gormod o sylw i'r rhain gan fod rhai yn anghywir wrth ddisgrifio proest yn ôl rheolau heddiw. Dyma'r enghraifft a roddir o Broest i'r awdl (odl):

Brysied itti Broest etto,
A hwnw ar fai - hanner fo.

Yn ôl y rheolau heddiw, nid yw'r ail linell yn euog o Broest i'r odl o gwbl a gellir cyfiawnhau y llinell gyntaf gyda goddefiad y Llif Llafar. Dywed Syr John Morris-Jones yn Cerdd Dafod:

Nid oedd yr un o'r rhai a honnai ddysgu cynghanedd yn y ganrif ddiwethaf (19eg ganrif) yn deall beth oedd proest.[1]

Yn ôl Y Geiriadur Mawr, gair gwrywaidd yw proest, ond noda Geiriadur Prifysgol Cymru ei fod yn enw gwrywaidd benywaidd, ac felly gellir trin y gair yn wrywaidd neu'n fenywaidd. Fel arfer, ni threiglir yr ansoddair sy'n dilyn proest, er enghraifft proest llafarog, ond yn achlysurol gwelir ansoddair benywaidd treigledig, er enghraifft proest dalgron.

Deuseiniaid talgrwn golygu

Y deuseiniaid talgrwn yw: ia, ie, io, iw (megis yn y gair heliwr), iy, wa, we, wi, wy (gwyn), wo.

Gall y deuseiniaid hyn broestio gyda deuseiniaid o'r un dosbarth neu gyda llafariaid syml; er enghraifft; gall gwyn broestio gyda cenawon a hon.

Deuseiniaid lleddf golygu

Rhennir y deuseiniaid lleddf yn dri dosbarth:

  • Dosbarth 1: (Gelwir y dosbarth hwn yn achlysurol y talgrynion)
aw, ew, iw, ow, uw, yw.
Er mwyn ffurfio proest gyda'r deuseiniaid hyn, rhaid defnyddio deusain o'r un dosbarth, e.e. proestia heddiw gydag eirlaw gan fod iw ac aw yn yr un dosbarth.
  • Dosbarth 2: (Gelwir y dosbarth hwn yn achlysurol y lleddfon)
ae, oe, wy (mwy), ei, ai.
Rhaid defnyddio dwy ddeusain o'r dosbarth hwn er mwyn ffurfio proest gywir, megis argaen a gwanwyn, gan fod y ddau air yn gorffen gydag "n" ac ynddynt ddeuseiniaid lleddf o'r un dosbarth; ae ac wy.
  • Dosbarth 3:
Yr unig ddeusain leddf yn y dosbarth hwn yw au. Ni phroestia au gydag unrhyw ddeusain arall nac ag unrhyw lafariad seml, ac fe'i gelwir yn ddeusain wib.

Proest mewn barddoniaeth golygu

Yn ddiweddar, mae'r gair proest wedi tueddu i fynd yn gyfystyr â'r bai proest i'r odl yn y canu caeth. Serch hyn, mae'r dechneg o ddefnyddio proest mewn barddoniaeth i gaboli'r gwaith yn hen iawn; ceir enghreifftiau o broest yng ngwaith y Cynfeirdd, sef yr hyn a dybir i fod y gwaith Cymraeg cynharaf i oroesi. Ystyrier linellau cyntaf awdl LXXII o'r Gododdin o waith y cynfardd Aneirin:

Eidol adoer crei grannawr gwynn
Dysgiawr pan vei bun barn benn

Ceir yma odl broest rhwng gwynn a benn yn lle defnydd o odl.

Mae rhai o fesurau'r pedwar mesur ar hugain yn englynion ac ynddynt odlau proest yn hytrach nac odl gyffredin. Yn ôl y diffiniad o'r mesurau yn Cerdd Dafod, John Morris-Jones, mae tri englyn proest yn rhan o'r Pedwar Mesur ar Hugain, sef yr Englyn Proest Dalgron, yr Englyn Lleddfbroest a'r Englyn Proest Cadwynog. Ni cheir defnydd eang o'r mesurau hyn heddiw, fodd bynnag.

Yn awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003, gwna'r bardd, Twm Morys, ddefnydd o odlau proest yn y caniad cyntaf, y pedwerydd caniad a'r caniad olaf.[2]

Proest fel bai golygu

Mae proestio o fewn llinell yn un o feiau gwaharddedig cerdd dafod.[3] Ni chaniateir i'r ddwy brif acen mewn llinell o gynghanedd gytbwys ffurfio proest gyda'i gilydd. Nid yw'r rheol hon yn bodoli gyda chynganeddion anghytbwys. Mae'r llinellau:

Garllaw tân y gŵr llwyd hen (Dafydd ap Gwilym), a
O dalaith yr hen dylwyth (Lewys Glyn Cothi)

yn euog o'r bai proest i'r odl.

Gyda phroest llafarog, gall cytsain ar ôl yr orffwysfa "achub" y llinell, fel yn llinell enwog hon o waith Dafydd Nanmor:[4]

Ni ddyly Mai ddeilio mwy,

Mae Mai yn proestio gyda mwy, ond mae'r gytsain "dd" ar ddechrau'r gair ddeilio yn achub y llinell rhag ffurfio proest. Gellir yn awr ynganu'r llinell fel a ganlyn:

Ni ddyly Maidd eilio mwy,

gan drin y llinell fel cynghanedd groes o gyswllt heb ynddi broest.

Enghraifft debyg sy'n manteisio ar y goddefiad hwn yw'r llinell hon o waith Wiliam Llŷn:

Deiliodd mwy na dolydd Mai

oherwydd gellir seinio'r llinell fel hyn:

Deiliodd mwyn a dolydd Mai.

Pan ddigwydd proest mewn cynghanedd sain, megis yn y llinell

yn arglwydd arwydd iraidd,

gelwir y bai yn ddybryd sain.

Caniateir proest rhwng y gair cyrch ac ail linell englyn gan mai cynghanedd bengoll ydyw, ac felly ni fyddai proest yn amharu ar y brifodl. Os defnyddir cynghanedd sain rhwng y gair cyrch a'r ail linell, yna rhaid gochel rhag dybryd sain, ac eithrio'r gynghanedd sain Alun, sydd ei hun yn bengoll.

Llyfryddiaeth golygu

  • John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
  • Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)
  • Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)
  • Roy Stephens ac Alan Llwyd, Yr Odliadur Newydd (Gwasg Gomer, 2008)

Cyfeiriadau golygu

  1. John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925
  2. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2003, Gwasg Dinefwr
  3. "Beiau Gwaharddedig (Clywed Cynghanedd)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-12-01. Cyrchwyd 2010-07-18.
  4. Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg, Rhydychen, 1962