Esclys
Cymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Esclys (neu 'Esclusham').[1] Saif i'r de-orllewin o dref Wrecsam, ac mae'n cynnwys pentrefi 'r Bers a Rhostyllen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 3,401.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,515, 3,544 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,658.07 ha |
Cyfesurynnau | 53.0338°N 3.0669°W |
Cod SYG | W04000225 |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
Ardal lofaol oedd rhan o'r gymuned, a saif hen lofa'r Bers ger Rhostyllen. Mae'r gymuned yn cynnwys Croes Foel, lle'r oedd gefail y gofaint enwog, y brodyr Davies. Ceir Amlosgfa Wrecsam yn y gymuned, ar safle hen Neuadd Pentrebychan, sydd wedi ei dymchwel. Dymchwelwyd Plas Cadwgan, oedd yn dyddio o'r 14g, hefyd, a Plas Gronw, hen gartref Elihu Yale. Ceir rhan o Glawdd Offa yn y gymuned.
Pwynt uchaf y gymuned yw Mynydd Esclus, sy'n rhan o Waun Rhiwabon.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Defnyddir sillafiad Comisiwn Ffiniau Cymru 2024; fodd bynnag, mae'r canlynol yn defnyddio'r fersiwn Saesneg: Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 549
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre