Caer-went

pentref yn Sir Fynwy

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Caer-went[1] (weithiau Caerwent). Pan goncrwyd llwyth y Silwriaid gan y Rhufeiniaid, crëwyd canolfan a thref farchnad iddynt dan yr enw Venta Silurum yn fuan wedi'r flwyddyn 78 gan y Llywodraethwr Rhufeinig Julius Frontinus. Cyn hynny roedd gan y Silwriaid fryngaer bwysig gerllaw yng Nghoed Llanmelin. Venta Silurum yw'r dref Rufeinig y gwyddys mwyaf amdani yng Nghymru, a'r ail fwyaf adnabyddus ym Mhrydain ar ôl Calleva Atrebatum (Silchester).

Caer-went
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,211 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6113°N 2.7684°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001058 Edit this on Wikidata
Cod OSST470905 Edit this on Wikidata
Cod postNP26 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Magwyrydd Rhufeinig yng Nghaerwent

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[3]

Caerwent Rufeinig

golygu

Roedd y dref Rufeinig yn dilyn y patrwm arferol, gyda dwy brif ffordd yn ffurfio croes a mur a ffos o'i hamgylch. Gydag arwynebedd o 300 - 350 medr sgwâr roedd yn dref gymharol fechan. Yn y canol roedd y Fforwm, gyda sgwâr agored a siopau a Basilica o'i amgylch. I'r dwyrain o'r Fforwm mae teml Rufeinig, a oedd, mae'n debyg, wedi ei chysegru i'r duw Mawrth, ac i'r gogledd mae Amffitheatr. Roedd o leiaf ddau faddondy yn y dref. Ar bob ochr i'r briffordd a redai drwy'r dref roedd yna resi o siopau a sawl teml. Mae darnau sylweddol o'r mur Rhufeinig i'w gweld o hyd, hyd at 5 medr o uchder mewn mannau. Atgyfnerthwyd y muriau hynny â thyrau lle y cedwid arfau. Y tu allan i'r muriau y ceid y mynwentydd. Mae tai'r pentref modern yn gorchuddio rhan o'r hen safle Rhufeinig.

Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid

golygu

Credir i'r boblogaeth adael y dref yn y 5g, fel gyda llawer o ddinasoedd a threfi Rhufeinig Prydain, ond mae'n bosibl i Gaerwent barhau fel canolfan i Deyrnas Gwent ar ôl y cyfnod Rhufeinig. Sefydlwyd clas yng Nghaerwent gan sant o Wyddel o'r enw Tatheus tua'r 5ed ganrif. Ar ôl y Goncwest Normanaidd codwyd castell mwnt a beili ar y safle.

 
Y Normaniaid yn gosod caer mwnt a beili o fewn hen amddiffynfeydd y Rhufeiniaid

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caer-went (pob oed) (1,791)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caer-went) (151)
  
8.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caer-went) (1058)
  
59.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Caer-went) (221)
  
30.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Darllen pellach

golygu
  • O.E. Craster, Caerwent Roman City (Llundain: HMSO, 1951; sawl argraffiad ers hynny)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

golygu