Gareth Evans (codi pwysau)

Codwr pwysau Cymreig ydy Gareth Irfon Evans (ganed 18 Ebrill 1986) sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad a Phrydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Llwyddodd i ennill medaul aur y Codi Pwysau categori 69 kg yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia[1].

Gareth Evans
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnGareth Irfon Evans
Llysenw"Pinhead"
Ganwyd (1986-04-18) 18 Ebrill 1986 (37 oed)
Dundee, Yr Alban
Taldra1.69 m (5 ft 7 in) (5 ft 7 in)
Pwysau69 kg (152 lb; 10.9 st)
Camp
GwladCymru
ChwaraeonCodi Pwysau
Camp69kg
ClwbClwb Codi Pwysau Caergybi
Diweddarwyd 6 Ebrill 2018.

Gyrfa codi pwysau golygu

Dechreuodd Evans godi pwysau pan yn 12 mlwydd oed ar ôl ymuno â chlwb Codi Pwysau Caergybi lle cyfarfodd â'i hyfforddwr Ray Williams enillodd fedal aur dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 1986 yng Nghaeredin.[2].

Cynrychiolydd Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop ym Minsk, Belarws yn 2010 yn y categori dan 62 kg gan orffen yn 13eg[3] cyn cystadlu yn fest coch Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd lle gorffennodd yn y 12fed safle[4].

Camodd i'r categori 69 kg ar gyfer Pencampwriaethau'r Byd ym Mharis yn 2011 a cafodd ei ddewis yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, Lloegr[2] lle gorffennodd yn 17eg[5].

Yn 2014 cymerodd ran yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow, Yr Alban yn y categori 62 kg cyn camu yn ôl i'r categori 69g ar gyfer y tymor canlynol. Yn 2015 llwyddodd i dorri record Prydain yn y cipiad, pont a hwb a'r record cyfanswm yn ystod Pencampwriaethau Ynysoedd Prydain[6] ond er gwaethaf ei gampau, ni chafodd ei ddewis ar gyfer Gemau Olympaidd 2018 yn Rio de Janeiro, Brasil.

Llwyddodd i gipio'r fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur, Awstralia yn 2018[7] Dyma oedd y fedal aur cyntaf i Gymru yn ystod y Gemau.[8].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Medal aur gyntaf Cymru i'r codwr pwysau Gareth Evans". BBC Cymru Fyw. 2018-04-06.
  2. 2.0 2.1 "Weightlifting: Gareth Evans says he owes his Olympic call-up to Holyhead Weightlifting Club". Daily Post. 2012-06-13.
  3. "Europe 2010 under 62kg".
  4. "2010 Weightlifting Results" (PDF) (PDF). Commonwealth Weightlifting. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-12-04. Cyrchwyd 2018-04-06.
  5. "Weightlifitng results 69kg men". Olympic.org.
  6. "2015 British Weightlifting & Para-Powerlifting Championships review". British Weightlifting. 2015-06-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-05. Cyrchwyd 2018-04-06.
  7. "Commonwealth Games: Welsh weightlifter Gareth Evans wins -69kg gold". BBC Sport. 2018-04-06.
  8. "Weightlifter Gareth Evans is the first competitor to win a gold medal for Wales in the Commonwealth Games". ITV News. 2018-04-06.