Hanes demograffig Cymru

Agwedd o hanes Cymru yw hanes demograffig Cymru sy'n ymwneud â newidiadau hanesyddol mewn demograffeg y wlad, gan gynnwys crefydd, iaith, ac ethnigrwydd a hefyd mudo dynol o, i, ac o fewn Cymru. Mae Cyfrifiad y Deyrnas Unedig wedi bod yn ffynhonnell hollbwysig wrth astudio demograffeg Cymru ers y cyfrifiad cyntaf ym 1801.

Poblogaeth

golygu

Prin yw'r dystiolaeth ar ddemograffeg y Gymru gynhanesyddol; mae ystadegau a gynigiwyd yn cynnwys 250,000 o drigolion yng Nghymru adeg y goresgyniad Rhufeinig.[1] Prin hefyd yw tystiolaeth ar ddemograffeg Cymru yn yr Oesoedd Canol. Yn ôl John Davies, gallwn defnyddio haeriad Gerallt Gymro y dylai'r Pab dderbyn o Gymru 200 marc mewn Ceiniogau Pedr, sef 32,000 o geiniogau, i gyfrifo poblogaeth y wlad tua'r flwyddyn 1200: ceiniog y teulu oedd y dreth, felly os cymrwn fod pump mewn teulu, yna 160,000 oedd y boblogaeth.[2] Credir i nifer o drigolion y wlad gostwng o o leiaf 300,000 ym 1300 i o dan 200,000 ym 1400.

Amcangyfrifir i boblogaeth Cymru gynyddu o 360,000 ym 1620 i 500,000 ym 1770.[3]

Casglwyd ystadegau ar ddemograffeg Cymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain gan Gyfrifiad 2001. Roedd hanner o'r 2,903,085 o drigolion y wlad yn byw o fewn 40 km i'r brifddinas Caerdydd.[4]

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Mewnfudo i Gymru

golygu

Cafwyd effaith ar ddemograffeg ethnigrwydd yng Nghymru o ganlyniad i fewnfudo yn yr 20fed ac 21goedd. Heddiw, mae tua 0.25% o boblogaeth Cymru yn ddu a 0.88% yn Dde Asiaidd, a mwy o dras gymysg. Ceir cymunedau sylweddol o fewnfudwyr du ac Asiaidd yn y tair dinas fawr yn Ne Cymru, sef Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Mae cymunedau eraill, hanesyddol a modern, yn cynnwys Ffleminiaid de Penfro, yr Eidalwyr, y Pwyliaid, a'r Tsieineaid.

Yn ôl Cyfrifiad 2001, cafodd 20.32% o boblogaeth Cymru ei eni yn Lloegr, 0.84% yn yr Alban, 0.27% yng Ngogledd Iwerddon, a 0.44% yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Ymfudo o Gymru

golygu

Ceir y Cymry ar wasgar mewn nifer o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys gweddill y Deyrnas Unedig (yn enwedig Lloegr), yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, a'r Ariannin. Bu cymuned Gymreig yn Llundain ers y 18g, a gelwir Cymry Llundain yn "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". Ym 1865 teithiodd tua 160 o Gymry i'r Ariannin gan sefydlu'r Wladfa.

Mudo o fewn Cymru

golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Davies (2006), tud. 51.
  2. Davies (2006), tt. 136–7.
  3. Davies (2006), tud.287
  4. Davies (2006), tud. 647–648.

Ffynonellau

golygu
  • Davies, J. Hanes Cymru (2006).

Dolenni allanol

golygu