Demograffeg Cymru

Yn ôl Cyfrifiad 2011 yr oedd 3,063,456 o bobl yn byw yng Nghymru, sy'n rhoi dwysedd o 147.4/km². Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio; roedd y cyfartaledd oedran yn 2001 yn 36 o'i gymharu â 34 yn 1981.[1]

Demograffeg Cymru
Enghraifft o'r canlynoldemograffeg gwlad neu ranbarth Edit this on Wikidata
Mathdemograffeg y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Crefydd

golygu
 
Capel Curig, Eryri

Gwlad draddodiadol Gristnogol yw Cymru, â thua 70% o'i phoblogaeth yn cydnabod eu hunain fel Cristnogion. Tan 1920 yr Eglwys Anglicanaidd oedd yr eglwys sefydledig yng Nghymru, ond yn y flwyddyn honno datgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr, yn dilyn dros 60 mlynedd o ymgyrchu gan anghydffurfwyr.

Mae Cristnogaeth ar ei huchaf yng Ngogledd ac ardaloedd gwledig Cymru. Mae bron 20% o Gymry yn disgrifio eu hunain yn anghrefyddol, gyda'r lefelau uchaf yn y De. Mae Islam ar dwf yng Nghymru, yn enwedig yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ac mae lleiafrifoedd Bwdhaidd, Hindŵaidd, Iddewig, a Sicaidd yn bodoli, gyda'r mwyafrif o ddilynwyr y crefyddau yma yn byw yn y brifddinas Caerdydd.

Ethnigrwydd

golygu
Grwp ethnig 2001 poblogaeth 2001 canran 2011 poblogaeth 2011 canran
Gwyn: Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig/Prydeinig 2,786,605 96.0 2,855,450 93.2
Gwyn: Gwyddelig 17,689 0.6 14,086 0.5
Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig 2,785 0.1
Gwyn: Gwyn Arall 37,211 1.3 55,932 1.8
Gwyn: Cyfanswm 2,841,505 97.9 2,928,253

95.6

Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Indiaidd 8,261 0.3 17,256 0.6
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd 8,287 0.3 12,229 0.4
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd 5,436 0.2 10,687 0.3
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd 6,267 0.2 13,638 0.4
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Asiaidd Arall 3,464 0.1 16,318 0.5
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Cyfanswm 31,715 1.1 70,128

2.3

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig: Affricanaidd 2,597 0.1 3,809 0.1
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig: Caribïaidd 3,727 0.1 11,887 0.4
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig: Du Arall 745 <0.1 2,580 0.1
Du: Cyfanswm 7,069 0.2 18,276

0.6

Cymysg/grwpiau aml-ethnig: Gwyn a Du Caribïaidd 5,996 0.2 11,099 0.4
Cymysg/grwpiau aml-ethnig: Gwyn a Du Affricanaidd 2,413 0.1 4,424 0.1
Cymysg/grwpiau aml-ethnig: Gwyn ac Asiaidd 5,001 0.2 9,019 0.3
Cymysg/grwpiau aml-ethnig: Cymysg Arall 4,251 0.2 6,979 0.2
Cymysg: Cyfanswm 17,661 0.7 31,521

1.0

Grwp ethnig arall: Arabaidd 9,615 0.3
Grwp ethnig arall: Unrhyw grwp ethnig arall 5,135 0.2 5,663 0.2
Arall: Cyfanswm 5,135 0.2 15,278

0.5

Cyfanswm 2,903,085 100 3,063,456

100

[2]

Nododd dwy ran o dair o breswylwyr Cymru (2.0 miliwn) eu bod yn Gymry yn 2011. O'r rhain, nododd 218,000 ohonyn nhw eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd, nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.[3]

Cymraeg a Saesneg yw ddwy brif iaith Cymru: Cymraeg yw iaith frodorol y wlad, ac fe'i siaradir gan ryw 20% o'r boblogaeth, ond Saesneg yw iaith y mwyafrif o'r boblogaeth ers troad yr 20g. Mae bron 100% o'r rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg yn medru'r Saesneg hefyd. Wenglish yw'r enw a ddefnyddir weithiau i ddisgrifio'r dafodiaith Saesneg a siaredir yng Nghymru.

Hanes demograffig

golygu

Poblogaeth hanesyddol

golygu
Blwyddyn Poblogaeth Cymru  
1536     278,000  
1620     360,000  
1770     500,000  
1801     587,000  
1851  1,163,000 
1911  2,421,000  
1921  2,656,000 
1939  2,487,000 
1961  2,644,023 
1991  2,811,865 
2011  3,063,456 
ffynhonnell: John Davies (1993). Hanes Cymru. tt. 258–59, 319.; Cyfrifiad 2001, 200 Years of the Census in ... Wales (2001)

Rhwng 1801 a 1851 dyblodd y boblogaeth - o 587,000 i 1,163,000 ac erbyn 1911 roedd yn 2,421,000. Y rheswm pennaf dros hyn oedd twf yn Niwydiant glo Cymru yn enwedig yn Sir Forgannwg lle cynyddodd y boblogaeth o 71,000 yn 1801 i 232,000 yn 1851 and 1,122,000 in 1911.[4]

Rhestr o wledydd sofran sydd a phoblogaeth llai na Chymru

golygu

Dyma restr o wledydd sofran a gydnabyddir gan y Cenhedloedd Unedig, sydd a phoblogaeth llai na Chymru:

Gwlad Poblogaeth
Albania 3,020,209
Armenia 2,976,566
Jamaica 2,950,210
Lithwania 2,810,118
Moldofa 2,550,900
Namibia 2,303,315
Qatar 2,168,673
Gweriniaeth Macedonia 2,107,158
Lesotho 2,074,465
Slofenia 2,062,874
Botswana 2,021,144
Latfia 1,953,000
Cosofo 1,883,018
Y Gambia 1,849,285
Gini Bisaw 1,704,255
Gabon 1,671,711
Trinidad a Thobago 1,341,151
Bahrain 1,332,171
Estonia 1,315,635
Mawrisiws 1,258,653
Gwlad Swasi 1,249,514
Dwyrain Timor 1,180,069
Cyprus 114,1166
Ffiji 881,065
Jibwti 872,932
Gaiana 799,613
Gini Gyhydeddol 757,014
Bhutan 753,947
Comoros 734,917
Montenegro 620,029
Gorllewin Sahara 586,000
Ynysoedd Solomon 561,231
Lwcsembwrg 543,360
Swrinam 539,276
Gweriniaeth Arabaidd Democrataidd Sahrawi 502,585
Cabo Verde 498,897
Malta 423,374
Brwnei 417,784
Y Bahamas 377,374
Belîs 366,954
Maldives 345,023
Gwlad yr Iâ 332,529
Barbados 284,644
Fanwatw 252,763
São Tomé a Príncipe 192,993
Samoa 190,372
Sant Lwsia 182,273
Saint Vincent a'r Grenadines 109,373
Grenada 105,897
Tonga 105,323
Micronesia 103,549
Ciribati 102,351
Jersey 100,080
Seychelles 92,000
Antigwa a Barbiwda 89,985
Ynys Manaw 85,888
Andorra 79,218
Dominica 72,003
Ynys y Garn 65,345
Sant Kitts-Nevis 54,191
Ynysoedd Marshall 52,634
Monaco 37,831
Liechtenstein 37,468
San Marino 31,595
Ynysoedd Cook 21,000
Palaw 20,918
Nawrw 10,084
Twfalw 9,876
Niue 1,612
Y Fatican 1,000

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu