Hanes gwydr
Câi gwydr ei wneud o waith llaw ers dyddiau'r henfyd, at ddibenion ymarferol ac addurnol.
Yr Hen Aifft
golyguNid ydys yn sicr pa bryd y darganfyddwyd y gelfyddyd о wneuthur gwydr. Gleiniau gwydr o'r hen Aifft yw'r gwrthrychau gwydr o waith llaw cynharaf yr ydym yn ymwybydol ohonynt, a'r rheiny yn dyddio o'r cyfnod 2500 CC. Yn ddiweddarach yn y gwareiddiad Eifftaidd, gwnaed llestri gwydr a chanddynt batrymau igam-ogam o edeifion lliw. Darlunid y modd yr oeddynt yn chwythu y gwydr mewn paentiadau o'r cyfnod. Мог gywrain ydoedd yr Eifftiaid yn y gelfyddyd o wneuthur gwydr, fel y llwyddasant i'w werthu yn fynych yn lle yr amethyst, a meini gwerthfawr eraill. Defnyddid ef weithiau gan yr Eifftiaid hyd yn oed i wneuthur eirch. Yr oeddynt yn ei ddefnyddio, nid yn unig i wneud diodlestri ac addurniadau i'r corff, ond hefyd i wneud brithwaith, ffugr-dduwiau, ac arwyddluniau cysegredig, o'r crefftwaith mwyaf cywrain a destlus, a'u lliwiau yn hynod о ddisglair.
Ymddengys fod gwydr hefyd yn beth adnabyddus i'r Iddewon hynafol. Credir fod y gair Hebraeg am grisial yn Job xxviii. 17, yn golygu gwydr.
Y Groegiaid a'r Rhufeiniaid
golyguSonir am grefft y gwydrwr gan sawl awdur yr henfyd, gan gynnwys Plinius yr Hynaf, Strabo, a Josephus. Dywed Plinius yr Hynaf, roedd yn anwybodus o grefft yr Eifftiaid, ei bod wedi cael ei darganfod trwy ddamwain. Rhyw fasnachwyr, meddai, a gynneuasant dân ar y parth hwnnw о lannau Ffenicia sydd yn gorwedd yn agos i Ptolemais, rhwng troed mynydd Carmel a Tyrus, yn y fan lle mae Afon Belus yn bwrw y tywod mân a ddwg i lawr gyda hi yn ei llwybr o'r mynydd. Gan nad oeddynt yn meddu y taclau angenrheidiol i grogi eu llestri coginiol uwch ben y tân, hwy a ddefnyddiasant natron i wneud y diffyg i fyny. Roedd gwres y tân yn toddi y natron, yr hwn a ddisgynai yn ddiferion ar y tywod. Yn y man, cynhyrchwyd ffrwd dryloyw brydferth iawn. Hyn, meddir, a roddodd y syniad cyntaf i ddyn am wneuthuriad gwydr. Darfu i drigolion yr ardal, yn ninas Sidon (yr hon sydd heddiw yn rhan o Libanus), wneud defnydd o'r darganfyddiad, ac wedi iddynt mewn amser berffeithio y gelfyddyd, ennillasant iddynt eu hunain gyfoeth ас enwogrwydd mawr. Fe ddyfeisiwyd hyd yn oed ddrychau gwydr gan у Sidoniaid.
Datblygwyd technegau gwydr modern yn Alecsandria yn ystod yr oes Ptolemaidd. Perffeithiwyd y dechneg o wneud gwydr brith drwy dorri gwiail o wahanol liwiau ar letgroes i gynhyrchu patrymau addurnol. Cafodd wydr hefyd ei wasgu i fowld er mwyn ei siapio.
Mae'n debyg taw y Syriaid oedd y cyntaf i chwythu gwydr, a hynny yn ystod y 1g CC. Trwy'r dechneg hon, gellir chwythu gwydr i mewn i fowld neu ei siapio'n hollol rhydd ei ffurf.
Daeth у Rhufeiniaid, yn enwedig, i ddeall yn dda у gelfyddyd о chwythu, toddi, a lliwio gwydr. Perffeithiwyd gwydr cameo gan y Rhufeiniaid, sef trwy dorri i ffwrdd haen o wydr a chreu dyluniad mewn cerfwedd.
Yn y Testament Newydd, cyfeirir at wydr fel arwyddlun о burdeb a gloywder i Gristnogion: Datguddiad Ioan iv. 6; xv. 2; xxi. 18.
Yr Oesoedd Canol
golyguMae cryn amser ers pan y defnyddir gwydr i'w osod mewn ffenestri yn Ewrop. Yn y flwyddyn 674, daeth celfyddydwyr o wledydd tramor i wydro ffenestri Eglwys Weremouth, yn Durham.
Ymledodd technegau gwneud gwydr ar draws Ewrop. Yn Fenis yn y 15g bu'r datblygiadau mawr nesaf yn hanes gwydr. Ers y 13g, ynys Murano oedd canolfan gwneud gwydr yn Ewrop, a'r crefftwyr Fenisaidd yn arfer technegau traddodiadol i gynhyrchu darnau addurnol a lliwgar yn ystod y Dadeni.
Yn ddiweddarach, datblygasant cristallo, gwydr claear sydd yn debyg i grisial. Cafodd gweithiau gwydr o'r fath hon eu hallforio o Fenis ar draws Ewrop. Roedd y dechneg o addurno cristallo gan engrafwyr tringar yn boblogaidd o'r 16g hyd y 18g. Gwnaed hyn gan engrafwyr gyda blaen diemwnt yn enwedig yn yr Iseldiroedd a'r Almaen.
Yr 17g a'r 18g
golyguO ddiwedd yr 17g hyd ddechrau'r 20g, Bohemia yng nghanolbarth Ewrop oedd un o brif ganolfannau gwneud gwydr. Lledodd y traddodiad Fenisaidd i Loegr erbyn yr 17g, a noder gwydr Seisnig am ei symledd. Tua'r flwyddyn 1675, darganfyddodd George Ravenscroft bod ychwanegu plwm ocsid at wydr Fenisaidd yn creu gwydr solet a thrymach, a elwir crisial plwm. Daeth crisial plwm yn boblogaidd i wneud llestri bwrdd hardd.
Yng nghanol y 18g yn Lloegr, daeth enamlo yn ffasiynol, ac o ganlyniad datblygwyd gwydr Bryste. Datblygwyd gwydr nadd yn Lloegr ac Iwerddon, a chafodd holl arwyneb y gwydr ei dorri i adlewyrchu golau. Mae'r fath wydr plwm nadd, megis crisial Waterford, yn boblogaidd hyd heddiw.
Y 19g
golyguYn y 19g, cafodd bum math o wydrau eu gwneud yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, ac adnabyddir hwy wrth yr enwau canlynol: gwydr ffenestri, gwydr plât, gwydr fflint, gwydr llydan, a gwydr potel. Roedd eu defnyddiau yn gwahaniaethu, ond roeddent i gyd yn cynnwys tywod, ac amrywiol fathau о gyfferïau. Toddir y defnyddiau ynghyd mewn ffwrneisi, am ddeugain o oriau, ac yna tywelltir ef i'r ffurf a ddewisir. Bydd wedi hynny yn mynd о dan lawer o driniaethau yn ôl fel y bydd i ateb gwahanol ddibenion. Roedd y prif weithfeydd gwydr yn Newcastle-upon-Tyne, Shields, Stourbridge, Lerpwl, Ravenhead, Bryste, Warrington, Birmingham, Leeds, Llundain, Glasgow, Leith, Dulyn, Corc, a Belffast.
Yr 20g
golyguDylanwadwyd ar dechnegau gwneud gwydr gan fudiadau celf a ffasiynau dylunio mewnol yr 20g. Yn ystod cyfnod Art Nouveau, dyfeisiwyd gwydr Favrile gan Louis Comfort Tiffany. Bu'r Ffrancod Émile Gallé, René Lalique, a Daum Frères hefyd yn bwysig. Yn yr Unol Daleithiau, cynhyrchwyd gwrthrychau gwydr claear gyda dyluniadau endoredig gan y Steuben Glass Company yn Efrog Newydd.