Het fwced
Mae'r het fwced, yn aml hef ei dreiglog, het bwced[1] neu het sgwâr (y mae amrywiadau ohoni'n cynnwys fisherman's hat, Irish country hat a session hat) yn het ag ymyl cul, ar i lawr. Ers canol 2010au a phoblogrwydd diwylliant cefnogi tîm pêl-droed Cymru fe'i handabyddir ar lafar yn y Gymraeg fel het ffans Cymru. Yn nodweddiadol, mae'r het wedi'i gwneud o ffabrig cotwm trwm fel denim neu gynfas, neu wlân trwm fel tweed, weithiau gyda llygadenni metel wedi'u gosod ar goron yr het ar gyfer awyru.
Math | het |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i mabwysiadwyd gyntaf fel eitem ffasiwn uchel yn y 1960au, a chyda diwygiadau dilynol yn ffasiwn y stryd ac ar y catwalk. Mae'n gêr gŵyl poblogaidd heddiw, a elwir hefyd yn “het sesiwn” ac mae'n cael ei ffafrio gan gefnogwyr bandiau fel Sticky Fingers, The Stone Roses, Oasis, Yung Lean, a The Courteeners.
Gwreiddiau
golyguCeir dau ran i esbygiad yr het; y rhan gyntaf lle crëwyd y siâp a hynny mewn defnydd trwm, a'r ail ran, o'r 1960au ymlaen, lle cadwyd y siâp ond addaswyd y defnydd ac estynnwyd ei defnydd a'i bri o fewn cylchoedd newydd llai traddodiadol.
Dywedir i'r het fwced neu'r het bysgota gael ei chyflwyno tua 1900.[2] Wedi'u gwneud yn wreiddiol o ffelt gwlân neu frethyn tweed, roedd yr hetiau hyn yn cael eu gwisgo'n draddodiadol gan ffermwyr a physgotwyr Gwyddelig i'w hamddiffyn rhag y glaw, oherwydd roedd y lanolin o'r gwlân heb ei olchi (amrwd) yn gwneud yr hetiau hyn yn naturiol yn gwrthsefyll dŵr.[3] O'r blynyddoedd rhwng y ddau ryfel ymlaen, mabwysiadwyd y "hetiau cerdded Gwyddelig" hyn yn gyflym yn rhyngwladol ar gyfer gweithgareddau gwlad oherwydd, o'u plygu, gallent ffitio y tu mewn i boced cot. Pe bai'r het yn disgyn yn y mwd, byddai'n hawdd ei glanhau â sbwng llaith, a gellid ei hail-lunio gan ddefnyddio stêm o'r tegell.[3] Yn y 1960au, roedd yn cael ei wisgo'n aml gan aelodau o isddiwylliant y Mods.[2]
Mae'r het fwced fodern yn deillio o het drofannol wedi'i gwneud o gotwm salw olewydd a roddwyd i Fyddin yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Fietnam. Daeth yr hetiau ysgafn hyn yn boblogaidd ymhlith sifiliaid i'w defnyddio mewn chwaraeon fel pysgota, ac fel amddiffyniad rhag yr haul.[4]
Affeithiwr ffasiwn
golyguYn y 1960au, addaswyd yr het fwced fel eitem ffasiwn merched, yn gyffredin â steil y pillbox, bakerboy, a cloche, gan siwtio'r ffasiwn ar gyfer mwy o wallt bouffant.[5] Creodd melinwyr fel Lilly Daché ddyluniadau mewn ffelt neu ffabrigau llymach eraill i ddal yr edrychiad "mod".[6] Arhosodd het gerdded Gwyddelig y tweed hŷn yn boblogaidd ymhlith dynion proffesiynol tan y 1970au,[7] ac fe'i gwisgwyd yn nodedig gan gymeriad Sean Connery yn Indiana Jones and the Last Crusade.
Daeth yr het yn boblogaidd gyda rapwyr yn yr 1980au ac arhosodd yn rhan o ffasiwn stryd i'r 1990au. Yn fwy diweddar, mae wedi ail-ymddangos fel eitem ffasiwn ffasiwn ar ôl cael ei chwaraeon gan enwogion fel Rihanna.[8]
Eicon Gymreig
golyguErs yr 2010au daeth yn boblogaidd iawn ymysg selogion y Wal Goch sef ffans tîm pêl-droed Cymru yn enwedig yn ystod Pencampwriaeth UEFA Euro 2016 yn Ffrainc lle gwisgodd filoedd o gefnogwyr cynllun o'r het a werthwyr gan siop nwyddau pêl-droed Spirit of 58 yn y Bala a sefydlwyd yn 2010.[9][10] Roedd yr het yn lliwiau coch, melyn a gwyrdd (lliwiau traddodiadol cit pêl-droed Cymru) gyda arwyddlun Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar ei blaen. Cymaint bu safle eiconig yr het fel y cyhoeddwyd bydd delweddau anferth 10 troedfedd wrth ddeg troedfedd o'r het yn cael ei harddangos a'u goleuo mewn sgwariau ar draws dinasoedd Cymru - Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Bangor ac Aberystwyth - yn ystod Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 i ddathlu bod Cymru'n chwarae ynddi.[11][12]
Ers hynny cafwyd sawl amrywiaeth ar y cynllun gwreiddiol ac fe'i mabwysiadwyd fel eicon ar gyfer cefnogwyr y tîm a'r wlad ei hun. Mabwysiadwyd yr het fwced hefyd gan fudiadau Cymreig eraill, fel YesCymru wrth iddynt hwythau gynhyrchu ei hetiau bwced ei hunain. Yn ogystal â hetiau sgwâr gyda lliwiau neu arfbais Cymdeithas Bêl-droed Cymru ceir rhai sy'n adleisio elfenau eraill o ddiwylliant poblgaidd a gwladgarol Cymru fel slogan cân enwog Yma o Hyd gan Dafydd Iwan.[13][14]
Yn ystod twrnamaint Pencampwriaeth UEFA Euro 2021 (a gynhaliwyd yn 2021) rhanwyd llun o Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gwisgo het fwced wrth iddo wylio Cymru'n chwarae ar y teledu.[15]
Gwerth Arian
golyguCymaint bu poblogrwydd yr hetiau bwced fel adroddodd Newyddion S4C fod pobl yn barod i dalu £200 amdanynt. Mewn cyfweliad, dywedodd ffan o Gymru ac aelod o'r Wal Goch, Mabon Dafydd ei bod pobl yn talu arian mawr am yr hetiau gwreiddiol gan Spirit of 58 ar wefannau fel eBay.[16]
Tebygrwydd - Het Israeli
golyguMae dyluniad yr het fwced yn debyg i het eiconig arall, y tembel neu kova tembel ("het ffŵl/twpsyn"). Roedd yn het Dwrcaidd yn wreiddiol, a dechreuodd yr het tembel gael ei chynhyrchu ym Mhalestina y Mandad Brydeinig o ganol y 1930au ymlaen gan ATA (‘Tecstiliau Cynhyrwyd ar ein Tir'; Arigim Totzeret Artzeinu yn Hebraeg). Fe'i gwisgwyd gan weithwyr caib a rhaw ac amaethwyr hyd at yr 1980au gan ddod yn symbol o'r wladwriaeth Iraeli a'r Iddewon cynhenid, Sabra Seinonistaidd. Fei'i boblogeiddiwyd neu anfarwolwyd hefyd gan gymeriad cartŵn mewn papurau Israeli, Srulik. Mae'r gair "tembel" yn Twrceg yn golygu "diogyn", tra bod tambal neu tambel yn Arabeg yn golygu "ffŵl" neu "twpsyn".[17]
Oriel
golyguI gyd-fynd ac i ddathlu Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Qatar lleolodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru modelau anferth o hetiau bwced eiconig y Wal Goch ar hyd Cymru.
-
Catherine ac Alan Jobbins ger het fwced eiconig tîm Cymru, Sgwâr y Castell, Abertawe, adeg Cwpan y Byd 2022
-
Het fwced Cymru, Llȳs-y-Brenin, Aberystwyth, 2022
-
Het fwced yn Aberystwyth liw nos
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Het Bwced". Gwefan Siop Na-Nog. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-30. Cyrchwyd 30 Medi 2022.
- ↑ 2.0 2.1 Stalder, Erika (2008). Fashion 101: A Crash Course in Clothing. San Francisco, CA: Orange Avenue Publishing. t. 55. ISBN 978-0979017346. Cyrchwyd 3 January 2015.
- ↑ 3.0 3.1 "Irish Cultural Society of San Antonio". www.irishculturalsociety.com.
- ↑ "Hat Shapers Hat Dictionary". Hat Shapers. Cyrchwyd 3 January 2015.
- ↑ "{Hat Week} A Brief History of 20th Century Hats (part 2)". Tuppence Ha'penny Vintage. Tuppence Ha'penny. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ionawr 2015. Cyrchwyd 3 Ionawr 2015.
- ↑ Marcus, Jonathan D. (8 March 2013). "Fashionable Display at Boca Museum". Sun-Sentinel. Broward County, Florida. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-03. Cyrchwyd 3 January 2015.
- ↑ "Kiplinger's Personal Finance". Kiplinger Washington Editors, Inc. 21 December 1977 – drwy Google Books.
- ↑ Cartner-Morley, Jess; Elan, Priya (15 July 2014). "Bucket hats: what's the appeal". The Guardian. London. Cyrchwyd 3 January 2015.
- ↑ "Beth sydd ar ben rhywun sy'n talu £200 am het fwced Cymru?". Newyddion S4C. 11 Mehefin 2022.
- ↑ "Daniel Gabbidon and Ashley Williams don Spirit of 58 bucket hats". North Wales Pioneer. 6 Mehefin 2022.
- ↑ {{|url=https://newyddion.s4c.cymru/article/10189 |Cerfluniau o hetiau bwced i gael eu harddangos mewn trefi ar gyfer Cwpan y Byd |publisher=Newyddion S4C |date=28 Medi 2022}}
- ↑ "Giant bucket hat structures to light up Welsh cities and towns during World Cup Cardiff, Swansea, Aberystwyth, Bangor and Wrexham will see huge installations erected". Wales Online. 30 Medi 2022.
- ↑ "Spirit of 58 Hats". Gwefan Spirit of 58. 30 Medi 2022.
- ↑ "Het Bwced Yma o Hyd". Cadwyn Cyf. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-30. Cyrchwyd 30 Medi 2022.
- ↑ "Het fwced y Prif Weinidog yn tanio trafodaeth! Ar ddechrau gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Twrci, mi rannodd Mark Drakeford lun o'i hun yn cefnogi ei genedl". Golwg360. 30 Mehefin 2021.
- ↑ "Beth sydd ar ben rhywun sy'n talu £200 am het fwced Cymru?". Newyddion S4C. 11 Mehefin 2022.
- ↑ "The Israeli 'bucket hat' – The 'tembel' hat – 'Kova tembel', or 'Fool's hat'". Israeli Postage Stamps. 1 Ionawr 2019.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan siop Spirit of 58, llenaenwr yr het fwced Gymreig
- Grŵp Tinty & The Bucket Hats yn perfformio cyn gêm Cymru, 2022