Ida Laura Pfeiffer
Awdures o Awstria oedd Ida Laura Pfeiffer (14 Hydref 1797 - 27 Hydref 1858) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel naturiaethydd, awdur a fforiwr.
Ida Laura Pfeiffer | |
---|---|
Ganwyd | Ida Reyer 14 Hydref 1797 Fienna |
Bu farw | 27 Hydref 1858 Fienna |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Galwedigaeth | fforiwr, llenor, naturiaethydd, golygydd, teithiwr, awdur teithlyfrau, ethnograffydd |
Priod | Mark Anton Pfeiffer |
Plant | Óscar Pfeiffer, Alfred Pfeiffer, Bertha Pfeiffer |
llofnod | |
Bywyd
golyguGaned Ida Laura Pfeiffer (Reyer gynt) yn Fienna, i deulu cyfoethog a wnaeth eu harian yn y diwydiant tecstiliau. Roedd ymysg y teithwyr benywaidd cyntaf a gynhyrchodd lyfrau taith gafodd eu cyfieithu i saith o ieithoedd gwahanol. Teithiodd yn bennaf drwy dde–ddwyrain Asia, Yr Amerig, y Dwyrain Canol ac Affrica yn cynnwys dwy daith o amgylch y byd o 1846 hyd 1855. Roedd yn aelod o gymdeithasau daearyddol yn Berlin a Paris ond ni chaniatawyd iddi ymaelodi gyda'r Royal Geographical Society yn Llundain gan fod hyn cyn i ferched dderbyn yr hawl i bleidleisio. Pan oedd yn blentyn roedd yn well ganddi wisgo dillad bechgyn ac roedd yn hoff iawn o chwaraeon ac ymarfer corff ac o fod yn yr awyr agored. Cafodd ryddid i wneud fel y mynnai tra oedd ei thad yn fyw, ond wedi ei farwolaeth yn 1806, mynnodd ei mam ei bod yn gwisgo ffrogiau ac yn mynd ati i ddysgu chwarae’r piano.
Ar 1 Mai 1820 priododd Dr Mark Anton Pfeiffer, cyfreithiwr yn Lemberg (bellach, Liv, Wcrain) ac roedd 24 mlynedd yn hŷn na hi, ac yn ŵr gweddw â chanddo fab wedi tyfu i fyny. Cafodd ei gŵr ei ddiarddel o’i waith yn dilyn ymchwiliad a bu hi’n cynnal y teulu yn ariannol tra oeddent yn byw yn Lemberg gan roi gwersi arlunio a gwersi cerdd. Ganed dau fab iddynt. Derbyniodd Ida Pfeiffer swm o arian yn dilyn marwolaeth ei mam a sicrhaodd bod ei meibion yn gallu parhau gyda’u haddysg. Arhosodd gyda’r bechgyn yn Fienna yn 1833 tra parhaodd Dr Pfeiffer i fyw yn Lemberg. Tra oedd i ffwrdd ar un o’i theithiau, yn Madagascar yn 1857 cafodd Ida ei tharo’n wael gydag afiechyd tebyg i malaria, ac ni chafodd adferiad llwyr o’r salwch hwn. Bu farw yn Fienna yn 1858, yng nghartref ei brawd, Carl Reyer.[1]
Gyrfa
golyguDerbyniodd Laura Pfeiffer yr un addysg â’i brodyr, a hynny gydag anogaeth gan ei thad. Cafodd ei chyflwyno i fforwyr cyfoes gan ei thiwtor, Franz Josef Trimmel, a dangosodd ddiddordeb arbennig yn Robinson Crusoe ac ysgrifeniadau Alexander von Humboldt. Wedi i’w meibion dyfu i fyny a sicrhau swyddi sefydlog, dechreuodd deithio i wledydd tramor gan wireddu ei breuddwyd ers yn blentyn. Cofnodwyd hanes ei thaith gyntaf o amgylch y byd rhwng 1846 ac 1848 (gan ymweld a Brasil, Chile a gwledydd megis De America, Tahiti, Teieina, India a Phersia) yn Eine Frauenfahrt um die Welt (""Taith Menyw o Amgylch y Byd,"" 3 cyfrol., Fienna, 1850). Yn dilyn hyn aeth ar deithiau i Sgandinafia a Gwlad yr Iâ ac unwaith eto ysgrifennodd ei hanesion mewn cyhoeddiadau. Byddai’n casglu planhigion, pryfaid, anifeiliaid y môr a mineralau ar ei theithiau dramor. Er mwyn ariannu ei hail daith o amgylch y byd (1851-1855) gwerthodd sbesimenau i Amgueddfa Frenhinol Fienna; cyhoeddodd ei chanfyddiadau yn Meine zweite Weltreise (“My second trip around the world”), Fienna 1856). Tra oedd yn Madagascar cyfarfu â’r peiriannydd sifil Ffrengig Joseph-Francois Lambert a oedd hefyd yn ymhel â’r fasnach caethwasiaeth; yn ddiarwybod i Pfeiffer roedd Lambert wedi ymuno â chynllwyn i geisio cael gwared ar Ranavalona I, brenhines Madagascar gyda’r tywysog Rakoto (y brenin Radama II yn ddiweddarach) ac oherwydd ei hymwneud hi ag ef cafodd ei diarddel o’r wlad ym mis Gorffennaf 1857 wedi i’r frenhines ddod i wybod am y coup d'état arfaethedig. Yn dilyn ei marwolaeth, fe wnaeth cymdeithas Addysg Bellach i Ferched Fienna drosglwyddo gweddillion Ida Pfeiffer i safle anrhydeddus ym Mynwent Ganolog Fienna. Enwyd stryd yn Munich ar ei hôl - Ida-Pfeiffer-Straße - yn 2000 ac yn 2018 sefydlwyd Cadair Athro ym Mhrifysgol Fienna yng Nghyfardran Gwyddorau Daear, Daearyddiaeth a Seryddiaeth.[2][3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Pfeiffer, Ida (1861). The Last Travels of Ida Pfeiffer, inclusive a visit to Madagaskar. London: Routledge, Warne and Routledge. t. x.
- ↑ Pfeiffer, Ida (1852). Visit to Iceland and the Scandinavian North. London: Ingram. Cyrchwyd 9 October 2019.
- ↑ Pfeiffer, Ida (1850). Eine Frau fährt um die Welt: Reise von Wien nach Brasilien, Chili, Otahaiti, China, Ost-Indien, Persien und Kleinasien. Gerold. Cyrchwyd 9 October 2019.