John Gwenogfryn Evans

gweinidog Undodaidd, golygydd testunau Cymraeg cynnar ac arolygydd llawysgrifau Cymraeg
(Ailgyfeiriad o J. Gwenogvryn Evans)

Paleograffydd a golygwr hen lawysgrifau Cymreig oedd John Gwenogvryn Evans (20 Mawrth 185225 Mawrth 1930).

John Gwenogfryn Evans
Ganwyd20 Mawrth 1852 Edit this on Wikidata
Llanybydder Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
Llanbedrog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, gweinidog yr Efengyl, paleograffydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlyfrgell Genedlaethol Cymru, William Thomas Edit this on Wikidata
PlantEmrys Hunter Evans Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin. Un o'i athrawon oedd William Thomas (Gwilym Marles). Astudiodd ddiwinyddiaeh a daeth yn weinidog i'r Undodiaid ond oherwydd afiechyd rhoddodd y gorau i'r weinidogaeth ym 1880. Roedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn hen lawysgrifau Cymreig, gan sefydlu ei wasg ei hun ym Mhwllheli er mwyn eu cyhoeddi.

Roedd yn gyfaill ac yn wrandawr ar ddarlithoedd Syr John Rhys tra'n byw yn Rhydychen, rhwng 1880 a 1900, a ganddo fo gafodd ei gariad at hen lawysgrifau.

Bu John Gwenogfryn Evans yn ymgyrchu dros gael llyfrgell ddiogel i Gymru. Roedd llyfrau gwerthfawr mewn perygl o gael eu difa gan dân, lleithder a phryfed. Roedd cysylltiad Gwenogvryn Evans â Syr John Williams yn bwysig yn hanes sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru [1]

Sillafiad "cywir" ei enw, sef y fersiwn a ddefnyddid ganddo fo ei hun, oedd "Gwenogvryn". Gwenogfryn oedd enw a fabwysiadwyd ganddo oherwydd dyna enw ei gartref pan yn fachgen.[2]

Ffynonellau golygu

  1. yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 158/9
  2. E.D. Jones yn Y Bywgraffiadur ar-lein

Llyfryddiaeth golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.