Tîm pêl-droed cenedlaethol Liechtenstein

Y tîm sydd yn cynrychioli Liechtenstein yn y byd pêl-droed yw tîm pêl-droed cenedlaethol Liechtenstein (Almaeneg: Liechtensteinische Fussballnationalmannschaf) ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein (LFV), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFV yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop, (UEFA). Cynhaliwyd gêm gyntaf y tîm n 1981; gêm answyddogol yn erbyn tîm genedlaethol Malta yn Seoul, a'r sgôr oedd 1-1. Daeth eu gêm swyddogol gyntaf yn 1983 yn erbyn y Swistir, gyda Liechtenstein yn colli 0-1. Enilliad fwyaf Liechtenstein oedd 4-0 yn erbyn tîm bêl-droed genedlaethol Lwcsembwrg ar 13 Hydref 2004, mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan FIFA y Byd. Dyma oedd buddugoliaeth oddi cartref gyntaf erioed a'r fuddugoliaeth gyntaf mewn unrhyw gêm rhagbrofol i Gwpan y Byd. Y sgôr waethaf i Liechtenstein ddioddef oedd colli 11-1 yn erbyn tîm bêl-droed genedlaethol Macedonia yn 1996 mewn gêm ragbrofol i Gwpan y Byd 1998. Dyma hefyd oedd buddugoliaeth orau Macedonia.

Liechtenstein
Shirt badge/Association crest
Llysenw(au) Y Glas-Coch (Blau-Rot)
Conffederasiwn UEFA (Europe)
Hyfforddwr Rene Pauritsch
Capten Peter Jehle
Mwyaf o Gapiau Peter Jehle (126)
Prif sgoriwr Mario Frick (16)
Cod FIFA LIE
Safle FIFA 186 increase 3 (1 Mehefin 2017)
Safle FIFA uchaf 118 (Ionawr 2008, Gorffennaf 2011, Medi 2011)
Safle FIFA isaf 189 (Tachwedd–Rhagfyr 2016, Ebrill–Mai 2017)
Safle Elo 172 (28 Mai 2017)
Safle Elo uchaf 150 (Medi 2011)
Safle Elo isaf 184 (Medi 2004)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
 Liechtenstein 0–1 Switzerland "B" 
(Balzers, Liechtenstein; 9 Mawrth 1982)[1]
Y fuddugoliaeth fwyaf
 Lwcsembwrg 0–4 Liechtenstein 
(Luxembourg, Luxembourg; 13 Hydref 2004)
Colled fwyaf
 Liechtenstein 1–11 Macedonia 
(Eschen, Liechtenstein; 9 Tachwedd 1996)

Mae rhai o chwaraewyr y tîm cenedlaethol yn dal i chwarae i unig dîm broffesiynol y wlad, FC Vaduz, ond bydd eraill yn chwarae y tu allan i'r Dywysogaeth.

Nid yw Liechtenstein erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.

Hanes golygu

Mae Liechtenstein yn newydd-ddyfodiaid i bêl-droed ryngwladol a heb gystadlu ar gyfer unrhyw gystadleuaeth ryngwladol nes gemau rhagbrofol at Euro 1996 UEFA. Llwyddasant i synnu pawb wrth ddal tîm Gweriniaeth Iwerddon i gêm gyfartal ddisgor, 0-0 ar 3 Mehefin 1995. Ar 14 Hydref 1998 fe guron nhw Azerbaijan, 2-1 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Euro 2000 UEFA.

Ers hynny, mae presenoldeb rhia chwaraewyr ar y safon uwch medis Mario Frick wedi gweld datblygiad yn y tîm cenedlaethol. Mae tîm y brifddinas, FC Vaduz, hefyd yn chwarae yn uwchgynghrair y Swistir sy'n hwb i'r tîm cenedlaethol. Maent wedi curo Lwcsembwrg ddwy waith a chael gemau cyfartal yn erbyn Slofacia a Phortiwgal yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2006 UEFA gan orffen yr ymgyrch ar 8 pwynt.

Record Liechtenstein yn erbyn pob Gwlad golygu

Record Cwpan y Byd golygu

Blwyddyn Rownd Safle E GG C GS GE
1930 to 1994 Heb Gystadlu - - - - - -
  1998 Heb fynd drwyddo 6ed, olaf (qualifying) 0 0 10 3 52
    2002 Heb fynd drwyddo 5ed, olaf (qualifying) 0 0 8 0 23
  2006 Heb fynd drwyddo 6ed o 7 (qualifying) 2 2 8 13 23
  2010 Heb fynd drwyddo 6ed, olaf (qualifying) 0 2 8 2 23
  2014 Heb fynd drwyddo 6ed, olaf (qualifying) 0 2 8 4 25
  2018 Heb fynd drwyddo 6ed, olaf (qualifying) 0 0 6 1 24
Cyfanswm 0/21 2 6 48 23 170

Record Pencampwriaeth Ewrop golygu

Blwyddyn Rownd Safle E GG C GS GE
1960 to 1992 Heb gystadlu - - - - - -
  1996 Heb fynd drwyddo 6ed, olaf (qualifying) 0 1 9 1 40
   2000 Heb fynd drwyddo 6ed, olaf (qualifying) 1 1 8 2 39
  2004 Heb fynd drwyddo 5th, olaf (qualifying) 0 1 7 2 22
   2008 Heb fynd drwyddo 7fed, olaf (qualifying) 2 1 9 9 32
   2012 Heb fynd drwyddo 5ed, olaf (qualifying) 1 1 6 3 17
  2016 Heb fynd drwyddo 5ed o 6 (qualifying) 1 2 7 2 26
Cyfanswm 0/15 5 7 46 19 176

Mewn llenyddiaeth golygu

Yn sgil aflwyddiant cyson y tîm, penderfynodd yr llenor Saesneg, Charlie Connelly, ddilyn ymgyrch cystdlu yng Nghwpan y Byd 2002. Cyhoeddwyd ei brofiadau yn ei lyfr Stamping Grounds: Liechtenstein's Quest for the World Cup. Collodd Liechtenstein pob un gêm heb sgorio'r un gôl.

Dolenni allanol golygu

  1. Garin, Erik. "Liechtenstein – International Results". RSSSF. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2010.