Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Y Proll (bl. diwedd y 14g a dechrau'r 15fed). Ceir ansicrwydd ynglŷn ag ystyr a ffurf ei enw barddol anghyffredin. Cyfeirir mewn rhai ffynonellau yn y llawysgrifau at fardd o'r enw 'Y Prol', ond ymddengys mai bardd arall oedd hwnnw. Mae tarddiad ac ystyr y gair 'proll' yn ddirgelwch.[1]

Y Proll
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ychydig a wyddom am y bardd ac rydym yn dibynnu yn bennaf ar dystiolaeth ei gerdd i Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan am ein gwybodaeth. Dyma'r unig gerdd gan y bardd sydd wedi goroesi. Cedwir y gerdd mewn rhan o Lyfr Coch Hergest yr ychwanegywd ato tua'r flwyddyn 1400 pan fu ym meddiant Hopcyn. Rhaid felly ei fod yn ei flodau cyn hynny.[1]

Mae cerdd Y Proll yn un o bum awdl foliant i Hopcyn ap Tomas sydd wedi goroesi; ceir awdlau eraill iddo gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen, Dafydd y Coed, Meurig ab Iorwerth, a Ieuan Llwyd ab y Gargam.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). ISBN 0-947531-71-8

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002).