Meir Amit
Milwr a gwleidydd o Israel oedd Meir Amit (17 Mawrth 1921 – 17 Gorffennaf 2009) a wasanaethodd yn Gyfarwyddwr Mossad o 1963 i 1968, yn aelod o'r Knesset o 1977 i 1981, ac yn Weinidog Cludiant a Gweinidog Cyfathrebu Israel o 1977 i 1978.
Meir Amit | |
---|---|
Meir Amit ym 1957. | |
Ganwyd | 17 Mawrth 1921 Tiberias |
Bu farw | 17 Gorffennaf 2009 Tel Aviv |
Dinasyddiaeth | Israel |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, entrepreneur, swyddog milwrol |
Swydd | Minister of Communications, Aelod o'r Knesset, Head of Military Intelligence of Israel |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Democratic Movement for Change, Shinui, Alignment |
Gwobr/au | Gwobr Israel, Yakir Ramat Gan |
Bywyd cynnar (1921–48)
golyguGaned Meir Slutzky yn ninas Tiberias, ar lannau Môr Galilea, ar 17 Mawrth 1921, pan oedd Palesteina yn fandad Prydeinig. Astudiodd yn yr ysgol amaethyddol yng nghibwts Givat HaShlosha ac yn ysgol uwchradd Balfour Reali yn Tel Aviv.[1]
Ymunodd â Haganah, prif filisia'r mudiad Seionaidd, yn 15 oed. Enillodd enw fel arweinydd milwrol a thactegydd craff yn ystod ei ieuenctid, wrth amddiffyn gwladfeydd Iddewig yn erbyn cyrchoedd gan yr Arabiaid. Gwasanaethodd yn noter, un o'r plismyn cynorthwyol Iddewig a recriwtiwyd gan y Prydeinwyr yn ystod gwrthryfel yr Arabiaid ym 1936–39.[1]
Yn y cyfnod hwn, cymerodd Meir y cyfenw Hebraeg Amit.[1] Priododd Meir Amit ag Yona Kelman ym 1941, a chawsant dair merch.[2]
Gyrfa filwrol (1948–63)
golyguWedi i Israel ddatgan ei hannibyniaeth ym 1948, goresgynnwyd y wlad gan luoedd y Cynghrair Arabaidd. Yn ystod Rhyfel yr Arabiaid a'r Israeliaid, arweiniodd Amit gwmni o Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn erbyn byddinoedd Irac, Syria, a'r Aifft. Cafodd ei anafu'n ddifrifol yn ystod yr ymladd yn Jenin ym Mehefin 1948, wrth iddo arwain cyrch ar un o amddiffynfeydd y gelyn. Er gwaethaf yr anaf iddo, dychwelodd i faes y gad ym Mawrth 1949 i arwain un o'r bataliynau a gipiodd Umm al-Rashrāsh (bellach Eilat) yn Ymgyrch Uvda.
Wedi buddugoliaeth Israel yn ei rhyfel annibyniaeth, dyrchafwyd Meir Amit yn ben ar Frigâd Golani ym 1950.[2][1] Ym Mai 1951, gorchmynnwyd i Amit fwrw lluoedd Syriaidd allan o Tel Mutilla, ar gyrion Ucheldiroedd Golan, a oedd i fod yn dir dadfilwroledig rhwng y ddwy wlad. Fe arweiniodd Frigâd Golani wrth ymosod ar y Syriaid am bedwar diwrnod yn olynol. Er gwaethaf enciliad lluoedd Syria o'r ardal, bu farw 40 o filwyr Israelaidd ar faes y gad a chafodd Amit ei feirniadu gan swyddogion uwch. Cafodd ei holi am y frwydr gan y Cadfridog Moshe Dayan, Cadlywydd y Rheolaeth Ddeheuol, a wrthodai'r achos yn erbyn Amit yn syth. Yn ôl Dayan, buddugoliaeth gan lu dewr a diwyd oedd y frwydr ac esiampl i unedau milwrol eraill oedd Brigâd Golani.[1] Daeth Amit dan adain Dayan, a fe'i penodwyd yn gynorthwywr iddo.[2]
Wedi iddo dderbyn hyfforddiant yng Ngholeg Milwrol y Fyddin Brydeinig yn Camberley ym 1954,[2] penodwyd Amit yn bennaeth ar Gangen Ymgyrchoedd y Lluoedd Amddiffyn ym 1956, ac i bob pwrpas yn ddirprwy i Dayan, a oedd erbyn hynny yn Bennaeth y Staff Cyffredinol. Yn ystod Argyfwng Suez (1956), pan oedd Dayan yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r cadlysoedd ar faes y gad yng ngorynys Sinai, bu Amit yn rheoli ymgyrch yr Israeliaid o bencadlys y fyddin yn Tel Aviv. Dyrchafwyd Amit yn Gadlywydd y Rheolaeth Ddeheuol gan Dayan ym 1958.[1] Cafodd Amit ei anafu yn ddifrifol, a bron ei ladd, ym 1958, oherwydd diffyg ar ei barasiwt yn ystod ymarferiad gyda'r awyrfilwyr. Treuliodd 18 mis yn yr ysbyty, a thybiodd na fyddai eto ar wasanaeth gweithredol. Wedi iddo wella, aeth i Efrog Newydd i astudio busnes ym Mhrifysgol Columbia ym 1959.[1]
Pan ddychwelodd Amit i Israel, ymunodd â'r Gyfarwyddiaeth Gudd-wybodaeth Filwrol (Aman). Dyrchafwyd yn bennaeth ar Aman ym 1962. Yn y swydd hon, cafodd ei gythruddo gan obsesiwn Isser Harel, Cyfarwyddwyr Mossad (asiantaeth cudd-wybodaeth sifil Irsrael), â chanlyn gwyddonwyr Natsïaidd a oedd yn gweithio i lywodraeth yr Aifft.[3] Ar 25 Mawrth 1963, pan oedd Amit ar daith i'r Môr Marw, cafodd ei orchymyn i hedfan i Tel Aviv ar unwaith i gwrdd â'r Prif Weinidog a Gweinidog Amddiffyn David Ben-Gurion. Yno, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Mossad yn sgil ymddiswyddiad Harel.[1]
Cyfarwyddiaeth Mossad (1963–68)
golyguAr y cychwyn, yn ystod y naw mis pan oedd yn bennaeth ar Aman yn ogystal â Mossad, cafodd Amit ei ystyried yn ddieithryn nas croesewir gan nifer o swyddogion Mossad. Ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd, bu cynnwrf ym y pencadlys wrth i'r cyfarwyddwr newydd gerdded i mewn i'r adeilad yn ei wisg filwrol lawn â'i holl rubanau,[1] ac ymhen fawr o dro ymddiswyddai sawl aelod o Mossad a oedd yn ffyddlon i Harel, gan gynnwys Yitzhak Shamir (yn ddiweddarach Prif Weinidog Israel).[3] Fodd bynnag, aeth Amit i'r afael â diwygio cyfundrefn Mossad, gan geisio moderneiddio pob agwedd o'i gwaith a dod â therfyn i'r cystadlu rhwng yr asiantaethau cudd-wybodaeth sifil a milwrol. Cyflwynodd Amit gyfrifiaduron a thechnoleg newydd arall, a defnyddiodd ei addysg fusnes i ailstrwythuro a gwella rheolaeth ac atebolrwydd. Yn ogystal, crëwyd rhwydwaith o ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol gyda chysylltiadau ag asiantaethau gwledydd eraill, a throsglwyddwyd uned arbennig o'r fyddin i Mossad i gyd-lynu ysbïwriaeth Israelaidd yn y byd Arabaidd. Ymddiswyddodd Amit o gyfarwyddiaeth Aman yn Ionawr 1965, gan ganolbwyntio ar arwain Mossad yn unig.
Ymdrechai Amit i ffurfio berthnasau rhwng Israel a gwledydd yn Affrica ac Asia, gan gynnwys Cenia, Wganda, Singapôr, India, Twrci, ac Indonesia. Honnai iddo deithio i Iran pob mis i ymweld â'r Shah.[3] Un o'i benderfyniadau ymarferol cyntaf oedd i fagu cysylltiadau â'r Cyrdiaid yn Irac, gan gwrdd â'u harweinwyr a chyflenwi arfau ac hyfforddiant iddynt. Ei nod oedd i fanteisio ar wybodaeth y Cyrdiaid am luoedd arfog Irac, ac i'w defnyddio i danseilio awdurdod llywodraeth Irac yn nhiroedd y Cyrdiaid.[1] Llwyddodd Mossad osod ei ysbïwyr mewn sawl gwlad Arabaidd dan arweiniad Amit, gan gynnwys Eli Cohen, a fyddai'n gynghorwr i weinidog amddiffyn Syria cyn cael ei ddatgelu ym 1965. Yng nghanol 1963 lansiwyd Ymgyrch Diemwnt i gael gafael ar yr MiG-21, awyren ymladd a rhagodi a gynhyrchwyd gan yr Undeb Sofietaidd. Daeth y llwyddiant yn Awst 1966 pan ffoes Munir Redfa, peilot o Awyrlu Irac, yn ei MiG-21 i Faes Awyrlu Israel yn Hatzor.
Ym 1965 gofynnodd y Cadfridog Mohammed Oufkir, Gweinidog Cartref Moroco, i Amit gynorthwyo cynllwyn i lofruddio'r gweriniaethwr sosialaidd Mehdi Ben Barka, a oedd yn byw yn alltud yn y Swistir. Diflannodd Ben Barka ar 29 Hydref 1965 wedi iddo deithio i Ffrainc a chael ei gipio gan heddweision ym Mharis. Credir iddo gael ei ddwyn i gartref gangster gan gudd-asiantau, ei saethu'n farw, a'i gladdu. Gwylltiwyd y Ffrancod gan ran yr Israeliaid yn llofruddiaeth Ben Barka, a chaewyd canolfan Ewropeaidd Mossad ym Mharis gan yr Arlywydd Charles de Gaulle. Galwyd ymchwiliad i weithgareddau Mossad gan Levi Eshkol, Prif Weinidog Israel, dan arweiniad y cyn-gyfarwyddwr Isser Harel, a oedd bellach yn gynghori'r prif weinidog ar faterion cudd-wybodaeth. Honnodd Amit nad oedd gan swyddogion Mossad ran yn y llofruddiaeth, oni bai am ddarparu pasbort ffug a cheir hur, ond argymhellodd Harel y dylai Amit gael ei ddiswyddo ar unwaith. Bygythiodd Amit, os câi ei ddiswyddo, y byddai'n codi stŵr ac yn cyhoeddi'r ffaith i Eshkol roi sêl ei fendith ar y cynllwyn. Penderfynodd Eshkol i gadw Amit yn y swydd ac i guddio'r manylion er mwyn atal sgandal.[1]
Teithiodd Amit i Washington, D.C. ym Mai 1967 i ddwyn perswâd ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i gefnogi rhagymosodiad gan Israel yn erbyn gwledydd cyfagos. Mynnodd y byddai Israel yn dymuno cymorth wrth ailarfogi wedi'r rhyfel, cefnogaeth yr Americanwyr yn y Cenhedloedd Unedig, ac ataliaeth os oedd angen i gadw'r Sofietiaid rhag ymyrryd yn y rhyfel. Ymatebodd Robert MacNamara, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, gan ddweud "I read you loud and clear". Dychwelodd Amit i hysbysu'r Prif Weinidog Eshkol bod gan Israel rwydd hynt i ymosod ar safleoedd Awyrlu yr Aifft, a dechreuodd felly y Rhyfel Chwe Diwrnod ar 5 Mehefin 1967.[1]
Gyrfa fusnes gynnar a gyrfa wleidyddol (1968–81)
golyguYmddiswyddodd Amit o Mossad ym 1968, yn 47 oed. Cafodd swydd cyfarwyddwr cyffredinol Koor, y cydgwmni diwydiannol mwyaf yn Israel. Yn Hydref 1973, yn ystod Rhyfel Yom Kippur, cafodd ei benodi yn gynorthwywr i'w hen uwch-swyddog a chyfaill, Moshe Dayan, a oedd erbyn hynny yn weinidog amddiffyn y wlad.[1]
Camodd Meir Amit i fyd gwleidyddiaeth ym 1976 fel un o sefydlwyd y blaid ryddfrydol Dash. Er iddi bara ond dwy flynedd, enillodd Dash 15 o seddau'r Knesset yn yr etholiad ym Mai 1977, gan gynnwys un sedd i Amit. Ar 23 Hydref 1977 penodwyd Amit yn weinidog cludiant ac yn weinidog cyfathrebu yn llywodraeth glymblaid y Prif Weinidog Menachem Begin. Ymddiswyddodd o'r cabinet ar 15 Medi 1978 ac ymunodd â'r blaid Shinui. Ymaelododd â'r blaid lafur HaMa'arakh ym 1980, a daeth ei gyfnod yn y Knesset i ben ym 1981.
Gyrfa fusnes hwyrach a diwedd ei oes (1981–2009)
golyguDaliodd Meir Amit yn weithgar trwy gydol ei henaint, yn enwedig â chwmnïau uwch-dechnoleg. Bu'n cynghori ac yn ymwneud â datblygu lloerennau cyfathrebu gan gynnwys AMOS.
Ar Ddiwrnod Annibyniaeth Israel (5 Iyar), byddai Amit yn gwahodd cannoedd o bobl i'w barti blynyddol yn ei gartref yn Tel Aviv i fwyta, yfed, a chanu.[1] Yn ei gartref roedd ganddo gasgliad o 1500 o ddoliau, wedi eu casglu ganddo ar ei deithiau i wledydd y byd yn ystod ei yrfa.[3]
Bu farw Meir Amit ar 17 Gorffennaf 2009 yn 88 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 (Saesneg) "Major-General Meir Amit", The Daily Telegraph (22 Gorffennaf 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 31 Mai 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) "Meir Amit: Israeli intelligence chief and soldier", The Times (26 Awst 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 30 Mai 2021.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) Lawrence Joffe, "Major General Meir Amit", The Guardian (28 Gorffennaf 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 31 Mai 2021.