Michael Williams, Barwn Baglan
Diplomydd o Gymru oedd Michael Charles Williams, Barwn Williams o Faglan (11 Mehefin 1949 – 23 Ebrill 2017).
Michael Williams, Barwn Baglan | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mehefin 1949 Pen-y-bont ar Ogwr |
Bu farw | 23 Ebrill 2017 o canser y pancreas |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diplomydd |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | Emlyn Williams |
Priod | Isobelle Jacques, Margaret Rigby |
Plant | Ben Williams, Rhiannon Williams |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn fab i weithiwr dur o'r enw Emlyn Williams a'i wraig Mildred (Morgan gynt). Mynychodd Ysgol Gyfun Sandfields ym Mhort Talbot. Enillodd radd mewn cysylltiadau rhyngwladol o Goleg Prifysgol Llundain ym 1971, a gradd meistr a doethuriaeth o Ysgol Astudiaethau'r Dwyrain ac Affrica (SOAS), Prifysgol Llundain, a'i draethawd ymchwil ar Islam a gwleidyddiaeth yn Indonesia.
Gyrfa ddiplomyddol a pholisi tramor
golyguTreuliodd ei yrfa gynnar yn gweithio i Amnest Rhyngwladol, a daeth yn bennaeth y mudiad hwnnw ym maes ymchwil Asia. Yn y cyfnod 1984–91 fe weithiodd i Wasanaeth y BBC i'r Byd, a chyrhaeddodd swydd uwch-olygydd dros Asia.[1] Ymunodd â'r Cenhedloedd Unedig ym 1992 i reoli gorsaf radio yng Nghambodia fel rhan o'r ymdrech i ailadeiladu'r wlad honno.
Danfonwyd yn hwyrach i'r cyn-Iwgoslafia, yng nghyfnod chwalu'r wladwriaeth honno, fel llefarydd dros Unprofor (Llu Amddiffyn y CU). Roedd y swydd honno yn anoddach o lawer, o ganlyniad i ddiffyg adnoddau'r llu a'r feirniadaeth ohono. Yn ystod argyfwng Goražde ym 1994, fe wynebodd torf o newyddiadurwyr dig. Wrth i'r rhyfel mynd yn ei flaen, llwyddodd Williams i ennill parch y wasg drwy "ryddhau gwybodaeth yn strategol".[2] Yn hwyrach fe dystiodd yn erbyn Slobodan Milosevic pan oedd yr hwnnw, cyn-Arlywydd Serbia, yn y doc yn yr Hâg.[3]
Aelod o'r Blaid Lafur oedd Williams, a symudodd i Lundain yn 2000 i weithio gyda'r llywodraeth. Gwasanaethod yn Swyddfa Dramor dan y prif weinidogion Blair a Brown, yn gynghorydd arbennig i'r ysgrifenyddion tramor Robin Cook, Jack Straw, ac yn ddiweddarach yn gynghorydd ar y Dwyrain Canol i David Miliband.
O ganlyniad i'w brofiad yn y maes a hefyd yn y broses bolisi, penodwyd Williams i sawl swydd yn ymwneud â'r Dwyrain Canol ym mhencadlys y CU yn Efrog Newydd. Bu'n gynghorydd i'r Uchel Gomisiynydd dros Ffoaduriaid ac yn gyfarwyddwr y Swyddfa dros Blant a Gwrthdaro Arfog,[4] ac yn gyfarwyddwr dros Asia a'r Dwyrain Canol yr Ysgrifenyddiaeth yn y cyfnod 2005–07.[5]
Rhyfel Libanus 2006
golyguCyrhaeddodd ei yrfa ei hanterth yn 2008 pan penodwyd Williams yn gydlynydd arbennig y CU dros Libanus. Dwy flynedd wedi Rhyfel Libanus 2006, rhwng lluoedd Israel ac Hizballah, nod Williams oedd i gadw'r heddwch ar y ffin rhwng Libanus ac Israel. Ystyrir Hizballah yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, a sawl gwlad arall, ond yn rhinwedd ei swydd gyda'r CU roedd gan Williams y gallu i gyfathrebu â'r grŵp a'r hawl i groesi'r goror yn rhydd. Ei swyddogaeth oedd bod yn gyfryngwr rhwng llywodraeth a byddin Israel yn y de ac Hizballah i'r gogledd. Llwyddodd, gyda'i synnwyr digrifwch, i fagu perthynas gyda Hajj Wafiq Safa, pennaeth diogelwch Hizballah. Sefydlai "ymddiriedaeth ddechreuol" rhwng y ddwy ochr, a chyfnewidai carcharorion rhyngddynt, ac o ganlyniad bu'r goror yn sefydlocach nag ar unrhyw adeg ers y 1970au. Dywedodd Jean-Marie Guéhenno, cyn-bennaeth heddgeidwaid y CU, taw Williams oedd "y CU ar ei orau: gostyngeiddrwydd, gonestrwydd, doethineb".[2] Daeth y swydd honno i ben yn 2011.
Arglwydd am oes
golyguPenodwyd yn arglwydd am oes gan y llywodraeth Lafur yn 2010, gan ddewis y teitl Barwn Baglan. Yn 2011 fe drodd yn groesfeinciwr er mwyn cydymffurfio â thelerau amhleidioldeb ei swydd newydd yn aelod o Ymddiriedolaeth y BBC. Y flwyddyn honno, cafodd ei benodi hefyd yn gymrawd gan y felin drafod Chatham House.[6]
Yn Rhagfyr 2016, ar ôl iddo symud o Steyning, Gorllewin Sussex, i'r Cotswolds, bu'n dioddef o boen yn ei gefn a'i stumog. Cafodd diagnosis o ganser y pancreas deufis yn ddiweddarach, ac er ei afiechyd fe barhaodd i deithio i'w waith yn Llundain. Bu farw yn ei gartref yn Swydd Rydychen yn 67 oed yn Ebrill 2017.
Bu'n briod dwywaith: cafodd merch o'r enw Rhiannon gyda'i wraig gyntaf, Margaret Rigby; a mab o'r enw Ben gyda'i ail wraig, Isobelle Jaques.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) David Williamson. United Nations diplomat Michael Williams becomes peer, WalesOnline (28 Mehefin 2010). Adalwyd ar 8 Mai 2017.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Alan Philps. Lord Williams of Baglan obituary, The Guardian (2 Mai 2017). Adalwyd ar 8 Mai 2017.
- ↑ (Saesneg) Ben Williams. Obituary: Lord Williams of Baglan, academic and human rights campaigner who opposed Blair on Iraq, The Independent (27 Ebrill 2017). Adalwyd ar 8 Mai 2017.
- ↑ (Saesneg) Philip Stephens. Michael Williams, international relations expert, 1949–2017, Financial Times (26 Ebrill 2017). Adalwyd ar 8 Mai 2017.
- ↑ (Saesneg) Mari Hooson. Michael Williams, Lord Williams of Baglan 1949 - 2017 Archifwyd 2017-06-24 yn y Peiriant Wayback, Prifysgol Abertawe (28 Ebrill 2017). Adalwyd ar 8 Mai 2017.
- ↑ (Saesneg) Dr Robin Niblett. Michael Williams (1949–2017) Archifwyd 2017-04-24 yn y Peiriant Wayback, Chatham House. Adalwyd ar 8 Mai 2017.