Mohammad Asghar

Gwleidydd Cymreig ganwyd ym Mhacistan

Gwleidydd Cymreig o dras Bacistannaidd oedd Mohammad Asghar AS (30 Medi 194516 Mehefin 2020)[3][4] a elwid yn Oscar.[5] Bu'n Aelod o'r Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru rhwng 2007 a 2020.

Mohammad Asghar
AS
Mohammad Asghar, Mehefin 2016
Aelod o'r Senedd
dros Ddwyrain De Cymru
Mewn swydd
3 Mai 2007 – 16 Mehefin 2020
Rhagflaenwyd ganLaura Anne Jones
Dilynwyd ganLaura Anne Jones
Manylion personol
Ganwyd(1945-09-30)30 Medi 1945
Peshawar, India Brydeinig (nawr ym Mhacistan)
Bu farw16 Mehefin 2020 (74 oed)
Casnewydd
Plaid wleidyddolCeidwadwyr
Yn aelod oPlaid Cymru (hyd 2009)
Llafur (hyd canol y 1990au)
PriodFirdaus
PlantNatasha Asghar
ProffesiwnCyfrifydd[1]
CrefyddIslam[2]
Gwefanmohammadasghar.org.uk

Ef oedd yr aelod cyntaf o leiafrif ethnig[1] a'r Mwslim cyntaf[2] i gael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a'r AC cyntaf i newid ei blaid. Roedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol, a chyn hynny Plaid Cymru a Llafur.[6]

Gyrfa wleidyddol

golygu

Safodd Asghar yn gyntaf fel ymgeisydd Plaid Cymru dros ranbarth Dwyrain De Cymru yn etholiadau Cynulliad 2003,[7] ond heb ennill sedd. Fe'i etholwyd ar restr ranbarthol Dwyrain De Cymru yn etholiadau Cynulliad 2007[1] gan ennill 25,915 o bleidleisiau.[5] Dywedodd:

Mae'n adeg hynod o gyffrous, ond ar y funud mae'n anodd disgrifio sut dwi'n teimlo. Bydda i'n gwneud fy ngorau glas i wasanaethu cymunedau ethnig.[1]

Tra'n AC Plaid Cymru fe gyhuddodd Asghar Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o "godi bwganod" pan datganant y gall treth y cyngor codi 8-10% yn 2008.[8] Fe agorodd cynhadledd wanwyn Plaid Cymru yng Nghasnewydd ym Mawrth 2008.[9]

Yn 2008 gwahoddodd Asghar Ron Prosor, llysgennad Israel yng ngwledydd Prydain, i'r Senedd ym Mae Caerdydd i hyrwyddo deialog rhyng-grefyddol. Dywedodd Asghar, "Mae'r ymladd rhwng Israel a'r Palesteiniaid ymhlith y mwyaf ffyrnig yn y byd, felly mae'n rhaid inni ddeall dwy ochr y ddadl."[10] Mewn e-bost a gafodd ei ryddhau i'r wasg, ysgrifennodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, "Dydw i ddim yn fodlon derbyn y gwahoddiad i gwrdd â'r llysgennad oherwydd fy mod yn gwrthwynebu methiant gwladwriaeth Israel i gwrdd â'i hymrwymiad rhyngwladol tuag at bobl Palesteina. Dwi'n gwahodd cydweithwyr i wneud yr un fath."[10] Ar 24 Mehefin 2008 fe groesawyd Prosor i'r Senedd gan dderbyniad o dua 15 o ACau. Tu allan i'r Senedd roedd tua 30 o bobl yn cynnal protest heddychlon, a rhai ACau yn eu hymuno.[11]

Asghar oedd llefarydd Plaid Cymru ar sgiliau a hyfforddiant. Roedd yn aelod o Bwyllgor Cyllid a Phwyllgor Deddfwriaeth Rhif 1 y Cynulliad.[5]

Croesi'r Siambr

golygu

Ar 8 Rhagfyr 2009 ymunodd Asghar â'r Ceidwadwyr Cymreig, gan godi'r nifer o ACau Ceidwadol i 13 a gostwng y nifer o ACau Plaid i 14.[6] Dywedodd Asghar:

Am beth amser rwyf wedi teimlo nad wyf yn gwbl gyfforddus gyda syniadau a pholisïau Plaid Cymru. Mae fy ngwleidyddiaeth, sef eisiau Cymru fwy cryf o fewn Prydain sy'n llwyddiannus, yn debyg i wleidyddiaeth Mr [Nick] Bourne [arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad].[6]

Yn ogystal dywedodd ei fod yn credu yn y "teulu brenhinol a'r Deyrnas Unedig",[6] ac roedd yn teimlo fel "parot bach mewn jyngl" fel aelod o Blaid Cymru.[12] Cadarnhaodd Asghar roedd unwaith yn aelod o'r Blaid Geidwadol cyn iddo ymuno â Phlaid.[12] Ymunodd ei ferch, Natasha Asghar, â'r Ceidwadwyr ar yr un ddiwrnod yn ogystal.[12]

Croesawyd hyn gan Bourne fel "diwrnod bendigedig i'r Blaid Geidwadol yng Nghymru". Dywedodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, ei fod yn "synnu i ni glywed y peth yn gyntaf gan aelodau'r wasg", a dywedodd llefarydd ar ran Plaid y dylai Asghar ymddiswyddo "gan i bobl y rhanbarth fwrw eu pleidlais dros aelod o Blaid Cymru ac nid aelod o'r Blaid Geidwadol".[6] Dywedodd Colin Mann, oedd yn yr enwebiad nesaf ar restr Plaid yn Nwyrain De Cymru, bod Asghar wedi "bradychu'r bobol a bleidleisiodd drosto".[13]

Er bod Rod Richards wedi gadael y Ceidwadwyr i fynd yn annibynnol, Asghar yw'r AC cyntaf i ymuno â phlaid arall,[2] ac felly mae'r achos o AC a etholir ar restr ranbarthol yn newid ei blaid yn ddigynsail. Mewn colofn barn yn Golwg fe ysgrifennodd Dylan Iorwerth bod penderfyniad Asghar i groesi'r Siambr yn "dangos bod angen newid yng nghyfraith y Cynulliad" gan fod etholwyr yn pleidleisio dros bleidiau am seddau rhanbarthau yn hytrach nag unigolion.[14] Atseinwyd hyn gan Gymdeithas Newid Etholiadol Cymru, a nododd bod gan wledydd eraill sy'n defnyddio rhestri rhanbarthol wahanol ffyrdd o ddatrys "problem Mohammad", e.e. yn Seland Newydd, os yw aelod rhestr yn gadael ei blaid caiff ei ddisodli yn awtomatig gan y person nesaf ar y rhestr, ond yn yr Almaen, nid yw hynny'n digwydd gan fod rhyddid cydwybod wedi ei osod mewn cyfraith.[15] Awgrymodd cyfarwyddwr y Gymdeithas Newid Etholiadol, Anabelle Harel, y dylai rhestri rhanbarthol Cynulliad Cymru defnyddio'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, yr un system â Gwobrau'r Academi (yr Oscars), gan ddweud:

Fel mae'r Academy yn ei wneud gyda’i enwebiadau Oscar, dylem ddefnyddio system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Dan y system honno fe fyddai gan bob un o Aelodau'r Cynulliad fandad personol cryfach. Os oes gan unigolyn safbwynt gwahanol i'w blaid ar ambell bwnc, mi fydd yr etholwyr yn gwybod hynny ac yn pleidleisio fel maen nhw’n dymuno.[15]

Ar 15 Rhagfyr dywedodd Asghar mewn cyfweliad â Radio Dinas Casnewydd taw penderfyniad Plaid Cymru i beidio â gadael i'w ferch Natasha weithio iddo oedd y prif reswm iddo groesi'r Siambr. Dywedodd Plaid eu bod wedi atal merch Asghar rhag gweithio iddo yn dilyn argymhellion adroddiad Syr Christopher Kelly, a gyhoeddwyd yn dilyn sgandal treuliau Aelodau Seneddol yn San Steffan (oedd yn awgrymu na ddylai ASau gyflogi aelodau o'u teuluoedd), ac adroddiad Syr Roger Jones yn dilyn sgandal treuliau ACau (oedd yn awgrymu i ACau yr un peth). Yn ôl Asghar cafodd gair y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones y gall ei ferch weithio iddo. Yn ogystal, nid yw Asghar yn credu bod rheolau penodol i wahardd hynny, a dywedodd y bydd yn rhoi tâl ei ferch i elusen. Honnodd Plaid bod Asghar wedi cael sicrhad gan y Ceidwadwyr y byddai ei ferch yn cael gweithio iddo petai'n croesi atynt.[16] Yn Ionawr 2010 cyhoeddwyd bod enw Natasha Asghar ar restr o staff cynorthwyol ei thad. Dywedodd Mohammad Asghar fod ei ferch yn gweithio iddo yn achlysurol, yn wirfoddol, ac yn ddi-dâl.[17][18]

Bywyd personol

golygu

Ganwyd Asghar ym Mheshawar ym Mhakistan ym 1945 pan oedd y wlad yn rhan o India Brydeinig. Roedd yn siarad Wrdw, Hindi a Punjabi yn rhugl. Mynychodd Prifysgol Peshawar a Choleg Gwent.[19]

Roedd Asghar yn chwarae criced yn ei amser hamdden ac wedi ymgyrchu dros gael tîm criced i Gymru. Roedd yn berchen ar drwydded peilot preifat.[5] [20]

Yn Hydref 2007 roedd Asghar yn un o grŵp o wleidyddion a gafodd eu gwahodd gan gyn-brif weinidog Pacistan Benazir Bhutto fel sylwedyddion amhleidiol i sicrhau bod Bhutto yn cael ei thrin yn deg wrth ddychwelyd i'r wlad ar ôl byw'n alltud am wyth mlynedd. Ar 18 Hydref 2007 roedd Asghar ychydig o droedfeddi o ffrwydradau yn Karachi oedd yn targedu cerbyd Bhutto. Ni chafodd ei anafu gan fod dau uchelseinydd rhyngddo fo â'r bomiau. Dywedodd Asghar ar ôl y digwyddiad:

Ar ôl sŵn enfawr a fflach roedd cyflafan. Gwelais i fam yn chwilio am ei mab 21 oed - ychydig o funudau'n gynt roeddwn i wedi gweld ei gorff. Dwi ddim wedi cael profiad fel hwn o'r blaen. Dwi ddim yn siwr sut y llwyddais i oroesi.[21]

Roedd yn briod a Firdaus a chawsant ferch, Natasha a ddilynodd ôl-traed ei thad drwy gael ei hethol fel Aelod o'r Senedd yn 2021.[22]

Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans ar fore 16 Mehefin 2020, a bu farw yn ddiweddarach.[4] Cynhaliwyd ei angladd yng Nghasnewydd ar 25 Mehefin 2020.[23]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Aelod ethnig cynta'r cynulliad", BBC, 4 Mai 2007.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Mohammad Asghar yn gadael Plaid Cymru", Golwg360, 8 Rhagfyr 2009.
  3. "ASGHAR, Mohammad, "Who's Who 2009"". A & C Black, 2008. Online ed., Oxford: OUP. 2008. Cyrchwyd 4 Ionawr 2009.
  4. 4.0 4.1 Mohammad Asghar wedi marw , Golwg360, 16 Mehefin 2020.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3  Bywgraffiadau Aelodau'r Cynulliad: Mohammad Asghar. Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 "AC Plaid yn ymuno â'r Ceidwadwyr", BBC, 8 Rhagfyr 2009.
  7. "Yr Ymgeiswyr", BBC, 10 Ebrill 2003.
  8. "Treth y cyngor: Codi'n sylweddol?", BBC, 13 Tachwedd 2007.
  9. "Plaid: 'Edrych yn ôl ac ymlaen'", BBC, 28 Mawrth 2008.
  10. 10.0 10.1 "Ffrae am ymweliad llysgennad", BBC, 11 Mehefin 2008.
  11. "Croeso cynnes i lysgennad Israel", BBC, 24 Mehefin 2008.
  12. 12.0 12.1 12.2 (Saesneg) "Plaid Cymru AM joins the Conservatives", WalesOnline, 8 Rhagfyr 2009.
  13. "Mohammad Asghar wedi ‘bradychu’ etholwyr", Golwg360, 10 Rhagfyr 2009.
  14. Dylan Iorwerth. "Rhaid newid y gyfraith", Golwg360, 8 Rhagfyr 2009.
  15. 15.0 15.1 "Asghar - dilyn yr Oscars i ddatrys dryswch Oscar", Golwg360, 9 Rhagfyr 2009.
  16. "Newid plaid er mwyn i’w ferch gael gweithio iddo", Golwg360, 15 Rhagfyr 2009.
  17. (Saesneg) "Daughter of AM who left Plaid to join the Tories is now on his staff", Western Mail, 26 Ionawr 2010.
  18. "Merch Mohammad Asghar 'yn gweithio iddo'", Golwg360, 26 Ionawr 2010.
  19. (Saesneg) "Mohammed Asghar", South Wales Argus, 23 Ebrill 2007.
  20. "Tory Senedd member Mohammad Asghar has died". BBC News (yn Saesneg). 2020-06-16. Cyrchwyd 2020-06-16.
  21. "AC Plaid Cymru: 'Ysgytwad'", BBC, 19 Hydref 2007.
  22. Y Ceidwadwyr Cymreig yn dathlu eu perfformiad gorau erioed yn y Senedd , Golwg360, 8 Mai 2021. Cyrchwyd ar 12 Mai 2021.
  23. Mourners line the streets in tribute to Welsh Conservative MS Mohammad Asghar (en) , WalesOnline, 25 Mehefin 2020.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Laura Anne Jones
Aelod o'r Senedd dros Dwyrain De Cymru
20072020
Olynydd:
Laura Anne Jones