Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru
Defnyddir etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru i ethol Aelodau o'r Senedd (AS), a'u defnyddir mewn rhyw ffurf ers etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru erbyn hyn) yn 1999. Cyflwynwyd ffiniau newydd ar gyfer yr etholiad yn 2007 ac ar hyn o bryd cynhwysant bedwar deg etholaeth a phum rhanbarth. Y pum rhanbarth etholiadol yw: Canol De Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Dwyrain De Cymru, Gogledd Cymru, a Gorllewin De Cymru, gyda'r pedwar deg etholaeth a restrir isod.[1] Digwyddodd yr etholiad diwethaf yn 2021.
Etholaethau a rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru | |
---|---|
Map o'r 40 etholaeth gyfredol (ochr chwith) a'r 5 rhanbarth etholiadol cyfredol (ochr dde) o Senedd Cymru | |
Categori | Etholaeth |
Lleoliad | Cymru |
Crëwyd gan | Deddf Llywodraeth Cymru 1998 |
Crëwyd | 12 Mai 1999 |
Nifer | 40 etholaeth 5 rhanbarth (ar ôl 2021) |
Llywodraeth | Senedd |
Llywodraeth Cymru |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Crëwyd yr etholaethau trwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, gyda ffiniau'r etholaethau Seneddol (San Steffan), fel yr oeddent yn 1999. Defnyddiwyd y ffiniau newydd hefyd ar gyfer etholiad cyffredinol yr DU yn 2010. Felly, rhwng etholiad y Cynulliad yn 2007 ac etholiad cyffredinol y DU yn 2010, roedd gan etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau San Steffan ffiniau gwahanol. Datgysylltodd Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2010, y ddwy set o etholaethau, sy'n golygu na fydd newidiadau i un set yn effeithio'r set arall bellach. Mae hyn wedi caniatáu cynigion gwahanol ar gyfer etholaethau yng Nghymru, gyda chynigion gwahanol ar gyfer cynnydd y nifer o seddi yn y Senedd a lleihau y nifer o etholaethau San Steffan yng Nghymru.[2]
Grwpir etholaethau'r Senedd i mewn i ranbarthau etholiadol sy'n cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Defnyddir system aelod ychwanegol i ethol pedwar Aelod ychwanegol o'r Senedd o bob rhanbarth, ar ben yr ASau a etholir gan yr etholaethau. Seiliwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol ar yr etholaethau seneddol Ewropeaidd cyn 1999. Ym mhob etholiad cyffredinol o'r Senedd, mae gan pob etholydd ddwy bleidlais, un bleidlais etholaethol ac un bleidlais restr pleidiau ranbarthol. Mae pob etholaeth yn ethol un Aelod trwy'r system 'cyntaf i'r felin', a llenwir seddi ychwanegol y Senedd o'r rhestrau pleidiau caeedig, o dan ddull D'Hondt, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau, i greu rhywfaint o gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer pob rhanbarth. Ar y cyfan, etholir y chwe deg Aelod o'r Senedd o'r pedwar deg etholaeth a'r pum rhanbarth etholiadol, gan greu Senedd o bedwar deg AS etholaethol a dau ddeg AS ychwanegol. Cynrychiolir pob etholwr gan un aelod etholaethol a phedwar aelod rhanbarthol.
Hanes golygu
Sefydlu golygu
Ar ôl y refferendwm ar ddatganoli i Gymru yn 1997, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i etholaethau a'i rhanbarthau etholiadol gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Dywedodd adran 2 y ddeddf fod yr etholaethau ar gyfer y Cynulliad yn yr un etholaethau a ddefnyddir ar gyfer etholiadau i Senedd y Deyrnas Unedig.[3] Creodd yr un ddeddf y pum rhanbarth a fyddai'n defnyddio'r un ffiniau a'r pump etholaeth seneddol Ewropeaidd yng Nghymru a nodwyd gan Orchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994.[4] Defnyddir yr un rhanbarthau etholiadol o hyd, er y dilëwyd y pump etholaethau seneddol Ewropeaidd a'u disodli gan etholaeth Cymru-gyfan, ac ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae newidiadau bach i ffiniau'r rhanbarthau wedi digwydd oherwydd newidiadau i'r etholaethau.
Newid ffiniau golygu
Yn 2006, gweithredwyd Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Atgyfnerthodd y ddeddf y cysylltiad rhwng etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau seneddol, a bod yna bum rhanbarthau etholiadol.
Diffiniodd Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006 y ffiniau newydd ar gyfer yr etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol.[5]
Dileodd y gorchymyn dair etholaeth (Caernarfon, Conwy, a Meirionydd Nant Conwy), a chrëwyd tair etholaeth newydd i'w disodli (Aberconwy, Arfon, a Dwyfor Meirionydd). Cafodd naw etholaeth addasiadau "sylweddol" i'w ffiniau gan gynnwys y trosglwyddiad o fwy na 3,000 o drigolion rhwng yr etholaethau. Cafodd wyth etholaeth arall addasiadau i'w ffiniau gan arwain at y trosglwyddiad o lai na 3,000 o drigolion rhwng pob etholaeth, a chafodd pedair arall fân addasiadau a arweiniodd at drosglwyddiadau bach o drigolion rhwng etholaethau. Ni chafodd gweddill yr un deg chwech o etholaethau unrhyw addasiadau i'w henwau neu eu ffiniau.
Croesodd y tair etholaeth newydd y ffiniau rhwng y rhanbarthau etholiadol o Ganolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, gan arwain at addasiadau i ffiniau'r ddau ranbarth etholiadol, yn ogystal â mân addasiadau i'r etholaeth o Faldwyn a arweiniodd at fân addasiadau i ffiniau rhanbarthol hefyd. Yn Ne Cymru, newidiwyd ffiniau'r rhanbarthau etholiadol, Gorllewin De Cymru a Chanol De Cymru, oherwydd y newidiadau i ffiniau'r etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.
Daeth y newidiadau o ffiniau'r etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol i rym ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007.
Datgysylltu o etholaethau Senedd y DU golygu
Mae Adran 13(1) Deddf System Pleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011 yn dweud:[6]
The Assembly constituencies are the constituencies specified in the Parliamentary Constituencies and Assembly Electoral Regions (Wales) Order 2006 (S.I. 2006/1041)24 as amended by— the Parliamentary Constituencies and Assembly Electoral Regions (Wales) (Amendment) Order 2008 (S.I. 2008/1791) — Deddf System Pleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011.
Mae hyn yn manylu na weithredir ar etholaethau'r Cynulliad (y Senedd) unrhyw newidiadau pellach i etholaethau seneddol yng Nghymru a nodwyd yn y ddeddf (yn enwedig y lleihad arfaethedig o'r etholaethau i 30). Mewn sesiwn o Dŷ'r Cyffredin lle yr holwyd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Cheryl Gillan am wrthwynebiad y blaid Lafur i ddatgysylltu'r ddwy etholiad, ymatebodd:[7]
That is a very interesting thought. Hon. Members are well aware that the Parliamentary Voting System and Constituencies Act 2011 broke the link between Assembly constituencies and parliamentary constituencies. I have agreed that we need to look carefully at the implications of having constituency boundaries relating to different areas and regions for UK and Assembly elections in Wales. — Y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS
Ailenwi golygu
Ar 6 Mai 2020, daeth Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 i rym, gan ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, ac, yn ei thro, ailenwi'r etholaethau a'r rhanbarthau etholiadol.
Ehangiad arfaethedig o'r Senedd golygu
- Prif: Bil Diwygio'r Senedd
Ar 18 Medi 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau ar gyfer diwygio etholiadol ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).[8] Cynyddai'r bil y nifer o Aelodau'r Senedd o 60 i 96. Byddai'r aelodau'n cael eu hethol yn 16 etholaeth a grëir trwy baru'r 32 etholaeth seneddol newydd a fydd yn cael eu defnyddio yn etholaethau Senedd y DU yn yr etholiad nesaf. Etholid chwe aelod ymhob etholaeth gan ddefnyddio rhestrau gaeedig a'r dull D'Hondt yn unig. Os pasir y bil bydd y system newydd yn cael ei defnyddio yn etholiad Senedd Cymru nesaf yn 2026.
Cynigir y byddai Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn paru'r etholaethau ar gyfer yr etholiad nesaf ac wedyn yn cynnal adolygiadau cyfnodol o etholaethau Senedd Cymru.
Etholaethau a rhanbarthau (2007-presennol) golygu
Etholaethau golygu
Rhanbarthau Etholiadol golygu
Rhanbarth | Etholaethau | ASau rhanbarthol cyfredol | Map |
---|---|---|---|
Canol De Cymru
(Etholwyr 2021: 521,078)[9] |
1. Bro Morgannwg
3. Cwm Cynon 7. Pontypridd 8. Rhondda |
||
Canolbarth a Gorllewin Cymru
(Etholwyr 2021: 446,177)[9] |
1. Brycheiniog a Sir Faesyfed
2. Ceredigion 4. Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 5. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 6. Llanelli 7. Maldwyn |
||
Dwyrain De Cymru
(Etholwyr 2021: 487,870)[9] |
1. Blaenau Gwent
2. Caerffili 5. Islwyn 7. Mynwy 8. Torfaen |
||
Gogledd Cymru
(Etholwyr 2021: 479,984)[9] |
1. Aberconwy
3. Arfon 4. De Clwyd 5. Delyn 8. Wrecsam 9. Ynys Môn |
||
Gorllewin De Cymru
(Etholwyr 2021: 413,467)[9] |
1. Aberafan
2. Castell-nedd 5. Gŵyr 6. Ogwr |
Cyn etholaethau a chyn ranbarthau golygu
1999-2007 golygu
Rhanbarth | Etholaethau | Map |
---|---|---|
Canol De Cymru | 1. Bro Morgannwg
3. Cwm Cynon 7. Pontypridd 8. Rhondda |
|
Canolbarth a Gorllewin Cymru | 1. Brycheiniog a Sir Faesyfed
2. Ceredigion 3. Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr 4. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 5. Llanelli 7. Maldwyn |
|
Dwyrain De Cymru | 1. Blaenau Gwent
2. Caerffili 5. Islwyn 7. Mynwy 8. Torfaen |
|
Gogledd Cymru | 1. Alun a Glannau Dyfrdwy
2. Caernarfon 3. Conwy 4. De Clwyd 5. Delyn 8. Wrecsam 9. Ynys Môn |
|
Gorllewin De Cymru | 1. Aberafan
2. Castell-nedd 5. Gŵyr 6. Ogwr |
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006". deddfwriaeth.gov.uk. Senedd y DU.
- ↑ "Deddf System Pleidleisio Seneddol ac Etholaethau 2011". deddfwriaethau.gov.uk. Senedd y DU.
- ↑ "Deddf Llywodraeth Cymru 1998". deddfwriaeth.gov.uk. Llywodraeth y DU.
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol Ewropeaidd (Cymru) 1994". deddfwriaeth.gov.uk. Llywodraeth y DU.
- ↑ "Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006". deddfwriaeth.gov.uk.
- ↑ "Deddf System Pleidleisio ac Etholaethau Seneddol 2011". deddfwriaeth.gov.uk. 2011.
- ↑ "Parliamentary Debates - Wednesday 11 May 2011" (PDF). publications.parliament.uk. Tŷ'r Cyffredin, Senedd y DU. 11 Mai 2011. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): asesiad effaith integredig". Llywodraeth Cymru. 18 Medi 2023. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2023.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 9.5 "Rhestr etholwyr: Etholwyr yn ôl etholaethau Senedd Cymru a blwyddyn". StatsCymru. Cyrchwyd 28 Awst 2023.