Nodyn:Pigion/Wythnos 3

Pigion
Castell Caerdydd
Castell Caerdydd

Caerdydd yw Prifddinas a dinas fwyaf Cymru. Ceir dros 35 o brifddinasoedd llai na hi drwy'r byd. Roedd Caerdydd yn dref fechan tan flynyddoedd cynnar y 19g. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn arbennig pan gysylltwyd y cymoedd â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o'r porthladd. Yn 1851 roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 2021 roedd poblogaeth Caerdydd Fwyaf dros 447,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. erbyn y 21g adeiladwyd argae ar draws y bae, gan greu morlyn enfawr. Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yno mae Canolfan y Mileniwm sy'n gartref i Urdd Gobaith Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm. mwy...  


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis