Mae Pen-prysg[1] (sillefir yn aml yn Saesneg fel Penprysg) yn ardal breswyl o dref Pencoed ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Pen-prysg
Enghraifft o'r canlynolward etholiadol, maestref Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Penprysg Road, Pen-prysg

Noder, nad yw yr un lle â Prysg sy'n entref arall ym Mro Morgannwg ond ar yr ochr ddwyreiniol i'r Bontfaen.

Llywodraethu

golygu
 
Pont rheilffordd Ffordd Pen-prysg, Pencoed

Mae Pen-prysg yn ward gymunedol i Gyngor Tref Pencoed.[2]

Pen-prysg hefyd oedd enw ward etholiadol, a oedd yn ymestyn i'r gogledd o Bencoed. Cynrychiolwyd ward etholiadol sir Pen-prysg, er 1999, gan un cynghorydd sir ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y ward yn cwmpasu ward gymunedol Pen-prysg a chymuned gyfan Llangrallo Uchaf.[3][4]

Yn weithredol o etholiadau lleol 2022, cyfunwyd Llangrallo Uchaf â chymuned gyfan Pencoed i greu ward newydd, o'r enw "Pencoed a Phenprysg", gan ethol tri chynghorydd bwrdeistref sirol.[5]

Eteympoleg

golygu

Ystyr y gair "prysg" yw; Clwstwr o (fan)goed, celli, planhigfa, meithrinfa neu nyrseri (o goed); (geir.) prysglwyn(i); (geir.) tanwydd, coed tân. Credir y daw o'r gair Gwyddeleg "spreas", sef ‘brigyn’, a Gaeleg, "preas". Daw o'r Celteg *ku̯restio-, cf. "pren".[6]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allannol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Pen-prysg". Enwau Lleoloedd gwefan Comisiynydd y Gymraeg. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2024.
  2. "Council information". Pencoed Town Council. Cyrchwyd 8 Awst 2019.
  3. "The County Borough of Bridgend (Electoral Arrangements) Order 1998". legislation.gov.uk. The National Archives. 23 Tachwedd 1998. Cyrchwyd 1 Ebrill 2019.
  4. "Election maps". Ordnance Survey. Cyrchwyd 11 Ebrill 2019.
  5. "The County Borough of Bridgend (Electoral Arrangements) Order 2021". legislation.gov.uk. The National Archives. 22 Medi 2021. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2022.
  6. "Prysg". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2024.

Cyfesurynnau: 51°31′48″N 3°29′49″W / 51.530°N 3.497°W / 51.530; -3.497

  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato