Rheilffyrdd Cymru
Mae gan reilffyrdd Cymru hanes hir sy'n dechrau yn negawd olaf y 18g pan agorwyd y tramffyrdd cyntefig cyntaf i wasanaethu diwydiant llechi Cymru. Erbyn heddiw ceir tair prif lein yng Nghymru yn ogystal â sawl lein ranbarthol a lleol ynghyd â rheilffyrdd cledrau cul (rheilffyrdd treftadaeth) ar gyfer twristiaid.
Hanes
golyguAdeiladwyd y rheilffordd gyhoeddus gyntaf yng Nghymru yn 1842 rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd. Yn y can mlynedd a ddilynodd, fe dyfodd rhwydwaith o reilffyrdd dros Gymru gyfan, gan hwyluso trafnidiaeth pobl a nwyddau i ac o Loegr, yn ogystal ag o fewn Cymru. Mae rhai o'r rheilffyrdd hyn yn dal i redeg, ond fe fu i eraill gau, y rheilffyrdd mawr yn sgîl adroddiad Dr Beeching yn 1963, a'r rheilffyrdd bychain yn sgîl dirywiad diwydiant.
Erbyn hyn, mae'r tri phrif lwybr yng Nghymru fel a ganlyn: Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru (o Gaergybi i Gaer a Chryw), Prif Lein y De (o Abertawe i Gasnewydd a Bryste), ac ar hyd y Gororau (o Gasnewydd i Amwythig). Yn ogystal, mae yna lwybrau gwledig, gan gynnwys Rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno yn y gogledd, Rheilffordd Calon Cymru, Rheilffordd y Cambrian, a Rheilffordd Gorllewin Cymru o Abertawe i Gaerfyrddin, Penfro, Aberdaugleddau ac Abergwaun.
Rheilffyrdd bychain Cymru
golyguMae Cymru yn adnabyddus am ei rheilffyrdd hanesyddol lled cul. Dyma rhai ohonynt:
- Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls
- Rheilffordd Corris
- Rheilffordd Cwm Rheidol
- Rheilffordd Eryri (Rheilffordd Ucheldir Cymru)
- Rheilffordd y Friog
- Rheilffordd Ffestiniog
- Rheilffordd Llangollen
- Rheilffordd Llyn Padarn
- Rheilffordd Llyn Tegid
- Rheilffordd Mynydd Aberhonddu
- Rheilffordd Talyllyn
- Rheilffordd y Graig
- Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion
- Rheilffordd yr Wyddfa
- Tramffordd y Gogarth