Rhestr Siroedd a Dinasoedd Cymru yn ôl y canran o siaradwyr Cymraeg
Dyma restr o siroedd a dinasoedd Cymru yn ôl y canran o siaradwyr Cymraeg ynddynt a gofnodwyd yng nghyfrifiad 2011. Nid oedd y cyfrifiad yn cyfri'r siaradwyr a oedd yn byw y tu allan i Gymru.
Cynhyrchodd y cyfrifiad [1] ddadansoddiad manwl o'r medrau iaith, gan nodi faint o bobl oedd yn:
- Deall Cymraeg llafar (heb fedrau eraill).
- Siarad Cymraeg, ond yn methu darllen nag ysgrifennu Cymraeg.
- Siarad ac yn darllen Cymraeg ond yn methu ysgrifennu Cymraeg.
- Siarad, ysgrifennu ac yn darllen Cymraeg.
- Cyfuniad o fedrau eraill.
- Dim gwybodaeth o'r iaith.
Yn ogystal, mae'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol diweddaraf (Mehefin 2019), a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn awgrymu bod gan 29.8% o Gymru y gallu i siarad Cymraeg.[1]
Y gallu i siarad Cymraeg
golyguMae'r tabl hwn yn dangos y niferoedd y bu iddyn nhw nodi yng Nghyfrifiad 2011 eu bod naill ai yn gallu siarad Cymraeg neu methu â siarad Cymraeg.
|
Amcangyfrifiadau'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol
golyguYn ogystal â data swyddogol y Cyfrifiad, mae'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn cyhoeddi amcangyfrifiadau sy'n seiliedig ar sampl ar y nifer o bobl sy'n dweud eu bod yn medru'r Gymraeg. Digwydd hyn sawl gwaith y flwyddyn ac sy'n seiliedig ar amcangyfrifiadau'r flwyddyn flaenorol. Mae'r tabl yma yn dangos yr amcangyfrifiadau hynny, o fis Mehefin 2016 ymlaen.[2]
|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-20. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Annual Population Survey estimates of persons aged 3 and over who say they can speak Welsh by local authority and measure". StatsWales. Annual Population Survey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-18. Cyrchwyd 31 October 2017.