Rhestr o Siroedd Colorado

rhestr

Dyma restr o'r 64 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Colorado yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:

Siroedd Colorado

Rhestr golygu

Hanes golygu

Rhennir talaith Colorado yn 64 sir. Mae siroedd yn unedau llywodraeth bwysig yn Colorado gan nad oes trefgorddau na mân adrannau sifil eraill. Mae gan dwy o'r siroedd hyn, Broomfield a Denver, llywodraethau dinas a sir wedi eu cydgrynhoi.

Pan ddechreuodd Tiriogaeth Colorado greu siroedd gyntaf ym 1861, roedd iddi 17 sir (Summit, Larimer, Weld, Boulder, Gilpin, Clear Creek, Jefferson, Arapahoe, Douglas, Lake, Conejos, Costilla, Park, Fremont, El Paso, Pueblo, a Huerfano ) yn ogystal â Gwarchodfa i lwyth y Cheyenne.

Ym mis Chwefror 1866, crëwyd y sir newydd gyntaf, Las Animas, ac yna Saguache ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Crëwyd Bent County ym mis Chwefror 1870, ac yna Greenwood y mis canlynol. Ar 2 Chwefror, 1874, ffurfiwyd Grand County a Elbert County, ac ar 10 Chwefror, crëwyd siroedd La Plata, Hinsdale, a Rio Grande. Cafodd Greenwood ei amsugno i Bent ar 5 Chwefror. Y sir olaf i gael ei chreu dan yr enw Tiriogaeth Colorado oedd San Juan County, a gafodd ei chreu tri mis cyn i Golorado troi'n dalaith.

Erbyn i Colorado ddod yn dalaith ar 1 Awst, 1876, [1] dim ond 26 sir oedd ganddi. Ym mis Ionawr 1877, ffurfiwyd Routt ac Ouray, ac yna siroedd Gunnison a Custer ym mis Mawrth. Ym mis Chwefror 1879, crëwyd Chaffee County. Rhwng 8-10 Chwefror, 1879, ailenwyd Lake County yn Carbonate County. Ym 1881, crëwyd Dolores County a Pitkin County. Ym 1883, ffurfiwyd siroedd Montrose, Mesa, Garfield, Eagle, Delta a San Miguel, gan ddod a chyfanswm y siroedd i 39. Cododd y nifer i 40 ym 1885 gyda chreu Archuleta County ar 14 Ebrill. Crëwyd Washington County a Logan County ym 1887. Rhwng 19 Chwefror a 16 Ebrill, 1889, ffurfiwyd siroedd Morgan, Yuma, Cheyenne, Otero, Rio Blanco, Phillips, Sedgwick, Kiowa, Kit Carson, Lincoln, Prowers, Baca a Montezuma, gan ddod â'r cyfanswm i 55. Erbyn 1900, roedd Mineral County a Teller County wedi'u hychwanegu. Ar 15 Tachwedd, 1902, rhannwyd Arapahoe County i ffurfio Siroedd Adams a South Arapahoe, a sefydlwyd Denver fel sir ddinesig o ddognau o'r ddwy sir newydd ar 1 Rhagfyr, 1902. [2] Erbyn 1912, roedd Jackson County, Moffat County, a Crowley County wedi'u creu. Crëwyd Alamosa ym 1913, ac yn 2001, cydnabuwyd Broomfield fel sir ddinesig, gan ddod â'r cyfanswm i 64.

Siroedd hanesyddol golygu

Mae'r tabl isod yn rhestru holl siroedd hanesyddol Tiriogaeth Mecsico Newydd, Tiriogaeth Utah, Tiriogaeth Kansas, a Thiriogaeth answyddogol Jefferson [3] a arferai fodoli o fewn ffiniau Talaith bresennol Colorado, yn ogystal â tair sir ddiffaith Tiriogaeth Colorado a thair sir ddiffaith Talaith Colorado.

Siroedd a arferai fod yn ardal Talaith Colorado

Sir Tiriogaeth neu dalaith Crëwyd Disodlwyd Hanes
Taos County Tiriogaeth Mecsico Newydd 185201091852-01-09 186102281861-02-28 Yn wreiddiol yn un o saith partidos talaith Sbaeneg, ac yn ddiweddarach Mecsicanaidd, talaith Santa Fe de Nuevo México. Un o'r naw sir wreiddiol a grëwyd gan Diriogaeth Mecsico Newydd ym 1852. Wedi'i eithrio o Diriogaeth newydd Colorado ym 1861.
Great Salt Lake County Tiriogaeth Utah 185203031852-03-03 186102281861-02-28 Wedi'i greu ym 1852, a'i eithrio o Diriogaeth newydd Colorado ym 1861.
Green River County Tiriogaeth Utah 185203031852-03-03 186102281861-02-28 Wedi'i greu ym 1852, ond byth wedi'i drefnu. Diddymwyd ym 1857, ond ail-grewyd ym 1859. Wedi'i eithrio o'r Diriogaeth Colorado newydd ym 1861, a Thiriogaeth Wyoming ym 1868. Diddymwyd o'r diwedd ym 1872.
Iron County Tiriogaeth Utah 185203031852-03-03 186102281861-02-28 Wedi'i greu ym 1852, a'i eithrio o Diriogaeth newydd Colorado ym 1861
Sanpete County Tiriogaeth Utah 185203031852-03-03 186102281861-02-28 Wedi'i greu ym 1852, a'i eithrio o Diriogaeth newydd Colorado ym 1861
Utah County Tiriogaeth Utah 185203031852-03-03 186102281861-02-28 Wedi'i greu ym 1852, a'i eithrio o Diriogaeth newydd Colorado ym 1861
Washington County Tiriogaeth Utah 185203031852-03-03 186102281861-02-28 Wedi'i greu ym 1852, a'i eithrio o Diriogaeth newydd Colorado ym 1861
Arapahoe County Tiriogaeth Kansas 185508251855-08-25 186101291861-01-29 Wedi'i greu ym 1855, ond byth wedi'i drefnu. Dychwelodd i fod yn diriogaeth heb drefniant swyddogol pan ymunodd Kansas â'r Undeb ym 1861.
Beaver County Tiriogaeth Utah 185601051856-01-05 186102281861-02-28 Wedi'i rannu o siroedd Iron a Millard ym 1856. Wedi'i eithrio o Diriogaeth newydd Colorado ym 1861.
Broderick County Tiriogaeth Kansas 185902071859-02-07 186101291861-01-29 Wedi'i rannu o Arapahoe County, Tiriogaeth Kansas ym 1859, ond byth wedi'i drefnu. Dychwelodd i fod yn diriogaeth heb drefn pan ymunodd Kansas â'r Undeb ym 1861.
El Paso County Tiriogaeth Kansas 185902071859-02-07 186101291861-01-29 Wedi'i rannu o Arapahoe County, Tiriogaeth Kansas ym 1859, ond byth wedi'i drefnu. Dychwelodd i fod yn diriogaeth heb drefn pan ymunodd Kansas â'r Undeb ym 1861.
Fremont County Tiriogaeth Kansas 185902071859-02-07 186101291861-01-29 Wedi'i rannu o Arapahoe County, Tiriogaeth Kansas ym 1859, ond byth wedi'i drefnu. Dychwelodd i fod yn diriogaeth heb drefn pan ymunodd Kansas â'r Undeb ym 1861.
Montana County Tiriogaeth Kansas 185902071859-02-07 186101291861-01-29 Wedi'i rannu o Arapahoe County, Tiriogaeth Kansas ym 1859, ond byth wedi'i drefnu. Dychwelodd i fod yn diriogaeth heb drefn pan ymunodd Kansas â'r Undeb ym 1861.
Oro County Tiriogaeth Kansas 185902071859-02-07 186101291861-01-29 Wedi'i rannu o Arapahoe County, Tiriogaeth Kansas ym 1859, ond byth wedi'i drefnu. Dychwelodd i fod yn diriogaeth heb drefn pan ymunodd Kansas â'r Undeb ym 1861.
Peketon County Tiriogaeth Kansas 185902071859-02-07 186101291861-01-29 Crëwyd ym 1859, ond byth wedi'i drefnu. Dychwelodd i fod yn diriogaeth heb drefn pan ymunodd Kansas â'r Undeb ym 1861.
Arrappahoe County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Cheyenne County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
El Paso County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Fountain County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Heele County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Jackson County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Jefferson County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Mountain County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
North County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Park County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
St. Vrain County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Saratoga County Tiriogaeth Jefferson 185911281859-11-28 186102281861-02-28 Un o'r 12 sir a grëwyd gan Diriogaeth answyddogol Jefferson ym 1859.
Mora County Tiriogaeth Mecsico Newydd 186002011860-02-01 186102281861-02-28 Wedi'i rannu o Taos County a San Miguel County ym 1860. Wedi'i eithrio o Diriogaeth newydd Colorado ym 1861.
Guadalupe County, Tiriogaeth Colorado Tiriogaeth Colorado 186111011861-11-01 186111071861-11-07 Un o'r 17 sir wreiddiol a grëwyd gan Diriogaeth Colorado ym 1861. Ailenwyd yn Conejos County ymhen 6 niwrnod.
Greenwood County Tiriogaeth Colorado 187002111870-02-11 187402061874-02-06 Wedi'i greu o gyn tir llwythol Cheyenne ac Arapaho a rhan ddwyreiniol Huerfano County ym 1870. Diddymwyd y sir ym 1874 a rhanwyd ei thiriogaeth rhwng Elbert County a Bent County.
Platte County Tiriogaeth Colorado 187202091872-02-09 187402091874-02-09 Wedi'i greu o ran ddwyreiniol Weld County ym 1872. Diddymwyd y sir ym 1874 ar ôl i'r trefnwyr fethu â sicrhau cymeradwyaeth pleidleisiwr. Dychwelwyd tiriogaeth i Weld.
Carbonate County Talaith Colorado 187902081879-02-08 187902101879-02-10 Ailenwyd Lake County yn Carbonate County ym 1879. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, rhannwyd Carbonate County i'r Chaffee County newydd a Lake County wedi'i hail-greu.
Uncompahgre County Talaith Colorado 188302271883-02-27 188303021883-03-02 Cafodd Ouray County ei hailenwi yn Uncompahgre County am bedwar ddiwrnod ym 1883.
South Arapahoe County Talaith Colorado 190211151902-11-15 190304111903-04-11 Un o dair sir a grëwyd o Arapahoe County ym 1902. Newidiwyd yr enw yn ôl i Arapahoe County ar ôl pum mis.

Cyfeiriadau golygu

  1. Carl Ubbelohde, Duane A. Smith, Maxine Benson: A Colorado History, Pruett Publishing, 2006
  2. City Council of the City and County of Denver v. Board of Commissioners of Adams County, 77 T. 858, 861 (1904)
  3. Jefferson territory. Laws, statutes (1936). Provisional laws and joint resolutions passed at the first and called sessions of the general assembly of Jefferson territory. [Denver, W.H. Courtright publishing company].