Rhestr o Siroedd Rhode Island
Dyma restr o'r 5 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Rhode Island yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Hanes
golyguMae pum sir yn Nhalaith Rhode Island. Mae Rhode Island yn gydradd â Hawaii am gael y nifer ail leiaf o siroedd mewn talaith yn yr Unol Daleithiau (dim ond Delaware sydd â llai, gyda thair sir). [1] Er bod Rhode Island wedi'i rhannu'n siroedd, nid oes ganddi unrhyw lywodraeth leol ar lefel sirol. [2] Darperir llywodraethu lleol gan yr wyth dinas a'r tri deg un o drefi. [3] Nid fu gan siroedd Rhode Island unrhyw swyddogaethau llywodraethol ers 1846 ac eithrio fel ffiniau gweinyddol llys, gwasanaethau siryf a charchardai sy'n cael eu cynnal gan lywodraeth y dalaith.
Sefydlwyd trefedigaeth Rhode Island yn yr 17eg ganrif, a hi oedd y gyntaf o'r Tair Trefedigaeth ar Ddeg gwreiddiol i ddatgan annibyniaeth oddi wrth lywodraeth Prydain ym 1776, yn ystod y Chwyldro Americanaidd er hynny hi yr olaf o'r 13 gwladfa gwreiddiol i ddod yn dalaith. [3] Sefydlwyd y siroedd i gyd cyn y Datganiad Annibyniaeth. [2]
Rhestr
golyguFIPS
golyguMae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Rhode Island yw 44, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 44XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn y tabl isod yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [4]
Sir |
Cod FIPS [5] | Canolfan Weinyddol[6] | Sefydlu[2] | Tarddiad[7] | Etymoleg | Poblogaeth[8] | Maint[8] | Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Bristol County | 001 | Bristol | 1747 | Wedi'i greu o dir a gafwyd o Bristol County, Massachusetts, ar ôl datrys anghydfod ffiniau rhwng y ddwy wladfa. | Dinas Bryste, Lloegr | 49,875 | ( 62 km2) |
24 sq mi|
Kent County | 003 | East Greenwich | 1750 | Ffurfiwyd allan o ran o Providence County. | Swydd Caint, Lloegr | 166,158 | ( 435 km2) |
168 sq mi|
Newport County | 005 | Newport | 1703 | Ffurfiwyd fel Rhode Island County ym 1703. Newidiwyd yr enw i Newport County ym 1729 | Tref Newport, Essex, Lloegr | 82,888 | ( 264 km2) |
102 sq mi|
Providence County | 007 | Providence | 1703 | Ffurfiwyd ym 1703 fel Providence Plantations County. Newidiwyd yr enw i Providence County ym 1729 | O'r term Saesneg divine providence (rhagluniaeth ddwyfol), y cysyniad y bydd Duw yn darparu ein holl anghenion, bydol ac ysbrydol, sy'n adlewyrchu barn grefyddol y sylfaenydd trefedigaethol Roger Williams | 626,667 | ( 1,059 km2) |
409 sq mi|
Washington County | 009 | South Kingstown* | 1729 | Ffurfiwyd ym 1729 fel Kings County o ran o Providence Plantations County. Newidiwyd yr enw i Washington County ym 1781. | George Washington, cadfridog yn Rhyfel Annibyniaeth America ac Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau | 126,979 | ( 852 km2) |
329 sq mi
Nodyn
golyguCyfeirir yn aml at ganolfan weinyddol Washington County (cyn diddymu llywodraeth sirol) fel "West Kingston". Mewn gwirionedd, nid oes gan West Kingston, pentref yn South Kingstown, ei lywodraeth leol ei hun, ond lleolir y llys sirol yng nghod post (Zip Code) West Kingston.
Map dwysedd poblogaeth
golyguMae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 National Association of Counties. "NACo – Find a county". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2020-04-26.
- ↑ 3.0 3.1 RHODE ISLAND FACTS AND TRIVIA adalwyd 29 Ebrill 2020
- ↑ "FIPS 6-4 - County Names and Codes of the US". web.archive.org. 2013-09-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "EPA County FIPS Code Listing". EPA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-09-22. Cyrchwyd 2020-04-29.
- ↑ "State of Rhode Island General Laws, Chap. 42-3".
- ↑ "Rhode Island Counties and Towns". 2002-12-19. Cyrchwyd 2020-04-29.
- ↑ 8.0 8.1 Rhode Island Quick Facts adalwyd 29 Ebrill 2020
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD