Rhestr o Siroedd Hawaii

rhestr

Hawaii golygu

 
Siroedd Hawaii

Dyma restr o'r 5 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Hawaii yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor [1]

Rhestr golygu

  1. Hawaii County
  2. Honolulu County
  3. Kalawao County
  4. Kauai County
  5. Maui County

Hanes golygu

Mae gan bum sir Hawaii ar Ynysoedd Hawaii statws ychydig yn fwy na llawer o siroedd ar dir mawr yr Unol Daleithiau. Siroedd Hawaii yw'r unig gyrff llywodraeth sydd â chyfansoddiad cyfreithiol islaw'r llywodraeth daleithiol. Nid oes unrhyw lefel ffurfiol o lywodraeth (fel llywodraethau dinas) yn bodoli islaw lefel y sir yn Hawaii. (Mae hyd yn oed Honolulu yn cael ei lywodraethu fel Dinas a Sir Honolulu, sir sy'n cynnwys ynys gyfan Oahu.)

Crëwyd holl siroedd Hawaii ym 1905 o diriogaeth ddi-drefn, saith mlynedd ar ôl creu Tiriogaeth Hawaii.[2] Yn hanesyddol, defnyddiwyd Kalawao County fel trefedigaeth i'r gwahanglwyfus yn unig, ac nid oes ganddi lawer o'r swyddogion etholedig sydd gan y siroedd eraill. Mae llawer o wasanaethau ar gyfer Kalawao yn cael eu darparu gan Maui County.

Map dwysedd poblogaeth golygu

Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

 

Cyfeiriadau golygu

  1. "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. State of Hawaii Facts and Figures online adalwyd 21 Ebrill 2020