Rhestr o Siroedd New Hampshire
Dyma restr o'r 10 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith New Hampshire yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Rhestr
golyguFIPS
golyguMae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod New Hampshire yw 33, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 33XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn y tabl isod yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]
Sir | Cod FIPS [3] | Sedd sirol [4] |
Sefydlu [4] |
Tarddiad [5] |
Etymoleg [6] |
Poblogaeth [7] |
Maint [4][7] |
Map . |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Belknap County | 001 | Laconia | 1840 | Rhannau o Merrimack County a Strafford County. | Jeremy Belknap (1744–1798), hanesydd cynnar New Hampshire. | 60,641 | ( 1,039 km2) |
401 sq mi|
Carroll County | 003 | Ossipee | 1840 | Rhan o Strafford County. | Charles Carroll o Carrollton (1737-1832), yr olaf i farw o lofnodwyr Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. | 47,285 | ( 2,419 km2) |
934 sq mi|
Cheshire County | 005 | Keene | 1769 | Un o'r pum sir wreiddiol. | Swydd Gaer, Lloegr. | 75,909 | ( 1,834 km2) |
708 sq mi|
Coös County | 007 | Lancaster | 1803 | Rhan o Grafton County. | Gair mewn iaith frodorol sy'n golygu "pinwydd bach". | 31,212 | ( 4,665 km2) |
1,801 sq mi|
Grafton County | 009 | North Haverhill | 1769 | Un o'r pum sir wreiddiol. | Augustus Henry Fitzroy, 3ydd Dug Grafton (1735-1811), Prif Weinidog Prydain Fawr (1768–1770) [8]. | 89,320 | ( 4,439 km2) |
1,714 sq mi|
Hillsborough County | 011 | Manchester a Nashua |
1769 | Un o'r pum sir wreiddiol. | Wills Hill, Ardalydd 1af Downshire (1718–1793), a adwaenir yn America fel Iarll Hillsborough, a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Gwladol cyntaf y Trefedigaethau . | 406,678 | ( 2,269 km2) |
876 sq mi|
Merrimack County | 013 | Concord | 1823 | Rhannau o Hillsborough County a Rockingham County. | Afon Merrimack. | 147,994 | ( 2,419 km2) |
934 sq mi|
Rockingham County | 015 | Brentwood | 1769 | Un o'r pum sir wreiddiol. | Charles Watson-Wentworth, 2il Ardalydd Rockingham (1730–1782), Prif Weinidog Prydain Fawr (1765–1766) a (1782). [9] | 301,777 | ( 1,800 km2) |
695 sq mi|
Strafford County | 017 | Dover | 1769 | Un o'r pum sir wreiddiol. | William Wentworth, 2il Iarll Strafford (1626–1695), uchelwr o Loegr a oedd yn berchen ar diroedd trefedigaethol. | 126,825 | ( 956 km2) |
369 sq mi|
Sullivan County | 019 | Newport | 1827 | Rhan o Cheshire County. | John Sullivan (1740–1795), trydydd a phumed llywodraethwr New Hampshire (1786–1788, 1789–1790). | 42,967 | ( 1,391 km2) |
537 sq mi
Hanes
golyguMae deg sir yn nhalaith New Hampshire. Crëwyd pump o'r siroedd ym 1769, pan oedd New Hampshire yn dal i fod yn drefedigaeth Seisnig yn hytrach na thalaith Americanaidd,. Sef cyfnod yr ystod israniad cyntaf o'r drefedigaeth i siroedd. Y siroedd olaf a grëwyd oedd Belknap County a Carroll County, ym 1840.
Tarddiad enwau
golyguEnwyd mwyafrif siroedd New Hampshire am bobl amlwg o Loegr neu'r America neu leoliadau a nodweddion daearyddol. Dim ond enw un sir sy'n tarddu o iaith Americaniad Brodorol: Sir Coös, a enwir am air Algonquian sy'n golygu "pinwydd bach".
Cefndir
golyguMae'r siroedd yn tueddu i fod yn llai o ran arwynebedd tir tuag at ben deheuol y dalaith, lle mae poblogaeth New Hampshire wedi'i chrynhoi, ac yn fwy o ran arwynebedd tir yn y gogledd llai poblog. [6]
Map dwysedd poblogaeth
golyguMae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-29.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "FIPS 6-4 - County Names and Codes of the US". web.archive.org. 2013-09-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ County FIPS Codes adalwyd 29 Ebrill 2020
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "NACo - Find a county". National Association of Counties. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-11. Cyrchwyd 2020-04-29.
- ↑ "New Hampshire Counties". The NHGenWeb Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-13. Cyrchwyd 2020-04-29.
- ↑ 6.0 6.1 New Hampshire Almanac adalwyd 29 Ebrill 2020
- ↑ 7.0 7.1 "New Hampshire QuickFacts from the US Census Bureau". State & County QuickFacts. Cyrchwyd 2016-04-24.
- ↑ FitzRoy, Augustus Henry, third duke of Grafton (1735–1811), prime minister. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 29 Ebrill 2020]
- ↑ Wentworth, Charles Watson-, second marquess of Rockingham (1730–1782), prime minister. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 29 Ebrill 2020
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD