Rhestr o Siroedd Utah

rhestr Wicimedia

Dyma restr o'r 29 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Utah yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]

Siroedd Utah

Cefndir golygu

Mae 29 sir yn nhalaith Utah. Yn wreiddiol, sefydlwyd saith sir o dan Wladwriaeth dros dro Deseret ym 1849: Davis, Iron, Sanpete, Salt Lake, Tooele, Utah, a Weber. [2] Crëwyd Tiriogaeth Utah ym 1851 gyda'r cyfarfod deddfwrfa diriogaethol cyntaf rhwng 1851-1852. Ail-greodd y ddeddfwrfa gyntaf y siroedd gwreiddiol o Dalaith Deseret o dan gyfraith diriogaethol yn ogystal â sefydlu tair sir ychwanegol: Juab, Millard, a Washington. Sefydlwyd pob sir arall rhwng 1854 a 1894 gan Ddeddfwrfa Diriogaethol Utah o dan gyfraith diriogaethol ac eithrio'r ddwy sir ddiwethaf a ffurfiwyd, Daggett a Duchesne. Fe'u crëwyd trwy bleidlais boblogaidd a thrwy gyhoeddiad gan y llywodraethwr ar ôl i Utah ddod yn dalaith. [3] Roedd y Duchesne County presenol yn cynnwys gwarchodfa Indiaid a gafodd ei chreu ym 1861. Agorwyd y warchodfa i wladychwyr ym 1905 a chrëwyd y sir ym 1913. Oherwydd bod ffyrdd peryglus, tir mynyddig, a thywydd gwael yn atal teithio ar hyd llwybr uniongyrchol, bu’n rhaid i drigolion y 19eg ganrif yn Sir Daggett heddiw deithio 400 i 800 milltir (640 i 1,290 km) ar y goets a rheilffordd i gynnal busnes yn Vernal , sedd y Sir Uintah dim ond 50 milltir (80 km) i ffwrdd. Ym 1917, pleidleisiodd holl drigolion Uintah County i greu Daggett County. [4]

Yn ôl Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 2010, poblogaeth Utah oedd 2,763,885. Mae ychydig dros 75% o boblogaeth Utah wedi'i ganoli ar hyd pedair sir Wasatch Front, sef Salt Lake, Utah, Davis a Weber. Salt Lake County oedd y sir fwyaf yn y dalaith gyda phoblogaeth o 1,029,655, ac yna Utah County gyda phoblogaeth o 516,564, Davis County gyda 306,479 a Weber gyda 231,236. Daggett County oedd y sir lleiaf poblog gyda 1,059 o bobl. Y sir fwyaf o ran arwynebedd tir yw San Juan County gyda 7,821 milltir sgwâr (20,260 km2) a Davis County yw'r lleiaf gyda 304 milltir sgwâr (790 km2).

Rhestr golygu

FIPS golygu

Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Utah yw 49, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 49XXX. Mae Beaver County yn rhannu'r cod 001 gyda nifer o siroedd eraill yn yr Unol Daleithiau megis Allegany County, Maryland ond o ragddodi cod talaith Utah, 49, i god Beaver County ceir 49001, cod unigryw i'r sir honno.

Sir
Cod FIPS [5] Sedd y Sir[3][6] Sefydlu[3][6] Tarddiad[3] Etymoleg <[7][8] Poblogaeth[9] Maint[10] Map
Beaver County 001 Beaver 1856 Rhan o Iron County Nifer yr afancod yn yr ardal 70036710000000000006,710 70032590000000000002,590 sq mi
(70036708000000000006,708 km2)
 
Box Elder County 003 Brigham City 1856 Rhan o Weber County Nifer y coed Masarnen dail ynn (Lladin: Acer negundo, Saesneg: Box Elder) yn yr ardal 700456046000000000056,046 70035746000000000005,746 sq mi
(700414882000000000014,882 km2)
 
Cache County 005 Logan 1857 Rhan o Weber County O'r gair Saesneg "Cache", sy'n golygu cuddstôr. Bu nifer o helwyr yn cudd-storio ffwr yn yr ardal. 7005128289000000000128,289 70031165000000000001,165 sq mi
(70033017000000000003,017 km2)
 
Carbon County 007 Price 1894 Rhan o Emery County Carbon yw brif elfen glo, mae'r sir yn enwog am ei faes glo.[11] 700420463000000000020,463 70031478000000000001,478 sq mi
(70033828000000000003,828 km2)
 
Daggett County 009 Manila 1919 Rhan o Uintah County Er cof am Ellsworth Daggett (1810–1880), Syrfëwr Cyffredinol cyntaf Utah 7002950000000000000950 7002697000000000000697 sq mi
(70031805000000000001,805 km2)
 
Davis County 011 Farmington 1850 Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret Er cof am Daniel C. Davis (1804–1850), capten ar Gatrawd y Mormoniaid 7005355481000000000355,481 7002299000000000000299 sq mi
(7002774000000000000774 km2)
 
Duchesne County 013 Duchesne 1913 Rhan o Wasatch County Ansicr. Mae awgrymiadau am darddiad tebygol yn cynnwys: gair yn iaith frodorol yr Ute am "ddyffryn tywyll"; safle rhyfel Ffrainc yn erbyn y brodorion Fort Duquesne; llygriad o enw personol pennaeth brodorion yr ardal; llygriad o enw trapiwr ffwr ac archwiliwr Ffrengig. 700419938000000000019,938 70033241000000000003,241 sq mi
(70038394000000000008,394 km2)
 
Emery County 015 Castle Dale 1880 Rhan o Sanpete County[12] Er anrhydedd i George W. Emery (1830–1909), Llywodraethwr tiriogaeth Utah 1875–1880 700410012000000000010,012 70034462000000000004,462 sq mi
(700411557000000000011,557 km2)
 
Garfield County 017 Panguitch 1882 Rhan o Iron County Er anrhydedd i'r Arlywydd James A. Garfield (1831–1881) 70035051000000000005,051 70035175000000000005,175 sq mi
(700413403000000000013,403 km2)
 
Grand County 019 Moab 1890 Rhan o Emery County Afon Grand cyn enw Afon Colorado 70039754000000000009,754 70033672000000000003,672 sq mi
(70039510000000000009,510 km2)
 
Iron County 021 Parowan 1850 Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret Y mwynfeydd heuarn i'r gorllewin i Cedar City.[13] 700454839000000000054,839 70033297000000000003,297 sq mi
(70038539000000000008,539 km2)
 
Juab County 023 Nephi 1852 Un o siroedd gwreiddiol Tiriogaeth Utah Gair frodorol am "ddyffryn sychedig" 700412017000000000012,017 70033392000000000003,392 sq mi
(70038785000000000008,785 km2)
 
Kane County 025 Kanab 1864 Rhan o Washington County Er anrhydedd i Thomas L. Kane (1822–1883), Swyddog milwrol oedd yn gefnogol i wladychiad Utah gan y Mormoniaid 70037886000000000007,886 70033990000000000003,990 sq mi
(700410334000000000010,334 km2)
 
Millard County 027 Fillmore 1851 Un o siroedd gwreiddiol Tiriogaeth Utah Er anrhydedd i'r Arlywydd Millard Fillmore (1800–1874) 700413188000000000013,188 70036572000000000006,572 sq mi
(700417021000000000017,021 km2)
 
Morgan County 029 Morgan 1862 Rhan o Davis County[14] Er anrhydedd i Jedediah Morgan Grant (1816–1856), Apostol Mormonaidd 700412124000000000012,124 7002609000000000000609 sq mi
(70031577000000000001,577 km2)
 
Piute County 031 Junction 1865 Rhan o Beaver County Cenedl frodorol y Piute a oedd yn arfer byw yn yr ardal 70031479000000000001,479 7002758000000000000758 sq mi
(70031963000000000001,963 km2)
 
Rich County 033 Randolph 1864 Rhan o Cache County Er anrhydedd i Charles C. Rich (1809–1883), Apostol Mormonaidd 70032483000000000002,483 70031029000000000001,029 sq mi
(70032665000000000002,665 km2)
 
Salt Lake County 035 Salt Lake City 1849 Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret Ar ôl y Llyn Mawr Hallt, sy'n ffurfio rhan o'r sir 70061160437000000001,160,437 7002742000000000000742 sq mi
(70031922000000000001,922 km2)
 
San Juan County 037 Monticello 1880 Rhannau o Kane, Iron, a Piute counties Ar ôl afon San Juan sy'n llifo trwy'r sir 700415308000000000015,308 70037820000000000007,820 sq mi
(700420254000000000020,254 km2)
 
Sanpete County 039 Manti 1849 Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret Ansicr, o bosib o enw pennaeth cenedl frodorol yr Ute o'r enw San Pitch 700430939000000000030,939 70031590000000000001,590 sq mi
(70034118000000000004,118 km2)
 
Sevier County 041 Richfield 1862 Rhan o Sanpete County Ar ôl Afon Sevier sy'n llifo trwy'r sir 700421620000000000021,620 70031911000000000001,911 sq mi
(70034949000000000004,949 km2)
 
Summit County 043 Coalville 1854 Rhannau o Salt Lake a Green River county[15] Ucheldiroedd y sir, sy'n cynnwys 39 o gopaon uchaf Utah 700442145000000000042,145 70031872000000000001,872 sq mi
(70034848000000000004,848 km2)
 
Tooele County 045 Tooele 1849 Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret Yn ansicr, naill ai ar ôl Tuilla pennaeth cenedl frodorol y Goshute neu'r planhigyn Tule sy'n tyfu yng nghorsydd y sir 700472259000000000072,259 70036941000000000006,941 sq mi
(700417977000000000017,977 km2)
 
Uintah County 047 Vernal 1880 Rhan o Wasatch[16] Llwyth Uintah o genedl frodorol yr Ute a arferai trigo yn yr ardal 700435734000000000035,734 70034480000000000004,480 sq mi
(700411603000000000011,603 km2)
 
Utah County 049 Provo 1849 Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret Yuta, ynganiad Sbaenig o enw cenedl frodorol yr Ute 7005636235000000000636,235 70032003000000000002,003 sq mi
(70035188000000000005,188 km2)
 
Wasatch County 051 Heber City 1862 Rhan o Utah a Sanpete Gair brodorol am fwlch mewn mynydd 700434091000000000034,091 70031176000000000001,176 sq mi
(70033046000000000003,046 km2)
 
Washington County 053 St. George 1852 Un o siroedd gwreiddiol Talaith Utah Er cof am yr Arlywydd George Washington (1732–1799), 7005177556000000000177,556 70032426000000000002,426 sq mi
(70036283000000000006,283 km2)
 
Wayne County 055 Loa 1892 Rhan o Piute County Wayne County, Tennessee[17] 70032711000000000002,711 70032461000000000002,461 sq mi
(70036374000000000006,374 km2)
 
Weber County 057 Ogden 1849 Un o siroedd gwreiddiol Talaith Deseret Ar ôl Afon Weber sy'n llifo trwy'r sir 7005260213000000000260,213 7002576000000000000576 sq mi
(70031492000000000001,492 km2)
 

Cyn siroedd golygu

Bu deg sir yn Nhiriogaeth Utah a gafodd eu hamsugno gan daleithiau eraill neu siroedd eraill Utah.

Enw [3] Sefydlu [3] Diddymu [3] Etymoleg [7] Lleoliad presenol [3]
Carson County 1854 1861 Wedi'i henwi ar ôl Afon Carson, afon 150 milltir (240 km) yn Nevada a Chaliffornia sy'n tarddu o fynyddoedd Sierra Nevada Nevada
Cedar County 1856 1862 Wedi'i enwi ar gyfer y coed cedrwydd niferus sy'n tyfu yn yr ardal (sydd mewn gwirionedd yn goed meryw) Utah County
Desert County 1852 1862 Y gair Saesneg desert anialwch. Roedd llawer o anialdiroedd yn y sir Box Elder County, Tooele County a Nevada
Greasewood County 1856 1862 Ar ôl y planhigyn greasewood un o deulu y Sarcobatus Vermiculatus a oedd yn tyfu yn yr ardal Box Elder County
Green River County 1852 1872 Wedi'i enwi ar ôl yr Afon Green River, llednant 730 milltir (1,170 km) o Afon Colorado sy'n rhedeg trwy Wyoming, Colorado ac Utah Cache, Weber, Morgan, Davis, Wasatch, Summit, Duchesne, Carbon, ac Utah a Thaleithiau Wyoming a Colorado
Humboldt County 1856 1861 Cafodd ei henwi ar ôl Afon Humboldt Nevada
Malad County 1856 1862 Cafodd ei henwi ar ôl Afon Malad Box Elder County
Rio Virgin County 1869 1872 Cafodd ei henwi ar ôl Afon Virgin Washington County, Nevada ac Arizona
St. Mary's County 1856 1861 Cafodd ei henwi ar ôl Afon Mary Nevada
Shambip County 1856 1862 Llygriad o Goshute yr enw frodorol am Rush Lake Tooele County

Map dwysedd poblogaeth golygu

Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

 

Cyfeiriadau golygu

  1. "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. Fisher, Richard Swainson (1855). A new and complete statistical gazetteer of the United States of America. New York, J. H. Colton and company. t. 870.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 Chart of County Formation in Utah, Utah Division of Archives and Record Services adalwyd 26 Mehefin 2020
  4. Industrial Commission of Utah (1920). Report of the Industrial Commission of Utah. Kaysville, Utah: Inland Publishing Company. t. 346. Cyrchwyd 1 Mehefin 2020.
  5. USDA County FIPS Codes adalwy 26 Mehefin 2020
  6. 6.0 6.1 Utah About Counties Utah, National Association of Counties adalwyd 26 Mehefin 2020]
  7. 7.0 7.1 Van Cott, John W. (1990). Utah Place Name. Salt Lake City: University of Utah Press. ISBN 978-0-87480-345-7.
  8. County Name History, Utah Association of Counties adalwyd 26 Gorffennaf
  9. Fact Finder, U.S. Census Bureau adalwyd 26 Mehefin 2020
  10. Gazetteer of Utah Counties, U.S. Census Bureau adalwyd 26 Mehefin 2020
  11. Utah History Encyclopedia COAL MINING IN UTAH adalwyd 26 Mehefin 2020
  12. Bancroft, Hubert Howe (1890). History of Utah. San Francisco: The History Company. Cyrchwyd 26 Mehefin 2020.
  13. Palladon Ventures adalwyd 26 Mehefin 2020
  14. Tullidge, Edward William (1889). Tullidge's histories, (volume II) containing the history of all the northern Utah. Salt Lake City: Juvenile Instructor. t. 118. Cyrchwyd 26 Mehefin 2020.
  15. Utah History Encyclopedia SUMMIT COUNTY adalwyd 26 Mehefin 2020
  16. Utah History Encyclopedia UINTAH COUNTY adalwyd 26 Mehefin 2020
  17. Murphy, Miriam B. (January 1999). A History of Wayne County. Utah Centennial County History Series. Salt Lake City: Utah State Historical Society. tt. 78–80. ISBN 0-913738-45-X.