Rhestr o Siroedd Washington
Dyma restr o'r 39 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Washington yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Hanes
golyguSefydlodd Llywodraeth Dros Dro Oregon Siroedd Vancouver a Lewis ym 1845 allan o diroedd heb eu trefnu yn nhiriogaeth Oregon, gan ymestyn o Afon Columbia i'r i ledred gogleddol 54° 40′. Ar ôl i'r rhanbarth gael ei drefnu o fewn tiriogaeth Oregon gyda'r ffin ogleddol bresennol o 49 ° l ailenwyd Vancouver County yn Clarke, a chrëwyd chwe sir arall allan o Lewis County cyn trefnu Tiriogaeth Washington ym 1853. Ffurfiwyd 28 sir yn ystod cyfnod tiriogaethol Washington, a dim ond yn fyr yr oedd dwy ohonynt yn bodoli. Sefydlwyd y pump olaf yn y 22 mlynedd ar ôl i Washington gael ei dderbyn i'r Undeb fel y 42ain wladwriaeth ym 1889. [2]
Mae Erthygl XI o Gyfansoddiad Talaith Washington yn ymdrin â threfniadaeth siroedd. Rhaid i siroedd newydd fod â phoblogaeth o 2,000 o leiaf ac ni ellir lleihau unrhyw sir i boblogaeth o dan 4,000 oherwydd ymrannu i greu sir newydd. [3] Ni wnaed unrhyw newidiadau i siroedd ers ffurfio Pend Oreille County ym 1911, ac eithrio pan symudwyd ardal fach o Cliffdell o Kittitas i Yakima County ym 1970.
King County, yw leoliad y ddinas fwyaf yn y dalaith, Seattle, sy'n gartref i 30% o boblogaeth Washington (2,252,782 o drigolion o 7,614,893 yn 2019) ac mae ganddo'r dwysedd poblogaeth uchaf gyda mwy na 1,000 o bobl y filltir sgwâr (400/km2). Garfield County yw'r sir leiaf ei phoblogaeth is both the least populated (2,225) ac efo'r dwyster poblogaeth leiaf (3.1/mi2). Mae dwy sir, San Juan ac Island, yn cynnwys dim ond ynysoedd.
Mae gan ddwy sir ar bymtheg enw sy'n deillio o'r bobl Frodorol, gan gynnwys naw enw llwyth y cafodd eu tiroedd eu meddiannu gan y gwladychwyr. Enwyd dau ar bymtheg arall ar gyfer ffigurau gwleidyddol, ond dim ond pump ohonynt oedd wedi byw yn y rhanbarth. Enwir y pump olaf am nodweddion daearyddol.
Llywodraethu
golyguMae siroedd yn darparu cwmpas eang o wasanaethau, gan gynnwys gweithrediad llysoedd, parciau a hamdden, llyfrgelloedd, y celfyddydau, gwasanaethau cymdeithasol, etholiadau, casglu gwastraff, ffyrdd a chludiant, cynllunio a thrwyddedu a threthi. [4][5] Mae ystod y gwasanaethau yn amrywio, ac mae rhai yn cael eu gweinyddu gan fwrdeistrefi. Nid yw siroedd wedi'u hisrannu'n fân adrannau sifil fel trefgorddau; dim ond gan ddinasoedd a threfi corfforedig y mae llywodraeth leol is sirol, yn ogystal â chan 29 Neilldir Indiaidd (tiriogaeth neilltuedig) y cenhedloedd brodorol. Dim ond y sir sy'n llywodraethu ardaloedd anghorfforedig. Mae 242 o adrannau sirol cyfrifiad at ddibenion ystadegol yn unig. [6]
Ffurf arferol llywodraeth sirol yw comisiwn nad yw'n siartredig, gyda thri i bum comisiynydd etholedig yn gwasanaethu fel y ddeddfwrfa a'r gweithgor. Mae saith sir wedi mabwysiadu siarteri sy'n darparu ar gyfer rheolaeth gartref sy'n wahanol i gyfraith y wladwriaeth: King, Clallam, Whatcom, Snohomish, Pierce, San Juan a Clark. O'r rhain, mae King, Whatcom, Snohomish, a Pierce, pedair prif sir ar Puget Sound, yn ethol gweithgor sirol. Mae cynghorau yn y tair sir siarter arall yn penodi rheolwr i weinyddu'r llywodraeth. Gall pleidleiswyr hefyd ethol clerc, trysorydd, siryf, asesydd, crwner, archwilydd (neu gofnodwr), a thwrnai erlyn. Mae etholiadau yn rhai amhleidiol mewn siroedd nad ydynt yn dal siarter, ond gall siroedd siarter ddewis gwneud rhai swyddi'n bleidiol [7]
Rhestr
golyguFIPS
golyguMae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Washington yw 53, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 53XXX. Mae Adams County yn rhannu'r cod 001 gyda nifer o siroedd eraill yn yr Unol Daleithiau megis Allegany County, Maryland ond o ragddodi cod talaith Washington, 53, i god Adams County ceir 53001, cod unigryw i'r sir honno. [8]
Sir |
Cod FIPS [8] | Sedd sirol[9] | Sefydlu[9][10] | Tarddiad[10][11] | Etymoleg | Poblogaeth (2019)[12] | Maint[9] | Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Adams County | 001 | Ritzville | 1883 | Whitman County | John Adams (1735–1826), Arlywydd yr Unol Daleithiau | 19,983 | ( 4,986 km2) |
1,925 sq mi|
Asotin County | 003 | Asotin | 1883 | Garfield County | Enw Cenedl y Nez Percé am Eel Creek | 2,582 | ( 1,647 km2) |
636 sq mi|
Benton County | 005 | Prosser | 1905 | Yakima and Klickitat Counties | Thomas Hart Benton (1782–1858), Seneddwr o Missouri | 204,390 | ( 4,411 km2) |
1,703 sq mi|
Chelan County | 007 | Wenatchee | 1899 | Siroedd Okanogan a Kittitas | Gair brodorol am "ddŵr dwfn" sy'n cyfeirio at Lyn Chelan | 77,200 | ( 7,568 km2) |
2,922 sq mi|
Clallam County | 009 | Port Angeles | 1854 | Jefferson County | Gair Cenedl Frodorol y Klallam am "bobl ddewr" neu "bobl gref" | 77,331 | ( 4,520 km2) |
1,745 sq mi|
Clark County | 011 | Vancouver | 1845 | Sir Gwreiddiol | William Clark (1770–1838), cyd arweinydd alldaith Lewis a Clark | 488,241 | ( 1,627 km2) |
628 sq mi|
Columbia County | 013 | Dayton | 1875 | Walla Walla County | Afon Columbia | 3,985 | ( 2,251 km2) |
869 sq mi|
Cowlitz County | 015 | Kelso | 1854 | Lewis County | Cenedl Frodorol y Cowlitz | 110,593 | ( 2,950 km2) |
1,139 sq mi|
Douglas County | 017 | Waterville | 1883 | Lincoln County | Stephen A. Douglas (1813–1861), Seneddwr o Illinois | 43,429 | ( 4,716 km2) |
1,821 sq mi|
Ferry County | 019 | Republic | 1899 | Stevens County | Elisha P. Ferry (1825–1895), Llywodraethwr 1af Washington | 7,627 | ( 5,708 km2) |
2,204 sq mi|
Franklin County | 021 | Pasco | 1883 | Whitman County | Benjamin Franklin (1706–1790), ysgrifennwr, areithiwr, dyfeisiwr, a Thad Sylfaenol yr Unol Daleithiau | 95,222 | ( 3,217 km2) |
1,242 sq mi|
Garfield County | 023 | Pomeroy | 1881 | Columbia County | Yr Arlywydd James A. Garfield (1831–1881) | 2,225 | ( 1,839 km2) |
710 sq mi|
Grant County | 025 | Ephrata | 1909 | Douglas County | Yr Arlywydd Ulysses S. Grant (1822–1885) | 97,733 | ( 6,944 km2) |
2,681 sq mi|
Grays Harbor County | 027 | Montesano | 1854 | Thurston County | Grays Harbor, corff o ddŵr a enwyd ar ôl y fforiwr a masnachwr Robert Gray (1755–1806) | 75,061 | ( 4,965 km2) |
1,917 sq mi|
Island County | 029 | Coupeville | 1852 | Thurston County | Sir o ynysoedd gan gynnwys ynys Whidbey ac ynys Camano | 85,141 | ( 541 km2) |
209 sq mi|
Jefferson County | 031 | Port Townsend | 1852 | Thurston County | Thomas Jefferson (1743–1826), Arlywydd yr Unol Daleithiau a phrif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau | 32,221 | ( 4,685 km2) |
1,809 sq mi|
King County | 033 | Seattle | 1852 | Thurston County | William R. King (1786–1853), Is lywydd yr Unol Daleithiau o dan Franklin Pierce; wedi ei ailgysegru'n swyddogol yn 2005 er anrhydedd i'r ymgyrchydd hawliau sifil Martin Luther King (1929–1968)[13] | 2,252,782 | ( 5,506 km2) |
2,126 sq mi|
Kitsap County | 035 | Port Orchard | 1857 | Siroedd King a Jefferson Counties | Kitsap (d. 1860), Pennaeth Cenedl y Suquamish | 271,473 | ( 1,026 km2) |
396 sq mi|
Kittitas County | 037 | Ellensburg | 1883 | Yakima County | Gair o iaith Cenedl Frodorol y Yakama nad oes sicrwydd o'i hystyr bellach | 47,935 | ( 5,949 km2) |
2,297 sq mi|
Klickitat County | 039 | Goldendale | 1859 | Walla Walla County | Cenedl Frodorol y Klickitat | 22,425 | ( 4,848 km2) |
1,872 sq mi|
Lewis County | 041 | Chehalis | 1845 | Clark County | Meriwether Lewis (1774–1809), cyd arweinydd alldaith Lewis a Clark | 80,707 | ( 6,237 km2) |
2,408 sq mi|
Lincoln County | 043 | Davenport | 1883 | Whitman County | Abraham Lincoln (1809–1865), 16eg Arlywydd yr Unol Daleithiau | 10,939 | ( 5,985 km2) |
2,311 sq mi|
Mason County | 045 | Shelton | 1854 | King County | Charles H. Mason (1830–1859), Ysgrifennydd Cyntaf Tiriogaeth Washington | 66,768 | ( 2,489 km2) |
961 sq mi|
Okanogan County | 047 | Okanogan | 1888 | Stevens County | Gair Cenedl Frodorol y Salish yn golygu "man cyfarfod" | 42,243 | ( 13,644 km2) |
5,268 sq mi|
Pacific County | 049 | South Bend | 1851 | Lewis County | Y Cefnfor Tawel (Saesneg: Pacific Ocean) | 22,036 | ( 2,525 km2) |
975 sq mi|
Pend Oreille County | 051 | Newport | 1911 | Stevens County | Pend d'Oreilles ffugenw Ffrengig am genedl frodorol oherwydd siâp eu clustiau | 13,724 | ( 3,626 km2) |
1,400 sq mi|
Pierce County | 053 | Tacoma | 1852 | Thurston County | Franklin Pierce (1804–1869), 14eg Arlywydd yr Unol Daleithiau | 904,980 | ( 4,341 km2) |
1,676 sq mi|
San Juan County | 055 | Friday Harbor | 1873 | Whatcom County | Ynysoedd San Juan a enwyd ar ôl Juan Vicente de Güemes, ail Gownt Revillagigedo | 17,582 | ( 453 km2) |
175 sq mi|
Skagit County | 057 | Mount Vernon | 1883 | Whatcom County | Cenedl y Skagit | 129,205 | ( 4,494 km2) |
1,735 sq mi|
Skamania County | 059 | Stevenson | 1854 | Clark County | Gair Cenedl Frodorol y Chinookan am "ddŵr cyflym" | 12,083 | ( 4,289 km2) |
1,656 sq mi|
Snohomish County | 061 | Everett | 1861 | Siroedd Island a King | Cenedl y Snohomish | 822,083 | ( 5,413 km2) |
2,090 sq mi|
Spokane County | 063 | Spokane | 1879 | Stevens County | Cenedl Frodorol y Spokane | 522,798 | ( 4,569 km2) |
1,764 sq mi|
Stevens County | 065 | Colville | 1863 | Walla Walla County | Isaac Stevens (1818-1862), Llywodraethwr cyntaf Tiriogaeth Washington | 45,723 | ( 6,418 km2) |
2,478 sq mi|
Thurston County | 067 | Olympia | 1852 | Lewis County | Samuel Thurston (1815–1851), cynrychiolydd cyntaf Tiriogaeth Oregon i Gyngres yr Unol Daleithiau | 290,536 | ( 1,883 km2) |
727 sq mi|
Wahkiakum County | 069 | Cathlamet | 1854 | Cowlitz County | Wakaiakam, Pennaeth Cenedl Frodorol y Kathlamet | 4,488 | ( 684 km2) |
264 sq mi|
Walla Walla County | 071 | Walla Walla | 1854 | Skamania County | Cenedl Frodorol y Walla Walla | 60,760 | ( 3,289 km2) |
1,270 sq mi|
Whatcom County | 073 | Bellingham | 1854 | Island County | Whatcom, Pennaeth Cenedl Frodorol y Nooksack | 229,247 | ( 5,491 km2) |
2,120 sq mi|
Whitman County | 075 | Colfax | 1871 | Stevens County | Marcus Whitman (1802-1847), cenhadwr Methodistaidd | 50,104 | ( 5,592 km2) |
2,159 sq mi|
Yakima County | 077 | Yakima | 1865 | Ferguson County (defunct) | Iaith Cenedl Frodorol y Yakama yn golygu dŵr sy'n rhedeg yn rhydd | 250,873 | ( 11,127 km2) |
4,296 sq mi
Map dwysedd poblogaeth
golyguMae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Washington: Consolidated Chronology of State and County Boundaries Archifwyd 2016-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ Washington State Office of the Code Reviser; Washington State Constitution; Article XI, Section 3: New Counties adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ King County Executive - Services adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ Spokane County -County Services adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ United States Census Bureau - Washington: Basic Information adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ Municipal Research and Services Center Washington County Forms of Government adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ 8.0 8.1 US Environmental Protection Agency County FIPS Code Listing for the State of WASHINGTON adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ 9.0 9.1 9.2 NACo - Find A County adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ 10.0 10.1 Newberry Library Washington: Historical Borders Archifwyd 2020-03-08 yn y Peiriant Wayback adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ HistoryLink -County Thumbnails adalwyd 28 Mehefin 2020
- ↑ "U.S. Census Bureau QuickFacts: Washington". www.census.gov. Cyrchwyd 2020-06-28.
- ↑ Seattle Times 20 Ionawr 2020 " Remembering the fight to change King County’s namesake from a slave owner to a civil-rights leader" adalwyd 29 Mehefin 2020
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD