Rhestr o Siroedd Georgia (talaith UDA)

rhestr

Dyma restr o'r 159 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Georgia yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor: [1]

Siroedd Georgia

Rhestr golygu

  1. Appling County
  2. Atkinson County
  3. Bacon County
  4. Baker County
  5. Baldwin County
  6. Banks County
  7. Barrow County
  8. Bartow County
  9. Ben Hill County
  10. Berrien County
  11. Bibb County
  12. Bleckley County
  13. Brantley County
  14. Brooks County
  15. Bryan County
  16. Bulloch County
  17. Burke County
  18. Butts County
  19. Calhoun County
  20. Camden County
  21. Candler County
  22. Carroll County
  23. Catoosa County
  24. Charlton County
  25. Chatham County
  26. Chattahoochee County
  27. Chattooga County
  28. Cherokee County
  29. Clarke County
  30. Clay County
  31. Clayton County
  32. Clinch County
  33. Cobb County
  34. Coffee County
  35. Colquitt County
  36. Columbia County
  37. Cook County
  38. Coweta County
  39. Crawford County
  40. Crisp County
  41. Dade County
  42. Dawson County
  43. Decatur County
  44. DeKalb County
  45. Dodge County
  46. Dooly County
  47. Dougherty County
  48. Douglas County
  49. Early County
  50. Echols County
  51. Effingham County
  52. Elbert County
  53. Emanuel County
  54. Evans County
  55. Fannin County
  56. Fayette County
  57. Floyd County
  58. Forsyth County
  59. Franklin County
  60. Fulton County
  61. Gilmer County
  62. Glascock County
  63. Glynn County
  64. Gordon County
  65. Grady County
  66. Greene County
  67. Gwinnett County
  68. Habersham County
  69. Hall County
  70. Hancock County
  71. Haralson County
  72. Harris County
  73. Hart County
  74. Heard County
  75. Henry County
  76. Houston County
  77. Irwin County
  78. Jackson County
  79. Jasper County
  80. Jeff Davis County
  81. Jefferson County
  82. Jenkins County
  83. Johnson County
  84. Jones County
  85. Lamar County
  86. Lanier County
  87. Laurens County
  88. Lee County
  89. Liberty County
  90. Lincoln County
  91. Long County
  92. Lowndes County
  93. Lumpkin County
  94. McDuffie County
  95. McIntosh County
  96. Macon County
  97. Madison County
  98. Marion County
  99. Meriwether County
  100. Miller County
  101. Mitchell County
  102. Monroe County
  103. Montgomery County
  104. Morgan County
  105. Murray County
  106. Muscogee County
  107. Newton County
  108. Oconee County
  109. Oglethorpe County
  110. Paulding County
  111. Peach County
  112. Pickens County
  113. Pierce County
  114. Pike County
  115. Polk County
  116. Pulaski County
  117. Putnam County
  118. Quitman County
  119. Rabun County
  120. Randolph County
  121. Richmond County
  122. Rockdale County
  123. Schley County
  124. Screven County
  125. Seminole County
  126. Spalding County
  127. Stephens County
  128. Stewart County
  129. Sumter County
  130. Talbot County
  131. Taliaferro County
  132. Tattnall County
  133. Taylor County
  134. Telfair County
  135. Terrell County
  136. Thomas County
  137. Tift County
  138. Toombs County
  139. Towns County
  140. Treutlen County
  141. Troup County
  142. Turner County
  143. Twiggs County
  144. Union County
  145. Upson County
  146. Walker County
  147. Walton County
  148. Ware County
  149. Warren County
  150. Washington County
  151. Wayne County
  152. Webster County
  153. Wheeler County
  154. White County
  155. Whitfield County
  156. Wilcox County
  157. Wilkes County
  158. Wilkinson County
  159. Worth County

Cefndir golygu

Rhennir talaith Georgia yn 159 sir, sef mwy nag unrhyw dalaith arall heblaw am Texas, sydd â 254 o siroedd. O dan Gyfansoddiad Talaith Georgia, rhoddir hunain lywodraeth i'w holl siroedd i ddelio â phroblemau sy'n lleol iddynt hwy yn unig. Hefyd, mae wyth sir gyfunol sydd yn siroedd a hefyd yn awdurdodau dinas: Athens-Clarke County, Augusta-Richmond County, Columbus-Muscogee County, Georgetown-Quitman County, Statenville-Echols County, Macon-Bibb County, Cusseta-Chattahoochee County, a Preston-Webster County.

Hanes golygu

Rhwng 1732 a 1758, ardaloedd a threfi oedd y mân adrannau sifil yn Georgia. Ym 1758, rhannwyd Talaith Georgia yn wyth plwyf, a rhannwyd pedwar plwyf arall ym 1765; ym 1777, crëwyd wyth sir wreiddiol y dalaith. Y rhain oedd Burke, Camden, Chatham, Effingham, Glynn, Liberty, Richmond, a Wilkes, pob un wedi'i greu ar 5 Chwefror, 1777.

Mae gan Georgia'r ail nifer fwyaf o siroedd o unrhyw dalaith yn yr Unol Daleithiau. [1] Yn ôl traddodiad y rheswm dros greu a lleoli cymaint o siroedd yn Georgia oedd y dylai pobl cefn gwlad gallu teithio i'r dref neu ddinas y sedd sirol gyfreithiol, ac yn ôl adref, mewn un diwrnod ar gefn ceffyl neu mewn wagen. Fodd bynnag, crëwyd tua 25 sir yn Georgia yn chwarter cyntaf yr 20fed ganrif, ar ôl i'r defnydd o'r rheilffordd, ceir, tryc a bws ddod yn bosibl. Oherwydd y System Uned Sirol, a ddatganwyd yn ddiweddarach i fod yn anghyfansoddiadol, roedd gan y siroedd newydd, peth bynnag fo'i phoblogaeth o leiaf un cynrychiolydd yn senedd y dalaith, gan gadw grym gwleidyddol mewn ardaloedd gwledig. [2] Y sir newydd olaf i gael ei sefydlu yn Georgia oedd Peach County, a sefydlwyd ym 1924. [3]

Arweiniodd nifer fawr y siroedd yn Georgia at sawl gwelliant i gyfansoddiadol y dalaith i geisio sefydlu terfyn ar nifer y siroedd yn y dalaeth. Cyfyngodd y diwygiad diweddaraf o'r fath, a gadarnhawyd ym 1945, y nifer i 159 o siroedd, er y bu 161 o siroedd rhwng 1924 a 1931. Mewn cydgrynhoad siroedd, atodwyd Campbell County a Milton County i Fulton County ym 1932 am resymau ariannol. Daeth yr uno yn ystod y Dirwasgiad Mawr, gan fod y ddwy lywodraeth sir a unwyd i Fulton County ar fin meth dalu. Mae Fulton County yn cynnwys dinas Atlanta, a chredid y byddai refeniw treth Atlanta a'i maestrefi yn helpu i gefnogi ardaloedd gwledig y siroedd a daeth i ben, a oedd ag ychydig iawn o incwm treth eu hunain - yn bennaf o drethi eiddo ar ffermydd a choedwigoedd, a doedd hynny ddim yn codi llawer o arian.

Georgia yw'r unig dalaith sy'n dal i ganiatáu llywodraeth sir gan un comisiynydd. Ar hyn o bryd, mae naw o 159 sir y dalaith yn gweithredu o dan y system honno.

Newid enwau siroedd golygu

Mae enwau ychydig o siroedd Georgia wedi newid. Yn wreiddiol, enwyd Jasper County yn " Randolph County". Yn ddiweddarach, sefydlwyd y Randolph County cyfredol. Ar un adeg, enwyd Webster County yn "Kinchafoonee County", ac enw gwreiddiol Bartow County oedd "Cass County".

Cyn siroedd golygu

  • Roedd St. George, St. Mary's, St. Thomas, St. Phillip, Christ Church, St. David, St. Matthews, St. Andrew, St. James, St. Johns, a St. Paul oll yn blwyfi a diddymwyd ym 1777 wrth sefydlu'r system sirol
  • Bourbon County (1785-1788): Wedi'i ffurfio o diroedd llwyth yr Yazoo a oedd yn destun anghydfod ar y pryd. Mae'r tir yn Nhalaith Mississippi heddiw.
  • Campbell County (1828-1932): Wedi'i ffurfio o siroedd Carroll a Coweta ym 1828, daeth hanner i'r gogledd-orllewin afon Chattahoochee yn Douglas County ym 1870, unwyd y gweddill Fulton County ym 1932.
  • Milton County (1857-1932): Ffurfiwyd allan o ogledd-ddwyrain Cobb County, de-ddwyrain Cherokee County a de-orllewin Forsyth County ym 1857, cafodd ei grynhoi yn rhan o Fulton County ym 1932.
  • Bu unwaith Walton County yn Georgia, a oedd wedi'i lleoli yn yr hyn sydd bellach yn dalaith Gogledd Carolina. Ymladdwyd ysgarmes fer, Rhyfel Walton, rhwng Gogledd Carolina a Georgia ym 1810, cyn i Georgia ildio’i honiad i berchenogaeth o'r ardal ar ôl arolwg Ellicott Rock ym 1811

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Hellmann, Paul T. (2006-02-14). Historical Gazetteer of the United States. Routledge. tt. 215–253. ISBN 978-1-135-94859-7.
  2. "Why Ga. Has The Second Highest Number Of Counties In The US". 90.1 FM WABE. 2016-04-04. Cyrchwyd 2020-04-21.
  3. "History - A Brief History of Georgia Counties - GeorgiaInfo". georgiainfo.galileo.usg.edu. Cyrchwyd 2020-04-21.