Rhestr o Siroedd De Carolina

rhestr

Dyma restr o'r 46 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith De Carolina yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor [1] :

Siroedd De Carolina

Rhestr

golygu

Mae talaith De Carolina yn cynnwys 46 sir. Dyma'r uchafswm a ganiateir gan gyfraith y dalaith. [2]

Yn y cyfnod trefedigaethol, rhannwyd y tir o amgylch yr arfordir yn blwyfi. Roedd y plwyfi yn cyfateb i blwyfi Eglwys Loegr yn y trefedigaethau ar y pryd. Roedd hefyd sawl sir a oedd â swyddogaethau barnwrol ac etholiadol. Wrth i bobl setlo'r cyffindiroedd, ffurfiwyd ardaloedd barnwrol a siroedd ychwanegol. Parhaodd a thyfodd y strwythur hwn ar ôl y Rhyfel Chwyldroadol. Ym 1800, ailenwyd pob "sir" yn "ardal". Ym 1868, newidiwyd yr ardaloedd yn ôl i siroedd. [3] Mae gan Adran Archifau a Hanes De Carolina fapiau sy'n dangos ffiniau siroedd, ardaloedd a phlwyfi gan ddechrau ym 1682.

Cyn plwyfi, siroedd a rhanbarthau

golygu

Plwyfi

golygu
  • Plwyf Sant Luc a ffurfiwyd gan y Cynulliad Trefedigaethol ar 23 Mai 1767, wedi'i leoli ar Ynys Hilton Head a'r tir mawr cyfagos.

Siroedd

golygu
  • Craven County a ffurfiwyd ym 1682 gan Yr Arglwyddi Perchnogol
  • Granville County a ffurfiwyd ym 1686 gan Yr Arglwyddi Perchnogol
  • Orange County (1785-1791)
  • Lewisburg County(1785-1791)
  • Winton County, sef y Barnwell County presennol
  • Liberty County, y Sir Marion County presennol
  • Winyah County yw hen enw Georgetown County
  • Claremont County
  • Salem County

Ardaloedd

golygu
  • Ffurfiwyd Ardal Cheraw ym 1769
  • Ffurfiwyd Ardal Camden ym 1769
  • Ffurfiwyd naw deg chwech o ardaloedd eraill, hefyd ym 1769
  • Ardal Pinckney (1791-1798)
  • Dosbarth Washington (1785-1798)
  • Ffurfiwyd Ardal Pendleton ym 1789 o diroedd llwyth y Cherokee

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The South Carolina Association of Counties (SCAC)" adalwyd 19 Ebrill 2020
  2. "Adran 3, Erthygl VIII o Gyfansoddiad De Carolina" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-06-30. Cyrchwyd 2020-04-19.
  3. Edgar, Walter, gol. The South Carolina Encyclopedia, University of South Carolina Press, 2006, tud. 230-234, ISBN 1-57003-598-2