Rhestr o Siroedd Gogledd Carolina

rhestr

Dyma restr o'r 100 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Gogledd Carolina yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor: [1]

Siroedd Gogledd Carolina

Rhestr golygu

Hanes golygu

Mae talaith Gogledd Carolina wedi'i rhannu'n 100 sir. Mae Gogledd Carolina yn safle 28 o ran maint yn ôl ardal, ond mae ganddo'r seithfed nifer uchaf o siroedd yn y wlad.

Ym 1629, rhoddodd y Brenin Siarl I hanner deheuol tiroedd Lloegr yn y Byd Newydd rhwng lledred 36 gradd a 31 gradd i'r gogledd o'r Cefnfor Iwerydd i'r Cefnfor Tawel i Syr Robert Heath (Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru). Enwyd y tir yn "Wladfa Carolina" neu dir Siarl. Methodd ymdrechion Syr Robert i setlo'r tir ac ym 1645, yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, collodd ei holl eiddo fel cefnogwr achos y Brenin. Yn 1663, derbyniodd wyth aelod o uchelwyr Lloegr siarter gan y Brenin Siarl II i sefydlu trefedigaeth Carolina. [2] Gelwid yr wyth hyn yn Arglwyddi Perchnogol. Yr wyth oedd:

  • Dug Albemarle (1608–1670)
  • Iarll Clarendon (1609–1674)
  • Barwn Berkeley o Stratton (1602–1678)
  • Iarll Craven (1608–1697)
  • Syr George Carteret (c. 1610–1680)
  • Sir William Berkeley (1605–1677)
  • Syr John Colleton (1608–1666)
  • Iarll Shaftesbury (1621–1683).

Ym 1729, daeth Talaith Gogledd Carolina yn endid ar wahân i Dalaith De Carolina. [3]

Mae sefydlu siroedd Gogledd Carolina yn ymestyn dros 240 mlynedd, gan ddechrau ym 1668 gyda chreu Sir Albemarle ac yn gorffen gyda chreu siroedd Avery a Hoke ym 1911. Mae pum sir wedi'u rhannu neu eu diddymu yn gyfan gwbl, yr olaf oedd Dobbs County ym 1791.

Map dwysedd poblogaeth golygu

Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

 

Siroedd hanesyddol golygu

Sir Crëwyd Diddymwyd Tynged
Albemarle County 1664[4] 1689[4] Rhannwyd i greu Chowan County, Currituck County, Pasquotank County a Perquimans County
Bath County 1696[5] 1739[5] Rhannwyd i greu Beaufort County, Craven County a Hyde County
Bute County 1764[6] 1779[6] Rhannwyd i greu Franklin County a Warren County
Dobbs County 1758[7] 1791[7] Rhannwyd i greu Greene County, Lenoir County a Wayne County
Tryon County 1768[8] 1779[8] Rhannwyd i greu Lincoln County a Rutherford County

Am sawl mis ym 1784, gelwid Cumberland County yn Fayette County ac anfonodd gynrychiolwyr i Gynulliad Cyffredinol Gogledd Carolina ym mis Ebrill 1784 o dan yr enw hwn.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. "South Carolina | Capital, Map, Population, History, & Facts". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-04-21.
  3. "Introduction to Colonial North Carolina (1600-1763)". www.ncpedia.org. Cyrchwyd 2020-04-21.
  4. 4.0 4.1 Welcome to Historic Albemarle County NC Archifwyd 2008-10-07 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Ebrill 2020
  5. 5.0 5.1 Historic Bath County North Carolina Genealogy Archifwyd 2008-06-24 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2020-04-21
  6. 6.0 6.1 Bute Co., North Carolina GenWeb 1764–1779 adalwyd 2020-04-21
  7. 7.0 7.1 Dobbs County, NC GenWeb Archives Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2008-07-24
  8. 8.0 8.1 Finding Tryon County Ancestors Archifwyd 2011-10-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2020-04-21
  9. Cheney, John L. Jr., gol. (1974). North Carolina Government, 1585–1974. tt. 212-213.