Rhestr o Siroedd Delaware

rhestr

Dyma restr o'r 3 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Delaware yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:

Siroedd Delaware

Rhestr

golygu
  1. Kent County
  2. New Castle County
  3. Sussex County

Rhennir talaith Delaware yn dair sir yn unig: New Castle, Kent, a Sussex, y nifer lleiaf mewn unrhyw dalaith yn yr Unol Daleithiau. [1] Mae tarddiad ffiniau'r siroedd yn mynd yn ôl i'w hen ardaloedd llys. Mae pwerau cyrff deddfwriaethol y siroedd wedi'u cyfyngu i faterion fel rheolau parthau (mae deddfau parthau yn yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio'r defnydd o dir mewn bwrdeistref ar gyfer datblygu [2]).

Gwleidyddiaeth a'r llywodraeth

golygu

Mae pob sir yn ethol corff deddfwriaethol a elwir yn siroedd New Castle a Sussex fel Cyngor Sir, ac yn Kent County fel y Llys Ardoll (Levy Court). Mae'r siroedd yn gallu codi trethi a benthyg arian. Mae ganddynt hefyd cyfrifoldeb am waredu sbwriel, cyflenwadau dŵr, carthffosiaeth, parthau, datblygu a rheolau adeiladu. [3]

Mae'r rhan fwyaf o'r dyletswyddau sy'n cael eu trin ar lefel sir mewn taleithiau eraill - megis cynnal llysoedd a chyfraith a threfn wedi'u canoli yn Delaware, gan arwain at grynhoad sylweddol o bŵer yn llywodraeth daleithiol Delaware. Yn hanesyddol, rhannwyd y siroedd yn gantrefi, a ddefnyddiwyd fel ardaloedd adrodd treth a phleidleisio hyd y 1960au. Fodd bynnag, nid yw'r cantrefi yn cyflawni unrhyw rôl weinyddo bellach; eu hunig ddefnydd cyfreithiol swyddogol cyfredol yw i ddisgrifio lleoliad a pherchenogaeth eiddo. [4]

Yn dilyn concwest Lloegr ym 1664, llywodraethwyd yr holl dir ar ochr orllewinol Afon Delaware a Bae Delaware fel rhan o Wladfa Efrog Newydd oedd yn cael ei weinyddu o dref New Castle. Yn ystod ail oresgyniad byr y Wladfa gan yr Iseldiroedd ym 1673, crëwyd ardaloedd llys ychwanegol o amgylch yr Upland, Pennsylvania a Whorekill. [5] Gelwid Whorekill yn Hoornkill weithiau, ond bellach mae'n cael ei adnabod fel Lewes. [6] Cafodd y llys yn New Castle rhan ganol y Wladfa. Daeth yr awdurdodaeth a adawyd i'r llys yn New Castle County. Parhaodd New Castle fel prif dref y sir hyd 1881 pan gafodd ei symud i Wilmington. Yn 1680, rhannwyd Ardal Whorekill yn Deale County a St Jones County. [7] Ar ôl y rhaniad hwn, daeth Lewes yn sedd sirol Deale, ac fe'i hailenwyd yn Sussex County Wedyn. Enwyd hen Ardal Upland ar ôl anheddiad New Sweden Upland, Pennsylvania, ac fe'i hailenwyd yn Chester County, Pennsylvania ym 1682. [8] Mae Chester County bellach wedi'i lleoli o fewn ffiniau presennol talaith Pennsylvania. [9]

Hawliodd yr Arglwydd Baltimore, Perchennog Maryland, y cyfan o'r hyn sy'n cael ei adnabod fel Talaith Delaware heddiw, a threfnodd ei rhannau gogleddol a dwyreiniol fel Durham County, Maryland. Fodd bynnag, dim ond ar bapur yr oedd y sir hon yn bodoli. Trefnwyd y rhannau deheuol a gorllewinol o'r hyn yw Sussex County heddiw fel rhannau o sawl sir ym Maryland gyfagos ac ni chawsant eu cydnabod fel rhan o Delaware hyd i Arolwg Mason-Dixon gael ei gynnal ym 1767. [10] Ym 1791, gydag ehangu Sussex County i'r de a'r gorllewin, symudwyd sedd y sir i Georgetown. [7] Mae sedd sirol St. Jones (a ailenwyd yn Kent County ym 1681 ) yn Dover.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "How Many Counties are in Your State?". Click and Learn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2009-08-26.
  2. "Zoning: What it is and How to Understand Zoning Codes". www.quickenloans.com. Cyrchwyd 2020-04-19.
  3. "Chapter Title 9 Counties". Online Delaware Code. Government of Delaware.
  4. "The Hundreds of Delaware: 1700 - 1800, Delaware Department of State:Division of Historical and Cultural Affairs website". The Official Website of the Government of Delaware. Government of Delaware. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-20. Cyrchwyd 2008-02-25.
  5. The Historical Society of Delaware (1997). "Delaware Counties". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-07-19. Cyrchwyd 2006-06-01.
  6. Hazel D. Brittingham (1997). "The Name of Whorekill". Lewestown Publishers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-13. Cyrchwyd 2007-04-24.
  7. 7.0 7.1 Delaware Genealogical Society (1997). "Delaware Counties and Hundreds". Delaware Genealogical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-13. Cyrchwyd 2006-06-01.
  8. J. Thomas Scharf and Thompson Westcott. "CHAPTER 1: Topography of Philadelphia". History of Philadelphia 1609-1884. Philadelphia Water Department. Cyrchwyd 2008-02-24.
  9. "Chester County website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-19. Cyrchwyd 2008-04-02.
  10. John Mackenzie. "A brief history of the Mason-Dixon survey line". University of Delaware. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-12. Cyrchwyd 2007-04-24.