Rhestr o Blwyfi Louisiana
Dyma restr o'r 64 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw Parish yn Nhalaith Kansas yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Rhestr
golygu- Acadia Parish
- Allen Parish
- Ascension Parish
- Assumption Parish
- Avoyelles Parish
- Beauregard Parish
- Bienville Parish
- Bossier Parish
- Caddo Parish
- Calcasieu Parish
- Caldwell Parish
- Cameron Parish
- Catahoula Parish
- Claiborne Parish
- Concordia Parish
- DeSoto Parish
- East Baton Rouge Parish
- East Carroll Parish
- East Feliciana Parish
- Evangeline Parish
- Franklin Parish
- Grant Parish
- Iberia Parish
- Iberville Parish
- Jackson Parish
- Jefferson Parish
- Jefferson Davis Parish
- Lafayette Parish
- Lafourche Parish
- LaSalle Parish
- Lincoln Parish
- Livingston Parish
- Madison Parish
- Morehouse Parish
- Natchitoches Parish
- Orleans Parish
- Ouachita Parish
- Plaquemines Parish
- Pointe Coupee Parish
- Rapides Parish
- Red River Parish
- Richland Parish
- Sabine Parish
- St. Bernard Parish
- St. Charles Parish
- St. Helena Parish
- St. James Parish
- St. John the Baptist Parish
- St. Landry Parish
- St. Martin Parish
- St. Mary Parish
- St. Tammany Parish
- Tangipahoa Parish
- Tensas Parish
- Terrebonne Parish
- Union Parish
- Vermilion Parish
- Vernon Parish
- Washington Parish
- Webster Parish
- West Baton Rouge Parish
- West Carroll Parish
- West Feliciana Parish
- Winn Parish
Cefndir
golyguRhennir talaith Unol Daleithiau Louisiana yn 64 plwyf (Ffrangeg: paroisses, Sbaeneg: parroquias) yn yr un modd ag y rhennir Alaska yn fwrdeistrefi, a rhennir 48 o daleithiau eraill yn siroedd.
Mae tri deg wyth o blwyfi yn cael eu llywodraethu gan gyngor o'r enw Rheithgor Heddlu. Mae gan y 26 sy'n weddill wahanol fathau eraill o lywodraeth, gan gynnwys: llywydd y cyngor, rheolwr cyngor, comisiwn plwyf, a phlwyf / dinas gyfunol. [2]
Hanes
golyguFfurfiwyd Louisiana o drefedigaethau Ffrengig a Sbaenaidd, a oedd ill dau yn Gatholig Rufeinig yn swyddogol. Roedd llywodraeth drefedigaethol leol yn seiliedig ar blwyfi, sef y rhanbarthau eglwysig lleol.
Yn dilyn Pryniant Louisiana ym 1803, rhannodd y cyngor deddfwriaethol tiriogaethol Diriogaeth Orleans (rhagflaenydd talaith Louisiana) yn 12 sir. Roedd ffiniau'r siroedd hyn wedi'u diffinio'n wael, ond roeddent yn cyd-fynd yn fras â'r plwyfi trefedigaethol, ac felly'n defnyddio'r un enwau. [3]
Ar 31 Mawrth, 1807, creodd y ddeddfwrfa diriogaethol 19 plwyf heb ddiddymu'r hen siroedd (parhaodd y term hwnnw i fodoli tan 1845). Ym 1811, cynhaliwyd confensiwn cyfansoddiadol i baratoi ar gyfer derbyn Louisiana i'r Undeb. [4] Trefnodd hwn y dalaith yn saith rhanbarth barnwrol, pob un yn cynnwys grwpiau o blwyfi. Ym 1816, defnyddiodd y map swyddogol cyntaf o'r dalaith y term plwyf, fel y gwnaeth cyfansoddiad 1845. Ers hynny, y term swyddogol ar gyfer prif adrannau sifil Louisiana yw plwyfi.
Ymunodd Catahoula Parish â'r 19 plwyf gwreiddiol ym 1808, ac ym 1810 crëwyd pedwar plwyf ychwanegol o diriogaeth Gorllewin Florida bu gynt yn eiddo i Sbaen.
Erbyn Ebrill 1812, rhanwyd Attakapas Parish i ffurfio St. Martin Parish a St Mary parish. Ar 30 Ebrill, derbyniwyd y dalaith i'r Undeb gyda 25 plwyf.
Erbyn 1820, ychwanegwyd Washington Parish, a rhannodd Feliciana Parish i ffurfio East Feliciana Parish a West Feliciana Parish ym 1824. Y flwyddyn nesaf, cerfiwyd Jefferson Parish allan o Orleans Parish. Erbyn 1830, roedd Claiborne Parish wedi'i greu, ac roedd yr hen Warren Parish wedi'i amsugno i Ouachita Parish, dim ond i ddychwelyd fel Carroll Parish ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ym 1838, crëwyd Caddo Parish Madison Parish a Caldwell Parish allan o Natchitoches Parish. Ym 1839, ffurfiwyd Union Parish was allan o Ouachita Parish, a ffurfiwyd Calcasieu Parish allan o St. Landry Parish ym 1840.
Crëwyd 5 plwyf newydd ym 1843: Bossier, DeSoto, Franklin, Sabine, a Tensas. Ffurfiwyd Morehouse Parish a Vermilion Parish allan o blwyfi Ouachita a Lafayette ym 1844. Ym 1845 crëwyd Jackson Parish, rhoddwyd y gorau i'r hen unedau sirol, a chyfeiriwyd at yr unedau yn swyddogol fel "plwyfi".
Ym 1848, ffurfiwyd Bienville Parish allan o Claiborne Parish. Ym 1852, caffodd Winn Parish ei greu.
Ym 1853, ailenwyd Lafourche Interior Parish yn Lafourche Parish. Yn ystod cyfnod yr Ailadeiladu, (ar ôl Rhyfel Cartref America) creodd llywodraeth y dalaith nifer o blwyfi newydd. Y cyntaf oedd Iberia Parish a Richland Parish. Dilynodd plwyfi Tangipahoa Parish a Grant Parish ym 1869. Ym 1870, crëwyd pumed plwyf yr Ailadeiladu, Cameron Parish, a'i olynu gan y chweched, seithfed, a'r wythfed plwyf (Red River Parish, Vernon, Parish a Webster Parish,) ym 1871. Y nawfed plwyf i gael ei ffurfio o dan y rheolaeth Weriniaethol Radical oedd Lincoln Parish, a enwyd ar ôl y diweddar arlywydd ac a ffurfiwyd ym 1873. Ym 1877, rhannodd hen blwyf Carroll yn blwyfi Dwyrain a Gorllewin Carroll, a elwir yn answyddogol yn ddegfed ac unfed ar ddeg plwyf cyfnod yr Ailadeiladu, wrth i'r prosiect dod i ben y flwyddyn honno.
Ni ffurfiwyd unrhyw blwyfi newydd tan 1886, pan ffurfiwyd Academi Parish o St. Landry. Yna ni ffurfiwyd unrhyw blwyfi newydd hyd 1908, pan ddaeth hanner gorllewinol Catahoula Parish yn LaSalle Parish.
Ym 1910, cododd rhif y plwyfi i 61 gyda chreu Evangeline Parish, a chrëwyd y 62ain, 63ain, a'r 64ain plwyfi (Allen, Beauregard, a Jefferson Davis) o ardaloedd Calcasieu Parish. Bu sawl newid ffin fach wedi hynny, a'r mwyaf sylweddol oedd rhannu Llyn Pontchartrain ymhlith plwyfi Tangipahoa, St. Tammany, Orleans, Jefferson, St. John the Baptist, a St Charles ym 1979.
Cyn blwyfi
golygu- Attakapas Parish, yn bodoli o 1805 i 1811. [3]
- Biloxi Parish, ffurfiwyd ym 1811 o diriogaeth Gorllewin Florida. Cafodd ei ddileu ym 1812 pan gafodd ei drosglwyddo i diriogaeth Mississippi. [3]
- Carroll Parish ffurfiwyd ym 1838 o ran o Ouachita Parish. Ym 1877, fe'i rhannwyd i ffurfion East Carroll Parish and West Carroll Parish. [3]
- Feliciana Parisha ffurfiwyd ym 1810 o diriogaeth Gorllewin Florida. Ym 1824, fe'i rhannwyd yn East Feliciana Parish a West Feliciana Parish. [3]
- German Coast Parish yn bodoli o 1805 to 1807.
- Opelousas Parish
- Pascagoula Parish ffurfiwyd ym 1811 o diriogaeth Gorllewin Florida. Cafodd ei ddileu ym 1812 pan gafodd ei drosglwyddo i diriogaeth Mississippi. [3]
- Warren Parish ffurfiwyd ym 1811 o ran o Concordia Parish, a'i huno a Concordia Parish a Ouachita Parish ym 1814. [3]
Map dwysedd poblogaeth
golyguMae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Parish Government Structure - Police Jury Association of Louisiana". www.lpgov.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-03. Cyrchwyd 2020-04-22.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 "Bryansite - Louisiana Parishes". www.bryansite.com. Cyrchwyd 2020-04-22.
- ↑ "Louisiana's Admission to the Union (1812)". penelope.uchicago.edu. Cyrchwyd 2020-04-22. no-break space character in
|title=
at position 35 (help)
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD