Rhestr o Siroedd Massachusetts

rhestr Wicimedia

Dyma restr o'r 14 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Massachusetts yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]

Siroedd Massachusetts

Rhestr

golygu

Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Maine yw 23, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 25XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]

Sir
Cod FIPS [3] Canolfan weinyddol[4][5] Sefydlu[5] Tarddiad[4] Etymoleg[6] Poblogaeth[5] Maint[5] Map
Barnstable County 001 Barnstable 1685 Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth Ar ôl ei ganolfan weinyddol, Barnstable, a enwir yn ei dro ar ôl y dref Seisnig Barnstaple 7005215888000000000215,888 7002396000000000000396 sq mi
(70031026000000000001,026 km2)
 
Berkshire County 003 Pittsfield 1761 O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth yn 2000.[7] Ar ôl y sir Seisnig Berkshire 7005131219000000000131,219 7002931000000000000931 sq mi
(70032411000000000002,411 km2)
 
Bristol County 005 Taunton 1685 Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth Ar ôl ei ganolfan weinyddol wreiddiol, Bristol, Massachusetts, a enwyd yn ei dro ar ôl dinas Bryste, Lloegr pan ymunodd Tref Bristol â Rhode Island, cadwyd enw'r sir 7005548285000000000548,285 7002556000000000000556 sq mi
(70031440000000000001,440 km2)
 
Dukes County 007 Edgartown 1695 O Martha's Vineyard ac Elizabeth Islands, a fu'n ran o Dukes County, Efrog Newydd hyd i Massachusetts ei hennill ym 1691 Yn rhan o Dukes County, Efrog Newydd hyd 1691, bu'r tir, ar y pryd, yn eiddo i ddugaeth Efrog ym Mhendefigaeth Lloegr 700416535000000000016,535 7002104000000000000104 sq mi
(7002269000000000000269 km2)
 
Essex County 009 Salem,
Lawrence
1643 Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] Ar ôl y sir Seisnig, Essex 7005743159000000000743,159 7002498000000000000498 sq mi
(70031290000000000001,290 km2)
 
Franklin County 011 Greenfield 1811 O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1997.[7] Er anrhydedd i Benjamin Franklin (1706–1790), gwyddonydd, diplomydd a gwleidydd Americanaidd cynnar. 700471372000000000071,372 7002702000000000000702 sq mi
(70031818000000000001,818 km2)
 
Hampden County 013 Springfield 1812 O ran o Hampshire County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1998.[7] John Hampden (1595—1643), seneddwr enwog Seisnig o'r 17eg ganrif 7005463490000000000463,490 7002618000000000000618 sq mi
(70031601000000000001,601 km2)
 
Hampshire County 015 Northampton 1662 O drefedigaeth heb ei threfnu yn rhan orllewinol Tiriogaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] Ar ôl y sir Seisnig, Hampshire 7005158080000000000158,080 7002529000000000000529 sq mi
(70031370000000000001,370 km2)
 
Middlesex County 017 Lowell,
Cambridge
1643 Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1997.[7] Ar ôl y sir Seisnig, Middlesex 70061503085000000001,503,085 7002824000000000000824 sq mi
(70032134000000000002,134 km2)
 
Nantucket County 019 Nantucket 1695 O Nantucket Island a fu'n ran o Dukes County, Efrog Newydd hyd i Massachusetts ei hennill ym 1691. Tref Nantucket, a enwyd yn ei dro o air y llwyth brodorol Wampanoag am "le heddychlon" 700410172000000000010,172 700148000000000000048 sq mi
(7002124000000000000124 km2)
 
Norfolk County 021 Dedham 1793 O ran o Suffolk County. Ar ôl y sir Seisnig, Norfolk 7005670850000000000670,850 7002400000000000000400 sq mi
(70031036000000000001,036 km2)
 
Plymouth County 023 Brockton,
Plymouth
1685 Un o dair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Plymouth. Ar ôl ei ganolfan weinyddol Plymouth, a enwyd yn ei dro ar ôl Plymouth, Lloegr 7005494919000000000494,919 7002661000000000000661 sq mi
(70031712000000000001,712 km2)
 
Suffolk County 025 Boston 1643 Un o'r 4 sir wereiddiol a grëwyd yn nhrefedigaeth Massachusetts Bay. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1999.[7] Ar ôl y sir Seisnig, Suffolk 7005722023000000000722,023 700158000000000000058 sq mi
(7002150000000000000150 km2)
 
Worcester County 027 Worcester 1731 O rannau o Hampshire County, Middlesex County a Suffolk County. Diddymwyd y Llywodraeth ym 1998.[7] Ar ôl ei thref sirol Worcester, sydd wedi ei henwi ar ôl ddinas Caerwrangon, Lloegr a Brwydr Caerwrangon yn Rhyfel Cartref Lloegr lle fu ochr y Seneddwyr yn fuddugol 7005798552000000000798,552 70031513000000000001,513 sq mi
(70033919000000000003,919 km2)
 

Cefndir

golygu

Mae gan Massachusetts 14 sir. Diddymodd Massachusetts llywodraethau lleol wyth [7] o'i 14 sir rhwng 1997 a 2000, ond mae'r siroedd yn rhan dde-ddwyreiniol y wladwriaeth yn cadw llywodraeth leol ar lefel sirol (Barnstable, Bristol, Dukes, Norfolk, Plymouth) ac yn un achos, (Nantucket County) llywodraeth sir a thref gyfunol. [4] Mae ardaloedd barnwrol a gorfodaeth cyfraith ddinesig yn dal i ddilyn ffiniau'r siroedd hyd yn oed yn y siroedd y mae eu llywodraeth ar lefel sirol wedi'u diddymu, ac mae'r siroedd yn dal i gael eu cydnabod yn gyffredinol fel endidau daearyddol er nad ydynt bellach yn rhai gwleidyddol, ynghyd â pharhau i ddarparu ffiniau daearyddol ar gyfer rhybuddion y Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol. Mae tair sir (Hampshire, Barnstable, a Franklin) wedi ffurfio compactau sirol rhanbarthol newydd i wasanaethu fel math o lywodraeth ranbarthol.

Oherwydd camreoli ysbyty cyhoeddus Middlesex County yng nghanol y 1990au bu'r sir ar drothwy methdaliad. Ym 1997 cymerodd y llywodraeth daleithiol cyfrifoldeb am holl asedau a rhwymedigaethau'r sir er mwyn achub y sir o'i drafferthion ariannol. Diddymwyd llywodraeth Middlesex County yn swyddogol ar 11 Gorffennaf, 1997. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, pleidleisiodd Comisiwn Franklin County i ddod a'i lywodraeth i ben. Roedd y ddeddf i ddiddymu llywodraeth Middlesex County hefyd yn darparu ar gyfer diddymu Hampden County a Worcester County ar 1 Gorffennaf, 1998. Diwygiwyd y ddeddf yn ddiweddarach i ddiddymu Hampshire County ar 1 Ionawr, 1999; Essex County a Suffolk County ar 1 Gorffennaf yr un flwyddyn; a Berkshire County ar 1 Gorffennaf , 2000. Mae Pennod 34B o Gyfreithiau Cyffredinol Massachusetts yn caniatáu i siroedd eraill naill ai ddiddymu eu hunain, neu i ad-drefnu fel "cyngor llywodraeth ranbarthol", fel y mae Siroedd Hampshire a Franklin wedi'i wneud. Mae llywodraethau siroedd Bryste, Plymouth a Norfolk wedi aros yn sylweddol ddigyfnewid. Mae Siroedd Barnstable a Dukes wedi mabwysiadu siarteri sir fodern, gan eu galluogi i weithredu fel llywodraethau rhanbarthol effeithlon. Mae gan Dukes County yn benodol asiantaeth gynllunio ranbarthol gref o'r enw Comisiwn Martha's Vineyard.[8]

Enwir mwyafrif siroedd Massachusetts ar ôl lleoedd yn Lloegr, gan adlewyrchu treftadaeth drefedigaethol Massachusetts.[6]

"Tref sirol" yw'r term statudol ar gyfer unrhyw dref yn Massachusetts sydd â llys sirol a swyddfeydd gweinyddol; gall sir gael trefi sirol lluosog. [4] "Sedd y sir" yw'r term safonol a ddefnyddir mewn cyfathrebiadau cyffredinol gan lywodraeth Massachusetts.

Cyn siroedd

golygu
Sir
Creu
[4]
Diddymu
[4]
Tynged
[4]
Cumberland County 1760 1820 Trosglwyddwyd i Maine
Devonshire County 1674 1675 Diddymwyd a'i throsglwyddwyd ei thiroedd i Maine
Hancock County 1789 1820 Trosglwyddwyd i Maine
Kennebec County 1799 1820 Trosglwyddwyd i Maine
Lincoln County 1760 1820 Trosglwyddwyd i Maine
Norfolk County 1643 1679 Diddymwyd - ymgorfforwyd y rhan fwyaf o'i thiriogaeth i fewn i New Hampshire; un o bedair sir wreiddiol a grëwyd yn Nhrefedigaeth Massachusetts Bay.
Oxford County 1805 1820 Trosglwyddwyd i Maine
Penobscot County 1816 1820 Trosglwyddwyd i Maine
Somerset County 1809 1820 Trosglwyddwyd i Maine
Washington County 1789 1820 Trosglwyddwyd i Maine
York County 1652 1820 Trosglwyddwyd i Maine – Roedd dwy gyfnod pan ddiddymwyd York Conty, 1664 i 1668 a 1680 i 1691

Map dwysedd poblogaeth

golygu

Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

 

Cyfeiriadau

golygu
  1. "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. "FIPS 6-4 - County Names and Codes of the US". web.archive.org. 2013-09-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  3. "EPA County FIPS Code Listing". EPA.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-14. Cyrchwyd 2008-02-23.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 Brown, Richard & Tager, Jack (2000). Massachusetts: A Concise History. University of Massachusetts Press. ISBN 1-55849-249-6.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 "NACo – Find a county". National Association of Counties. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-01. Cyrchwyd 20 Ebrill 2020.
  6. 6.0 6.1 Michael A. Beatty, County name origins of the United States (McFarland Press, 2001). Adalwyd 24 Ebrill 2020
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 7.7 7.8 Historical Data Relating to the Incorporation of and Abolishment of Counties in the Commonwealth of Massachusetts adalwyd 24 Ebrill 2020
  8. Gwefan Comisiwn Martha's Vineyard adalwyd 24 Ebrill 2020