Rhestr o Siroedd Efrog Newydd

rhestr

Dyma restr o'r 61 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Efrog Newydd

Siroedd Efrog Newydd

Rhestr

golygu

Cefndir

golygu

Mae 62 sir yn nhalaith Efrog Newydd. Cafodd y deuddeg sir wreiddiol eu creu yn syth ar ôl i Brydain feddiannu trefedigaeth yr Iseldiroedd, New Amsterdam, er bod dwy o'r siroedd hyn wedi'u diddymu ers hynny. Ffurfiwyd y sir fwyaf diweddar yn Nhalaith Efrog Newydd ym 1914, pan gafodd Bronx County ei chreu o'r darnau o Ddinas Efrog Newydd a atodwyd o Westchester County ar ddiwedd y 19eg ganrif a'i hychwanegu at Sir Efrog Newydd. [1] Mae siroedd Efrog Newydd wedi'u henwi o amrywiaeth o eiriau Americanaidd Brodorol; Taleithiau, siroedd, dinasoedd a gwladfeydd Prydeinig; gwladweinwyr Americanaidd cynnar, personél milwrol a gwleidyddion Talaith Efrog Newydd. [2]

Llywodraeth leol

golygu

Ac eithrio pum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd, mae gan siroedd Efrog Newydd lywodraethau sy'n cael eu rhedeg naill ai gan Fwrdd Goruchwylwyr neu Ddeddfwrfa Sirol a naill ai swyddog gweithredol sirol etholedig neu reolwr sir benodedig. Mae siroedd heb siarteri yn cael eu rhedeg gan Fwrdd Goruchwylwyr, lle mae Goruchwylwyr Trefol o drefi yn y sir hefyd yn eistedd ar Fwrdd Goruchwylwyr y sir. Ar gyfer siroedd sydd â siarter, yn gyffredinol mae gan y swyddogion gweithredol bwerau i roi feto ar weithredoedd deddfwrfa sirol. Mae gan y deddfwrfeydd bwerau i osod polisïau, codi trethi a dosbarthu arian.

Pum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd

golygu

Mae pump o siroedd Efrog Newydd ffiniau sydd yr un a ffiniau pum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd ac nid oes ganddynt lywodraethau sirol. Y pump yw Swydd Efrog Newydd (Manhattan), Kings County (Brooklyn), Bronx County (Y Bronx), Richmond County (Ynys Staten), a Queens County (Queens).

Yn wahanol i siroedd eraill Efrog Newydd, mae pwerau sirol pum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd yn gyfyngedig iawn. Ym mron popeth maent yn cael eu llywodraethu gan lywodraeth y ddinas. [4] Dim ond ychydig o swyddogion sy'n cael eu hethol ar draws y bwrdeistrefi, fel y pum llywydd bwrdeistref, atwrneiod ardal, a rhai barnwyr. Nid oes seddi sirol swyddogol, ond mae lleoliadau neuaddau bwrdeistref a llysoedd yn rhoi dynodiad anffurfiol i rai cymdogaethau fel seddi sirol yn eu bwrdeistref. [3]

Cyn Siroedd

golygu
Sir
Crëwyd

[1]

Diddymwyd

[1]

Hanes[1]
Charlotte County 1772 1784 Ei rannu a'i ailenwi yn Washington County
Cornwall County 1665 1686 Trosglwyddwyd i'r rhan o Massachusetts a ddaeth yn ddiweddarach yn wladwriaeth Maine a'i rhannu; un o'r 12 Sir wreiddiol a grëwyd yng Ngwladfa Efrog newydd
Cumberland County 1766 1777 Trosglwyddwyd i Vermont a'i rhannu
Dukes County 1683 1692 Trosglwyddwyd i Massachusetts; un o'r 12 Sir wreiddiol a grëwyd yng Ngwladfa Efrog newydd
Gloucester County 1770 1777 Trosglwyddwyd i Vermont a'i rhannu
Mexico County 1792 1796 Heb ei setlo na'i hymgorffori, cafodd ei ailddyrannu i siroedd eraill
Tryon County 1772 1784 Ei hail-enwi fel Montgomery County

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "New York Formation Maps". web.archive.org. 2007-12-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-30. Cyrchwyd 2020-04-19.
  2. Beatty, Michael A. (2001). County name origins of the United States. Internet Archive. Jefferson, N.C. : McFarland.
  3. Benjamin, Gerald; Nathan, Richard P. (1990). Regionalism and realism: A Study of Government in the New York Metropolitan Area. Brookings Institution. t. 59.