Rhestr o Siroedd Mecsico Newydd

rhestr Wicimedia

Dyma restr o'r 33 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Mecsico Newydd yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]

Mecsico Newydd


Rhestr golygu

FIPS golygu

Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Mecsico Newydd yw 35, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 35XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]

Sir Cod FIPS [3] Sedd [4] Sefydlu [4] Tarddiad [5] Etymoleg[6] Poblogaeth Maint Map
Bernalillo County 001 Albuquerque 1852 Un o'r naw sir wreiddiol. Teulu Gonzales-Bernal, uchelwyr Sbaenaidd a setlodd y diriogaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg 670,968 1,166 mi²
(3,020 km²)
 
Catron County 003 Reserve 1921 Allan o ran o Socorro County. Thomas Benton Catron (1840-1921), cyfreithiwr o Santa Fe a Seneddwr cyntaf yr Unol Daleithiau o Fecsico Newydd 3,733 6,928 mi²
(17,943 km2)
 
Chaves County 005 Roswell 1889 Allan o ran o Lincoln County. Jose Francisco Chaves (1833-1904), cyrnol Byddin yr Unol Daleithiau o Fecsico Newydd ystod ac ar ôl y Rhyfel Cartref 65,890 6,071 mi²
(15,724 km2)
 
Cibola County 006 Grants 1981 Rhannau o Valencia County, Socorro County, McKinley County, a Catron County. Saith Dinas chwedlonol Cibola 25,658 4,540 mi²
(11,759 km2)
 
Colfax County 007 Raton 1869 Allan o ran o Mora County Schuyler Colfax (1823-1885), 17eg is-lywydd yr Unol Daleithiau 13,640 3,757 mi²
(9,731 km2)
 
Curry County 009 Clovis 1909 Rhannau o Mora County George Curry (1861-1947), llywodraethwr Tiriogaeth Mecsico Newydd rhwng 1907 a 1910 49,649 1,406 mi²
(3,642 km2)
 
De Baca County 011 Fort Sumner 1917 Rhannau o Chaves County and Guadalupe County. Ezequiel Cabeza de Baca (1864-1917), ail lywodraethwr Mecsico Newydd 1,945 2,325mi²
(6,022 km2)
 
Doña Ana County 013 Las Cruces 1852 Un o'r naw sir wreiddiol. Doña Ana Robledo, dynes Sbaenaidd o'r 17g sy'n adnabyddus am ei rhoddion elusennol i'r boblogaeth frodorol 213,598 3,807 mi²

(9,860 km2)

 
Eddy County 015 Carlsbad 1887 Rhan o Lincoln County Charles Eddy (1857 - 1931), amaethwr a datblygwr yr ardal 54,152 4,182 mi²
(10,831 km2)
 
Grant County 017 Silver City 1868 Rhan o Doña Ana County Grant Ulysses Simpson (1822-1885), cadfridog y Rhyfel Cartref a 18fed arlywydd yr Unol Daleithiau 29,380 3,966 mi²
(10,272 km2)
 
Guadalupe County 019 Santa Rosa 1891 Rhan o San Miguel County Ein Morwyn o Guadalupe, nawddsant yr America 4,619 3,031 mi²
(7,850 km2)
 
Harding County 021 Mosquerog 1920 Rhan o Grant County Warren Gamaliel Harding (1865-1923), 29ain arlywydd yr Unol Daleithiau 740 2,126 mi²
(5,506 km2)
 
Hidalgo County 023 Lordsburg 1920 Rhan o Grant County Cytundeb Guadalupe Hidalgo, a enwyd ar ôl tref ym Mecsico a enwyd yn ei dro ar ôl Miguel Hidalgo y Costilla (1753 - 1811), yr offeiriad sy'n cael ei adnabod fel Tad Annibyniaeth Mecsico 4861 3,446 mi²
(8,925 km2)
 
Lea County 025 Lovington 1917 Rhannau o Chaves County ac Eddy County. Joseph Calloway Lea (1841-1904), capten ym myddin yr Unol Daleithiau a sylfaenydd Academi Filwrol Mecsico Newydd 66,423 4,393 mi²
(11,378 km2)
 
Lincoln County 027 Carrizozo 1869 Rhan o Socorro County Abraham Lincoln (1809-1865), 16eg arlywydd yr Unol Daleithiau 20,454 4,831 mi²
(12,512 km2)
 
Los Alamos County 028 Los Alamos 1949 Rhannau o Sandoval County a Santa Fe County. Wedi'i enwi am ei sedd sirol, Los Alamos, Mecsico Newydd, sydd ei hun yn enw Sbaeneg ar y goeden gotwm (Populus deltoides) 18,222 109 mi²
(282 km2)
 
Luna County 029 Deming 1901 Rhannau o Doña Ana County a Grant County. Solomon Luna, y tirfeddiannwr mwyaf yn y sir ar adeg ei greu; luna hefyd yw'r Sbaeneg am y lleuad 25,281 2,965 mi²
(7,679 km2)
 
McKinley County 031 Gallup 1901 Rhan o Bernalillo County William McKinley (1843-1901), 25ain arlywydd yr Unol Daleithiau 73,664 5,449 mi²
(14,113 km2
 
Mora County 033 Mora 1859 Rhan o Taos County Wedi'i enwi am ei sedd sirol Mora, Mecsico Newydd, sydd ei hun wedi'i enwi ar ôl lo de mora, y term Sbaeneg am fwyar duon 4,773 1,931 mi²
(5,001 km2)
 
Otero County 035 Alamogordo 1899 Rhannau o Doña Ana County a Lincoln County Miguel A. Otero (1829-1882), dirprwy tiriogaethol i Gyngres yr U. D. neu ei fab Miguel Antonio Otero (II) (1859-1944), 16eg Llywodraethwr Tiriogaeth Mecsico Newydd rhwng 1897 a 1906 65,703 6,627 mi²
(17,164 km2)
 
Quay County 037 Tucumcari, New Mexico| 1903 Rhan o Guadalupe County gell Matthew Stanley Quay (1833-1904), Seneddwr yr Unol Daleithiau o Pennsylvania a gefnogodd cais Mecsico Newydd i ddod yn dalaith 9,026 2,855 mi²
(7,394 km2)
 
Rio Arriba County 039 Tierra Amarilla 1852 Un o'r naw sir wreiddiol Wedi'i enwi am ei leoliad ar y Rio Grande uchaf (mae Río Arriba yn golygu "i fyny'r afon" yn Sbaeneg) 40,446 5,858 mi²
(15,172 km2)
 
Roosevelt County 041 Portales 1903 Rhannau o Chaves County a Guadalupe County Theodore Roosevelt (1858-1919), 26ain arlywydd yr Unol Daleithiau 20,446 2,449 mi²
(6,343 km2)
 
Sandoval County 043 Bernalillo 1903 Rhan o Bernalillo County Wedi'i enwi ar ôl y teulu Sandoval, tirfeddianwyr amlwg o Sbaen o'r ail ganrif ar bymtheg 134,259 3,710 mi²
(9,609 km2
 
San Juan County 045 Aztec 1887 Rhan o Rio Arriba County Afon San Juan, ei hun wedi'i henwi ar ôl y sant Catholig 128,200 5,514 mi²
(14,281 km2)
 
San Miguel County 047 Las Vegas 1852 Un o'r naw sir wreiddiol Eglwys Gatholig San Miguel de Bado, y gyntaf yn yr ardal 29,301 4,717 mi²
(12,217 km2
 
Santa Fe County 049 Santa Fe 1852 Un o'r naw sir wreiddiol. Term Sbaeneg sy'n golygu "ffydd sanctaidd," sy'n cyfeirio at ysbrydolrwydd y cenhadon sefydlu 145,648 1,909 mi²
(4,944 km2)
 
Sierra County 051 Truth or Consequences 1884 Rhannau o Doña Ana County a Socorro County. Wedi'i enwi, o bosibl, ar gyfer y gadwyn mynyddoedd, The Black Range. (Sierra yw cadwyn mynyddoedd yn Sbaeneg.) 11,943 4,180 mi²
(10,826 km2)
 
Socorro County 053 Socorro 1852 Un o'r naw sir wreiddiol Term Sbaeneg sy'n golygu "cymorth," sy'n cyfeirio at yr help a roddodd Americanwyr Brodorol i deithwyr newynog 17,873 6,647 mi²
(17,216 km2)
 
Taos County 055 Taos 1852 Un o'r naw sir wreiddiol Wedi'i enwi ar ôl y sedd sirol, Taos, a enwyd yn ei dro ar ôl Taos Pueblo gerllaw, pentref hynafol Americaniaid Brodorol. Mae Taos yn golygu helygen goch yn iaith llwyth y Tiwa 32,917 2,203 mi²
(5,706 km2)
 
Torrance County 057 Estancia 1903 O rannau o Bernalillo County, Valencia County, a Socorro Count Francis J. Torrance (1859 - 1919), datblygwr Rheilffordd Ganolog Mecsico Newydd 16,345 3,345 mi²
(8,664 km2)
 
Union County 059 Clayton 1893 O rannau o Colfax County, Mora County a San Miguel County. Wedi'i enwi ar gyfer "undeb" y tair sir a roddodd dir i ffurfio'r sir newydd 4,433 3,830 mi²
(9,920 km2)
 
Valencia County 061 Los Lunas 1852 Un o'r naw sir wreiddiol. Wedi ei enwi ar ôl tref Valencia, Mecsico Newydd, a enwyd yn ei dro ar ôl Valencia, Sbaen 77,070 1,068 mi²
(2,766 km2)
 

Hanes golygu

Yn wreiddiol ffurfiwyd naw sir ym 1852. Atodwyd Santa Ana County, un o'r naw sir wreiddiol, i Bernalillo County ym 1876.

Map dwysedd poblogaeth golygu

Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.

 

Cyfeiriadau golygu

  1. "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. "FIPS 6-4 - County Names and Codes of the US". web.archive.org. 2013-09-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  3. "County FIPS Codes - NRCS". Cyrchwyd 24 Ebrill 2020.
  4. 4.0 4.1 "NACo | Find a County". web.archive.org. 2007-09-30. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  5. "NMGenWeb Counties". web.archive.org. 2007-07-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-02. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  6. Beatty, Michael A. (2001). County name origins of the United States. Jefferson, N.C. : McFarland.