Samuel Baldwin Rogers
Roedd Samuel Baldwin Rogers (tua 1778 – 6 Medi 1863)[1] yn werthwr llyfrau, cyhoeddwr, cemegydd metelegwr a dyfeisiwr Cymreig.
Samuel Baldwin Rogers | |
---|---|
Ganwyd | 1778 Llwydlo |
Bu farw | 6 Medi 1863 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cemegydd, metelegwr, dyfeisiwr, cyhoeddwr, llyfrwerthwr |
Ymysg y syniadau iddo awgrymu bu
- Adeiladu rhwydwaith o reilffyrdd cysylltiol trwy Gymru a Lloegr
- Rheilffordd draws gyfandirol yn cysylltu Llundain a Guangzhou (Canton) yn Tsieina, er budd masnachol ac er mwyn lledaenu gwareiddiad.
- Adeiladu pont dros Afon Hafren i wella cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr.
Er bod llawer o'i syniadau wedi eu gwireddu yn y pendraw, ac eraill wedi gwneud ffortiwn ohonynt, roedd pobl a oedd yn ymwneud a'r diwydiannau ar y pryd yn ei gyfrif ef a'i syniadau yn od ar y naw, os nad yn wallgof[2]. Ond y gwir amdano, yn ôl ei gyfaill y metelegwr John Percy, oedd ei fod yn ŵr brwdfrydig, dawnus gwreiddiol a mwyn galon[3], a gan hynny yn un hawdd manteisio arno.
Bywyd Personol
golyguYn ôl cyfrifiad 1851 ganwyd Rogers yn Llwydlo, Swydd Amwythig tua 1778[4]. Erbyn dechrau'r 19g roedd wedi sefydlu argraffwasg yn Stryd Mary Cas-gwent. Fel un a oedd yn frwdfrydig am y datblygiadau technegol diweddaraf, bu Rogers yn cyhoeddi nifer o bamffledi ar y pwnc, gan lwyddo i berswadio The Mining, Railway and Commercial Gazette i ail gyhoeddi rhai ohonynt.
Gwaith
golyguTua 1808 symudodd Rogers i Bont-y-pŵl lle fu'n gweithio yn yr hyn mae'n ei alw yn Labordy Hydrogen. Yn y labordy dyfeisiodd hylif i gyffeithio bwydydd; roedd yr hylif wedi ei wneud allan o dar glo, finegr a phort. Galwodd yr hylif yn Westphalian essence[5], ond yn hytrach na chreu a gwerthu'r hylif rhoddodd y rysáit i eraill cael ei gynhyrchu.
Gwnaeth welliannau i weithgynhyrchu golosg ac asid sylffwrig, ac ym 1810 dyfeisiodd pympiau hydro-niwmatig i gymryd nwy allan o ffwrneisi golosg Nant-y-glo gan ei ddefnyddio i gynhyrchu golau. Erbyn 1838 defnyddiwyd darganfyddiad Rogers i dynnu 5000 troedfedd giwbig (tua 140 metr ciwbig) o nwy allan o ffwrneisi golosg Nant-y-glo, gan ei ddefnyddio i gynhyrchu golau i'r gweithfeydd haearn[6].
Ym 1816 dechreuodd Rogers weithio fel metalegwr yng ngwaith haearn Pontymeistr ac wrth weithio yno gwnaeth ei gyfraniad mwyaf i'r diwydiant haearn lleol a rhyngwladol[7].
Llwyddodd i greu 'gwaelod haearn' i'w defnyddio mewn ffwrnesi pwdlo. Doedd y syniad o waelod haearn ddim yn un newydd. Cafodd y syniad ei arbrofi'n aflwyddiannus yng Nghyfarthfa ym 1789, ac roedd un a gafodd ei oeri gan aer ym 1793 hefyd yn fethiant. Ond fe fu gwaelod haearn Rogers, wedi ei oeri gan ddŵr, yn llwyddiant ysgubol. Llwyddodd sustem Rogers i ddyblu allbwn haearn y ffwrnais ac i leihau'r amser cymerodd i bwdlo gwres o tua thair awr i lai na dwy awr. Rhwng 1816 a 1818 treuliodd Rogers gryn dipyn o arian wrth berffeithio ei ddyfais ac wrth chwilio am feistri haearn i'w brofi. Yn 1819 gwahoddwyd William Crawshay I, ynghyd â rheolwr a pheiriannydd ffwrnais Cyfarthfa i drio'r gwaelod haearn. Gan gyhoeddi bod y syniad yn un hurt, gwrthodwyd y gwahoddiad gan Crawshay. Cynigiwyd y system yn gwbl ddiamodol i Anthony Hill o Waith Plymouth, William Forman o Benydarran, Benjamin Hall o'r Rhymni, a Samuel Homfray o Dredegar. Cafodd ei wrthod gan bob un ohonynt. Wedi ei siomi gan wrthodiad y gwaelod haearn, gadawodd Sir Fynwy ar gyfer Llundain ym 1820 a bu yno am ddeuddeng mlynedd. Ym 1825 dechreuodd gwaith Glyn Ebwy ddefnyddio gwaelodion haearn Rogers ac yna, cyn pen y flwyddyn fe'i defnyddiwyd yn Nant y glo. Erbyn y 1850 roedd pob ffwrnais yn defnyddio gwaelod haearn[6].
Gwnaed ffortiwn gan y meistri diwydiannol trwy'r cynnydd mewn cynhyrchiad a ddaeth trwy ddyfais Rogers. Yr unig beth i Rogers cael ohoni oedd cael ei watwar gan y meistr wrth iddynt gyfeirio ato fel Mr Ironbottom.
Agweddau gwleidyddol a chymdeithasol
golyguRoedd Rogers yn credu bod gwastraff dianghenraid yn bechod, ac roedd yn ffieiddio at faint y sgil-gynhyrchion o lo a ddefnyddiwyd mewn ffwrneisi haearn a golosg oedd yn cael eu afradu.
Dechreuodd arbrofi gyda'r sgil-gynhyrch tar glo tua 1811, gan ei ddefnyddio yn gyntaf fel iraid ar gyfer olwynion tram, cyn canfod moddion i'w defnyddio fel gwrthseptig, perarogl a chynhwysyn mewn sebon. Mae sebon tar glo yn dal i gael ei gynhyrchu hyd heddiw.
Ym 1816 cyhoeddodd taflen wedi ei gyflwyno i holl feistri haearn de Cymru yn awgrymu sut byddai modd defnyddio nwyon glo o'r gweithfeydd ar gyfer cynhesu a goleuo cartrefi'r gweithwyr. Eglurodd sut y gellir, ac y dylid, defnyddio'r sylffad o amonia, oedd ar gael o wasarn y ffwrneisi i gynhyrchu gwrtaith, paent, farnais, olew, gwirodydd, mastig, sment asphalt, llifynnau, dinistrwyr pla ac ati.
Roedd Rogers yn sosialydd ac yn gefnogwr brwd i arbrofion cymdeithasol Robert Owen. Cyhoeddodd erthygl yn y Mining Journal o dan y teitl A New and Improved System of Managing Extensive Ironworks a oedd yn annog rhannu elwau a chyfranddaliadau mewn gweithfeydd rhwng yr holl weithwyr o'r meistr i'r prentis. Ysgrifennodd nifer helaeth o bamffledi, erthyglau a llythyrau i'r wasg yn condemnio cyfalafiaeth ac yn pledio achos y gweithwyr. Plediodd achos addysg i bawb heb wahaniaethu ar sail crefydd ac yn rhydd o ffioedd, addysgu athrawiaethol, a rheolaeth uniongyrchol gan y llywodraeth; ac am bedwar ar ddeg fel yr oedran gadael ysgol. Roedd o blaid cydraddoldeb menywod â dynion, yn foesol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol[6].
Marwolaeth
golyguEr gwaethaf honiad rai bod Rogers wedi byw yn ei henaint ar bensiwn hael a roddwyd gan ei gyfeillion cyfoethog yn y diwydiant haearn, megis Crawshay Baily[2], gwyngalch yw hyn. Bu diwedd Rogers yn un o dlodi aruthrol wedi ei anghofio neu ei anwybyddu gan y sawl a enillodd ffortiynau trwy ei ddyfeisgarwch. Yr unig beth a'i cadwodd rhag bedd cyffredinol y tlodion oedd apêl yn y Mining Journal a chododd digon o arian i roi cynhebrwng parchus iddo[8]. Bu farw yng Nghasnewydd yn 85 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Llan-ffwyst.
Cyhoeddiadau
golygu- The Advent of the Millenium (1841)
- Samarias, or Working Benefit Societies (1842)[9]
- A Serious Call to Prepare a New and Perfect Organisation of Human Society (1848)
- Outline of a System of Commerce (1848)
- An Improved Mode of Recruiting National Armies (1850)
- An elementary treatise on iron metallurgy: up to the manufacture of puddled bars, with analytical tables of iron-making materials (Efrog Newydd, 1857)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "FamilyNotices - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1863-09-18. Cyrchwyd 2017-12-04.
- ↑ 2.0 2.1 Wilkins, Charles (1903). The history of the iron, steel, tinplate and ... other trades of Wales : with descriptive sketches of the land and the people during the great industrial era under review. Joseph Williams, Merthyr. tt. 213–216.
- ↑ John Percy, A Treatise on Metallurgy, 1866, tud. 654
- ↑ yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad 1851, King Street, Llanelli, Sir Faesyfed Cyfeirnod HO107/2490 Ffolio 555 tud 13
- ↑ "Advertising - The Cambrian". T. Jenkins. 1816-08-03. Cyrchwyd 2017-12-04.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Williams, Edward Ifor (1959). "Biographica Et Bibliographica - Samuel Baldwin Rogers". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 11, rhif 1: 99-102 (tud 109 ar lein). https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1277425/1281140/108.
- ↑ Ebbw Vale Famous Persons - Samuel Baldwin Rogers Archifwyd 2017-10-14 yn y Peiriant Wayback adalwyd 5 Rhagfyr 2018
- ↑ Llythyr di-enw yn The Times, Llundain 16 Medi 1863:tud 7 Fate Of An Inventor adalwyd o The Times Digital Archive. Web. 4 Rhagfyr 2017
- ↑ Catalog Richard Ford Manuscripts, Llyfrwerthwyr