Shwmae, Marthuws! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Welcome message in English
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,573 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 21:39, 23 Medi 2016 (UTC)Ateb

Ia, croeso atom ni, a diolch am yr erthyglau! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:16, 13 Hydref 2016 (UTC)Ateb

Rhyfel Cartref Sbaen, 1936

golygu

Diolch am dy erthygl Rhyfel Cartref Sbaen, 1936. Roedd ei gwir angen hi! Dw i di newid arddull (dileu </br> a theip trwm fel hyn gan fwyaf. Dw i hefyd wedi ceisio crisialu'r digwyddiad mewn un neu ddwy o frawddegau ar y cychwyn un, ynol ein harfer. Tybed a wnei di ei rhedeg drwy gwirydd sillafu ee Cysill - ond gwira'r newidiadau gyda llaw a llygad hefyd, gan nad yw'n gweithio gant y cant. Ond mae'n werth gweithio ar hon! Mae llawer rhagor o stwff am y Cymry a fu'n ymladd a byddai'n wych rhyddhau eu hawlfraint gan y BBC ayb. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:39, 21 Tachwedd 2016 (UTC)Ateb

Share your experience and feedback as a Wikimedian in this global survey

golygu
WMF Surveys, 18:40, 29 Mawrth 2018 (UTC)Ateb

Reminder: Share your feedback in this Wikimedia survey

golygu
WMF Surveys, 01:38, 13 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia survey

golygu
WMF Surveys, 00:47, 20 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Porth Colmon

golygu

Mae Porth Colmon yn werth chweil. Dw i wedi ychanegu gwybodlen - jyst mymryn o god o'r dudalen Nodyn:Lle. Doedd na ddim cyfeiriad ar Wicidata am Borth Colmon, felly mi wnes greu eitem newydd o'r un enw ac ychwanegu chydig o wybodaeth a llun o Comin. Dyma'r eitem ar WD. Edrychaf ymlaen at y nesa! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:09, 27 Ebrill 2020 (UTC)Ateb

Universal Code of Conduct

golygu

Hi Marthuws

I was asked by Wikimedia Foundation to promote this call for participation on the planned Universal Code of Conduct.

Best regards --Holder (sgwrs) 04:36, 14 Awst 2020 (UTC)Ateb

At times, our contributor communities and projects have suffered from a lack of guidelines that can help us together create an environment where free knowledge can be shared safely without fear.

There has been talk about the need for a global set of conduct rules in different communities over time. Recently, Wikimedia Foundation Board of Trustees announced a Community Culture Statement, asking for new standards to address harassment and promote inclusivity across projects. [1]

The universal code of conduct will be a binding minimum set of standards across all Wikimedia projects, and will apply to all of us, staff and volunteers alike, all around the globe.. It is of great importance that we all participate in expressing our opinions and thoughts about UCoC and its values. We should think about what we want it to cover or include and what it shouldn’t include, and how it may create difficulties or help our groups.

This is the time to talk about it. Before starting drafting the code of conduct, we would like to hear from you and to solicit the opinions and feedback of your colleagues.

In order for your voice to be heard, we encourage and invite you to read more about the universal code of conduct (UCoC) [2] and then write down your opinions or feedback on the discussion page [3]. To reduce language barriers during the process, you are welcomed to translate the universal code of conduct english main page into your respective local language [4]. You and your community may choose to provide your opinions/feedback using your local languages.

Rhywogaethau - cen

golygu

Diolch am dy erthyglau gwerth chweil. Rhai awgrymiadau: newid 'amgylchynu' (cyf. o Circumscription) i'r hyn sydd gan Bruce, sef 'amsgrifiad' ee newid 'Cafodd Pseudevernia ei amgylchynu gan y botanegydd Almaenig Friedrich Wilhelm Zopf' i 'Cafodd Pseudevernia ei amsgrifio gan y botanegydd Almaenig Friedrich Wilhelm Zopf'. Neu'r dull mwy hen ffasiwn 'Amsgrifiwyd Pseudevernia gan y botanegydd Almaenig Friedrich Wilhelm Zopf'.

Dw i hefyd wedi ychwanegu {{Teitl italig}} ar frig yr erthygl, gan fod genws yn cael ei italeiddio.

Yn ola, os ychwanegi {{Pethau}} fel gwybodlen, dylai boblogi ei hun. Er nad yw'n cynnwys popeth a garem ei weld, ar hyn o bryd, mae'r manylion pwysicaf arni.

Fedri di newid yr erthyglau ti eisioes wedi'u creu os g yn dda? Diolch a chofion cynnes! Robin aka.. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:49, 23 Tachwedd 2022 (UTC)Ateb

Martha. Mae angen categori ar bob erthygl. Yn Vriesea saundersii, y categori yw'r genws, sef Vriesea. Mae'r categori yn mynd reit i waelod un y dudalen. Diolch i ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:08, 6 Ionawr 2023 (UTC)Ateb
Mae'n eitha hawdd ychwanegu categori - picio i'r erthygl Saesneg a'i gopio!

Mwsoglau: enwau Cymraeg

golygu

@Duncan Brown, Brwynog: Martha, diolch am yr holl erthyglau newydd gen ti ar fwsoglau. Wyt ti'n siwr nad ydy'r rhywogaethau hyn o fwsoglau wedi eu safoni gan Llen Natur? Efallai fod enw Cymraeg ar gael. Efallai y gwyr Duncan neu Davyth (Brwynog). Llywelyn2000 (sgwrs) 15:36, 7 Ionawr 2023 (UTC)Ateb

Does gen i ddim copi o unrhyw restr o fwsogau, a dwi ddim yn siwr os oes 'na un wedi'i wneud erioed. Duncan fyddai'n gwybod yn well, mae'n siwr. Os oes gen ti restr sydd wedi'i ddigideiddio, ga i gopi, os gwelwch yn dda. Brwynog (sgwrs) 16:02, 7 Ionawr 2023 (UTC)Ateb
@Duncan Brown: Oes na bobol? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:03, 12 Ionawr 2023 (UTC)Ateb
Sori Robin
Wedi ateb Martha
D Duncan (sgwrs) 23:44, 26 Ionawr 2023 (UTC)Ateb
Rydyn wedi creu rhestr llawn o lysiau’r afu (liverworts) ac mae nhw yn y Bywiadur a’r Porth Termau. Rydan ni wedi llunio rhai enwau mwsogau ar restr ddrafft ond heb orffen eto. Duncan (sgwrs) 23:42, 26 Ionawr 2023 (UTC)Ateb

Glasthule ayb

golygu

Tybed a wnei di wiro'r erthygl os g yn dda. Mae angen brawddegau llawn a dyw'r cyfieithydd peirianyddol ddim yn gwneud hynny'n aml. Ceir rhai brawddegau eraill hefyd sydd ychydig yn aneglur. Oes gen ti wirwr sillafu felun o declynau Uned Technolegau Iaith Bangor i'th helpu? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:03, 12 Ionawr 2023 (UTC)Ateb

WiciBrosiect Cymru

golygu

Os oes gennych ddiddordeb, ymunwch gyda WiciBrosiect Cymru os gwelwch yn dda! Diolch yn fawr Titus Gold (sgwrs) 15:41, 29 Ebrill 2023 (UTC)Ateb

Arafwch, os gwelwch yn dda!

golygu

Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn awyddus i gyfrannu at Wicipedia, ond rhaid ichi wneud y dasg gan bwyll! Rydych chi wedi creu cymaint o erthyglau sy'n llawn gwallau a phroblemau. Y diwrnod o'r blaen ysgrifennodd Llygad Ebrill yn Sgwrs:Afon Ainí, "Gwell fyddai erthygl byr wedi ei sgwennu yn Gymraeg." Rwy'n cytuno'n llwyr. Ac yn yr adran Glasthule ayb uwchben gofynnodd Llywelyn2000 ichi drwsio erthyglau roeddech chi wedi'u creu. Arafwch, os gwelwch yn dda, a gorffen yr erthyglau rydych chi wedi'u dechrau! Dylai'r problemau fod yn amlwg. Gwelwch ar y print coch, ar bethau fel "</link>" yn y testun, ar y bylchau cyn yr atalnodau llawn a phethau tebyg. Mae yna broblemau o ran y gramadeg, y geirfa ayyb. Ar hyn o bryd, y mae haid o bobl eraill sy'n rhuthro ar eich ôl, gan drwsio'r problemau. Rwy'n apelio atoch chi, dysgwch sut i wneud pethau yn gywir. Os ydych chi'n sgwennu erthygl am afon, edrychwch ar erthyglau debyg am afonydd i weld beth sy'n addas. Defnyddiwch y botwm "Gweld cod" er mwyn darganfod beth sy'n angenrheidiol i wneud i'r hud ddigwydd. Ac os na allwch chi weld sut i wneud rhywbeth, cofiwch geiriau Llygad Ebrill: "Gwell fyddai erthygl byr." Does dim angen i greu erthygl swmpus bob tro! Hwyl, Dafydd. Craigysgafn (sgwrs) 16:32, 21 Mai 2024 (UTC)Ateb

Cytuno gyda Craigysgafn. Dw i newydd gywiro cod paragraff cyntaf yr erthygl ar Kilfenora. Sylwa ar y cywiriadau, fesul un, os gweli di'n dda. Byddai gwiro'r erthyglau rwyt wedi eu gwneud hyd yma'n fantastig. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:22, 22 Mai 2024 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: A dyma chi eto heddiw, yn gwneud yr un peth ag y gwnaethoch chi nôl ym mis Mai. Pedair erthygl newydd, pob un wedi'i chyfieithu â pheiriant air-am-air o'r fersiwn Saesneg ar enwiki, gyda llwyth o broblemau amlwg. Peidiwch â gwneud hyn! Os yw'r pynciau hyn mor bwysig, byddai'n well petasech chi'n ysgrifennu 100 gair mewn Cymraeg go iawn. Rydych chi'n gallu ysgrifennu Cymraeg, na allwch chi? Ar hyn o bryd dwyf i ddim yn gweld llawer o dystiolaeth y gallwch. Er enghraifft, dydych chi ddim wedi ymateb i unrhyw un o'r sywadau ar y dudalen Sgwrs hon. --Craigysgafn (sgwrs) 14:07, 22 Gorffennaf 2024 (UTC)Ateb
Dw i wedi gofyn uchod (gw. 'Rhywogaethau - cen):
1. I chi ychwanegu Nodyn:Pethau a
2. Categori.
Dyw hyn ddim wedi digwydd. Gw. Deparia petersenii.
Gan nad ydych yn trafod, yn sgwrsio ar eich tudalen sgwrs, nac yn cymryd unrhyw sylw o gyngor defnyddwyr eraill, dw i wedi eich hatal rhag golygu.
Os gwelwn eich bod yn ymateb ac yn cywiro eich erthyglau, yna gallwn ailystyried. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:17, 23 Gorffennaf 2024 (UTC)Ateb