Sgwrs Wicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales

Sylw diweddaraf: 10 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Categoriau wici yn lle categoriau Gwales

Gwiro'r peilot

golygu

Cyn mynd ati i greu erthyglau ar y llyfrau yn yr adran ysgrifau llenyddol, fedrith rywun wiro Buchedd Dewi gyda Rhagymadrodd a Nodiadau os gwelwch yn dda? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:50, 26 Hydref 2013 (UTC)Ateb


Llyfrau Saesneg y Cyngor Llyfrau

golygu

Gan fod rhai o ddelweddau cloriau llyfrau Cymraeg wedi'u cadw yn y categori llyfrau Saesneg ar Gwales, mae Fae wedi cychwyn uwchlwytho'r rhain hefyd! Doeddwn i ddim yn bwriadu gofyn iddo wneud hyn. Ond o feddwl, mae'r llyfrau hyn yn berthnasol iawn i Gymru. A hyd yn oed pe na baent, efallai y dylem eu cynnwys? Beth yw eich barn? Llywelyn2000 (sgwrs) 15:15, 26 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Hmm, yn sicr bydd llawer, os nad mwyafrif y rhai Saesneg yn berthnasol gan y bydd yn trafod Cymru, bydd yr awdur yn Gymro/Cymraeg neu o leiaf bydd y cyhoeddwr o Gymru! Drwy chwiliad sydyn, des ar draws hwn; GPS for Walkers: Introduction to GPS and Digital Maps sydd ar yr olwg gyntaf heb ddim cysylltiad amlwg gyda Chymru (heblaw bod lot o gerddwyr yn dod yma). Ai mond stocio llyfrau o ddidordeb i ymwelwyr ydy hyn, er mwyn creu incwm, yn hyrach na hyrwyddo llyfrua am/o Gymru?
Dw i ddim yn deall dy gwestiwn. Mae Fae wedi uwchlwytho pob clawr o'r adran Astudiaethau Llenyddol (Cymraeg a Saesneg) ar Comin; y cwestiwn ydy: a oes lle iddynt (a phob llyfr arall yn y Gymraeg a'r Saesneg) ar Wicipedia? Byddai angen erthygl ar bob un, wrth gwrs. Does nelo hyn ddim oll ag ymwelwyr! Mae gennym ni rai erthyglau ar lyfrau mewn ieithoedd eraill, gyda llaw, heb ddim byd i'w wneud a Chymru; gweler Categori:Llyfrau Saesneg. - Llywelyn2000 (sgwrs) 00:00, 27 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Dweud o'n i bod hi'n ymddangos bod llyfrau Saesneg yn ymddangos ar Gwales sydd wnelo dim â Chymru'n benodol. Oes, mae gynnon ni erthyglau am lyfrau Saesneg eraill yma sydd a wnelo dim byd â Chymru ta beth, felly tydy o ddim yn broblem.--Rhyswynne (sgwrs) 09:57, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Yr angen i greu erthyglau

golygu

Ond i mi gael bod yn siwr o beth sy'n mynd ymlaen, mae'r rhestrau wedi eu creu o fanylion y 12,000 llyfr cymraeg a ddarparwyd gan CLlC (Gwych, dyma nodis i hoffwn weld mewn sgwrs flaenorol), ac yna mae Fae yn crafu delwedd clawr pob un ac mae disgwyl i ni greu erthygl rwan ar gyfer y 12,000 llyfr fel bod defnydd yn cael eu gwneud o'r rhain. Mae creu arthygl am y 12,000 yma'n gofyn tipyn o olygwyr, ac roedd golygwyr eraill wedi codi cwestiwn os oedd y llyfrau hyn i gyd yn mynd i fod yn deilwng o erthygl. Ac os na fydd erthyglau'n cael eu creu a/neu y delweddau'n cael ei defnyddio, yna bydd y delweddau'n cael eu dileu? A'r un drefn fydd hi gyda'r rhai Saesneg? Os felly, ydy hi'n werth aros a gwel dsut mae pethau'n mynd? --Rhyswynne (sgwrs) 09:57, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Ia. Yn union. Canolbwyntio ar y rhai Cymraeg eu hiaith yn gyntaf. Dros y ddalen (!) - sef yr erthygl ar y Prosiect, mi weli fy mod yn awgrymu'r camau nesaf:
  • 'Cwbwlhau creu erthyglau yn y dosbarth 'Rhestr llyfrau Cymraeg llenyddol'.'
  • 'Trafod y camau nesaf: parhau neu beidio?'
Felly, fel Peilot, da ni'n gweithio ar un rhan fechan o'r categori 'Ysgrifau / Llyfrau Llenyddol'. Mae Fae wedi uwchlwytho pob delwedd yn y categori yma (Cymraeg) ac yna, gan fod cymysgedd gan Gwales cy/en fe uwchlwythodd gloriau llyfrau Saesneg yn y categori yma (Llyfr. Llenyddol). Hy roedd rhai cloriau llyfrau cy yng nghategori en. Fy nghwestiwn i rwan ydy a ddylem hefyd greu erthyglau ar y llyfrau Saesneg eu hiaith; ond does dim raid wrth ateb nes ein bod wedi gorffen ar y rhai Cymraeg. Ond mae potensial yma i greu tua 20K o erthyglau newydd. Fy awgrym (ar gychwyn hyn) oedd ein bod yn ystyried peidio creu erthyglau o'r adran 'llyfrau plant'. Erbyn rwan, dw i'n meddwl y dylai rhain hefyd gael erthygl; ond un i bob cyfres yn unig.
Y pwynt arall sydd gen ti ydy - a ddylid creu erthyglau ar yr holl lyfrau a oedd ar y rhestr o lyfrau llenyddol a gafwyd gan Gwales. Fe weli i ni drafod hyn gan ddod i gytunedeb nad oedd angen erthygl ar wahan i bob llyfr a oedd yn perthyn i gyfres. Mae ambell gyfres, ar y llaw arall yn cynnwys llyfrau unigol coblyn o bwysig ac y dylid eu hystyried. Fe weli'r drafodaeth hon yn fama fe weli hefyd fod Defnyddiwr:Anatiomaros yn cytuno i ddileu'r erthyglau nad oes mo'u hangen.
Diolch am ymateb. Mae cyfraniad cymuned o olygyddion yn hanfodol i WiciBrosiect fel hyn a all gynyddu nifer yr erthyglau o 51,000 i dros 70,000.
Pan gaf gadarnhad fod yr erthygl Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad yn gywir (o ran templad) fe ddechreuaf greu'r erthyglau yn yr adran hon. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:27, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Mae llawer o hyn wedi cael ei drafod eisoes, fel y mae Llywelyn yn nodi. Mae'n anodd creu set o reolau pendant gan fod cymaint o amrywiaeth yn y rhestrau a'r unig ateb ydy ystyried wrth fynd ymlaen. Mae rhai o'r llyfrau hyn yn bwysig iawn ond mae eraill sydd y gwrthwyneb (e.e. mae'r rhestrau yn cynnwys pethau fel arweinlyfrau bychain Cadw i wahanol gestyll - a hynny mewn sawl argraffiad iaith hefyd!).
Un peth arall i'w ystyried. Gyda chymaint o dudalennau am lyfrau Cymraeg diweddar, bydd yn rhaid creu categoriau newydd e.e. 'Llyfrau Cymraeg yr 21ain ganrif' neu mi fydd gennym ni gategoriau anferth (ac felly'n ymarferol ddiwerth). 'Run fath efo'r categoriau egin neu mi fyddem ni yn yr un sefyllfa gyda 'Egin Cymru' â'r categori 'Egin Lloegr' fel y mae ar hyn o bryd (ac mae gwir angen datrys hynny a'r problemau niferus gyda'r erthyglau am bentrefi Lloegr hefyd - dim ond bot all wneud y gwaith).
Mae 'na sawl beth arall i'w ystyried hefyd, wrth gwrs. O ran y gwaith o sgwennu deunydd, dwi'n cytuno efo Rhys fod y dasg yn anferth. Yn fy marn i, dylem ni anghofio hynny yn achos y mwyafrif o'r llyfrau hyn a jest derbyn manylion y templad fel eginyn neu mi fyddem ni wrthi am flynyddoedd ac mae gen i nifer o bethau amgenach i'w gwneud yma, heb sôn am fod yn brin o'r amynedd sant sydd ei angen i addasu miloedd lawer o adolygiadau Gwales. Pe bai gennym griw o hanner cant o olygyddion ymroddedig buasai'n stori wahanol, ond gwaetha'r modd does 'mond llond llaw ohonom ni. Eginau amdani am rwan, felly! Anatiomaros (sgwrs) 20:33, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Gwales!!!

Gweler "Brut y Brenhinoedd" (symudwyd i Brut y Brenhinedd) am enghraifft ragorol o flerwch anhygoel, anfaddeuol, Gwales! Anatiomaros (sgwrs) 20:48, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Ditto: "Buchedd Dewi gyda Rhagymadrodd a Nodiadau" - blerwch ofnadwy (cf. eu gwefan)! Anatiomaros (sgwrs) 20:58, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Gweler hefyd Bewnans Ke - golygiad Saesneg o destun Cernyweg Canol, nid 'astudiaeth lenyddol Gymraeg'! Anatiomaros (sgwrs) 21:09, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Diolch Anat! Mae rhyw glerc yn Gwales wedi 'cywiro' 'Brenhinedd' i Brenhinoedd' a 'Buched' i 'Buchedd'. Mae tri cangym allan o tua 15 o erthyglau'n gryn dipyn (20%ish!!) Baswn i wedi'i adael a dweud y gwir (mi wnes!) a dw i'n siwr y bydd llawer o'r cangymeriadau'n llithro drwadd. Ond mi fyddan nhw'n dal i fod yn fwy cywir na Gwales! Ydy mae'n dasg anferthol, ond gadwch i ni ganolbwyntio ar un dosbarth o lyfrau ar y tro, un bryn yn ei dro ac fe ddringwn y mynydd mawr! Awgrym: egin=Llyfrau Cymraeg - hy ei gadw'n syml; neu Egin = 'enw'r categori' ('Llyfrau ac Ysgrifau Llenyddol'? Dwyt ti ddim isio ychwanegu'r Categori 'Llyfrau Cymraeg yr 21ain ganrif' ar dudalen y llyfr, dw i'n cymryd? O ran 'Egin Lloegr' ar y trefi - y rheswm pam roddwyd un enw oedd er mwyn eu hadnabod fel torf / prosiect; gall y bot wedyn gyfnewid yr enw hwn (Egin Lloegr) am enw'r Sir yn ddigon hawdd. Ydy hynny'n flaenoriaeth, ynteu'r hanner sy'n weddill o enwau / orgraff newydd gwledydd? Efallai y gallem drafod hynny ar dudalen Sgwrs BOT-Twm Crys. Oherwydd y ffordd mae'r bot yn gweithio, bydd yn rhaid anfon Botwm o leiaf dwywaith: y tro cyntaf i osod yr erthygl a'r ail dro i osod y ddelwedd. Dim ond wedyn y gellir cymharu'r ddelwedd gyda'r teitl. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:33, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Croeso! Nid y rhain ydy'r unig gamgyms chwaith: dylai rhywun gael gair bach efo'r clerc ("Yli, cyn it ti ruthro i gywiro'r teitl, be di o'n ddeud ar glawr y llyfr was-i?").
Categoriau. Dwi wedi bod yn ystyried creu categoriau fesul canrif i Lenyddiaeth Cymru cyn hyn, ond mae'n dipyn o dasg. Man cychwyn oedd y llenorion (Categori:Llenorion Cymreig y 6ed ganrif ayyb). Mae angen 'Cymreig' achos mae ein llenyddiaeth mewn tair iaith - Cymraeg, Lladin a Saesneg. Yn achos y llwyth anferth o nofelau diweddar dwi'n meddwl bydd rhaid eu dosbarthu fesul degawd neu efallai fesul blwyddyn yn achos y cyfnod 1990-heddiw. 3,000! Nefoedd wen. Cawn weld. Gad i mi ystyried dros y dyddiau nesa.
Pentrefi Lloegr. Dim brys arbennig ond bydd angen eu gwneud rhywbryd. Mae gormod o lawer efo dim mwy na "Pentref yn Lloegr yw X" - dim categoriau heblaw Egin Lloegr a dim rhyngwici. Ond mae i fyny i ti benderfynu pryd i wneud hynny. Anatiomaros (sgwrs) 23:41, 29 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Haha! Cats: Mae'r flwyddyn cyhoeddi mewn un golofn daclus yn y gronfa ddata. Gellir defnyddio hon (gydag unrhyw eiriad y dymunet) yn otomatig ee 'Llyfrau 1997' (fel mae ar hyn o bryd) neu 'Llyfrau Cymreig 1997' neu 'Llyfrau llenyddol Cymreig 1997' ayb. Dim problem. O ran llenorion, gallaf greu colofn ychwanegol ar gyfer pob llyfr, gyda chategori arall, fel yr awgrymi ee Categori:Llenorion Cymreig 1990au / 2000au neu 2010au efo Botwm? Un esiampl gen ti sydd ei angen a mi gopia i'r patrwm. Rho wybod. - Llywelyn2000 (sgwrs) 06:35, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb

URL unigryw i lyfr yn y templad

golygu

Yn achos y templad a ddefnyddir ar gyfer Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad mae popeth yn edrych yn iawn, heblaw bod y cyfeiriadau at wefan Gwales yn pwyntio at http://www.gwales.com/home/?lang=CY&tsid=1 ac nid URL unigryw y llyfr. --Rhyswynne (sgwrs) 09:11, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Bore da! Ydy; dw i wedi newid y gweddill, ac yn chwilio am ffordd i gynaeafu'r URL unigol/unigryw efo Botwm. Does dim gorfodaeth i wneud hyn, ond mae'n ddolen cywirach. Pe baem wedi mynd ymlaen efo'r adolygiadau yna byddai'n rhaid gwneud hyn - roedd yn rhan o'r amod. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:17, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Cymryd felly nad oedd ID unigol (sy'n ffurfio rhan o URL unigryw pob llyfr) yn rhan o'r tabl a dderbyniaist gan CLlC. Ymddengys mai ISBN y llyfr ydy'r ID unigryw o fewn URL unigol. Gan bod yr ISBN gyda ni'n barod, dylai hyn fod reit hawdd ei gynnwys mewn templad? --Rhyswynne (sgwrs) 09:22, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Mae hynny'n syniad gwell na chynaeafu nhw - a haws! Diolch Rhys! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:17, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Mae cyfeiriadau erthyglau newydd yn dal i gyferio at

http://www.gwales.com/home/?lang=CY&tsid=1 sef tudalen cartref Gwales. Oe smodd newid hyn yn awtomatig?--Rhyswynne (sgwrs) 09:26, 18 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Do, mi sylwais fod tuag wyth ohonyn nhw wedi 'cywiro eu hunain'! Ond os sbia ar y rhai a wnes i ddoe (ee Gwaith Llywelyn Goch Ap Meurig Hen) fe weli fod yr url cywir bellach wedi aros. Na, mi fydd yn rhaid eu cywiro efo llaw, mae gen i ofn, a mi wnai hynny! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:49, 18 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Y Fanod

golygu

Ein harddull ni ydy rhoi'r fanod ar gychwyn enw llyfr, yn hytrach nac yn ei gynffon hy gellir newid 'Canu Gofyn a Diolch C.1350-C.1630, Y' i 'Y Canu Gofyn a Diolch C.1350-C.1630'. Cytuno? Llywelyn2000 (sgwrs) 13:34, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Ydw, gant y cant! (hefyd "lower case" efo'r ddwy 'c' sy'n arferol - c.1350-c.1630) Anatiomaros (sgwrs) 22:36, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Wedi symud y dudalen. Cofia hefyd ddylai teitl llyfr fod mewn italigs. Anatiomaros (sgwrs) 22:50, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Gwych! Mae WiciAddysg yn llenwi nghwpan dros y penwythnos, fe gaf gyfle i drafod efo Rhys ac Aled a efallai creu dwy neu dair i'w gwiro eto! Piti nad wyt yn medru bod efo ni - arlwy academig hynod ddifyr, a pheint a sgwrs wedyn yn y dre! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:55, 30 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Rhestr awduron Cymraeg

golygu

Gallaf greu rhestr (neu ddiwygio'r rhestr bresenol) o awduron Cymraeg ers 1996 allan o'r gronfa ddata yma, wrth gwrs. Unrhyw sylwadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:33, 5 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Uwchlwytho'r adolygiadau i WiciDestun

golygu

Cyn medru gwneud hyn, unrhyw awgrymiadau ar ba Gategori/au i roi ar ynyn nhw? Awgrym hefyd gan Lloffiwr y gallem greu Nodion (fel sydd ar en) yn nodi a ydyn nhw wedi cael eu gwiro / prawfddarllen. Byddai gwneud hyn yn gosod sylfaen gadarn i gyrff eraill ddefnyddio WiciDestun.[1] Llywelyn2000 (sgwrs) 08:37, 5 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Dw i'n licio'r syniad yma gan ei fo dyn gyfaddawd teg. Beth am gategori 'Adolygiad o lenyddiaeth Cymraeg' neu 'Adolygiad Cymraeg'? Neu 'Adolygiadau' os mai dyna'r arddull arferol. Ro'n i am gynnig 'Adolygiad oddi ar Gwales.com', ond oes pwynt os oes cannoedd/miloedd ohonynt?--Rhyswynne (sgwrs) 10:27, 5 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Yn hollol, ac mae ei adael yn fwy penagored ('Adolygiadau o lyfrau Cymraeg' neu 'Adolygiadau o lenyddiaeth Gymraeg' yn caniatau i ni ychwanegu adolygiadau o Barn, Taliesin ayb rywdro eto. O ran arddull, os ydyen ni'n dilyn arddull Wicipedia yna defnyddio'r lluosog ddyliwn i. Tybned a wnei di edrych ar fy nghais yn fama os gweli di'n dda? A chynnig dy hun hefyd! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:16, 10 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Categoriau wici yn lle categoriau Gwales

golygu

Parthed y llyfrau. Tybed a wneith rywun ychwanegu ar ol categoriau Gwales yr union gategori y dymunwch ddefnyddio ar Wici. Dw i wedi gwneud y tri chyntaf - ond newidiwch nhw os dymunwch. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:24, 10 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Dwi wedi gwneud rhai o'r rhain yn barod. Mae rhai'n hawdd - e.e. Barddoniaeth! - ond mae rhai o'r rhestrau 'ma yn cynnwys sawl math o lyfr ac felly'n perthyn mewn sawl categori. Yn achos rhestrau fel 'Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin' bydd rhaid ystyried pob llyfr yn ei dro wrth greu'r tudalennau. Wna i gael golwg arall rwan. Pa restr sydd nesa? Anatiomaros (sgwrs) 22:17, 18 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Fel ag y mae nhw'n gorwedd fyddai hawsaf: hunangofiannau. Yr adran gyfredol yw'r anoddaf, gan fod y gwaith gan un awdur a'r golygu gan arall, felly mae'n rhaid mynd drwyddyn nhw'n unigol, ac efallai mai da hynny! un mater arall: oni ddylai fod gennym gategori ychwanegol - yr awdur? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:32, 18 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Mae'n dibynnu ar yr awdur, mae'n debyg. Yn achos golygyddion testunau dwi ddim yn meddwl fod hynny'n ymarferol nac yn angenrheidiol ar y cyfan (eithriadau fyddai sgolheigion mawr fel Ifor Wilias, efallai). Dwi'n ystyried enw categori cyfleus i gael y golygiadau testunol hyn ac astudiaethau ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol at ei gilydd hefyd. Beth am gael rhywbeth fel 'Categori:Llyfrau am (/Astudiaethau ar?) lenyddiaeth Gymraeg (/neu Gymreig?) yr Oesoedd Canol' (mae categori:Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol a categori:Llenyddiaeth Gymreig yr Oesoedd Canol yma.)? Gellid gwneud yr un peth efo'r canrifoedd o'r 16eg ganrif ymlaen hefyd. Dim eisiau enwau hir trwsgl. Gad i mi ystyried... Anatiomaros (sgwrs) 22:45, 18 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Fory! Cae sgwar rwan. Hyfforddi sgiliau wici fory drwy'r dydd - yn Nolgellau. Picia draw! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:55, 18 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Ddim yn siwr os mai fan'ma ydy'r lle priodol i godi hyn, ond mae ambell i lyfr wedi ei osod yn Categori:Cofiannau Cymraeg pan ddylai fod yn Categori:Hunangofiannau Cymraeg, rhai ble does dim golygydd wedi ei nodi yn y manylion. Oes modd ei drwsio'n ddiofyn, neu mond mynd trwyddynt fesul un (rhywbeth dwi'n wneud yn barod)? Gadawyd y neges hon am 11:42, 29 Ionawr 2014 gan Defnyddiwr:Rhyswynne.
Un categori cyffredinol oedd gan y Cyngor Llyfrau. Bydd yn rhaid mynd drwyddyn nhw fesul un, os wyt yn credu fod angen y manyleder hwn! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:16, 29 Ionawr 2014 (UTC)Ateb

Llyfrau'r Calan?!

golygu

Mae'n syndod faint o'r cyfrolau hyn a gyhoeddwyd "ar 01 Ionawr." Dwi wedi gweld dwsinau o enghreifftiau erbyn hyn. Does bosibl fod hynny'n wir bob tro! Anatiomaros (sgwrs) 21:35, 18 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb

Rhyw glerc yn ffindio mathemateg yn dipyn o sialens, efallai? Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 18 Tachwedd 2013 (UTC)Ateb
Return to the project page "Wicibrosiect Llyfrau Gwales".